Roedd cyfres o dair rhaglen, Cymru: Dal I Gredu, yn gorffen ar S4C heno. Roeddwn i'n ymddangos yn y rhaglen olaf (28 munud i mewn, ond wrth gwrs dylech wylio'r rhaglen gyfan, a'r ddwy flaenorol hefyd).
Cyn-efengylwr yw Gwion Hallam, y cyflwynydd, sydd bellach wedi colli'i ffydd ond sy'n petruso o hyd ynghylch galw'i hun yn 'anffyddiwr'. Mae'r gyfres yn ei ddilyn wrth iddo deithio'r wlad yn cwrdd â phobl o bob ffydd, a heb ffydd, er mwyn gweld beth yw cyflwr crefydd yng Nghymru heddiw. Mae'n werth ei gwylio.
Nid wyf yn siwr pa mor llwyddiannus oeddwn i wrth geisio'i ddarbwyllo i gofleidio'r label. Yn ôl pob tebyg, mae ein safbwyntiau diwinyddol (neu, yn hytrach, eu habsenoldeb) yn bur debyg, felly mater semantig yw hyn mewn ffordd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig bod anffyddwyr yn defnyddio'r gair hwnnw er mwyn disgrifio'u hunain, hyd yn oed os nad yw o reidrwydd yn ddyletswydd ar bob un ohonom i ddadlau'n gyhoeddus am y pwnc. Anffyddiwr fel fi yw Gwion yn barod i bob pwrpas; waeth iddo ymfalchïo yn hynny, ddim!
Showing posts with label y blog. Show all posts

06/07/2015
15/02/2015
Bwrw Golwg
Roeddwn ar Bwrw Golwg y bore 'ma (10:20 i mewn), yn trafod anffyddiaeth a'r blog. Y rheswm oedd canlyniadau arolwg a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnos: mae'n debyg bod 42% o bobl y Deyrnas Gyfunol bellach yn dweud nad ydynt yn grefyddol, a bod 19% hyd yn oed yn cofleidio'r label 'anffyddiwr'. Mae'r ffigurau hyd yn oed yn uwch ar gyfer y genhedlaeth iau. Calonogol iawn, wrth gwrs.
Roeddwn yn hapus â'r sgwrs ar y cyfan, er fy mod yn gwybod yn iawn sut y gallaswn fod wedi gwella rhai o'r atebion. Yn arbennig, rwyf wedi bod yn gwingo, bron yn barhaus, ers i'r gair 'gwrywgydiaeth' lithro allan o'm ceg wrth recordio'r eitem. Mae'n air gwirion, ac nid oes gennyf syniad pam y'i dywedais. Fel un sydd wedi dweud droeon bod angen i bawb roi'r gorau i'w ddefnyddio, mae'n destun embaras. Buaswn yn pledio nerfusrwydd, ond mae'n esgus dila braidd. Ymddiheuriadau i bawb arall sy'n casáu'r gair.
Gwn mai'r ateb gwanaf oedd i'r cwestiwn ynghylch Cristnogion sy'n cael eu hysbrydoli gan eu ffydd i arddel safbwyntiau digon blaengar. Mae'n amlwg bod hynny'n wir am lawer iawn o Gristnogion, fel y cydnabyddais. Ond byddai ymateb gwell wedi mynd ati i egluro mai problem crefydd fan hyn yw ei bod fel canfas gwag i raddau helaeth. F'argraff i yw y byddai Cristnogion blaengar yn arddel y safbwyntiau rhyddfrydol hynny beth bynnag, ffydd neu beidio. Cyfiawnhad post hoc yw'r ddiwinyddiaeth. Rwyf wedi cyffwrdd ar y pwnc hwn mewn cofnod blaenorol hefyd.
