Roedd yn hwyl gwylio'r ymateb i sylwadau Donald Trump ynghylch erthyliad ychydig ddyddiau yn ôl. Wrth geisio egluro ei safbwynt ynghylch erthyliad, dywedodd y dylid cosbi menywod sy'n dewis difa'u ffetws (fe dynnodd y sylwadau'n ôl yn fuan wedyn). Mae'r syniad hwnnw'n erchyll, ac fel byddai rhywun yn ei ddisgwyl, cafodd feirniadaeth chwyrn gan bawb sy'n cefnogi hawl menywod i reolaeth dros eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain. Ond cafodd ei gondemnio gan lawer o'r garfan gwrth-erthyliad hefyd, gan gynnwys yr ymgeiswyr eraill ar gyfer enwebiad arlywyddol ei blaid, ac roedd eu sylwadau'n ddadlennol.
Mae Ted Cruz yn eithafwr yn ngwir ystyr y gair ynghylch y mater yma. Mae'n gwrthwynebu erthyliad ym mhob senario, gan gynnwys pan gafodd perchennog y groth ei threisio, ac mae wedi brolio cefnogaeth oddi wrth grwpiau sy'n annog trais yn erbyn doctoriaid. Condemnio Trump o'r dde a wna Cruz, gan ddweud bod hyn yn dangos nad yw hwnnw'n deall y pwnc yn iawn ac nad yw, mewn gwirionedd, yn wrth-erthylwr o argyhoeddiad.
Fel mae'n digwydd, mae'r cyhuddiad hwnnw'n berffaith wir. Ychydig flynyddoedd yn ôl, wedi'r cyfan, roedd Trump yn llafar o blaid hawl menywod i erthylu. Er mai apêl Trump i'w gefnogwyr yw ei fod yn 'ei dweud hi fel y mae',
mae'n amlwg mai dweud beth bynnag sy'n gyfleus ar y pryd a wna.
Mae ymgyrchwyr gwrth-erthyliad profiadol wedi treulio degawdau lawer yn llunio'u neges yn ofalus. Gwyddant yn iawn bod y syniad o gosbi menywod yn hynod amhoblogaidd, felly ânt i ymdrech fawr i osgoi dilyn y trywydd hwnnw'n gyfan gwbl. Gan fod Trump yn ddyn gwirioneddol dwp, fodd bynnag, nid oedd yn deall hyn, a phan ofynnwyd y cwestiwn, fe syrthiodd yn rhwydd i'r trap. Trwy roi'r fath sylw i'r syniad o gosbi menywod, mae Trump wedi peryglu naratif ofalus yr ymgyrchwyr mwy slic.
Nid oes ryfedd i'r rheiny ddychryn. Eu problem yw bod Trump wedi amlygu gwall anferth yn eu rhesymeg: os yw erthylu gyfystyr â llofruddio, pam gwrthwynebu cosbi'r llofruddwyr? Rydym yn cosbi llofruddwyr ym mhob achos arall. Yr unig wahaniaeth yw amhoblogrwydd y syniad ymysg trwch y boblogaeth. Ond yn rhesymegol, nid yw'r anghysondeb yn dal dŵr o gwbl. Am yr un rheswm, mae safbwynt Cruz, sydd eisiau gwrthod caniatáu eithriadau yn achos trais a llosgach, yn fwy cyson nag un Kasich, sydd am eu caniatáu. Os derbyn mai lladd yw difa ffetws, nid yw amgylchiadau creu'r ffetws hwnnw'n berthnasol o gwbl.
Mae ateb syml iawn i'r anghysondeb yma, wrth gwrs: nid lladd yw erthylu. Hawdd.
Showing posts with label erthyliad. Show all posts

03/04/2016
20/06/2015
Clap araf i'r Pab
Mae'r Pab wedi derbyn llawer o glod yr wythnos yma wedi iddo gyhoeddi cylchlythyr yn dweud bod angen gwneud mwy i ddatrys y broblem newid hinsawdd, ac mai cyfrifoldeb gwledydd cyfoethog yw hynny'n bennaf. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad i raddau; gwell hyn na dim, am wn i. Ond peidied â mynd dros ben llestri; nid yw'n agos at fod mor arwyddocaol ag y mae rhai'n ei awgrymu.
Yn un peth, nid yw pobl - gan gynnwys Pabyddion eu hunain - yn tueddu i ddilyn cyngor yr eglwys ynghylch materion economaidd a'r amgylchedd. Mae'r eglwys, er ei holl ffaeleddau, wedi bod yn gymharol flaengar ynghylch pethau felly ers rhai degawdau - mwy felly na'r rhan fwyaf o'i haelodau ar lawr gwlad - ond go brin bod hynny wedi cael unrhyw effaith.
Mewn ffordd, mae hynny'n gyfiawn. O ystyried statws yr eglwys fel y cartel gwarchod pedoffeiliaid gwaethaf a welodd y byd erioed, nid oes ganddi unrhyw hygrededd moesol ar ôl mewn gwirionedd. Ni ddylai pobl wrando arni. Yn anffodus, fodd bynnag, pery'r eglwys yn ddylanwadol mewn rhai meysydd cymdeithasol. Yn arbennig felly, wrth gwrs, yn achos atalgenhedlu ac erthylu, dau beth y mae'r eglwys yn ei wahardd yn chwyrn.
Nid mater moesol yn unig mo hawl menywod i reoli'u cyfarpar atgenhedlu eu hunain. Mae'n fater ymarferol hefyd yng nghyd-destun yr amgylchedd. Dau ffactor allweddol sy'n cyfrannu'n helaeth at ddirywiad ein byd yw gorboblogaeth a thlodi. Mae'n amhosibl datrys y ddwy broblem honno heb sicrhau bod gan bob menyw'r hawl a'r gallu i ddefnyddio dulliau atgenhedlu, gan gynnwys erthyliad. Dyna'r man cychwyn. Ond ategu ei wrthwynebiad i'r ateb hwnnw a wna'r Pab yn ei gylchlythyr, wrth gwrs, gan danseilio'r gweddill yn llwyr. Mae popeth arall yn amherthnasol heb y cam amlwg a hanfodol yma.
Gwn mai ofer yw disgwyl i'r Pab gefnogi dosbarthu condoms a chaniatáu erthylu ledled y trydydd byd; mae gyfystyr â disgwyl iddo roi'r gorau i fod yn Babydd. Ond dyna'n union sydd raid iddo'i wneud er mwyn i mi ystyried ei gymryd o ddifrif.

