Showing posts with label moesoldeb. Show all posts
Showing posts with label moesoldeb. Show all posts

12/11/2015

Yr astudiaeth yna ynghylch anffyddiaeth ac allgaredd

Bu tipyn o drafod dros y dyddiau diwethaf ynghylch astudiaeth sy'n awgrymu bod plant i rieni di-grefydd yn arddangos mwy o allgaredd na phlant o deuluoedd crefyddol. Gan fod gan gymaint o bobl grefyddol yr argraff mai ganddynt hwy y mae'r monopoli tros foesoldeb ac allgaredd, mae'n debyg bod y newyddion wedi taro nerf.

Awgrymwyd rhai rhesymau posibl am y canlyniadau. Er enghraifft, oherwydd y gred gyffredinol (a di-sail) bod galw'ch hun yn Gristion gyfystyr, yn awtomatig, â bod yn berson moesol a chydwybodol, efallai, yn baradocsaidd, bod hynny'n gallu arwain rhai Cristnogion i anghofio rhoi llawer o bwys ar ymddygiad. Wedi'r cyfan, os ydych eisoes yn 'berson da' yn eich hanfod, nid oes angen ymdrechu i ddangos hynny. Ar y llaw arall, yn achos anffyddwyr, eu hymddygiad yn unig sy'n penderfynu ai person da ydynt ai peidio.

Nid wyf yn siwr a yw hynny'n dal dŵr. Yn wir, dylai anffyddwyr wrthod y demtasiwn i glochdar am yr astudiaeth, sydd, hyd y gwelaf i, yn ddiffygiol. Yn un peth, nid wyf wedi f'argyhoeddi bod 'gêm yr unben' yn ffordd arbennig o effeithiol o fesur allgaredd (yn enwedig mewn plant). A dweud y gwir, rwy'n ansicr ei bod yn bosibl 'mesur' allgaredd mewn modd ystyrlon o gwbl (heb sôn am y ffaith bod modd cwestiynu bodolaeth allgaredd yn y lle cyntaf). Mae gormod o ffactorau amrywiol eraill i'w hystyried, ac mae'n anodd, onid amhosibl, eu rheoli i gyd. Gydag astudiaethau cymdeithasegol, yr her yw sicrhau bod pob ffactor wedi'i reoli heblaw am yr un sy'n cael ei fesur; nid yw'n glir bod hynny wedi digwydd, fan hyn. Yn ogystal, tybwyd ym mhob achos bod safbwynt diwinyddol y plant (os oes modd i blant bach feddu ar y fath beth) yr un fath â rhai eu rheini. Ar ben hyn i gyd, gweddol fach oedd y gwahaniaeth beth bynnag.

Pwyll piau hi, felly. Mae llawer o anffyddwyr wedi bod yn brysur yn rhannu'r newyddion, ond rwy'n ofni eu bod efallai'n euog o rywbeth tebyg i'r Cristnogion hypothetig a ddisgrifiais uchod. Gan fod anffyddwyr i fod yn bobl mwy sgeptigol a rhesymegol, dylem fod yn wyliadwrus nad ydym yn cymryd hynny'n ganiataol. Os ydym yn hawlio rhyw allu arbennig i osgoi llyncu pethau'n ddi-gwestiwn, gall y dybiaeth hunanfodlon honno ein harwain i esgeuluso ein hymddygiad ac i wneud yr union beth hwnnw.

Cyn i unrhyw Gristnogion gynhyrfu gormod o weld anffyddiwr rhonc yn beirniadu'r astudiaeth yma, dyma gloi trwy'u hatgoffa bod hyn i gyd yn amherthnasol yng nghyd-destun yr hen ddadl rhwng crefydd ac anffyddiaeth. Hyd yn oed petai'r gwrthwyneb i ganlyniadau'r astudiaeth yn wir, sef bod ffydd mewn duw yn peri i bobl ymddwyn yn well, ni fyddai hynny'n ddadl o fath yn y byd o blaid crefydd. Y rheswm syml am hynny yw'r ffaith nad oes tystiolaeth o gwbl bod duw yn bod yn y lle cyntaf. Heb y dystiolaeth honno, nid oes pwynt ceisio mynnu bod crefydd a moesoldeb yn mynd law yn llaw. Dadlau o blaid celwydd defnyddiol fyddai hynny.

19/02/2015

Pan mae anffyddwyr yn lladd

Gan fy mod wedi bod yn trafod llofruddiaethau gan derfysgwyr islamaidd yn ddiweddar, gwell fyddai peidio anwybyddu'r newyddion ofnadwy bod anffyddiwr wedi saethu tri mwslem yn farw yng Ngogledd Carolina yr wythnos ddiwethaf.

Mae gwahaniaethau amlwg a sylfaenol, wrth gwrs. Nid yw'n sicr pa mor berthnasol oedd anffyddiaeth Craig Hicks  wrth iddo wneud yr hyn a wnaeth; mae'n debyg mai ffrae ynghylch llefydd parcio oedd asgwrn y gynnen. Yn achos yr ymosodiadau ym Mharis a Chopenhagen, ar y llaw arall, roedd cymhellion crefyddol ac ideolegol y llofruddwyr yn hollol ddi-amwys. Eto i gyd, mae marwolaethau torcalonnus Deah Shaddy Barakat, Yusor Mohammad Abu-Salha a Razan Mohammad Abu-Salha yn codi cwestiynau am natur anffyddiaeth, troseddau casineb, a'r disgwyliad bod aelodau o leiafrifoedd yn condemnio popeth drwg a gyflawnir gan unrhyw aelodau eraill o'r lleiafrifoedd hynny.

Rhoddodd y cyfryngau Americanaidd gryn sylw i'r ffaith bod cyfrif Facebook Hicks yn llawn deunydd gwrth-grefyddol, gan ofyn a ydynt wedi'i ddylanwadu i gyflawni'r fath drosedd. Mae hynny'n destun ychydig o ofid ar un olwg, oherwydd, wel, mae f'un innau hefyd. Ond dylid pwysleisio nad oedd unrhyw awgrym yn y stwff yma ei fod yn arddel trais. Yn wir, dywed yn blaen, ar fwy nag un achlysur, ei fod yn cefnogi hawl pob person i arddel a mynegi ffydd grefyddol, ac mae ei safbwyntiau yn gyffredinol yn ddigon blaengar. Buaswn yn cyd-fynd yn llon â llawer. Hyd y gwelaf i, y gwahaniaeth mwyaf rhyngddo a mi yw ei hoffter o ddrylliau a'r hawl i'w cadw (gyda chanlyniadau trychinebus yn yr achos hwn).

