23/04/2014

Wythnos ddwl arall yn y ddadl ynghylch erthylu

Tros y dyddiau diwethaf, mae ffrae wedi codi ynghylch penderfyniad rhywun o'r enw Josie Cunningham i gael erthyliad gan ei bod yn gobeithio cael gyrfa mewn rhaglenni realiti ar y teledu. Mae hyn yn od, ac mae'n destun braw braidd bod gweld menyw'n dewis canolbwyntio ar ei gyrfa wedi gwylltio cymaint o bobl gymaint. Roeddwn yn hanner-meddwl bod y math yma o beth wedi rhoi'r gorau i fod mor ddadleuol ym Mhrydain.

Fel y dywedais, nid yw ystyried effeithiau ar yrfa wrth benderfynu beth i'w wneud ynghylch cynnwys eich croth eich hun yn gysyniad newydd. Mae elfen gref o snobyddiaeth yn yr ymatebion blin, gan mai uchelgais Cunningham yw serenu ar Big Brother cyn symud ymlaen i ymddangos ar raglenni crap eraill ac efallai ar gloriau cylchgronnau ofnadwy. Nid wyf am anghytuno bod rhywbeth digon digalon am hynny, ond mae'n amherthnasol. Ni fyddai llawer o'r snobs blin yma wedi meddwl dwywaith petai hi'n fenyw fusnes llwyddiannus, ond mae gan Cunningham yr un hawl yn union i reoli'r hyn sy'n mynd ymlaen gyda'i chyfarpar atgenhedlu ei hun er dibenion gyrfaol (neu am unrhyw resymau eraill). Yr un yw'r egwyddor yn union: ei phenderfyniad hi ydyw, a neb arall.

Ond os yw rhai ym Mhrydain wedi troi'r cloc yn ôl i'r 1950au yr wythnos yma, mae'r dde grefyddol yn America wedi plymio dyfnderoedd rhyfedd newydd eto fyth. Yn ôl y Christian Post, mae'r ffaith bod Chelsea Clinton yn hapus i fod yn feichiog a'n edrych ymlaen i gael babi yn enghraifft o ragrith, gan ei bod, fel ei mam Hillary, yn cefnogi hawl menywod i ddewis cael erthyliad. Yn ogystal, mae llu o'u cyd-geidwadwyr yn mynnu mai stynt gwleidyddol yw hyn i gyd, er mwyn hwyluso ymgais Hillary Clinton i ennill yr arlywyddiaeth yn 2016 (gan ddadlau, ar yr un pryd, y byddai bodolaeth y babi rywsut yn ei rhwystro rhag canolbwyntio'n iawn ar ofynion y swydd). Afraid dweud nas mynegwyd y pryder yma pan ddaeth Mitt Romney yn daid i ddau o wyrion newydd yn ystod ymgyrch 2012. (rhifau 17 ac 18 oedd y rheiny; mae pump o Romneyaid bychain ychwanegol wedi ymddangos ers hynny). Dyma rywiaeth cwbl noeth ac amrwd ar waith.

Mae twpdra fel hyn bron yn arwrol yn ei ffordd. A yw'r bobl yma'n camarwain yn fwriadol er dibenion ideolegol, ynteu a yw eu ffordd o feddwl wirioneddol mor dila o blentynnaidd? Hyderaf nad oes gwir angen i mi egluro'r peth fan hyn, ond rwyf am wneud beth bynnag: ystyr pro-dewis yw'r syniad bod gan fenywod yr hawl i ddewis y naill ffordd neu'r llall. Os nad ydynt yn dymuno rhoi geni i fabi, dylai fod ganddynt yr hawl a'r gallu i gael gwared ar y ffetws yn ddi-ffwdan. Os ydynt eisiau babi, hei lwc iddynt! Mae hyn yn hawdd i chi a mi ei ddeall, ond fe ymddengys bod rhai'n cael trafferth darllen a'n tybio bod pawb pro-dewis yn deisyfu difa pob ffetws yn ddi-eithriad, gan gynnwys pan fyddai hynny'n gwbl groes i ewyllys y ddarpar-fam. Mae'n siwr bod hyn yn adlewyrchu anallu i amgyffred unrhyw gysyniad nad yw'n golygu gorfodi pethau ar eraill. Dyna'r cwbl mae'r bobl yma'n ei ddeall, yn eu dallineb theocrataidd lloerig.

No comments:

Post a Comment