24/04/2014

"Gwlad Gristnogol" David Cameron eto fyth

Mae Julian Baggini'n anghywir i ddweud bod anffyddwyr a seciwlareiddwyr wedi gorymateb i sylwadau David Cameron bod Prydain yn "wlad Gristnogol". Rydym wedi troedio tir digon tebyg o'r blaen, wrth gwrs.

Ydyw, wrth reswm, mae'n ffaith bod Cristnogaeth wedi chwarae rhan ganolog yn hanes y Deyrnas Gyfunol. Mae Richard Dawkins ei hun wedi'i galw'i hun yn "Gristion Diwylliannol", yn yr ystyr ei fod yn mwynhau emynau a'n dathlu'r Nadolig ac ati. Rwyf i hefyd yn ddigon tebyg, am wn i: mae'n berffaith bosibl bod yn anffyddiwr rhonc ac eto teimlo ias wrth glywed Dros Gymru'n Gwlad.

Nid oes unrhyw un yn gwadu rôl Cristnogaeth yn natblygiad ein diwylliant ehangach, oherwydd mae'n bwynt amlwg a diflas. Dyna'n union pam mae angen bod yn wyliadwrus pan mae rhai Cristnogion yn mynd ymlaen ac ymlaen am y peth fel tiwn gron. Mae'n hollol amlwg bod rhywbeth arall yn mynd ymlaen hefyd.

Rydym yn gwybod yn iawn bod yna adlach wrth-seciwlar wedi prysur dyfu dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ddiweddar, mae sawl aelod amlwg o blaid y prif weinidog wedi ymosod ar y syniad syml na ddylai'r wladwriaeth ffafrio crefydd (gan ddangos ar yr un pryd nad ydynt yn deall beth yw seciwlariaeth yn y lle cyntaf).

Rydym hefyd yn gwybod yn iawn bod y frwydr i secilwareiddio ein gwladwriaeth ymhell o fod ar ben: neilltuir 26 sedd o hyd i esgobion yn siambr uchaf y ddeddfwriaeth, ac mae'n rhaid i ysgolion arwain eu disgyblion mewn gweddi. Yn wir, os rywbeth mae'r wladwriaeth wedi mynd yn llai seciwlar yn y blynyddoedd diwethaf, wrth i fwy a mwy o arian y trethdalwyr fynd at sefydlu a rhedeg ysgolion ffydd, ac wrth i fudiadau crefyddol ddod i chwarae rhan fwy blaenllaw mewn rhedeg gwasanaethau cyhoeddus. Hyn i gyd er bod ffydd grefyddol yn parhau i ostwng ymysg y boblogaeth yn gyffredinol. Mae herio'r sefyllfa wirion yma'n ennyn ymateb blin iawn gan y sawl sy'n mwynhau gweld eu hoff grefydd yn mwynhau'r fath freintiau.

Yn y cyd-destun hwn, mae'n hollol amlwg beth sy'n digwydd pan mae ceidwadwyr crefyddol (a gwleidyddion yn arbennig felly) yn gwneud cymaint o fôr a mynydd o rôl Cristnogaeth yn ffurfiant y Brydain gyfoes sydd ohoni. Nid gwneud pwynt hanesyddol ffwrdd-a-hi digyswllt y maent. Yn hytrach, mae'n amlwg eu bod o'r farn bod gan y ffaith honno arwyddocâd mawr ac y dylai ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus a phrosesau'r wladwriaeth (neu, o leiaf, maent yn ceisio apelio at etholwyr sy'n credu hynny). Mae gwrthod sylweddoli hynny'n od o naïf. 

No comments:

Post a Comment