Efallai wir mai ffrae wirion am le i barcio car oedd wrth wraidd y digwyddiad. Mae rhai anffyddwyr wedi defnyddio hyn er mwyn osgoi'r cwestiynau uchod ac i wadu'r posibilrwydd bod ei anffyddiaeth wedi chwarae rhan. Yn bersonol, nid wyf yn credu bod hynny'n dal dŵr. Os mai dyna'r rheswm y lladdwyd y tri pherson yma, faint o ryddhad yw hynny mewn gwirionedd o'n safbwynt ni? Mae lladd pobl oherwydd llefydd parcio yn boncyrs. Red herring yw'r ffrae am barcio, mewn gwirionedd. A fyddai Hicks wedi saethu tri pherson yn farw, mewn amgylchiadau cyffelyb, pe na baent yn fwslemiaid? Mae'n gwestiwn teg, heb fodd o ganfod yr ateb. Rwy'n ei chael yn anodd anwybyddu'r posibilrwydd y byddai wedi bod yn llai tebygol o wneud hyn petaent yn wyn.

Mae rhai wedi galw'r llofruddiaethau'n weithred derfysgol, a pham lai? Beth bynnag oedd cymhelliad Hicks (ac mae'n bosibl iawn na chawn fyth ateb clir), mae'r sgil-effeithiau yr un fath â gweithred derfysgol glasurol. Arbrawf meddwl defnyddiol ar adegau fel hyn yw dychmygu'r gwrthwyneb: petai mwslem wedi saethu tri Christion neu anffyddiwr gwyn yn farw, ffrae am barcio neu beidio, gallwch fod yn sicr mai terfysgaeth fuasai'r gair. Er gwell neu er gwaeth, mae pwy laddodd pwy yn ffactor lawn mor arwyddocaol â'r weithred ei hun. Nid oes modd dadansoddi troseddau fel hyn mewn modd haniaethol. Oherwydd hyn, rwy'n teimlo'r angen i wneud pwynt o gondemnio'r lladd.

Rwyf wedi bod yn dweud ers peth amser bod angen i anffyddiaeth fod yn fwy na 'diffyg cred mewn duw' yn unig, dim ots beth a ddywed yr anffyddwyr hynny sy'n hoff o chwifio geiriaduron. Cyhuddiad crefyddol cyffredin iawn yn erbyn anffyddiaeth yw ei bod yn arwain at wacter moesol. Nid yw achosion fel hyn yn help o gwbl. Dyma'n union pam nad yw 'dim duw' yn ddigon. Mae gan anffyddiaeth oblygiadau, ac mae'n amhosibl gwahanu'r ddau beth. Rhywsut neu ei gilydd, cafodd yr anffyddiwr penodol hwn yr argraff bod lladd tri mwslem yn syniad gwerth chweil. Dylem gondemnio hynny'n chwyrn, ac egluro bod anffyddiaeth yn golygu ein bod i gyd yn rhannu planed heb oruchwyliaeth ddwyfol. Ein hunig ddewis yw canfod ein moesoldeb yn ein perthynas â'n gilydd, a thrin eraill fel y dymunem iddynt ein trin ninnau.

14/11/2014

Crefydd: mwy o ddrwg nag o dda

Hoffwn ymhelaethu ar yr hyn a ddywedais ar y radio yn gynharach yn yr wythnos, wrth ddadlau bod crefydd yn gwneud mwy o ddrwg nag o dda.

Y pwynt pwysicaf yw'r ffaith nad oes tystiolaeth o gwbl bod unrhyw grefydd yn wir. Rwy'n credu bod credu pethau anghywir - neu yn benodol, gwadu realiti - yn niweidiol ynddo'i hun, a'n rhywbeth y dylem ymdrechu i'w osgoi. Enghraifft amlwg yw'r modd y mae crefydd yn ysgogi cynifer o'r ffyddloniaid i wadu ffeithiau syml am y byd, fel esblygiad. Yn fwy na hynny, mae rhai'n benderfynol o wthio'u camargraffiadau ar y genhedlaeth nesaf.

Yn hynny o beth, nid yw'r cwestiwn ynghylch rai o rinweddau honedig crefydd yn arbennig o berthnasol. Hyd yn oed petai'n wir bod crefydd yn cynnig cysur, er enghraifft (a na, ni welaf gysur o fath yn y byd yn y syniad o fywyd tragwyddol), byddai'r ffaith ei bod yn ddi-sail ac anghywir yn parhau i olygu bod angen gwrthod y syniad. I mi, o leiaf, gwirionedd sy'n bwysig. Nid oes cysur mewn celwydd.

Yn ail, mae'n amlwg bod crefydd yn aml yn gyfrifol am lawer o ddrwg. Nid wyf erioed wedi awgrymu mai cref'ydd yw ffynhonnell popeth gwael. Petai crefydd yn diflannu yfory, ni fyddai'r byd o reidrwydd yn troi'n berffaith ar unwaith, a byddai'n wirion disgwyl mai dyna fyddai'r canlyniad. Mae gan ormod o bobl ddawn arbennig i ddod o hyd i bob math o resymau dwl i niweidio'u cymdogion ar ein planed.

Eto i gyd, byddai byd heb ffydd grefyddol yn gam i'r cyfeiriad cywir. Fel person â safbwyntiau rhyddfrydol iawn ar faterion cymdeithasol, crefydd yw'r gelyn ym mron pob dadl, er enghraifft ynghylch erthyliad a hawliau menywod, hawliau pobl hoyw, yr hawl i farw, neu'r hawl i ddychanu daliadau ofergoelus ac ati. Creadigaethau dynol yw'r gorchmynion crefyddol sy'n gwrthwynebu cydraddoldeb a hawliau sifil, wrth gwrs. Fel y crybwyllais ar Taro'r Post, rôl Cristnogaeth yn hynny o beth oedd ffosileiddio rhagfarnau a fodolasai ymhlith trigolion anwybodus y Dwyrain Canol ddwy fileniwm a mwy yn ôl. Mae eu troi'n reolau ysgrythurol wedi'i gwneud yn anos i bobl eu herio a'u hanwybyddu (a dyna wrth gwrs oedd y bwriad; mae priodoli'r pethau yma i ryw fath o dduw hollbresennol yn strategaeth wleidyddol ddefnyddiol er dibenion cadw trefn). Heb yr elfen grefyddol, mae'n anodd dychmygu y byddai'r fath ragfarn yn erbyn pobl hoyw, er enghraifft, wedi goroesi i'r fath raddau. Mae rhai o'r gorchmynion crefyddol mwy eithafol wedi cael eu gwanhau neu eu hanwybyddu erbyn hyn, ond dim ond oherwydd dylanwad ffodus moesoldeb seciwlar.

Yn drydydd, rwy'n cwestiynu'r rhesymeg sy'n greiddiol i'r ddadl bod llawer yn cael eu hysbrydoli gan eu ffydd i wneud pethau da a charedig (fel gwaith elusennol gwirfoddol, neu roddi arian ac ati). Mae'n amlwg yn wir bod rhai Cristnogion yn credu bod pethau felly'n elfen ganolog o'u ffydd, ac mae llawer ohonynt, mae'n wir, yn cyfrannu llawer iawn mwy o amser neu arian at achosion da nag yr wyf i. A dweud y gwir, rwy'n lled-gytuno mai gweithredoedd sy'n bwysig. Os yw pobl yn gwneud pethau da, pa ots beth yw'r cyfiawnhad?