Dywedodd y Parchedig Pryderi Llwyd Jones rai pethau digon clên am y blog yn ei sgwrs ddilynol yntau, chwarae teg. Wrth gwrs, nid yw mor hoff o'm defnydd o ymadroddion fel 'ofergoeliaeth afresymegol' a 'fflwff diwinyddol ffug-ddwys'. F'amddiffyniad i yw fy mod yn ceisio egluro'n gymharol drylwyr pam fy mod yn credu bod y rhain yn ddisgrifiadau teg. Nid cyhuddiadau ffwrdd-a-hi mohonynt. Gwn nad yw eu defnyddio'n debygol iawn o arwain at berswadio Cristnogion bod eu fydd yn seiliedig ar gelwydd, ond, wel, mae hynny'n annhebygol iawn o ddigwydd doed a ddelo. Os oes gennyf obaith o ddenu unrhyw un i'r gorlan hon, yna pobl sydd ar hyn o bryd ar y ffens yw'r rheiny. Ond yn anad dim, mae'r disgrifiadau'n adlewyrchu fy marn, felly byddai'n anonest i mi'u hosgoi.

02/01/2014
Ystadegau'r flwyddyn
I unrhyw un sydd â diddordeb, dyma ffigurau ymwelwyr y blog yn ystod 2013 (cliciwch i'w gwneud yn fwy):
Mae hyn dipyn yn llai na'r niferoedd cyfatebol ar gyfer 2012:
Mae yna reswm digon amlwg am hynny: roedd y blog ychydig yn llai prysur yn 2013 nag yn y flwyddyn gynt. Rwy'n bwriadu cywiro hynny yn 2014. Blwyddyn newydd dda!

23/03/2013
Hwyl am y tro
Peidiwch â dychryn gormod, ond bydd y blog yn segur am dros fis gan fy mod ar fin mynd i Las Vegas i briodi (seremoni seciwlar, wrth gwrs!) cyn crwydro o gwmpas California. Rwyf wedi bod eisiau ymweld â'r parthau hynny ers blynyddoedd, felly rwy'n edrych ymlaen yn arw.
Hwyl am y tro!
Hwyl am y tro!
01/01/2013
Blwyddyn Newydd Dda
Gobeithio eich bod wedi mwynhau cyfnod Nadoligaidd digon dedwydd. Rhaid cyfaddef fy mod yn y gorffennol wedi arbrofi â bod yn dipyn o Scrooge diflas ar yr adeg yma o'r flwyddyn (eitha siwr bu i mi aros yn fy ngwely tan 3 yn y prynhawn un tro). Ond rwyf wedi meddalu bellach. Prin yw'r elfennau cristnogol yn y Nadolig mewn gwirionedd (coed, twrci a gwledda ac yfed gormod, rhannu anrhegion, cwmni teulu ac yn y blaen ac yn y blaen) felly er fy mod yn anffyddiwr ystyfnig a rhonc nid wyf yn teimlo unrhyw ragrith wrth fwynhau'r ŵyl fodern a seciwlar yma.
Neithiwr hefyd bûm yn dathlu pwynt digon mympwyol yn ein calendr. Unrhyw esgus, am wn i.
Mae 2013 wedi cyrraedd, felly. Ar lefel bersonol, rwy'n dechrau cyffroi gan mai dyma fydd blwyddyn fy mhriodas (ym mis Mawrth). Seremoni seciwlar yn Las Vegas, wrth reswm.
I gloi, dyma ystadegau 2012 ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb.
Nid yw'n syndod mai'r adeg prysuraf oedd fy mis mwyaf toreithiog. Mae'n siwr bod yr holl lol yna am Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc wedi helpu hefyd. Diolch i bawb sy'n galw draw.

25/04/2012
Blwyddyn o Anffyddiaeth
Rwyf newydd sylweddoli bod blwyddyn wedi mynd heibio ers geni'r blog yma. Mae amser wedi hedfan. Gan gynnwys yr un yma, rwyf wedi cyhoeddi 93 cofnod. Mae hynny bron yn ddau yr wythnos, ac nid yw hynny'n rhy ddrwg am wn i, er bod lle i wella.