01/09/2014
Dawkins, erthylu ar sail anabledd, ac oferedd pendroni ynghylch yr hyn a allasai fod wedi bod
Mae record Richard Dawkins o ddweud pethau ymfflamychol ar Twitter yn hysbys ers peth amser. Fel yr ydych yn debygol o wybod, bu wrthi eto'n ddiweddar:
Yn achos y trydariad penodol uchod, rwy'n lled-gydweld â'r cyngor y mae'n ei gynnig. Mae'n anodd dweud i sicrwydd mewn senario hypothetig, wrth gwrs, ond rwy'n credu y buaswn i, petawn yn fenyw feichiog sy'n gwybod bod gan y ffetws syndrom Down, yn cael fy nhemtio i erthylu. Dyna, yn wir, sy'n digwydd yn oddeutu 92% o achosion o'r fath yn Ewrop. Yn hynny o beth, o leiaf, nid oes llawer yn bod ar y frawddeg gyntaf. Yr unig broblem yw bod y geiriau ffwrdd-a-hi 'a thria eto' yn gallu bod yn ansensitif mewn rhai achosion arbennig lle mae'r fenyw wedi cael anhawsterau beichiogi neu os yw hi'n heneiddio (mae'r tebygolrwydd o esgor ar fabi syndrom Down yn cynyddu gydag oed, wrth gwrs). Ond fel darn o gyngor i rywun sydd wedi gofyn amdano, mae'n ateb digon call.
Y broblem enfawr yw'r defnydd o'r gair 'immoral' yn yr ail frawddeg. Un peth yw awgrymu beth y buasai ef ei hun yn ei wneud yn y sefyllfa, ond mae honni bod menywod sy'n dewis peidio erthylu yn ymddwyn mewn modd anfoesol yn beth annifyr a hyll iawn i'w wneud. Dewis y fenyw ydyw a neb arall (ac nid y tad chwaith); os ydynt yn dewis erthylu, hei lwc iddynt. Yn yr un modd yn union, hei lwc os ydynt yn penderfynu cario ymlaen a chael y babi.
Rwy'n credu bod ceisio mynd ati i bwyso a mesur positifrwydd neu negatifrwydd moesol penderfyniadau fel hyn yn gêm ofer a pheryglus. Aeth Dawkins yn ei flaen i ddweud y canlynol:
Dyna fy nghwyn i, felly. Fodd bynnag, mae rhai fel petaent wedi dychryn â'r syniad o erthylu ar sail anabledd fel syndrom Down. Ond fel y dywedais, mae canran anferth o bobl eisoes yn dewis gwneud hynny. I fod yn hollol glir, dylai erthyliad fod ar gael am unrhyw reswm, gan mai'r peth pwysicaf yw rheolaeth y fenyw dros ei chyfarpar atgenhedlu ei hun. Heb sôn am fod yn anfoesol, byddai'n anymarferol gwrthod yr hawl i erthylu ffetws oherwydd bod ganddi anabledd; byddai pobl yn dyfeisio rhesymau eraill yn lle. Nid wyf yn arbennig o gyfforddus â'r syniad o erthylu ar sail lliw llygad, neu wallt, neu ryw, ond nid fy lle i na neb arall yw penderfynu ar yr hyn y caiff menyw ei wneud â'i chroth ei hun. (Mae'n werth nodi wrth fynd heibio bod sgrînio fel hyn am ddod yn fwy a fwy trylwyr yn y blynyddoedd i ddod, wrth i'r dechnoleg barhau i wella, felly bydd moesoldeb cwestiwn y designer baby'n dod yn bwnc llosg poethach byth yn y dyfodol agos. Ond mater arall yw hynny).
Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, mae'n amlwg bod pobl â syndrom Down yn gallu byw bywydau hapus. Rwyf hefyd wedi dweud mai erthylu fuasai fy ngreddf bersonol petawn i'n y sefyllfa hwnnw. Eto i gyd, petaem yn cael babi SD (fy ngwraig fyddai biau'r penderfyniad, wedi'r cyfan, nid fi), mae hefyd yn amlwg y buaswn yn caru'r babi hwnnw yn yr un fath yn union ag unrhyw epil arall. Un broblem gyda'r ddadl ynghylch erthylu yw'r tueddiad i edrych yn ôl wedi'r ffaith. Hynny yw, pan mae gan rywun blant yn barod, mae dychmygu eu herthylu pan oeddent yn y groth yn boenus a dychrynllyd. Hyd yn oed os nad rhiant sy'n dadlau, mae'n debygol mai darlun babi go iawn sydd ganddynt yn eu pennau wrth iddynt bledio'u hachos. O'r herwydd, wrth drafod y syniad o erthylu oherwydd bod y babi am fod yn anabl, mae llawer yn pwyntio at rhywun sydd â SD ac awgrymu bod difa'r ffetws gyfystyr â dweud nad oes gwerth i fywyd y person hwnnw.
Mae'n dueddiad naturiol mewn ffordd, ond mae hefyd yn hollol anghywir, ofer ac amherthnasol. Nid ffetws mo babi sydd eisoes wedi'i eni, ond person. Pan oedd yn y groth, nid person ydoedd. Nid oes pwrpas cymharu'r tyfiant yn y groth â'r plentyn sy'n chwerthin yn hapus o'ch blaen. Y gymhariaeth gywir yw ag ŵy na ffrwythlonwyd o gwbl ac a ddiflannodd gyda'r ysbwriel neu lawr y toiled. Yr un yw'r canlyniad ymarferol, sef dim babi. Wrth gwrs buaswn yn caru fy mabi SD hypothetig. Ond buaswn hefyd wedi caru pob un o'r babanod y buaswn wedi gallu'u cael ond na ddaeth erioed i fodolaeth. Byddai'n hurt awgrymu ei bod yn anfoesol peidio creu pob bywyd posibl, oherwydd mae posibilrwydd hypothetig i bob un ohonom greu biliynau o fywydau gwahanol (a phob un ohonynt yn gannwyll ein llygaid).