Y broblem yw'r honiad cyffredin bod moesoldeb yn deillio o Dduw, sy'n ddadl a ddefnyddir yn fynych yn erbyn anffyddwyr. Yr awgrym amlwg yw na fuasai'r Cristion felly'n gwneud y pethau da hynny pe na baent yn credu bod duw'n bresennol. Fel rwyf wedi'i ddadlau o'r blaen, rwy'n credu bod Cristnogion sy'n dadlau fel hyn yn gwneud cam mawr â'u hunain. Nid yw 'oherwydd dyna ddyhead Duw' yn safbwynt moesol o gwbl. Nid yw chwaith yn gwneud synnwyr i awgrymu bod mwy o reswm i helpu eraill os mai Duw sydd wedi ein creu. Gan fod modd egluro a chyfiawnhau cymhellion altrwistaidd mewn termau seciwlar, nid oes angen Duw o gwbl er mwyn ein hysgogi i wneud pethau da.

Y peth caredicaf y mae modd ei ddweud am grefydd, felly, yw ei bod weithiau yn niwtral o safbwynt moesol. Mewn achosion eraill (fel yn y ddau bwynt cyntaf uchod), mae'n niweidiol i raddau gwahanol. Mae'n ddrwg yn aml, ond byth yn dda.

30/09/2012

Islam a pherthynolaeth diwylliannol

Fel y dywedais yn fy nghofnod diwethaf, mae islam yn cynnwys llawer iawn o gredoau a thraddodiadau atgas a chanol-oesol. Mae hynny'n wir am bob crefydd i raddau gwahanol. Gwedd amlycaf hyn yw'r modd y trinir hanner y boblogaeth: menywod.

Ceir amrywiaeth, wrth reswm, ond mewn rhannau helaeth o'r dwyrain canol, mae traddodiadau islamaidd lleol yn mynnu pethau gwarthus. Er enghraifft, mae'n rhaid i filiynau o fenywod orchuddio'u cyrff yn llwyr. Yn aml, nid oes ganddynt yr hawl i yrru ceir, na dewis eu cymar eu hunain. Nid yw'r Taliban yn Affganistan hyd yn oed yn fodlon i ferched fynychu'r ysgol (a chosbir yn llym unrhyw un sy'n ceisio'u haddysgu). Mewn rhai gwledydd, fel Sawdi Arabia, ni chânt adael y tŷ heb aelod gwrywaidd o'r teulu i'w gwarchod (efallai er mwyn eu rhwystro rhag neidio ar bidlan y dieithryn cyntaf i'w cwrdd; pwy a wŷr?). Mae curo gwragedd yn rhemp ac annadleuol. Felly hefyd yr arfer erchyll o lurgunio'r darnau rhwng eu coesau. Mewn sawl ardal, gwae unrhyw ferch a gaiff ei threisio: hi gaiff ei chosbi (a hynny'n haeddiannol hefyd, a'r slwten siwr o fod wedi meiddio temtio'r dyn, druan ag ef, trwy ddadorchuddio'i phenelin, neu ei phigwrn, neu flewyn o wallt).

Fel rwy'n siwr y gwyddoch, mae'r rhestr o enghreifftiau o'r math yma yn ddi-ddiwedd. Byddech yn disgwyl i ryddfrydwyr da'r gorllewin feirniadu'r fath agweddau yn chwyrn, o ystyried bod materion fel cyfartaledd i fenywod yn un o gonglfeini'r frwydr yma o blaid hawliau sifil. Un o'm cas bethau, fodd bynnag, yw gweld cymaint yn gochel rhag gwneud hynny ar y sail y byddai'r fath beth yn hiliol neu'n enghraifft o 'imperialaeth ddiwylliannol': nid ein lle ni yw beirniadu traddodiadau a diwylliannau eraill, mae'n debyg. Nid yn unig hynny, pan fydd rhywun yn beirniadu crefydd fel islam ar sail yr agweddau yma tuag at fenywod, cânt hwythau yn eu tro eu condemnio gan rai o'r union bobl y byddech wedi tybio eu bod yn ffeminyddwyr pybyr.

Dyma enghraifft o berthynolaeth diwylliannol, sef y syniad hurt bod pob diwylliant yr un mor 'ddilys', ac nad oes maen prawf gwrthrychol er mwyn eu gwerthuso. Yn wreiddiol, roedd perthynolaeth diwylliannol, a'i epil, ôl-foderniaeth, yn elyniaethus i grefydd a'i Gwirioneddau G-fawr mawr. Erbyn hyn, mae pethau wedi newid i raddau, ac mae rhethreg ôl-fodernaidd wedi dod yn boblogaidd iawn ymysg amddiffynwyr ac esgusodwyr crefydd, gan gynnwys y fersiynau ffwndamentalaidd (dyma bwnc ar gyfer cofnod arall yn y dyfodol).

Fel rwyf wedi'i ddweud, mae rhesymau hanesyddol a gwleidyddol i gyfrif am sefyllfa druenus islam heddiw. Bydd ceidwadwyr adweithiol yn aml yn cwyno am rywbeth o'r enw white guilt. Lol yw hynny fel arfer, ond dyma achos lle mae'r ymadrodd efallai yn un teg. Nid oes unrhyw un yn hoffi cael ei alw'n hiliol. Ond y pwynt yw nad oes unrhyw beth hiliol am feirniadu safbwyntiau crefyddol. Yn wir, esgusodi erchyllterau islam yw'r gwir hiliaeth: hiliaeth y disgwyliadau isel. "Nid ydynt yn gwybod yn well". A bod yn onest, ni allaf feddwl am lawer o bethau mwy hiliol a sarhaus na gosod safonau uchel ac urddasol ar gyfer ni orllewinwyr gwaraidd a goleuedig, ar un llaw, ond safonau is o lawer ar y llaw arall ar gyfer trigolion brown a barfog gwledydd tlawd pell.

Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl i arddel ffeminyddiaeth yn y wlad yma ond i awybyddu neu feirniadu'r sawl sy'n ei arddel mewn gwledydd fel Affganistan neu Somalia. Mae hawliau dynol, er gwaethaf yr ymadrodd rhywiaethol anffodus hwnnw, yn perthyn unai i bob unigolyn ar y blaned neu i neb o gwbl.

28/09/2011

Casáu'r Pab a'i eglwys

Weithiau, byddaf yn chwerthin ar ben y Pab a'i het wirion a'i grefydd od. O dro i dro, fodd bynnag, bydd yn agor ei geg a'n f'atgoffa mai'r ymateb cywir a haeddiannol yw ei gasáu â chasineb perffaith.
“The more the world moves away from God, the more clear it becomes that man, in the hubris of power, the void in his heart and in the longing for fulfillment and happiness, is losing ever more touch with his life,” he preached during the Erfurt’s service.
Hubris?? Y Pab yn meiddio cyhuddo eraill o hubris? Y dyn sy'n honni mai ef yw lladmerydd duw ar y blaned - mai ef yw unig ddehonglwr dilys y bod goruchaf a greodd y bydysawd - yn dweud ein bod ni yn euog o hubris? Y Pab o bawb, arweinydd y genedl-wladwriaeth fwyaf bling erioed, sy'n defnyddio aur a chelfyddyd gain (sef ffrwyth ysbeilio hanner y byd) yn yr un modd ag y mae pawb arall yn defnyddio brics a mortar? Yr ateb gorau i hynny yw'r gosodiad campus isod:



Ond arhoswch! Dyma fwy:
“That’s why, during an ecumenical meeting, we shouldn’t just be dismayed by the divisions and separation, but we should thank God for all he has done to retain our unity and what he continues to give us.
Haeraf yn llawen nad yw'n debygol y bydd llawer o Brotestaniaid y byd yn croesawu'r alwad yma am undod Gristnogol, yn dilyn ymdrechion diweddar y Pab i hollti'r Eglwys Anglicanaidd.