Yn ôl Blogger, rwyf wedi cael 12,209 o hits yn ystod y flwyddyn. Nid yw hynny'n arbennig o gwbl - mae Blogmenai'n gallu denu hynny mewn ambell fis - ond am flwyddyn gyntaf blog Cymraeg rwy'n ddigon bodlon. Beth bynnag, ac er ei fod yn cliché, er fy mwyn fy hun rwy'n ysgrifennu'n bennaf. Yn hynny o beth, rwy'n teimlo fy mod yn cael cryn dipyn mwy o hwyl arni bellach nag oeddwn ar y dechrau; o ddarllen yn ôl, mae ambell gofnod cynnar yn weddol drwsgl. Fel byddai rhywun yn disgwyl, mae pethau fel hyn yn dod yn haws gydag amser.
Diolch yn fawr i unrhyw un sy'n darllen, a'n enwedig i bawb sy'n gadael sylwadau.

29/01/2012
Pam dadlau am grefydd?
Diolch i Ifan am ofyn cwestiwn rhesymol iawn: a oes pwynt dadlau am grefydd?
Rwy'n amlwg yn credu bod y gwrthdaro rhwng crefydd (ac ofergoeledd yn gyffredinol) ar un llaw, a'r byd go iawn ar y llaw arall, yn bwnc pwysig sydd angen ei drafod. Ond beth am bobl eraill?
Mae prif bwynt ei erthygl yn berffaith wir, sef bod unrhyw un sydd eisoes â safbwyntiau cryfion y naill ffordd neu'r llall yn annhebygol o newid eu meddyliau'n dilyn dadl â rhywun o'r "ochr arall". Byddai'n destun syndod anferthol i mi petai unrhyw Gristion o argyhoeddiad yn rhoi'r gorau i'w ffydd mewn fflach oherwydd fy mlog.
Er hynny, rwy'n credu bod yna garfannau eraill o bobl y mae'n rhesymol ceisio'u darbwyllo. Yn un peth, mae cryn dipyn o bobl sydd heb wir feddwl am y peth o ddifrif y naill ffordd na'r llall. Mae gan y rhan fwyaf o bobl bethau llawer gwell i'w gwneud, wedi'r cyfan. Wrth gwrs mae'n debygol bod y rhan fwyaf o'r bobl yma'n ystyried yr holl bwnc yn un diflas a di-bwynt; fel arall, ni fyddent mor ddi-hid ac aphathetig yn ei gylch. Ond os yw ambell un yn digwydd baglu ar draws y blog, efallai bod modd eu perswadio bod y mater yn un pwysig ac mai fi sy'n iawn. Efallai ddim. Ond mae'n werth trio.
Mae'n ddigon posibl bod rhai o'r bobl sydd heb feddwl llawer am y peth yn tueddu i alw'u hunain yn Gristnogion, efallai am resymau diwylliannol neu draddodiadol. Nid ydynt yn arddel ffydd gref na'n mynd i'r capel, na'n darllen y beibl, na'n treulio llawer o amser yn meddwl am faterion diwinyddol yn gyffredinol, ond maent yn derbyn yn ganiataol bod rhyw fath o dduw'n bodoli. Efallai bod modd dangos iddynt nad oes rhaid gwneud hynny.
Rwy'n amau hefyd bod yna lawer sydd wedi meddwl ychydig am y mater ond sy'n galw'u hunain yn agnosticiaid. Dyna'r label a ddewisais innau am ychydig o flynyddoedd hefyd, nes i mi sylweddoli mai'r cyfan yw agnosticiaid yw anffyddwyr sydd, am ba bynnag reswm, yn amharod i dderbyn a chofleidio'r label honno. Rwy'n bwriadu trafod hyn yn fanylach yn fuan. Digon yw dweud am y tro nad wyf yn credu ei bod yn or-uchelgeisiol ceisio denu agnosticiaid oddi ar y ffens. Nid oes angen newid eu meddyliau'n sylweddol, gan ein bod eisoes yn rhannu'r un farn i raddau helaeth: "nid oes tystiolaeth bod unrhyw dduw'n bodoli".