Mae ymgyrchwyr gwrth-ddewis yn hoff o bwyntio at fenywod a oedd ar un adeg wedi ystyried cael erthyliad ond a aeth yn eu blaen, am ba bynnag reswm, i gael y babi. Y ddadl yw bod cariad amlwg y rhiant tuag at y plentyn yn reswm cryf i wrthwynebu erthlyliad yn gyffredinol. Mae'n caru'r plentyn, ac felly mae'n naturiol iddi fod yn falch, wrth edrych yn ôl, na benderfynodd gael yr erthyliad. Ond mae hynny'n methu'r pwynt yn llwyr. Buasai hi hefyd wedi caru'r holl 'fabanod' posibl eraill na roddodd enedigaeth iddynt, boed yn wyau na ffrwythlonwyd, yn sberm na gyrhaeddodd ei hwyau hi (biliynau - na, triliynau - ohonynt), neu hyd yn oed y sygotiaid hynny a ffrwythlonwyd ond a erthylwyd yn naturiol heb iddi ddod yn ymwybodol o'r peth (wedi'r cyfan, natur, neu 'Dduw' os mynnwch chi, yw'r erthylwr mwyaf o bell ffordd; lleiafrif o feichiogiadau sy'n arwain at fabi). Petai un o'r cyfuniadau hynny o ŵy a sberm wedi troi'n fabi yn lle'r un sydd ganddi, buasai'n caru hwnnw lawn cymaint. Pe na bai wedi cael babi o gwbl, byddai wedi gallu dewis unai parhau'n ddi-blentyn neu gael un yn ddiweddarach. Ond nid felly y bu, ac felly, wel, nid felly y mae. Nid oes modd dyfalu pa senario fyddai wedi bod hapusaf iddi, felly nid oes pwynt trio.
Mae gwrthwynebwyr erthyliad hefyd yn hoff iawn o'r Great Beethoven Fallacy. Mae'n enghraifft o'r un math o gamresymu. Dyma hi:
Nid oes pwrpas chwarae'r gêm yma. Mae fel dychmygu sut fyddai pethau pe na bawn wedi cwrdd â'm gwraig a syrthio mewn cariad â hi pan y gwnaethais. Efallai'n wir y buaswn wedi canfod fy hun mewn perthynas â rhywun arall, ac y buaswn heddiw mewn priodas ddedwydd â'r person yna, yr un mor hapus fy myd. Ond nid dyna ddigwyddodd; rwyf mewn priodas hyfryd a llawen â'm gwraig, mae bellach yn amhosibl dychmygu bywyd fel arall, a dyna ni.
Yn yr un modd, pe na bai'n rhieni wedi cwrdd, a gwneud yr angenrheidiol ar yr union foment y gwnaethasant, ni fuasem ninnau chwaith yn bod. Neu petaem wedi cael ein geni'n blant i rieni eraill (mae hyn yn amhosibl, ond gan mai fy mwriad yw egluro nad oes diben meddwl fel hyn yn y lle cyntaf, waeth i ni gario ymlaen), mae'n debygol y buasem yn caru'r rheiny lawn cymaint ag yr ydym yn caru'n rhieni go iawn. Ond eto, nid dyna ddigwyddodd. 'If my auntie had balls, she'd be my uncle', fel maent yn dweud. Y realiti sydd ohoni yw'r unig un sy'n gwneud synnwyr i ni, ac mae hynny'n ok oherwydd dyna'r unig un sy'n cyfrif.
Cafwyd erthygl ardderchog a dirdynnol yn y Guardian ddwy flynedd yn ôl lle mae'r awdur yn dweud y dylai ei mam fod wedi'i herthylu. Nid dweud hynny oherwydd rhyw ing dirfodol y mae, eithr gwneud y pwynt y buasai bywyd ei mam wedi bod yn haws pe na bai wedi gorfod cael babi (mae'n debyg y byddai wedi cael erthyliad petai hynny wedi bod yn gyfreithiol ym Michigan ar y pryd). Fel mae hi'n dweud, pe na bai hi wedi cael ei geni, ni fuasai wedi colli unrhyw beth oherwydd nid oedd ganddi unrhyw beth i'w golli ar y pryd.
Wedi dweud hyn i gyd, mae'n werth cloi trwy ddyfynnu Dawkins ei hun, hyd yn oed os dim ond er mwyn atgoffa'n hunain ei fod yn gallu bod yn ddyn craff iawn hefyd (neu o leiaf roedd yn arfer bod). Daw'r canlynol o'm hoff lyfr ganddo (ar y cyd, efallai, â The Ancestor's Tale), Unweaving The Rainbow:
@InYourFaceNYer Abort it and try again. It would be immoral to bring it into the world if you have the choice.
— Richard Dawkins (@RichardDawkins) August 20, 2014
Nodwedd gyffredin o gyfraniadau Dawkins ar Twitter yw bod pwynt teg yn cuddio ynddynt yn rhywle, ond bod yr haenau anghynnes ychwanegol yn hawlio'r holl sylw. Mae hynny'n iawn. Bai Dawkins a neb arall yw ei fynegiant trwsgl, a'i gyfrifoldeb ef yw bod yn fwy gofalus wrth egluro'r hyn sydd ar ei feddwl.Yn achos y trydariad penodol uchod, rwy'n lled-gydweld â'r cyngor y mae'n ei gynnig. Mae'n anodd dweud i sicrwydd mewn senario hypothetig, wrth gwrs, ond rwy'n credu y buaswn i, petawn yn fenyw feichiog sy'n gwybod bod gan y ffetws syndrom Down, yn cael fy nhemtio i erthylu. Dyna, yn wir, sy'n digwydd yn oddeutu 92% o achosion o'r fath yn Ewrop. Yn hynny o beth, o leiaf, nid oes llawer yn bod ar y frawddeg gyntaf. Yr unig broblem yw bod y geiriau ffwrdd-a-hi 'a thria eto' yn gallu bod yn ansensitif mewn rhai achosion arbennig lle mae'r fenyw wedi cael anhawsterau beichiogi neu os yw hi'n heneiddio (mae'r tebygolrwydd o esgor ar fabi syndrom Down yn cynyddu gydag oed, wrth gwrs). Ond fel darn o gyngor i rywun sydd wedi gofyn amdano, mae'n ateb digon call.
Y broblem enfawr yw'r defnydd o'r gair 'immoral' yn yr ail frawddeg. Un peth yw awgrymu beth y buasai ef ei hun yn ei wneud yn y sefyllfa, ond mae honni bod menywod sy'n dewis peidio erthylu yn ymddwyn mewn modd anfoesol yn beth annifyr a hyll iawn i'w wneud. Dewis y fenyw ydyw a neb arall (ac nid y tad chwaith); os ydynt yn dewis erthylu, hei lwc iddynt. Yn yr un modd yn union, hei lwc os ydynt yn penderfynu cario ymlaen a chael y babi.