Mae hunan-gyfiawnder y Pab gymaint â hynny'n fwy annioddefol o ystyried y niwed ofnadwy mae ei eglwys yn parhau i wneud. Yn amlwg, mae hanes yr eglwys Babyddol yn ddigon erchyll mewn sawl ffordd, ond maent yn parhau i fod yn gyfrifol am farwolaethau miloedd ar filoedd o bobl hyd heddiw. Maent yn camarwain miliynau o bobl gyda'u celwyddon am HIV a chondoms gan olygu bod llawer ohonynt yn marw o AIDS, ac mae'n llawer gwell ganddynt weld miloedd o ferched yn marw yn hytrach na chael erthyliad. Mae gwaed y meirwon di-rif yma ar fysedd y Pab a'i ragflaenwyr. Pe na bai hynny'n ddigon ofnadwy, dyma'r eglwys sy'n esgymuno esgobion am ordeinio benywod ond sy'n credu mai'r modd cywir o ddelio ag offeiriaid sydd wedi camdrin plant yn rhywiol yw... cadw'n dawel am y peth a'u symud yn slei bach i blwyf arall (lle mae dwsinau o blant bach eraill ffresh yn barod i'w croesawu). Ie, polisi swyddogol yr eglwys Babyddol yw bod rhoi swydd i fenyw yn llawer gwaeth pechod anfaddeuol na threisio plant. Bu'r Pab ei hun, yn rhinwedd ei swydd flaenorol fel y cardinal Joseph Ratzinger, yn gyfrifol am jyglo paedoffiliaid o gwmpas; fe fynnodd, yn blwmp ac yn blaen, bod hygrededd yr eglwys Babyddol yn bwysicach o lawer na gwarchod plant bach rhag y bwystfilod yma a'u cociau rhychiog afiach budr.

Ond cofiwch: ni, bobl seciwlar, sy'n euog o hubris!

Rwyf wir yn casáu'r Pab a'i grefydd. Nis gwn paham yn y byd y byddai unrhyw un yn dymuno bod yn Babydd; mae wir yn ddirgelwch i mi, yn enwedig gan fod ambell un ohonynt yn ddigon addysgedig. Mae'r eglwys yn honni mai hwy yn unig yw cyfrwng awdurdod duw ar y ddaear a'n mynnu y dylem barchu ac ufuddhau gorchmynion yr awdurdod hwnnw. Pa hawl o fath yn y byd sydd ganddynt i fynnu'r fath beth, a phaham yn y byd y mae cymaint o bobl yn parhau i'w cymryd o ddifrif?

Os yw'r llith yma'n peri i amddiffynwyr yr eglwys fy ngalw'n wrth-Babyddol, yr unig beth y gallaf ei wneud yw cytuno ac ymfalchïo yn y label. Pa reswm sydd yna i beidio casáu cyfundrefn mor ragrithiol, sy'n hawlio awdurdod moesol dwyfol tra nad ydyw mewn gwirionedd fawr mwy na cabal rhyngwladol sy'n gwarchod treisiwyr plant?

O ystyried hyn i gyd, mae modd dweud yn deg mai'r eglwys yma, mewn termau absoliwt, yw'r sefydliad mwyaf dinistriol a niweidiol sydd erioed wedi bodoli. Byddai ei thranc yn destun llawenydd i mi, ac fe ddylai fod i bawb.

Gyda llaw, rwy'n defnyddio'r gair "Pabydd" yn hytrach na "Catholic" yn fwriadol. Rwy'n ymwybodol nad yw Pabyddion yn hoff ohono gan ei fod yn debyg iawn i "Papist", sy'n air ag iddo hanes o ddefnydd dilornus ac, wel, gwrth-Babyddol. Ond gan mai holl bwynt Catholigiaeth fel system yw mai un dyn yn unig sy'n gallu dehongli gair duw - ac felly'r unig "wirionedd" o bwys - ar ran y gweddill ohonom, ac mai'r dyn hwnnw yw'r Pab, rwy'n credu bod "Pabydd" yn air addas. Mae'n dangos, yn briodol ddigon, yr hubris, traha ac egotistiaeth sydd wrth wraidd y ddysgeidiaeth honno.

Fel y dywedais ar y dechrau, mae'r Pab yn gwneud i mi chwerthin a gwylltio yn eu tro. Ar ôl poeri gwaed uchod, felly, mae'n briodol cloi gyda fideo sy'n gwneud i mi wenu o glust i glust yn ddi-ffael. Mae Tim Minchin braidd yn hit and miss yn fy marn i, ond dyma'i gampwaith:



Mae'n werth dyfynnu'r diwedd yn enwedig, sy'n gwneud pwynt hanfodol:
But if you find me more offensive than the fucking possibility
The pope protected priests when they where getting fucking fiddly
Then listen to me motherfucker, this here is a fact
You are just as morally misguided as that motherfucking
Power hungry, self-aggrandised bigot in the stupid fucking hat.
Gwych.

Cofiwch gasáu'r Pab. Mae'n bwysig.

21/08/2011

Beio'r 60au am bopeth

Ymddiheuriadau am fod yn segur yn ddiweddar. Y rheswm pennaf yw fy mod wedi bod ar wyliau yn yr Alban, yn mwynhau mymryn o gomedi yng ngwyl y Fringe yng Nghaeredin ac yna'n crwydro ardal Fort William (neu An Gearasdan i chi a fi). Mae'r coesau dal i fod ychydig yn stiff ar ôl cerdded i fyny a lawr Beinn Nibheis, a dweud y gwir.

Ta waeth. Gair bach hwyr am rai o'r ymdrechion i esbonio'r helynt yn ninasoedd mawr Lloegr ddechrau'r mis. Does fawr o syniad bod llawer wedi manteisio ar y cyfle i geisio sgorio pwyntiau gwleidyddol, wrth i lawer ar y "chwith" feio polisïau'r "dde" a llawer ar y "dde" feio rhai'r "chwith" drachefn. Fel mae blogmenai'n esbonio'n huawdl, yr unig beth sy'n sicr mewn gwirionedd yw bod yr ateb yn llawer iawn cymhlethach na hynny.

