19/07/2018

Gwersi'r Holocost

Y broblem gydag anferthedd dychrynllyd yr Holocost yw bod tuedd i'w osod, fel petai, mewn categori ar wahan, y tu allan i hanes arferol, ac i bortreadu'r Natsïaid fel cartwnau. Perygl hynny yw i ni ddod yn ddirmygus o'r syniad bod modd i rywbeth tebyg ddigwydd eto. Mae cymharu pethau sy'n digwydd yn y presennol gyda'r hyn a ddatblygodd yn yr Almaen yn y 1930au yn aml yn cliché syrffedus, ond mae gwrthod dilysrwydd y gymhariaeth ym mhob achos (sef sut y dehonglir deddf Godwin erbyn hyn, er bod Mike Godwin ei hun wedi nodi bod cymharu â'r Natsïaid weithiau'n rhesymol) yn broblem hefyd.

Darllenais Black Earth gan yr hanesydd Timothy Snyder yn ddiweddar (ar ôl darllen ei gyfrol flaenorol Bloodlands y llynedd). Prif thema Snyder yw bod yr Holocost wedi dilyn trywydd gwahanol mewn ardaloedd gwahanol, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau gwleidyddol lleol. Yn benodol, un o'i brif ddadleuon yw i'r Holocost fod ar ei waethaf yn yr ardaloedd hynny lle roedd y wladwriaeth a sefydliadau sifig wedi cael eu dinistrio'n llwyr.

Y llefydd peryclaf i fod yn iddew (neu, i raddau llai, yn aelod o grwpiau lleiafrifol eraill) oedd i'r dwyrain o linell Molotov-Ribbentrop. Dyma'r ardaloedd a gollodd eu holl sefydliadau diolch i ymgyrch y Sofietiaid yn 1939, ac eto wedyn yn 1941 pan ddaeth y Natsïaid. Heb y sefydliadau hyn, a heb unrhyw fath o gyfundrefn gyfreithiol weithredol, roedd iddewon yn hollol ddi-amddiffyn. Cymhariaeth drawiadol mae Snyder yn ei gynnig i ddangos hyn yw Denmarc ac Estonia. Roedd Estonia cyn y rhyfel, yn ôl Snyder, yn llawer iawn llai gwrth-semitaidd na Denmarc. Er hynny, yn ystod yr Holocost, lladdwyd dros 99% o iddewon Estonia. Lladdwyd prin dim o iddewon Denmarc. Mae Snyder yn priodoli hyn i'r modd y dinistrwyd gwladwriaeth Estonia yn gyfan gwbl, ddwywaith. Yn wahanol i'r ymgyrch yn y dwyrain, fodd bynnag, penderfynodd Hitler adael sefydliadau Denmarc yn eu lle, gan fodloni ar droi'r wlad yn byped Natsïaid yn hytrach na'i datgymalu'n llwyr. Am y rheswm hwn, roedd iddewon yn llawer saffach yn yr Almaen ei hun nag yn y gwledydd Slafig a oresgynnwyd gan y Wehrmacht.

Mae Snyder yn portreadu Hitler fel 'anarchydd eco-hiliol'.  Un ffaith sydd wedi mynd braidd yn angof erbyn hyn yw mai America oedd ysbrydoliaeth Hitler: roedd yn edmygu'r modd yr aeth yr Americanwyr ati i gael gwared ar y boblogaeth frodorol ac i feddianu'u tiroedd. Nid oedd y borodorion yn cael eu hystyried yn bobl go iawn, ac roedd Hitler yn dirmygu'r Slafiaid yn yr un ffordd. Dyma pam yr aeth ati i ddinistrio'u gwledydd mor drylwyr: nid oedd yn ystyied Wcrain, er enghraifft, yn wlad ddilys, gan nad oedd yr Wcraniaid yn bobl gyflawn. Bwriad Hitler oedd defnyddio tir Wcrain i dyfu bwyd i'r Almaenwyr; roedd mewn panig am brinder bwyd, am nad oedd yn credu yng ngwyddoniaeth y chwyldro amaethyddol a oedd ar fin dechrau. Mae'n bwysig atgoffa'n hunain o'r dylanwad Americanaidd ar feddwl Hitler, oherwydd mae'n dangos bod llinach hanesyddol i'r ffordd yma o feddwl. Nid ymddangos o wagle a wnaeth.

Yn y bennod olaf, mae Snyder yn pwysleisio'r angen i fod yn wyliadwrus rhag ofn i hanes ail-adrodd ei hun. Yn benodol, mae'n pryderu y bydd effeithiau newid hinsawdd ar y cyd â'r cynnydd ym mhoblogaeth y byd yn esgor ar banig ecolegol arall, wrth i'r angen am adnoddau ddwysáu. Mae Snyder yn dadlau bod hyn eisoes wedi bod yn ffactor yn Rwanda a Sudan. Mae'r rhan yma o'r llyfr yn ddadleuol: rwy'n amheus o'r posibilrwydd y bydd China'n dechrau ymgyrch i goncro rhannau o Affrica, er enghraifft, ond rwy'n ei chael yn haws o lawer eu dychmygu'n llygadu rhannau helaeth o Siberia.

Prif wers y llyfr yn fy marn i yw pwysigrwydd cofio bod yr amgylchiadau anghywir yn gallu normaleiddio, yn sydyn dros ben, ymddygiad gan bobl normal iawn na fyddai wedi cael ei ystyried fel arall. Hunan-ddiddordeb oedd yn llywio ymddygiad yr unigolion a gyflawnodd bethau drwg ar y pryd. Mae 'roedden nhw'n wrth-semitig' yn esboniad anfoddhaol ac anghyflawn i'r Holocost, oherwydd mae'n ein gwahodd i deimlo'n hunanfodlon a'n ein hatal rhag dychmygu beth a fuasem ninnau wedi'i wneud yn yr un sefyllfa.

No comments:

Post a Comment