Rwy'n credu bod ceisio mynd ati i bwyso a mesur positifrwydd neu negatifrwydd moesol penderfyniadau fel hyn yn gêm ofer a pheryglus. Aeth Dawkins yn ei flaen i ddweud y canlynol:
@InYourFaceNYer People on that spectrum have a great deal to contribute, Maybe even an enhanced ability in some respects. DS not enhanced.
— Richard Dawkins (@RichardDawkins) August 20, 2014
Rwy'n anghyfforddus â hynny hefyd. Mae llawer o bobl â syndrom Down yn byw bywyd cynhyrchiol a dedwydd. Ar yr un pryd, mae llawer o fabanod heb anableddau o fath yn y byd yn mynd ymlaen i ddioddef bywydau segur, poenus a digalon. Nid oes modd dweud o flaen llaw, ac felly nid wyf yn teimlo bod y mater nac yma nac acw ar lefel foesol. A dweud y gwir, mae pwyslais Dawkins ar gymharu cyfraniadau hypothetig dau fywyd hypothetig i'n cymdeithas yn drewi braidd o ewgeneg. Yn y pen draw, mae 100% o bob genedigaeth yn arwain at farwolaeth. (Wedi dweud hynny, mae rhai achosion lle mae gennym syniad da iawn sut fywyd fyddai'n disgwyl y darpar-fabi: os oes gan ffetws afiechyd eithriadol o ddifrifol nad oes modd ei wella, mae modd dadlau yn yr achosion hynny bod peidio erthylu yn anfoesol, gan mai marwolaeth buan ar ôl ychydig oriau o ddioddefaint echrydus di-angen yw'r unig bosibilrwydd amgen).Dyna fy nghwyn i, felly. Fodd bynnag, mae rhai fel petaent wedi dychryn â'r syniad o erthylu ar sail anabledd fel syndrom Down. Ond fel y dywedais, mae canran anferth o bobl eisoes yn dewis gwneud hynny. I fod yn hollol glir, dylai erthyliad fod ar gael am unrhyw reswm, gan mai'r peth pwysicaf yw rheolaeth y fenyw dros ei chyfarpar atgenhedlu ei hun. Heb sôn am fod yn anfoesol, byddai'n anymarferol gwrthod yr hawl i erthylu ffetws oherwydd bod ganddi anabledd; byddai pobl yn dyfeisio rhesymau eraill yn lle. Nid wyf yn arbennig o gyfforddus â'r syniad o erthylu ar sail lliw llygad, neu wallt, neu ryw, ond nid fy lle i na neb arall yw penderfynu ar yr hyn y caiff menyw ei wneud â'i chroth ei hun. (Mae'n werth nodi wrth fynd heibio bod sgrînio fel hyn am ddod yn fwy a fwy trylwyr yn y blynyddoedd i ddod, wrth i'r dechnoleg barhau i wella, felly bydd moesoldeb cwestiwn y designer baby'n dod yn bwnc llosg poethach byth yn y dyfodol agos. Ond mater arall yw hynny).
Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, mae'n amlwg bod pobl â syndrom Down yn gallu byw bywydau hapus. Rwyf hefyd wedi dweud mai erthylu fuasai fy ngreddf bersonol petawn i'n y sefyllfa hwnnw. Eto i gyd, petaem yn cael babi SD (fy ngwraig fyddai biau'r penderfyniad, wedi'r cyfan, nid fi), mae hefyd yn amlwg y buaswn yn caru'r babi hwnnw yn yr un fath yn union ag unrhyw epil arall. Un broblem gyda'r ddadl ynghylch erthylu yw'r tueddiad i edrych yn ôl wedi'r ffaith. Hynny yw, pan mae gan rywun blant yn barod, mae dychmygu eu herthylu pan oeddent yn y groth yn boenus a dychrynllyd. Hyd yn oed os nad rhiant sy'n dadlau, mae'n debygol mai darlun babi go iawn sydd ganddynt yn eu pennau wrth iddynt bledio'u hachos. O'r herwydd, wrth drafod y syniad o erthylu oherwydd bod y babi am fod yn anabl, mae llawer yn pwyntio at rhywun sydd â SD ac awgrymu bod difa'r ffetws gyfystyr â dweud nad oes gwerth i fywyd y person hwnnw.
Mae'n dueddiad naturiol mewn ffordd, ond mae hefyd yn hollol anghywir, ofer ac amherthnasol. Nid ffetws mo babi sydd eisoes wedi'i eni, ond person. Pan oedd yn y groth, nid person ydoedd. Nid oes pwrpas cymharu'r tyfiant yn y groth â'r plentyn sy'n chwerthin yn hapus o'ch blaen. Y gymhariaeth gywir yw ag ŵy na ffrwythlonwyd o gwbl ac a ddiflannodd gyda'r ysbwriel neu lawr y toiled. Yr un yw'r canlyniad ymarferol, sef dim babi. Wrth gwrs buaswn yn caru fy mabi SD hypothetig. Ond buaswn hefyd wedi caru pob un o'r babanod y buaswn wedi gallu'u cael ond na ddaeth erioed i fodolaeth. Byddai'n hurt awgrymu ei bod yn anfoesol peidio creu pob bywyd posibl, oherwydd mae posibilrwydd hypothetig i bob un ohonom greu biliynau o fywydau gwahanol (a phob un ohonynt yn gannwyll ein llygaid).
Mae ymgyrchwyr gwrth-ddewis yn hoff o bwyntio at fenywod a oedd ar un adeg wedi ystyried cael erthyliad ond a aeth yn eu blaen, am ba bynnag reswm, i gael y babi. Y ddadl yw bod cariad amlwg y rhiant tuag at y plentyn yn reswm cryf i wrthwynebu erthlyliad yn gyffredinol. Mae'n caru'r plentyn, ac felly mae'n naturiol iddi fod yn falch, wrth edrych yn ôl, na benderfynodd gael yr erthyliad. Ond mae hynny'n methu'r pwynt yn llwyr. Buasai hi hefyd wedi caru'r holl 'fabanod' posibl eraill na roddodd enedigaeth iddynt, boed yn wyau na ffrwythlonwyd, yn sberm na gyrhaeddodd ei hwyau hi (biliynau - na, triliynau - ohonynt), neu hyd yn oed y sygotiaid hynny a ffrwythlonwyd ond a erthylwyd yn naturiol heb iddi ddod yn ymwybodol o'r peth (wedi'r cyfan, natur, neu 'Dduw' os mynnwch chi, yw'r erthylwr mwyaf o bell ffordd; lleiafrif o feichiogiadau sy'n arwain at fabi). Petai un o'r cyfuniadau hynny o ŵy a sberm wedi troi'n fabi yn lle'r un sydd ganddi, buasai'n caru hwnnw lawn cymaint. Pe na bai wedi cael babi o gwbl, byddai wedi gallu dewis unai parhau'n ddi-blentyn neu gael un yn ddiweddarach. Ond nid felly y bu, ac felly, wel, nid felly y mae. Nid oes modd dyfalu pa senario fyddai wedi bod hapusaf iddi, felly nid oes pwynt trio.
