20/05/2015

Seientoleg

Darllenais Going Clear: Scientology, Hollywood, and the Prison of Belief gan Lawrence Wright yn ddiweddar. Mae'r llyfr yn adeiladu ar yr ysgrif hon a gyhoeddodd yr awdur yn y New Yorker yn 2011. Mae'r erthygl yn anferthol ynddi'i hun - bron yn 25,000 o eiriau - ond rwy'n ei hargymell yn fawr iawn.

Hanes Seientoleg a gawn, a bydd llawer o'r cefndir yn lled-gyfarwydd i unrhyw un sy'n dilyn hynt a helynt yr 'eglwys' (i unrhyw un nad yw'n gwybod llawer am hynt a helynt y ffydd, argymhellaf y gwefannau Operation Clambake ac Ex-Scientology Kids).

Wrth i ni ddilyn anturiaethau L Ron Hubbard, y dyn a sefydlodd y ffydd, yr hyn a ddaw'n amlwg yw ei fod, ymhell cyn dyddiau Seientoleg, wedi cael trafferth gwahaniaethu rhwng realiti a ffrwyth ei ddychymyg. Roedd yn gelwyddgi heb ei ail; gellir priodoli llawer o hynny i anonestrwydd digywilydd, ond roedd yn freuddwydiwr gwirioneddol. O ystyried hynny, nid oes rhyfedd iddo droi at ysgrifennu gwyddoniaeth yn gynnar iawn; am gyfnod o rai blynyddoedd bu'n ysgrifennu 100,000 o eiriau, ar gyfartaledd, bob mis. Roedd yn gorfod ysgrifennu pob syniad hanner-pan a groesai'i feddwl. Wedi creu cymaint o fydoedd ffantasïol, cam bychan wedyn oedd sefydlu crefydd. Mae chwedl Xenu, er enghraifft, sef 'stori greu' Seientoleg, yn darllen fel ffuglen wyddonol gwael (ond wedi dweud hynny, roedd ei stwff i gyd yn bur sâl, fel y gall unrhyw un sydd wedi gwylio Battlefield Earth dystio).

Mae athrawiaethau Seientoleg yn chwerthinllyd. Yn anffodus, nid oes unrhyw beth yn ddoniol am y ffordd y mae'r eglwys yn trin ei haelodau; gwae unrhyw un sy'n ceisio gadael. Mae'n costio ffortiwn i ddilyn 'cyrsiau' yr eglwys ac i gael yr audits angenrheidiol. Er mwyn 'gwella', rhaid bod yn hollol agored a chyfaddef pob cyfrinach, sy'n golygu bod yr eglwys yn casglu deunydd blacmêl yn ogystal â symiau anferthol o arian. Ar ben hynny, disgwylir i'r aelodau dorri pob cysylltiad â theulu nad ydynt yn fodlon ymuno â'r eglwys. Maent yn barod iawn i fynd i eithafion i rwystro pobl rhag gadael, ac maent wedi meistrioli'r grefft o ganfod unrhyw un a lwyddodd i ddianc.

Mewn sawl ffordd, nid yw Seientoleg yn arbennig o anarferol. Fe'i dirmygir yn fwy na chrefyddau eraill, ond nid yw'r athrawiaethau na'r chwedloniaeth ynddynt eu hunain yn wirionach na'r hyn a geir mewn unrhyw grefydd arall. Y gwahaniaeth pennaf yn achos Seientoleg yw ei fod mor newydd, felly mae amgylchiadau sefydlu'r ffydd yn fwy hysbys i ni. Treigl amser yn unig sy'n gwneud i grefyddau eraill ymddangos yn barchusach. Gwyddwn bod crefydd newydd yn gallu ennill ei phlwyf yn gymharol sydyn; wedi'r cyfan, mae Mormoniaeth, sy'n wirion bost, yn llai na 200 oed, ond roedd modd i Mitt Romney, sy'n aelod selog, enill ymgeisyddiaeth y Blaid Weriniaethol i fod yn arlywydd America yn 2012.

Yr hyn sy'n gwneud Seientoleg ychydig yn wahanol yw'r modd y mae'r eglwys yn mynd i raddau rhyfeddol er mwyn ceisio gwarchod ei henw da. Nid dim ond aelodau o'r ffydd ei hun sy'n dioddef, ond unrhyw un sy'n feirniadol o'r eglwys a'i harweinwyr. Efallai eich bod y cofio Panorama yn darlledu rhaglen am Seientoleg yn 2007, er enghraifft. Dilynwyd John Sweeney a'r criw cynhyrchu bob cam o'r ffordd gan staff Seientoleg, a oedd yn eu ffilmio hwythau drachefn. Y canlyniad, er boddhad i'r eglwys, oedd fideo o Sweeney'n sgrechian yng ngwyneb llefarydd ar ran yr eglwys o'r enw Tommy Davis (dyn arall a gawn ei hanes yn llyfr Wright, ac sydd ei hun wedi gadael erbyn hyn).

Mae Seientoleg yn cyflogi byddin anferth o gyfreithwyr, ac maent wedi meistroli'r grefft o wneud bywyd yn anodd dros ben i unrhyw ymchwilwyr sy'n ceisio cael gwybodaeth am droseddau'r eglwys. Roedd Wright ei hun yn gorfod bod yn eithriadol o ofalus wrth baratoi'r llyfr, sy'n gyforiog o droed-nodiadau'n egluro bod yr eglwys yn gwadu'r cyhuddiadau niferus. Yn wir, oherwydd cyfraith enllib hallt Prydain, nid yw'r gyfrol wedi'i chyhoeddi yn y wlad hon o gwbl. Cynhyrchwyd ffilm ddogfen o'r un enw hefyd, wedi'i seilio ar y llyfr; er iddi gael ei dangos yn America yn ddiweddar, mae'n edrych yn annhebgygol y bydd honno'n cael eu darlledu ym Mhrydain. Mae hynny'n hurt.

Diolch i ddyfodiad y we ac ambell achos llys pwysig, rydym yn gwybod llawer mwy am gredoau'r ffydd, a'r modd y mae'r eglwys yn gweithredu, nag yr oeddem yn y gorffennol, ac mae hynny wedi gwneud peth difrod i hygrededd yr eglwys. Ond nid digon. Mae miloedd o bobl yn cael eu twyllo a'u niweidio o hyd. Maffia yw Seientoleg i bob pwrpas, a dylid croesawu pob ymdrech i fwrw goleuni arnynt.

No comments:

Post a Comment