Nid fy ngeiriau i, ond teitl llyfr newydd gan Aled Jones Williams a Chynog Dafis. Rwyf wedi prynu'r gyfrol (mae'r teitl yn apelio, wedi'r cyfan), ac wedi darllen tua'i chwarter hyd yn hyn.
Mae'r awduron, er yn galw'u hunain yn Gristnogion, yn gwadu bodolaeth y duw personol, Cristnogol, traddodiadol. Cyn i mi ddechrau darllen, fy nhybiaeth oedd eu bod am arddel rhyw fath o ddeistiaeth, ond maent yn mynd ymhellach na hynny, gan wrthod y syniad o fod goruwchnaturiol yn gyfan gwbl. Er eu bod yn gwrthod pob athrawiaeth a gysylltir â'r grefydd honno, maent yn mynnu mai Cristnogion ydynt o hyd, a'n ymwrthod yn gyndyn â'r label 'anffyddiaeth'. Dyma un o'r pynciau a gafodd sylw gan Taro'r Post heddiw, ac roeddwn i'n un o'r cyfranwyr (mae cyfweliad gyda Chynog Dafis yn dechrau ar ôl 37:50, a'm hymateb i a chyfranwyr eraill ar ôl 48 munud).
I bob pwrpas, maent eisoes wedi gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith o ddiosg eu crefydd, ac un cam bach pellach yn unig sydd ei angen arnynt er mwyn cyrraedd anffyddiaeth. Er eu bod yn diffinio'r fersiwn gyfarwydd o dduw allan o fodolaeth, maent yn dal eu gafael ar ryw gysyniad annelwig, cymylog, llithrig, trosiadol, a galw hwnnw'n dduw yn ei le. Afraid dweud nad yw hyn yn dal dŵr yn fy marn i. Nid yw'r 'ysbrydol', beth bynnag yw ystyr hynny, yn gysyniad defnyddiol mewn gwirionedd, ac mae'r dystiolaeth o'i blaid yr un mor absennol ag ydyw yn achos y syniadau crefyddol mwy traddodiadol.
Yn ei gyfweliad yntau, un o ddiffiniadau Cynog Dafis ar gyfer 'ffydd' yw 'cydymdeimlad at gyd-ddyn'. Diau bod y diffiniad yna'n un diarth i 99% o Gristnogion, ond dyna'r rheswm am y llyfr, am wn i. Rwy'n credu ei fod yn ddiffiniad digon anghynnes, a bod yn onest. Go brin mai ei fwriad yw awgrymu bod gan grefydd fonopoli dros y syniad o 'fod yn berson dymunol', ond felly mae'n swnio i mi. Rwy'n gwneud fy ngorau i drin fy nghyd-ddyn â pharch ac i fod yn berson da, ond nid yw hynny'n fy ngwneud yn Gristion o fath yn y byd. Nid oes angen ffydd i fod yn dda, ac nid oes gennyf syniad yn y byd sut y byddai derbyn syniadau 'crefyddol' neu 'ysbrydol' yn fy ngwneud yn berson gwell.
Chwarae gemau di-angen yw diffinio 'ffydd' neu 'dduw' fel hyn. Rwy'n hapus i dystio bod y teimlad o ryfeddod wrth syllu ar y sêr ar noson glir, neu'r teimlad o gariad wrth edrych ar wynebau hapus ein plant, yn hynod ddwfn. Gallant deimlo'n anesboniadwy o gryf. Ond nid yw eu mynegi mewn termau 'crefyddol' neu 'ysbrydol' yn ychwanegu unrhyw beth o gwbl. Fflwff ffug-ddwys yw hyn mewn gwirionedd.
Fel y soniais, nid wyf wedi gorffen y llyfr eto. Mae'n bosibl iawn y bydd mwy i'w ddweud amdano'n fuan, felly. Yn benodol, rwy'n edrych ymlaen i gyrraedd y darn eithaf helaeth am yr 'Anffyddiaeth Newydd'. Cawn weld faint o dir cyffredin fydd rhyngom.
No comments:
Post a Comment