Mae gwrthwynebwyr erthyliad hefyd yn hoff iawn o'r Great Beethoven Fallacy. Mae'n enghraifft o'r un math o gamresymu. Dyma hi:
Doctor 1: "I want your opinion about terminating a pregnancy. The father was syphilitic, the mother had tuberculosis. Of the four children born, the first was blind, the second died, the third was deaf and dumb, the fourth also had tuberculosis. What would you have done?"Hyd yn oed o anghofio'r camgymeriadau ffeithiol (gweler y ddolen), nid yw hon yn ddadl ystyrlon o fath yn y byd. Gallasai'r babi dyfu fyny i fod yn lofrudd ofnadwy yr un mor hawdd. Gan mai dim ond wrth edrych yn ôl y daw pethau felly i'r amlwg, nid oes defnydd o gwbl i ddadleuon fel hyn wrth i ni wynebu cwestiynau sydd angen atebion yn y presennol. Os defnyddio'r rhesymeg hwn yng nghyd-destun erthyliad, rhaid i ni hefyd dderbyn bod miloedd ar filoedd o ddarpar-Beethoveniaid (a -Hitleriaid o ran hynny) yn gorffen eu hoes fel crwst drewllyd ar sannau sbarion bechgyn yn eu harddegau ledled y byd.
Doctor 2: "I would have terminated the pregnancy."
Doctor 1: "Then you would have murdered Beethoven."
Nid oes pwrpas chwarae'r gêm yma. Mae fel dychmygu sut fyddai pethau pe na bawn wedi cwrdd â'm gwraig a syrthio mewn cariad â hi pan y gwnaethais. Efallai'n wir y buaswn wedi canfod fy hun mewn perthynas â rhywun arall, ac y buaswn heddiw mewn priodas ddedwydd â'r person yna, yr un mor hapus fy myd. Ond nid dyna ddigwyddodd; rwyf mewn priodas hyfryd a llawen â'm gwraig, mae bellach yn amhosibl dychmygu bywyd fel arall, a dyna ni.
Yn yr un modd, pe na bai'n rhieni wedi cwrdd, a gwneud yr angenrheidiol ar yr union foment y gwnaethasant, ni fuasem ninnau chwaith yn bod. Neu petaem wedi cael ein geni'n blant i rieni eraill (mae hyn yn amhosibl, ond gan mai fy mwriad yw egluro nad oes diben meddwl fel hyn yn y lle cyntaf, waeth i ni gario ymlaen), mae'n debygol y buasem yn caru'r rheiny lawn cymaint ag yr ydym yn caru'n rhieni go iawn. Ond eto, nid dyna ddigwyddodd. 'If my auntie had balls, she'd be my uncle', fel maent yn dweud. Y realiti sydd ohoni yw'r unig un sy'n gwneud synnwyr i ni, ac mae hynny'n ok oherwydd dyna'r unig un sy'n cyfrif.
Cafwyd erthygl ardderchog a dirdynnol yn y Guardian ddwy flynedd yn ôl lle mae'r awdur yn dweud y dylai ei mam fod wedi'i herthylu. Nid dweud hynny oherwydd rhyw ing dirfodol y mae, eithr gwneud y pwynt y buasai bywyd ei mam wedi bod yn haws pe na bai wedi gorfod cael babi (mae'n debyg y byddai wedi cael erthyliad petai hynny wedi bod yn gyfreithiol ym Michigan ar y pryd). Fel mae hi'n dweud, pe na bai hi wedi cael ei geni, ni fuasai wedi colli unrhyw beth oherwydd nid oedd ganddi unrhyw beth i'w golli ar y pryd.
Wedi dweud hyn i gyd, mae'n werth cloi trwy ddyfynnu Dawkins ei hun, hyd yn oed os dim ond er mwyn atgoffa'n hunain ei fod yn gallu bod yn ddyn craff iawn hefyd (neu o leiaf roedd yn arfer bod). Daw'r canlynol o'm hoff lyfr ganddo (ar y cyd, efallai, â The Ancestor's Tale), Unweaving The Rainbow:
We are going to die, and that makes us the lucky ones. Most people are never going to die because they are never going to be born. The potential people who could have been here in my place but who will in fact never see the light of day outnumber the sand grains of Arabia. Certainly those unborn ghosts include greater poets than Keats, scientists greater than Newton. We know this because the set of possible people allowed by our DNA so massively exceeds the set of actual people. In the teeth of these stupefying odds it is you and I, in our ordinariness, that are here. We privileged few, who won the lottery of birth against all odds, how dare we whine at our inevitable return to that prior state from which the vast majority have never stirred?Rydym yn ffodus i fod yn fyw, ac mae'r dyfyniad uchod yn enghraifft hardd iawn o wyleidd-dra dyneiddiol go iawn a diffuant, yn wahanol iawn i'r rhagrith anghydlyn a ysbrydolir gan grefydd. Y gwir amlwg yw ei bod yn hollol amhosibl i bob darpar-fywyd posibl gael ei wireddu. Yn y cyfamser, rydym wedi cael dod i fodolaeth, ac mae'r rhan fwyaf ohonom yn ddiolchgar am y fraint. Ond rydym yma ar draul 'ysbrydion ananedig' a allasai lawn mor rhwydd fod wedi cael eu geni yn ein lle. Er bod y ffaith yma'n ddiddorol, a'n ysgogi ein greddf naturiol i feddwl yn segur am bethau dwys y bydysawd, nid oes iddi unrhyw arwyddocâd o gwbl pan ddaw'n fater o geisio ateb cwestiynau moesol ymarferol.