Bron yn anochel, wrth gwrs, fe geir yn y sylwadau ar waelod post blogmenai enghreifftiau o'r union beth a feirniadwyd, sef neidio i mewn a phwyntio bys a defnyddio'r helynt er mwyn cyfiawnhau rhagfarnau syml a goleddir eisoes. Yn yr achos yma, y 1960au sy'n cael y bai. Rhywbeth i'w wneud â gwrth-awdurdodaeth a thranc Ysgolion Sul a duw a ballu, mae'n debyg. Mae'n siwr eich bod yn gwybod sut mae llithoedd o'r fath yn mynd. Diflas iawn.

Fel mae blogmenai ei hun yn ei ddweud mewn ymateb diweddarach, mae hyn yn chwerthinllyd (heb sôn am fod yn ddiog; rhaid gofyn a wnaethon nhw hyd yn oed ddarllen y blogiad?) oherwydd mae gan Loegr (a phob gwlad arall o ran hynny, gan gynnwys Cymru) draddodiad hir a chyfoethog o gymunedau'n dod at ei gilydd yn llon er mwyn torri ffenestri, rhoi pethau ar dân, lladrata, ymladd (ac efallai ymosod yn giaidd ar unigolion sy'n edrych yn wahanol i bawb arall), a thaflu pethau diddorol i gyfeiriad cyffredinol yr heddlu. Fel mae cipolwg ar y dudalen yma'n dangos yn eglur, mae'r traddodiad yma'n ymestyn yn ôl canrifoedd. Cafwyd terfysgoedd cyn y 1960au, ac fe geir rhai o hyd o bryd i'w gilydd. Yr unig beth sydd gan yr holl ddigwyddiadau yma'n gyffredin â'i gilydd yw bod ffactorau hollol wahanol ac unigryw'n gyfrifol am bob un. Yr unig bethau a gyflawnir trwy geisio defnyddio brwsh mawr trwchus er mwyn beio'r cwbl ar eich cas-bethau personol yw gwneud i chi edrych yn ddwl.

Roedd rhaid i mi wenu hefyd wrth ddarllen Wynford Ellis Owen yn perfformio gymnasteg gosgeiddig tu hwnt trwy ddefnyddio'r helynt er mwyn cael rant am y ddiod feddwol eto fyth. Mae'n debyg bod llawer o'r bobl a fu'n manteisio ar yr helynt er mwyn dwyn o siopau wedi cael eu dal ar gamerau CCTV yn gwneud bee-line tuag at y gwirodydd cryfion. I Mr Owen mae hyn yn symptom sy'n dangos bod cymdeithas yn gaeth i'r ddiod gadarn. I mi, mae'n f'atgoffa mai'r nwyddau yma, fel rheol, yw'r pethau drutaf o lawer ar y silffoedd mewn siopau o'r fath. Er mor eithriadol o dda yw cacennau Mr Kipling, er enghraifft, mae dipyn yn haws cario gwerth £80 o Smirnoff na £80 o bakewell tarts.

02/08/2011

Moesoldeb heb dduw

Dyma erthygl hyfryd gan Jerry Coyne yn trafod pam nad yw mynnu bod ein moesau'n deillio o dduw yn gwneud synnwyr, a bod byw heb dduw yn dda. Y peth pwyaf trawiadol yw bod ysgrif mor bwyllog yn gallu ennyn ymateb mor ffyrnig.

20/06/2011

Mwy fyth am yr hawl i farw (neu, mae Kevin McKenna yn goc oen afiach)

Mae colofn Kevin McKenna ar wefan Comment Is Free y Guardian yn ffynhonnell ddibynadwy a chyson o hysteria a gwallgofrwydd. Mae gan y dyn obsesiwn am yr SNP, ac mae mwyafrif helaeth ei golofnau yn ymosod ar Alex Salmond neu genedlaetholdeb Albanaidd yn gyffredinol. Mae ei erthygl ddiweddaraf, fodd bynnag, am y ddadl ynglyn â'r frwydr dros yr hawl i farw, yn haeddu'r wobr am y cachu gwaethaf mae o wedi'i 'sgrifennu erioed. Sy'n ddweud mawr.

Mae'n cyfeirio at yr aelod o Senedd yr Alban, Margo MacDonald, sy'n bach o arwres yn fy marn i. Yn ogystal â bod yn genedlaetholwraig danbaid, mae hi'n frwd iawn o blaid caniatáu'r hawl i farw. Bu'n gweithio'n galed, ond aflwyddiannus, i gyflawni hynny yn ystod y tymor diwethaf, ac mae hi'n llawn bwriadu trio eto y tymor hwn. Mae hi'n dioddef o glefyd Parkinson's, ac mae wedi egluro ei hymgyrch o blaid yr hawl i farw fel hyn:
"As someone with a degenerative condition - Parkinson's - this debate is not a theory with me. The possibility of having the worst form of the disease at the end of life has made me think about unpleasant things. I feel strongly that, in the event of losing my dignity or being faced with the prospect of a painful or protracted death, I should have the right to choose to curtail my own, and my family's, suffering."
Mae hynny'n gwbl gywir ac amlwg. Does dim modd dadlau'n erbyn hynny hyd y gwelaf i.

Mae McKenna'n rhoi cynnig digon erchyll arni (gan gyfeirio at Peter Smedley, y dyn y gwelsom yn marw ar raglen Terry Pratchett yr wythnos diwethaf):
No one can morally second-guess the physical pain and the mental torture that have led Mr Smedley and others who have the financial resources to pay entrepreneurs in another country to poison them. Yet as soon as the UK or the Scottish government enshrines their right to do so under the law of this country, then the status of disabled and terminally ill people will automatically be devalued.
Na, na, na.

Fel dw i wedi sôn o'r blaen, mae dweud bod gwneud hyn yn di-raddio'r bobl yma'n un ffiaidd. Y gwrthwyneb sy'n wir, sef mai eu caethiwo yn eu dioddefaint a gwrthod rhoi'r dewis iddynt sy'n eu di-raddio. Ac yn syth ar ôl y nonsens uchod, mae'n malu cachu ymhellach:
Many have applauded and praised Mr Smedley for having the courage to end his life on his terms. It is but a short road to travel between that and criticising those who insist on clinging on to life in their last days for using up expensive NHS resources.
Ym mhen McKenna'n unig y mae'r "ffordd fer" yma'n bodoli. Mae gorfodi neu roi bwysau ar ddioddefwr i ddewis un opsiwn dros y llall yn un sy'n gwbl wrthun i bob un ymgyrchydd dros yr achos. Byddai cyfreithloni'r hawl i ddewis marw'n amlwg yn golygu rheoliadau llym iawn, fel sy'n bodoli mewn gwledydd eraill sy'n ei ganiatáu fel yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a'r Swistir. Mae nhw'n llwyddo i sicrhau mai dewis annibynnol un person yn unig sy'n cyfri, a chyda goruchwyliaeth gofalus nid oes rheswm i dybio y byddai pethau'n wahanol yn unrhyw le arall.