Mae yna garfan arall o bobl sydd gennyf mewn golwg hefyd. Mae'r rhain eisoes yn galw'u hunain yn anffyddwyr, ond maent yn amharod i feirniadu crefydd yn ormodol. Gall hyn fod oherwydd nerfusrwydd ynghylch ypsétio pobl neu am eu bod wedi llyncu rheol anysgrifenedig ein cymdeithas na ddylid dweud pethau angharedig am ffydd grefyddol. Mae crefydd yn cael ei roi ar bedestal arbennig, uwch ben pob safbwynt neu ideoleg arall sy'n fair game ar gyfer beirniadaeth. Rwy'n hapus i ail-adrodd y pwynt yma hyd syrffed os oes angen: mae angen dinistrio'r pedestal yma a'r swigen y mae crefydd yn byw ynddi. Un o amcanion y blog yw atgoffa'r anffyddwyr tawel hyn nad yw crefydd yn sanctaidd (ha!) a bod angen ei herio.
Os yw trafod crefydd yn ofer, yna gellir dilyn yr un rhesymeg i ddadlau bod trafod unrhyw beth yn ofer; mae pobl yn teimlo'n gryf am bob math o bethau. Nid yw ceidwadwr rhonc yn mynd i gael ei ddarbwyllo gan flog rhyddfrydwr, na vice versa; a yw hynny'n golygu nad oes pwrpas trafod gwleidyddiaeth? Fy holl bwynt yw mai dim ond un maes yw crefydd o blith nifer ym "mrwydr y syniadau", ac nid oes rheswm i'w drin yn wahanol.
Heblaw am hynny, rwy'n cyhoeddi'r blog yma am resymau personol: er mwyn ymarfer fy ysgrifennu, a theimlad bod diffyg trafod anffyddiaeth yn y Gymraeg. Wrth reswm, mae gennyf ddiddordeb mawr yn y pwnc ac rwy'n teimlo'n eithaf cryf amdano, felly mae hynny'n help. Nid wyf yn ddigon hy i ddisgwyl argyhoeddi unrhyw un. Ond mae'n werth rhoi cynnig arni.

24/11/2011
Bertrand Russell
Ymddiheuriadau am fod yn dawel ers pythefnos. Rydym wedi prynu tŷ ac wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer y symud, sy'n digwydd y penwythnos yma. Mae'n debyg y byddaf heb linell ffôn am bythefnos ar ôl hynny, felly mae gennyf ofn mai segur fydd y blog tan ganol mis Rhagfyr hefyd.
Erbyn i ni orffen setlo'n y cartref newydd, fodd bynnag, rwy'n siwr y bydd gennyf ddigon o ddeunydd blogio, gan fy mod
ar hyn o bryd yn darllen A History Of Western Philosophy (1946) gan y Cymro Bertrand Russell. Mae'n glamp o lyfr hynod uchelgeisiol, sy'n olrhain datblygiad athroniaeth dros gyfnod o 2,500 blynedd hyd at droad y ganrif ddiwethaf.