23/04/2014
Wythnos ddwl arall yn y ddadl ynghylch erthylu
Tros y dyddiau diwethaf, mae ffrae wedi codi ynghylch penderfyniad rhywun o'r enw Josie Cunningham i gael erthyliad gan ei bod yn gobeithio cael gyrfa mewn rhaglenni realiti ar y teledu. Mae hyn yn od, ac mae'n destun braw braidd bod gweld menyw'n dewis canolbwyntio ar ei gyrfa wedi gwylltio cymaint o bobl gymaint. Roeddwn yn hanner-meddwl bod y math yma o beth wedi rhoi'r gorau i fod mor ddadleuol ym Mhrydain.
Fel y dywedais, nid yw ystyried effeithiau ar yrfa wrth benderfynu beth i'w wneud ynghylch cynnwys eich croth eich hun yn gysyniad newydd. Mae elfen gref o snobyddiaeth yn yr ymatebion blin, gan mai uchelgais Cunningham yw serenu ar Big Brother cyn symud ymlaen i ymddangos ar raglenni crap eraill ac efallai ar gloriau cylchgronnau ofnadwy. Nid wyf am anghytuno bod rhywbeth digon digalon am hynny, ond mae'n amherthnasol. Ni fyddai llawer o'r snobs blin yma wedi meddwl dwywaith petai hi'n fenyw fusnes llwyddiannus, ond mae gan Cunningham yr un hawl yn union i reoli'r hyn sy'n mynd ymlaen gyda'i chyfarpar atgenhedlu ei hun er dibenion gyrfaol (neu am unrhyw resymau eraill). Yr un yw'r egwyddor yn union: ei phenderfyniad hi ydyw, a neb arall.
Ond os yw rhai ym Mhrydain wedi troi'r cloc yn ôl i'r 1950au yr wythnos yma, mae'r dde grefyddol yn America wedi plymio dyfnderoedd rhyfedd newydd eto fyth. Yn ôl y Christian Post, mae'r ffaith bod Chelsea Clinton yn hapus i fod yn feichiog a'n edrych ymlaen i gael babi yn enghraifft o ragrith, gan ei bod, fel ei mam Hillary, yn cefnogi hawl menywod i ddewis cael erthyliad. Yn ogystal, mae llu o'u cyd-geidwadwyr yn mynnu mai stynt gwleidyddol yw hyn i gyd, er mwyn hwyluso ymgais Hillary Clinton i ennill yr arlywyddiaeth yn 2016 (gan ddadlau, ar yr un pryd, y byddai bodolaeth y babi rywsut yn ei rhwystro rhag canolbwyntio'n iawn ar ofynion y swydd). Afraid dweud nas mynegwyd y pryder yma pan ddaeth Mitt Romney yn daid i ddau o wyrion newydd yn ystod ymgyrch 2012. (rhifau 17 ac 18 oedd y rheiny; mae pump o Romneyaid bychain ychwanegol wedi ymddangos ers hynny). Dyma rywiaeth cwbl noeth ac amrwd ar waith.
Mae twpdra fel hyn bron yn arwrol yn ei ffordd. A yw'r bobl yma'n camarwain yn fwriadol er dibenion ideolegol, ynteu a yw eu ffordd o feddwl wirioneddol mor dila o blentynnaidd? Hyderaf nad oes gwir angen i mi egluro'r peth fan hyn, ond rwyf am wneud beth bynnag: ystyr pro-dewis yw'r syniad bod gan fenywod yr hawl i ddewis y naill ffordd neu'r llall. Os nad ydynt yn dymuno rhoi geni i fabi, dylai fod ganddynt yr hawl a'r gallu i gael gwared ar y ffetws yn ddi-ffwdan. Os ydynt eisiau babi, hei lwc iddynt! Mae hyn yn hawdd i chi a mi ei ddeall, ond fe ymddengys bod rhai'n cael trafferth darllen a'n tybio bod pawb pro-dewis yn deisyfu difa pob ffetws yn ddi-eithriad, gan gynnwys pan fyddai hynny'n gwbl groes i ewyllys y ddarpar-fam. Mae'n siwr bod hyn yn adlewyrchu anallu i amgyffred unrhyw gysyniad nad yw'n golygu gorfodi pethau ar eraill. Dyna'r cwbl mae'r bobl yma'n ei ddeall, yn eu dallineb theocrataidd lloerig.

15/11/2012
Mwy o waed ar ddwylo'r eglwys babyddol
Dyma stori frawychus a gwarthus: mae gwraig 31 oed o'r enw Savita Praveen Halappanavar wedi marw mewn ysbyty yng ngorllewin yr Iwerddon. Roedd yn feichiog ers rhyw 17 wythnos, ond aeth i'r ysbyty ar ôl dioddef poenau cas. Fe gollodd y babi, ond fe wrthododd y doctoriaid erthylu'r ffetws gan eu bod wedi mynnu bod ganddo guriad calon o hyd. O ganlyniad, cafodd Savita haint ddifrifol, a bu farw rai dyddiau'n ddiweddarach o wenwyn yn y gwaed, wedi llawer iawn o ddioddef.
Roedd hyn i gyd yn gwbl ddi-angen. Roedd y beichiogrwydd wedi dirwyn i ben: nid oedd gobaith cael y babi.
Yn syml iawn, mae'r doctoriaid yn gyfrifol yn uniongyrchol am ei marwolaeth, ac mewn byd call byddent yn cael eu cosbi. Mae'n anodd deall y fath greulondeb. Ond fel y dywedwyd wrth ŵr Savita, "this is a Catholic country". Gwir hynny: mae athrawiaeth eglwys Rufain yn ddyanwadol tu hwnt ym mywyd cyhoedds yr Iwerddon o hyd. Yn anffodus, canlyniad yr athrawiaeth honno yw marwolaeth, poen, artaith a galar.
Mae'r gyfraith ynghylch erthyliad yn yr Iwerddon ymysg y llymaf yng ngorllewin Ewrop. A dweud y gwir, mae'r sefyllfa'n eithriadol o niwlog; nid oes unrhyw un o'r pleidiau gwleidyddol yn fodlon cyffwrdd y daten boeth yma a deddfu er mwyn cadarnhau faint yn union o reolaeth a ganiateir i hanner y boblogaeth dros eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain. Cyn 1992 (ie, mor ddiweddar â hynny), gwaherddid erthylu fwy neu lai'n llwyr. Ers hynny, ac o ganlyniad i stori drist arall, mae'r wlad fel petai wedi ceisio anwybyddu'r broblem, gan ganiatáu i bobl deithio i wlad arall (hynny yw, Prydain) er mwyn cael erthyliad. O'r hyn rwy'n ei ddeall, cyn 1992, os oedd amheuaeth bod gwraig feichiog yn ystyried cael erthyliad, byddai'r wladwriaeth yn ei rhwystro rhag gadael. Mewn geiriau eraill, roeddent yn garcharorion. Erbyn hyn, mae erthylu er dibenion meddygol yn gyfreithlon, i raddau, ond yn amlwg nid oes llawer o eglurdeb ynghylch y mater ac mae llawer yn ddibynnol ar fympwy doctoriaid ac ysbytai unigol. Canlyniad anochel y fath sefyllfa annerbyniol o annelwig yw marwolaethau digalon pobl fel Savita.