Yn hanner olaf ei erthygl mae McKenna'n colli'r plot yn llwyr a rhoi cynnig poenus ar gomedi.
Why should the Swiss corner the market in death tourism? In these straitened economic times, Britain may have to compete with other countries which have woken to the possibilities of a themed death experience and the tourist dollars to be raked in. In Florida, you could combine your planned death experience with a trip to Disney World and the chance to star in your favourite fairy tale. My choice would be to have Snow White hand me a poisoned apple, like the one which sent her to sleep, and for a few dollars more I could be interred in a glass coffin.

Russia would provide a more rudimentary end-of-life experience. Theirs would be a typically no-nonsense approach where you would be invited to participate in an all-night vodka binge with real-life locals while doing that dance where they crouch, fold their arms and kick… all at the same time. Death by vodka in an old Cossack village. It has drama and romance.

In Britain, which excels in such things, you could star in your very own customised reality TV show which could be called Suicide Big Brother. This would be an endless production running throughout the year in which terminally ill people would undertake bizarre tasks and interact with each other.

Viewers would be asked to vote off the most unsympathetic character each week and these individuals would be directed into a room where their loved ones would be waiting with Terry Pratchett. Then they would partake of a cheeky wee death cocktail knowing that they had made an important contribution to light entertainment. There would be an endless supply of replacements because the government would give tax allowances to the families of "volunteers".

In Scotland, it would be easy. Simply take your pick of the 30 or so deprived urban housing schemes that our governments have long neglected. And watch transfixed as your life expectancy diminishes before your loving family's eyes.
Mae gwneud hwyl o senario mor ddwys yn addas iawn o ystyried ei ymgais flaenorol i hawlio'r tir uchel moesol, dw i'n siwr byddech yn cytyno. Sut mae'r dyn yn cael gwneud bywoliaeth o gyhoeddi'r fath gasineb, tybed?

31/05/2011

Mae byw heb dduw yn dda

(dw i'n credu fy mod newydd gyfansoddi fy nghynghanedd sain gyntaf efo'r teitl yna!)

Fel arfer, pan fydd anffyddwyr yn crybwyll diffyg bodolaeth duw, bydd Cristnogion yn ymateb trwy ddweud nad oes modd cael moesoldeb ystyrlon hebddo. Cafwyd sylwadau i'r perwyl hwnnw gan Rhys ar waelod y post yma. Roeddwn wedi sôn am y rheol euraidd, sef "dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddynt eich trin chi", fel brawddeg dda i seilio moeseg arno. Yn amlwg, yn fy marn i does dim angen duw o gwbl er mwyn gwneud y rheol yna'n un synhwyrol. Roedd Rhys yn anghytuno. Dyma ymateb pellach iddo felly, mewn post newydd ar wahân. Dywed Rhys:
Diolch am esbonio dy safbwynt ymhellach. Amwni mae'r gwahaniaeth rhwng dy ddealltwriaeth di o "dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddynt eich trin chi" a dealltwriaeth y Cristion yw fod y foeseg yn rhywbeth goddrychol i ti, mae'n tarddu o dy galon/meddwl dy hun. I'r Cristion mae'n fwy na hynny gan ei fod yn cael ei ddatguddio i ni fel moeseg gwrthrychol gan Dduw.

Byddwn i'n anghytuno, wrth gwrs, bod y fersiwn Gristnogol yn "fwy na hynny". Mae'n "llai" na hynny, oherwydd mae'n derbyn rhywbeth yn ddi-gwestiwn a'n ddi-feddwl. Ond y peth ydi, mae Rhys yn gwneud cam â'i hun a'i gyd-Gristnogion. Er ei fod yn haeru mai gair duw ydi dechrau a diwedd sail ei foesoeg, ai dyna, mewn difri, ydi'r unig beth sy'n ei ddal yn ôl rhag cyflawni pob math o bechodau erchyll? Yr awgrym ydi y byddai, petai ei dduw yn diflannu yfory nesaf, yn mynd ati'n syth i dreisio a lladd a bwyta babanod. Dw i'n nabod Rhys, ac mi fedra' i gyhoeddi'n ddigon hyderus nad ydi hynny'n wir. Ni fyddai Rhys yn cyflawni'r pethau ofnadwy yna, a hynny am union yr un rhesymau nad ydw innau'n eu gwneud. Does gan dduw ddim byd i'w wneud â'r peth. Petai Rhys yn iawn, sef mai derbyn y peth yn ddi-gwestiwn fel gwirionedd absoliwt a-dyna-fo a wna, byddwn yn haeru fy mod yn berson llawer mwy moesol nag o. Ond gan ei fod yn gwneud cam â'i hun, dydi hynny ddim o reidrwydd yn wir (er fy mod i'n berson gwych a hollol neis).
Pam fod hynny yn bwysig i ni felly? Pam fod ni'n mynnu cael Duw yna fel 'middleman' rhyngom ni a moeseg fel rwyt ti'n herio?

Mae'r ateb yn weddol syml. Heb wrthrych i'n moeseg, constant os hoffe ti, mae ein moeseg yn oddrychol. Wrth i bawb 'edrych o'i mewn' am foeseg mae'n anorfod fod rhai pobl, gwaetha'r modd, a moeseg hyll yn ôl safonau Cristnogion a hiwministiaid goleuedig fel eu gilydd.

Enghraifft ethiafol yw ffasgiaeth, dydy'r ffasgwyr er enghraifft ddim yn credu mewn "dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddynt eich trin chi". Mae hynny'n realiti oherwydd fod nhw wedi darganfod (neu heb ddarganfod mwy na thebyg!) moeseg o'u mewn sydd ddim yn gyson gyda'r ddeddf foesol dwi'n credu sy'n dod gan Dduw ac rwyt ti'n credu sy'n dod o ............ (llenwer yma)?

Problem moeseg di-dduw, fel ag yr ydw i'n ei gweld hi, yw ei fod berthynol ac felly yn feddal.
Y broblem gyda hyn ydi nad ydi moeseg Rhys yn wrthrychol o gwbl yn yr ystyr y mae'n ei ddefnyddio. Petai hynny'n wir, byddai barn pob un Cristion ar bob un mater yn cyfateb yn llwyr â'i gilydd. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir. Mae Cristnogion yn dadlau ymysg ei gilydd am faterion moesol llawn cymaint â phawb arall. Yr unig wahaniaeth rhwng anffyddwyr a Christnogion yn hyn o beth ydi bod y cyntaf yn gwneud hynny trwy gyfrwng llyfrau a seminarau cwrtais, tra bod yr olaf yn fwy tebygol o fynd i ryfel. Pa iws ydi moeseg wrthrychol, absoliwt, yn deillio o dduw ei hun, os ydi'r holl beth yn rhy amwys i bob Cristion allu'i dehongli yn yr un ffordd?