Rwy'n ymwybodol bod llawer o'i gyd-athronwyr o'r farn bod yr uchelgais wedi bod yn drech nag ef, ond mae'n anochel nad yw llyfr mor faith yn mynd i fod yn berffaith. Er enghraifft, mae llawr o gwyno am or-bwyslais ar un cyfnod a diffyg ar gyfnod arall, ac mae'n rhyfedd iddo anwybyddu Kierkegaard yn llwyr. Un o'r prif gwynion, fodd bynnag, yw nad yw Russell yn gwneud llawer o ymdrech i fod yn ddi-duedd. Mae'n ei gwneud yn eithaf eglur pa athronwyr y mae'n eu hoffi a pha rai nad yw'n meddwl llawer ohonynt. Yn fy marn i, mae hynny'n gwneud y llyfr gymaint yn fwy darllenadwy. Mater o chwaeth yw hynny wrth gwrs, ac mae'n help yn yr achos yma fy mod yn rhannu cymaint o safbwyntiau Russell (gan gynnwys ei anffyddiaeth ddigyfaddawd, wrth reswm).
Rwy'n mwynhau'r darllen yn arw hyd yma. Mae brwdfrydedd yr awdur yn amlwg (mae'n debyg iddo fwynhau ysgrifennu'r llyfr yn fawr, a bu'r adolygiadau cymysg yn destun cryn siom iddo), ac mae'n llwyddo i wneud darllen am bynciau digon anodd yn annisgwyl o rwydd. Mae yna benodau cyfain am athronwyr nad oeddwn yn gyfarwydd â hwy o gwbl, fodd bynnag, felly fel rhywun sy'n bell o fod yn arbenigwr rhaid cadw'r adolygiadau cymysg mewn cof. Rwy'n fodlon derbyn y posibilrwydd bod rhai rhannau o'r llyfr yn datgelu mwy am Russell ei hun nag am y dynion y mae'n eu trafod.
Fel y crybwyllais uchod, mae anffyddiaeth Russell yn cael ei adlewyrchu yn y gyfrol o bryd i'w gilydd. Yn aml wrth i mi ddarllen mae'r awdur yn cyffwrdd â phwnc rwyf wedi bwriadu ei drafod yma, felly bydd yn dda gallu defnyddio'r llyfr fel ysbrydoliaeth. Gobeithio gallaf wneud hynny cyn hir.
Erbyn i ni orffen setlo'n y cartref newydd, fodd bynnag, rwy'n siwr y bydd gennyf ddigon o ddeunydd blogio, gan fy mod
ar hyn o bryd yn darllen A History Of Western Philosophy (1946) gan y Cymro Bertrand Russell. Mae'n glamp o lyfr hynod uchelgeisiol, sy'n olrhain datblygiad athroniaeth dros gyfnod o 2,500 blynedd hyd at droad y ganrif ddiwethaf.Rwy'n ymwybodol bod llawer o'i gyd-athronwyr o'r farn bod yr uchelgais wedi bod yn drech nag ef, ond mae'n anochel nad yw llyfr mor faith yn mynd i fod yn berffaith. Er enghraifft, mae llawr o gwyno am or-bwyslais ar un cyfnod a diffyg ar gyfnod arall, ac mae'n rhyfedd iddo anwybyddu Kierkegaard yn llwyr. Un o'r prif gwynion, fodd bynnag, yw nad yw Russell yn gwneud llawer o ymdrech i fod yn ddi-duedd. Mae'n ei gwneud yn eithaf eglur pa athronwyr y mae'n eu hoffi a pha rai nad yw'n meddwl llawer ohonynt. Yn fy marn i, mae hynny'n gwneud y llyfr gymaint yn fwy darllenadwy. Mater o chwaeth yw hynny wrth gwrs, ac mae'n help yn yr achos yma fy mod yn rhannu cymaint o safbwyntiau Russell (gan gynnwys ei anffyddiaeth ddigyfaddawd, wrth reswm).
Rwy'n mwynhau'r darllen yn arw hyd yma. Mae brwdfrydedd yr awdur yn amlwg (mae'n debyg iddo fwynhau ysgrifennu'r llyfr yn fawr, a bu'r adolygiadau cymysg yn destun cryn siom iddo), ac mae'n llwyddo i wneud darllen am bynciau digon anodd yn annisgwyl o rwydd. Mae yna benodau cyfain am athronwyr nad oeddwn yn gyfarwydd â hwy o gwbl, fodd bynnag, felly fel rhywun sy'n bell o fod yn arbenigwr rhaid cadw'r adolygiadau cymysg mewn cof. Rwy'n fodlon derbyn y posibilrwydd bod rhai rhannau o'r llyfr yn datgelu mwy am Russell ei hun nag am y dynion y mae'n eu trafod.