Mae'n sgandal. Da yw sylwi, fodd bynnag, bod y stori wedi arwain at gryn brotestio. Gobeithiaf y bydd sioc y drychineb yma'n gorfodi gwleidyddion yr Iwerddon i wynebu'r broblem ac i wella'r gyfraith. Nid yw'n hawdd credu bod y fath sefyllfa'n bodoli yn un o'n cymdogion agosaf, ond o leiaf mae'n bosibl i'r digwyddiad ofnadwy yma i ddarbwyllo'r llywodraeth nad ydyw'n foesol na chynaliadwy.

16/10/2012
Cyd-destun gwleidyddol y ddadl ynghylch erthyliad
Rwy'n credu bod Kenan Malik yn un o'm hoff sylwebwyr erbyn hyn. Rwy'n hoff iawn yn enwedig o'r ysgrif yma ganddo, sy'n ymateb i ymdrech Mehdi Hasan i bortreadu'r safbwynt gwrth-erthylu fel yr un asgell chwith go iawn (a vice versa, wrth gwrs).
Gellir crynhoi safbwynt Hasan trwy ddyfynnu'r ddau baragraff yma:
Mae'n braf pan mae rhywun yn ysgrifennu'n huawdl am rywbeth sydd wedi troelli'n ddigyswllt yn eich pen ers peth amser. Teimlad felly a gefais wrth ddarllen yr isod gan Malik:
Darllenwch yr ysgrif gyfan. Beth yw eich barn?

Abortion is one of those rare political issues on which left and right seem to have swapped ideologies: right-wingers talk of equality, human rights and “defending the innocent”, while left-wingers fetishise “choice”, selfishness and unbridled individualism.
“My body, my life, my choice.” Such rhetoric has always left me perplexed. Isn’t socialism about protecting the weak and vulnerable, giving a voice to the voiceless? Who is weaker or more vulnerable than the unborn child? Which member of our society needs a voice more than the mute baby in the womb?Mae hynny'n amlwg yn hurt yn fy marn i, ond mae'r modd y mae Malik wedi gallu dangos pam yn arbennig o eglur. Fel y dywed, y pwynt y mae gwrthwynebwyr erthyliad yn methu'n lân â'i ddeall yw mai mater o ymreolaeth y fenyw dros ei chorff ei hun yw'r ddadl mewn gwirionedd. Amcan y gwrthwynewbwyr yw atal hawl hanner y boblogaeth i reoli eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain. Mae gwarchod yr hawl hwnnw felly yn sicr yn un rhyddfrydol ac egalitaraidd (ac sydd felly, yn ôl y confensiwn sydd ohoni, yn safbwynt sy'n perthyn yn gyfforddus iawn i'r chwith wleidyddol).
Mae'n braf pan mae rhywun yn ysgrifennu'n huawdl am rywbeth sydd wedi troelli'n ddigyswllt yn eich pen ers peth amser. Teimlad felly a gefais wrth ddarllen yr isod gan Malik:
A fetus is a physical part of woman’s body. That is why we talk of ‘a woman’s right to choose’. Abortion is not about the killing of another human being but about a woman exercising her right to control her own body. The moral status of a fetus that is wanted, and that the woman sees as an unborn child, is different from the moral status of an unwanted fetus that she wishes to abort. Most societies recognize this in the moral and legal distinctions they draw between the abortion of an unwanted fetus and the killing of a wanted one.
Birth transforms that relationship. An entirely physical attachment becomes primarily, and increasingly, social. A fetus is an extension of the physical body of a woman. A newborn is part of the moral community of humans. Its moral status no longer depends upon the desires of the woman but derives from its membership of the moral community. In that change lies the moral difference between a fetus and a newborn, and between abortion and murder.
To put it another way, to be human is not simply a matter of biology, as Hasan and other pro-lifers seem to assert. Certainly there are physical, biological, genetic markers and boundaries that define us as human. But one also becomes human through a process by which we are socialized into the human community. To ignore that is to ignore a fundamental aspect of human existence that, to the left, is vitally important.Rwyf wedi pwysleisio'r darn mwyaf allweddol un. Os yw'r fenyw eisiau cael y babi, ac yn paratoi'n emosiynol i roi geni i blentyn, mae hynny ynddo'i hun yn gwneud y ffetws yn fwy arwyddocaol o lawer. Os nad ydyw eisiau babi, fodd bynnag, nid yw'n ddim mwy na thyfiant yn ei chroth. Mae'n ran o'i chorff hi ei hun, ac os yw hi'n dymuno cael ei wared, ni ddylai fod gan unrhyw un yr hawl i'w rhwystro.
Darllenwch yr ysgrif gyfan. Beth yw eich barn?
21/08/2012
Erthyliad a 'threisio dilys'
Cafodd y Blaid Weriniaethol etholiad digon llwyddiannus yn America yn 2010, gan gipio Tŷ'r Cynrychiolwyr, llywodraeth sawl talaith, a dod yn agos at gipio'r Senedd hefyd. Yn ystod yr ymgyrch, eu neges oedd mai gwella'r economi a lleihau'r ddyled fyddai'r flaenoriaeth. Dyma, i fod, oedd yn bwysig i'r Tea Party yn anad unrhyw beth arall. Byddai rhywun wedi disgwyl i'r 'gwrthdaro diwylliannol' dawelu am ychydig wrth iddynt ganolbwyntio ar faterion ariannol dyrys.
Nid dyna ddigwyddodd, fodd bynnag. Ers yr etholiad, yr hyn sydd wedi cadw'r Gweriniaethwyr yn brysurach na dim yw ymosod yn ddi-baid a didrugaredd ar hawliau menywod. Yn hytrach na thrwsio'r economi, sydd mor druenus yn eu tyb hwy, maent wedi gwario'r rhan fwyaf o''u hegni a'u hamser yn meddwl am ffyrdd newydd a chyffrous o wneud erthyliad yn anodd (eu campwaith yw'r prawf wltra-sain mewnol gorfodol). Mae IVF ac ymchwil bôn-gelloedd wedi'i chael hi hefyd, a hyd yn oed dulliau atgenhedlu. Eithriadau yw'r dyddiau pan na fydd gwleidydd Gweriniaethol yn dweud rhywbeth twp am y mater.