Nid cyd-ddigwyddiad ydi'r ffaith bod moeseg Gristnogol yn newid gyda'r oes (er efallai ychydig ddegawdau ar ei hôl hi o gymharu â moeseg seciwlar). Does dim un Cristion - hyd yn oed y ffwndmanetalwyr sy'n honni eu bod yn dehongli'r Beibl i gyd yn gwbl llythrennol - yn dehongli'r Beibl i gyd yn gwbl llythrennol. Maent yn dewis a dethol pa adrannau i'w derbyn a pha rai i'w gwrthod (neu'n hytrach, i'w hanwybyddu). Fel rheol, mae'n anodd dweud y gwahaniaeth rhwng y rhesymau pam fod Cristion yn gwrthod rhyw adnod neu'i gilydd ar yr un llaw, a'r rhesymau pam fod anffyddwyr yn eu gwrthod ar y llall. Mae Cristnogion (99% ohonynt erbyn hyn a Rhys yn eu plith, dw i'n tybio) ac anffyddwyr yn gwrthod rhannau helaeth o Lefiticws (er enghraifft 19:19, y gwaharddiad ar wisgo dillad wedi'u gwneuthuro o fwy nag un gwahanol fath o frethyn) am union yr un rheswm, sef y canlynol: mae'n gwbl boncyrs. Nid yn unig y mae Rhys yn defnyddio sgiliau rhesymegu digon seciwlar i ddod i'r casgliad yma, mae'n mynd yn gwbl groes i orchymyn digon di-amwys gan ei dduw.

Mae yna stori annifyr iawn ar y gweill yn Louisiana ar hyn o bryd, lle mae bachgen ysgol o'r enw Damon Fowler wedi canfod ei hun yn elyn pennaf ei gyd-ddisgyblion, ei athrawon a'i gymuned am drio gorfodi'i ysgol i beidio cynnwys gweddi orfodol fel rhan o seremoni raddio. Mae cyfraith a chyfansoddiad America'n cytuno'n llwyr ag o ar y mater yma, ond mae'r hogyn druan wedi'i ysgymuno'n llwyr (fel petai) o'i gymuned yn sgil ei safiad dewr. Yn waeth na hynny:
1) Fowler has been hounded, pilloried, and ostracized by his community.

2) One of Fowler's teachers has publicly demeaned him.

3) Fowler has been physically threatened. Students have threatened to "jump him" at graduation practice, and he has received multiple threats of bodily harm, and even death threats.

4) Fowler's parents have cut off his financial support, kicked him out of the house, and thrown his belongings onto the front porch.

Oh, and by the way? They went ahead and had the graduation prayer anyway.
Mae'r stori'n gwbl erchyll, ond dw i wedi pwysleisio rhan a ddylai godi braw gwirioneddol. Y peth yw, gadewch i mi ddyfynnu Deuteronomium 18:21:
18 Ond o bydd i ŵr fab cyndyn ac anufudd, heb wrando ar lais ei dad, neu ar lais ei fam; a phan geryddant ef, ni wrendy arnynt: 19 Yna ei dad a’i fam a ymaflant ynddo, ac a’i dygant at henuriaid ei ddinas, ac i borth ei drigfan; 20 A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef, Ein mab hwn sydd gyndyn ac anufudd, heb wrando ar ein llais; glwth a meddwyn yw efe. 21 Yna holl ddynion ei ddinas a’i llabyddiant ef â meini, fel y byddo farw
Mae'r Beibl yn ddigon eglur a di-amwys ar y mater yma, fel y gwelwch. Yr unig beth a ddylai ddychryn Cristion wrth ddarllen yr uchod, felly, ydi'r ffaith bod Damon Fowler yn parhau'n fyw ac iach, a HEB gael ei ladd efo cerrig. Ddim eto, o leiaf.

Mae modd chwarae gemau fel hyn hyd syrffed gan ddyfynnu gwahanol rannau o'r Beibl, ac fel arfer mae gan Gristnogion deallus fel Rhys fodd o geisio esbonio'r peth i ffwrdd. Ond chwifio dwylo ydi hynny mewn gwirionedd. Wrth reswm, dw i'n tybio bod Rhys yn cytuno bod Mr a Mrs Fowler wedi byhafio'n fochedd, er iddynt hanner-ddilyn y Beibl (a "hanner" dim ond oherwydd iddynt beidio mynd ddigon pell). Mae Rhys yn dweud bod ein moeseg wedi'i datguddio i ni'n wrthrychol gan dduw. Ond pam fyddai'n datguddio un peth i galon Rhys (sef fersiwn neisiach a mwy rhyddfrydol, efo llawer o sôn am gariad a maddeuant a ballu) a rhywbeth arall i Moses (sef y stwff Hen Destament gwallgof uchod)? Byddai rhywun yn tybio bod gan dduw holl-alluog y gallu i fynegi'i hun yn eglur (dylai fod yn amhosibl camddeall duw, does bosibl?). Pan fo dwy garfan o Gristnogion, ill dwy'n anghytuno ar rhyw fater athrawiaethol ond ill dwy'n mynnu mai'u dehongliad hwy yw'r un gwrthrychol, absoliwt, mae cipolwg ar hanes yn awgrymu bod pethau ar fin troi'n waedlyd. Mae'r rheswm yma'n ddigonol (er bod llawer mwy) i ochel rhag sôn am unrhyw wrthrychedd wrth drafod moeseg dduwiol.

19/05/2011

Wythnos o wyliau

Dw i'n credu dylwn ddweud o flaen llaw bod y blog am fod yn dawel tan ddiwedd wythnos nesaf gan fy mod yn mynd ar wyliau i Ardal y Llynnoedd. Rhag ofn i unrhyw un feddwl bod y peth 'ma wedi marw'n barod!



Bydd gen i ddigon i'w ddweud pan fyddaf yn ôl. Fel ymateb i Rhys. Tan hynny, os oes gennych awr a chwarter i'w sbario, dyma ddau anffyddiwr swnllyd (ond cwrtais iawn) yn trafod moesoldeb heb dduw. Difyr a pherthnasol:


Neu os ydi hynny'n gofyn gormod, dyma fideo o sloth yn trio croesi'r ffordd yn lle:



Hwyl am y tro!

17/05/2011

Stephen Hawking yn dweud rhywbeth doeth, Cristion yn dweud rhywbeth dwl

(Rhyfeddol, dw i'n gwybod)

Mae yna erthygl arall wedi'm gwylltio. Neu'n hytrach, peri i mi ochneidio'n uchel.

Dywedodd yr Athro Stephen Hawking y canlynol mewn cyfweliad efo'r Guardian:
I regard the brain as a computer which will stop working when its components fail. There is no heaven or afterlife for broken down computers; that is a fairy story for people afraid of the dark.
Dw i'n ystyried y sylw yna'n un digon amlwg a chywir. Fel dw i wedi'i ddweud eisoes, dw i wir methu deall pam fod pobl yn cael cymaint o anhawster dirnad marwolaeth, neu'n hytrach "bod wedi marw". Mae'n hollol amlwg nad oes gronyn o dystiolaeth i gefnogi unrhyw fath o fywyd tragwyddol, heb sôn am y fersiwn Gristnogol.

