Mae'n lyfr torcalonnus, ond eto'n urddasol ei fynegiant. Cyfres o straeon am fywyd dydd-i-ddydd y gwersyll yw'r llyfr yn y bôn. Er nad yw'n rhoi cymaint â hynny o sylw i'r Natsïaid eu hunain, yn uniongyrchol o leiaf, y thema gyson yw'r modd aeth y wladwriaeth Almaenig ati i amddifadu'r carcharorion - Iddewon yn bennaf, wrth gwrs - o'u dynoliaeth. Roedd hynny'n dacteg fwriadol. Rydym yn cael ein temtio weithiau i ddychmygu bod pawb yno wedi arddangos solidariaeth nobl a thawel yn erbyn y gormeswr cyffredin, ond y gwir yw roedd y carcharorion yn dwyn oddi wrth ei gilydd - llwyau, powlenni, esgidiau - a'n gorfod bod yn gyfrwys, i raddau, er mwyn goroesi (y gwahaniaeth rhwng y "saved" a'r "drowned" yn ôl Levi). Roedd creu sefyllfa o'r fath yn dacteg fwriadol ar ran y Natsïaid, wrth gwrs: "the demolition of man" oedd y nod (dyma hefyd y mae'r teitl yn cyfeirio ato).
Byddai wedi bod yn amhosibl beio Levi am ysgrifennu llith blin yn llawn dicter lloerig tuag at y sawl â'i ormesodd. Ond yr hyn sy'n taro'r darllenydd yw'r arddull pwyllog. Yn lle teimlo trueni tuag ato'i hun - er mor deg fyddai gwneud hynny - mae bron fel petai'r awdur yn numb am yr holl beth. Mae'n anodd disgrifio.
Bu farw Levi ym 1987, wedi iddo syrthio tair llawr y tu allan i'r gartref. Er nad oes sicrwydd, y gred gyffredinol yw iddo ladd ei hun. Yr hyn sy'n gwneud darllen If This Is A Man yn brofiad fwy pruddglwyfus byth, felly, yw'r posibilrwydd cryf bod Auschwitz wedi'i ladd nid yn ystod y rhyfel ond dros bedwar degawd yn ddiweddarach.
Er ei fod o dras Iddewig, a'n ystyried ei hun yn Iddew diwylliannol, roedd Levi'n anffyddiwr. Fel y dywedais, mae'n drawiadol cyn lleied o atgasedd sydd yn y llyfr. Ond mae rhai enghreifftiau, ac efallai ei bod yn arwyddocaol mai'r pwnc o dan sylw yw'r syniad bod ewyllys Duw ar waith yn Auschwitz. I egluro, mae rhai o'r carcharorion newydd gael ar ddeall eu bod am gael eu lladd yn fuan:
Silence slowly prevails and then, from my bunk on the top row, I see and hear old Kuhn praying aloud, with his beret on his head, swaying backwards and forwards violently. Kuhn is thanking God because he has not been chosen.
Kuhn is out of his senses. Does he not see Beppo the Greek in the bunk next to him, Beppo who is twenty years old and is going to the gas-chamber the day after tomorrow and knows it and lies there looking fixedly at the light without saying anything and without even thinking anymore? Can Kuhn fail to realize that next time it will be his turn? Does Kuhn not understand that what has happened today is an abomination, which no propitiatory prayer, no pardon, no expiation by the guilty, which nothing at all in the power of man can ever clean again?
If I was God, I would spit at Kuhn’s prayer.Mae'n amhosibl i mi ddychmygu'r fath amgylchiadau, ond mae clywed am bobl yn diolch i Dduw mewn sefyllfaoedd anodd yn fy nrysu'n ddi-ffael, ac rwy'n cydymdeimlo'n llwyr â rhwystredigaeth Levi. Mae'n sarhad anferth tuag at Beppo (os yw Duw wedi dewis achub Kuhn, yna mae wedi dewis lladd y Groegwr). Ar ben hynny, dyna'r tebygolrwydd cryf y bydd Kuhn yn marw'n fuan beth bynnag. Ond y peth rhyfeddaf yw'r modd y mae'r ffasiwn weddi'n diystyru'r ffaith (gan ddilyn y rhesymeg) mai'r un Duw sydd wedi'i osod yn yr uffern yna'n y lle cyntaf. Mae'n ddirgelwch anferth i mi. Mae'n werth darllen y darn yma gan Jerry Coyne, yn cyferbynnu'r dyfyniad uchod â fflwff Francis Collins.
Rwyf erbyn hyn yn darllen The Truce, sef dilyniant sy'n disgrifio taith hir Levi adref, wedi i'r Almaenwyr ffoi rhag y Rwsiaid. Mae gennyf hefyd gopi o The Periodic Table. Nid yw darllen Levi'n hawdd, o reidrwydd; mae angen seibiant o dro i dro oherwydd mae'n anodd osgoi dagrau. Ond rwy'n ei argymell yn fawr.
No comments:
Post a Comment