Efallai bod dyn o'r enw Todd Akin wedi plymio dyfnderoedd newydd yr wythnos hon, fodd bynnag. Mae'n aelod eithafol o Dŷ'r Cynrychiolwyr a oedd yn gobeithio ennill etholiad i'r Senedd ym mis Tachwedd, ond mae'n ddigon posibl y bydd wedi tynnu allan o'r ras erbyn i chi ddarllen hyn. Gallwch wylio'r rheswm yn y fideo isod, wrth iddo geisio egluro pam ei fod yn gwrthwynebu erthyliad hyd yn oed yn achos trais rhywiol:
Dyfynnaf y darn allweddol: "It seems to me, first of all, from what I understand from doctors, that's really rare. If it's a legitimate rape, the female body has ways to try to shut that whole thing down."
Mae'n anodd gwybod ble i ddechrau. Byddai 'legitimate rape' yn ymadrodd doniol iawn petai'n ddarn o gomedi tywyll sy'n dychanu gwleidyddiaeth America. Ond roedd y dyn o ddifrif. Mae rhoi'r ddau air yna ar ôl ei gilydd yn ddigon drwg, ond mae hefyd yn credu o ddifrif bod treisio'n annhebygol o arwain at feichiogi (ac wrth gwrs, yr awgrym ynghlwm â hynny yw bod unrhyw ddioddefwraig sy'n disgwyl epil ei threisiwr wedi mwynhau'r profiad yn ddistaw bach). Nid yn unig hynny, roedd yn credu bod lleisio'r fath farn yn beth call i'w wneud yn fyw ar y teledu, ac yntau yng nghanol ymgyrch ar gyfer etholiad bwysig. Mae'n union fel yr hen fythau hynny sy'n dweud bod beichiogi'n amhosibl wrth gael rhyw am y tro cyntaf neu wrth sefyll i fyny. Yn sicr, nid oes unrhyw ddoctor go iawn wedi dweud y fath beth iddo; yn hytrach, ymddengys ei fod yn derbyn ei wybodaeth gan blant 12 oed.
Mae Todd Akin yn 65.
Dylai hyn roi blas o wallgofrwydd y 'gwrthdaro diwylliannol' yn America ar hyn o bryd. Nid ffigwr ymylol mo hwn, eithr gwleidydd cenedlaethol a oedd, yn ôl y polau, ar y blaen yn yr ymgyrch ar gyfer sedd yn y Senedd.
Gellir chwerthin neu wylltio ar adegau fel hyn, ond mae'n werth trafod yr eithriad a wneir yn aml gan wrthwynebwyr erthyliad os mai trais oedd y rheswm am y beichiogi. Onid yw'n anghyson ac afresymol? Os yw erthyliad gyfystyr â llofruddiaeth, nid yw'r sefyllfa a arweiniodd at gyfarfod y sberm a'r ŵy yn berthnasol. Lladd yw lladd, felly nid yw'n gwneud synnwyr i'w ganiatáu dim ots beth oedd yr amgylchiadau. Mewn ffordd, mae'r eithafwyr sy'n gwrthod unrhyw eithriadau o gwbl yn llawer mwy gonest a chyson na'r rhai sy'n ceisio'i chael hi'r ddwy ffordd.
Holl bwynt erthyliad yw bod angen i fenywod fod â rheolaeth dros eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain. Mae gan grefydd record hir iawn o ddwyn y rheolaeth yna oddi arnynt, a dyna'n union pam y mae'r rhan fwyaf o'r dadleuon yn erbyn erthyliad yn rai crefyddol. Yr hunanreolaeth yma yw'r unig ffactor pwysig yn y ddadl; nid lle'r wladwriaeth (hynny yw, hen ddynion) yw ymyrryd yng nghrothau ei thrigolion.
Wrth gwrs, prif honiad gwrthwynebwyr erthyliad yw bod bywyd yn dechrau'n syth ar ôl i'r ŵy gael ei ffrwythloni. Mae hynny'n fympwyol tu hwnt; clwstwr o gelloedd digon di-nod ydyw o hyd ar yr adeg yma. Beth bynnag, mae tua hanner o'r holl wyau a gaiff eu ffrwythloni'n cael eu gwrthod gan y corff a'n methu mewnblannu yn y groth, heb i'r fenyw sylweddoli ei bod wedi beichiogi o gwbl. Os oes yna dduw, ac os yw'r ŵy'n enghraifft o fywyd gyda'r un hawliau â pherson, rhaid i'r addolwyr dderbyn mai eu harglwydd yw'r erthylwr mwyaf toreithiog erioed (o lawer), ac felly mae'n lofrudd erchyll. Dyma faglu dros anghysondeb sylweddol arall.
Mae'r anwybodaeth llethol yma'n deillio o'r agwedd blentynaidd sydd gan grefydd tuag at ryw ac atgenhedlu. Mae Akin wedi dangos nad oes ganddo'r syniad cyntaf am y pwnc, ond eto mae'n aelod o ddeddfwriaeth sy'n ymosod yn uniongyrchol ar hawliau hanner y boblogaeth. Yn ei 'ymddiheuriad', canolbwyntiodd ar ei eirio trwsgl, heb gydnabod o gwbl bod popeth arall a ddywedodd yn wallgof hefyd. Nid mater o eirio anffodus oedd hyn: mae ei holl agwedd tuag at fenywod yn erchyll. Wrth geisio 'egluro', dywedodd mai ei fwriad oedd gwneud y pwynt bod llawer o fenywod yn dweud celwydd am gael eu treisio er mwyn cael erthyliad. Ond dyna'r union beth gwaethaf yn ei ddatganiad! Mae ei blaid wedi brysio i'w feirniadu am ddefnyddio'r ymadrodd 'anffodus' hwnnw, ond yr hyn a olygodd yw'r drwg, nid ei ddewis o eiriau. Dylid nodi hefyd nad oedd, mewn gwirionedd, yn gwneud unrhyw beth ond lleisio polisi swyddogol y Blaid Weriniaethol. Bydd yn ddifyr gweld beth fydd yr isafbwynt nesaf yn y 'drafodaeth gyhoeddus' chwerthinllyd yma.

Subscribe to:
Posts (Atom)