Fel y crybwyllais uchod, mae anffyddiaeth Russell yn cael ei adlewyrchu yn y gyfrol o bryd i'w gilydd. Yn aml wrth i mi ddarllen mae'r awdur yn cyffwrdd â phwnc rwyf wedi bwriadu ei drafod yma, felly bydd yn dda gallu defnyddio'r llyfr fel ysbrydoliaeth. Gobeithio gallaf wneud hynny cyn hir.
01/11/2011
Ymddiheuriadau
Mae'r blog wedi bod yn dawel ers wythnos a hanner bellach, a hynny ar ôl cyfnod digon prysur. Y rheswm yw fy mod wedi treulio llawer iawn o amser yn ceisio ysgrifennu cofnod sylweddol iawn ond bod Blogger wedi'i lyncu ac wedi colli bron y cyfan ohono. O ganlyniad rwyf wedi pwdu.
19/05/2011
Wythnos o wyliau
Dw i'n credu dylwn ddweud o flaen llaw bod y blog am fod yn dawel tan ddiwedd wythnos nesaf gan fy mod yn mynd ar wyliau i Ardal y Llynnoedd. Rhag ofn i unrhyw un feddwl bod y peth 'ma wedi marw'n barod!

Bydd gen i ddigon i'w ddweud pan fyddaf yn ôl. Fel ymateb i Rhys. Tan hynny, os oes gennych awr a chwarter i'w sbario, dyma ddau anffyddiwr swnllyd (ond cwrtais iawn) yn trafod moesoldeb heb dduw. Difyr a pherthnasol:
Neu os ydi hynny'n gofyn gormod, dyma fideo o sloth yn trio croesi'r ffordd yn lle:

24/04/2011
Helo
Fel mae teitl hynod glyfar a dychmygus y blog newydd yma'n awgrymu, dw i wedi penderfynu ysgrifennu am y ffaith nad oes yna dduwiau.
Dw i'n siwr mai ymateb cyntaf llawer fydd gofyn sut yn union mae trafod safbwynt mor "negyddol". Ar ôl gwrthod bodolaeth unrhyw dduwiau, be'n fwy sydd i'w ddweud ar y pwnc heblaw ail-adrodd "na" hyd syrffed?
Wel, tra mai diffiniad syml "anffyddiaeth" ydi diffyg ffydd mewn unrhyw fath o fodau goruwchnaturiol, mae 'na fwy ynghlwm â'r peth. Mae anffyddwyr yn gwneud eu gorau i arddel rhesymeg a sgeptigiaeth, a seilio barn ar dystiolaeth. Mae hynny'n beth positif, nid negyddol. Dw i'n eitha' hyderus bod yna ddigon i'w ddweud o hyd.
Dyna, felly, fydd thema ganolog fy sgriblo, ar y cyd efo ychydig o fynegi diffyg amynedd ag ofergoeliaeth yn gyffredinol). Mae gen i ddiddordeb anferth yn y ddadl dragwyddol yma (wedi'r cyfan, bodolaeth duw fyddai cwestiwn pwysica'r bydysawd, petai'n wir). Dw i wedi sylwi nad oes cymaint â hynny o drafod am y peth yn y Gymraeg, felly gobeithio dyma lenwi bwlch. A pha ddiwrnod gwell i ddechrau na heddiw, dydd Sul y Pasg, neu'n hytrach, y diwrnod hwnnw lle rydym yn dathlu stori zombie enwoca'r byd?

Subscribe to:
Posts (Atom)