Mae rhywun o'r enw Michael Wenham, fodd bynnag, yn anghytuno efo'r ffisegydd enwocaf ar y ddaear. Mae'n gwneud hyn ar sail llond llaw o ddadleuon amheus. Yn y frawddeg gyntaf mae'n datgan bod ganddo'r un afiechyd ag sydd gan Hawking. Ymddengys i mi mai dyma'r unig reswm pam ei fod wedi cael cyfrannu erthygl yn ymateb i'r gwyddonydd; yn sicr dw i'n ei chael yn anodd derbyn mai ei sgiliau rhesymu miniog ydi'r cyfiawnhad. Dyma enghraifft:
One of the features of MND both for him as for me is that it affects your ability to speak and hence pares down what you say to the bare bones. (That's not of course the case when you have time to type a script.) Hence sometimes you are frustrated by your inability to nuance your ideas. And so it may be that his very categorical answers are the nub of his opinion, but not the full expression.
Mae hwn yn gyhuddiad eithaf anghynnes heb unrhyw fath o dystiolaeth. Mae Hawking yn cynnal cyfweliadau a'n siarad yn gyhoeddus yn aml iawn, gan ddweud pethau craff yn amlach na pheidio. Mae'n hen ddigon tebol o fynegi'i hun, er gwaethaf ei anabledd. Yn ogystal, mae ei sylwadau'n cysoni'n berffaith efo pethau mae wedi'u dweud yn y gorffennol, felly nid oes rheswm o fath yn y byd i gredu bod yma nuance ar goll yn rhywle.
I find his ethical deduction and his quasi-religious observation sadly lacking. "So here we are. What should we do?" he is asked. The question sounds similar to ones posed to great religious teachers of the past. His answer is disappointing: "We should seek the greatest value of our action." It's certainly thought-provoking (what exactly does that mean for this or that action?) and it is a principle that is reinforced by the experience of life-threatening illness. One could say: "Don't waste your life." Yet as a rule for life, it lacks both the impact and the practicality of the great Judeo-Christian answer to that question: "Love God above yourself, and love your neighbour as yourself." Even those who are unwilling to subscribe to the first part can understand the second part and usually admit its validity.
Dw i'n methu'n lân â deall pam fod ateb Hawking yn siomedig. Yn bersonol, mae'n well gen i'r hen glasur, y rheol euraidd: "dylech drin pobl eraill fel yr hoffech iddynt eich trin chi". Mae hwnna bron yn gliché, mi wn, ond os mynnir un frawddeg sy'n crynhoi'r ffordd y dylem fyw, dw i'n ei chael yn anodd meddwl am un sy'n rhagori. Ond y pwynt ydi nad oes rhaid bod un ateb pendant, gwrthrychol. Yn sicr, mae ffefryn Wenham yn nonsens llwyr. Mae'r cymal cyntaf yn methu am resymau amlwg, a thra bod yr ail yn ddigon tebyg i'm un i uchod, mae ceisio'i hawlio fel agwedd sy'n unigryw i Gristnogaeth (neu ffydd yn gyffredinol) yn hurt. Na, cewch chi ddim gwneud hynny mae gen i ofn. Mae'r cymal cyntaf yn un crefyddol, dwl, ac mae'r ail yn un cwbl seciwlar. Mae'r "even those" yn gwbl ddi-angen. Dw i'n ochneidio wrth ddychmygu Wenham yn crechwenu wrth deipio'r frawddeg olaf yna uchod, fel petai'n ergyd fuddugoliaethus sy'n mynd i beri problem i anffyddiwr. I'r gwrthwyneb, fel arfer mae'r elfennau o'r ffydd bydd Cristnogion yn pwyntio atynt, er mwyn trio arddangos rhinweddau'u credoau, yn rhai seciwlar a dyneiddiol. Hands off, nid eich rhinweddau chi ydyn nhw.
Finally, Stephen Hawking's headlined observation about death, that an after-life "is a fairy-story for people afraid of the dark" is both sad and misinformed. Openness to the theoretical possibility of there being 11 dimensions and fundamental particles "as yet undiscovered" shows an intellectual humility strangely at odds with writing off the possibility of other dimensions of existence.
Fersiwn byrrach o'r ddadl yma: "mae ffiseg yn rhy anodd i mi". Mae tystiolaeth a llathenni o hafaliadau i gefnogi'r syniadau ffisegol uchod. Does dim byd o gwbl yn cefnogi syniadau hanner-pan am fywyd ar ôl marwolaeth. Tystiolaeth, tystiolaeth, tystiolaeth. Mae'r gwahaniaeth yn syml a phwysig.
For someone "facing the prospect of an early death", with probably an unpleasant prelude, the idea of extinction holds no more fear than sleep. It really is insulting to accuse me of believing there might be life after death because I'm afraid of the dark. On the contrary, sad though I shall be to leave behind those I love, I suspect the end of life, whatever happens, will be a relief. And, like Pascal making his wager, if it is dark, I really won't mind, because, of course, there won't be a me to mind.
Sarhaus neu beidio, does fawr o ots oherwydd mae'n debygol iawn o fod yn wir. Mae'r nefoedd yn syniad sy'n gwneud i lawer o bobl deimlo'n fwy cysurus. Yn anffodus, dydi hynny ddim yn gwneud y syniad yn wir (dw i'n digwydd ystyried y synaid fel lle digon hunllefus beth bynnag, felly dw i'n eithaf balch o hynny). Peidiwch â sôn am gynwystl Pascal. Byddai rhywun yn disgwyl i Gristnogion o bawb werthfawrogi bod credu mewn duw dim ond er mwyn twyllo'r duw hwnnw yn ddilornus iawn, heb sôn am fod yn ofer (byddai'n gwybod bod eich bysedd wedi'u croesi tu ôl i'ch cefn, does bosib).
Strangely enough, my theory that there is a form of life after we die is not some sort of wishful thinking. It's based on evidence. If the brain is a computer, then, when I was studying where Stephen Hawking now teaches, I came on a mass of data of which the most convincing, the neatest, explanation was that death is not the end of life. It wasn't the most comfortable nor most obvious of conclusions, but the forensic case was forceful and beautiful, providing "simple explanations of phenomena or connections between different observations". The best exposition I found was by the then director of the Institute of Advanced Legal Studies in London, Professor Sir Norman Anderson, in The Evidence for the Resurrection (later republished as part of Jesus Christ: The Witness of History). My disturbing conclusion was that, if it happened once, as seemed beyond reasonable doubt, then I needed to revise my whole world view. What you see is not all you get.
"Evidence"? I ddyfynnu Inigo Montoya yn The Princess Bride gan William Goldman, "you keep using that word. I do not think it means what you think it means".

Nid yw Wenham yn trafferthu disgrifio'r dystiolaeth wych yma o gwbl, dim ond dweud pa mor anhygoel a chadarn ydyw. Grêt. Maddeuwch i mi am beidio rhuthro i Amazon.com ac archebu copi o lyfr yr efengylydd Norman Anderson. Maddeuwch i mi hefyd am chwerthin. Mae'r paragraff yna uchod mor druenus a phathetig dw i bellach yn hanner-difaru rhoi cymaint o sylw i'r dyn trwy ymateb. Ond gan fy mod wedi dod mor bell â hyn, waeth i mi bostio hwn ddim.