13/06/2011

Yr hawl i farw

Fe wyliais Terry Pratchett: Choosing to Die heno. Mae Pratchett (awdur y gyfres Discworld) yn dioddef o glefyd Alzheimer's ers dros tair blynedd. Mae meddwl am y dyfodol, a datblygiad creulon yr afiechyd hwnnw, yn ei ddychryn, ac mae wedi bod yn ystyried yn ddwys y posibilrwydd o gael marw cyn i bethau fynd yn annioddefol. Roedd y rhaglen yn deimladol uffernol: mae Pratchett yn archwilio'r pwnc (sy'n ddadleuol a dweud y lleiaf) trwy gwrdd â phobl sy'n dioddef yn enbyd ac sy'n ystyried sbarduno'u marwolaeth cyn iddynt waethygu ymhellach. Mae dau o'r bobl y mae'n cwrdd â hwy yn gwneud hynny. Yn wir, mae'n teithio gydag un o'r dynion, Peter Smedley, sy'n dioddef o glefyd motor neuron, i'r Swistir lle mae hwnnw'n gofyn am help gan y grŵp Dignitas i'w helpu i farw. Mae Dignitas wedi cynorthwyo dros 160 o Brydeinwyr i farw ers 1998. Ar ddiwedd y rhaglen, mae Peter yn cael ei ddymuniad ac mae'n cyflawni hunan-laddiad trwy yfed cwpan o wenwyn. Mae'n marw ym mreichiau ei wraig, a'r camerâu'n rowlio. Dirdynnol iawn.

Mae'r hawl i gael marw yn amlwg ac angenrheidiol. Mae'n anhygoel a chwbl wrthun i mi bod cynifer o bobl yn mynnu gwrthod yr hawl i eraill gael rheolaeth dros eu marwolaeth eu hunain, yn enwedig pan maent mewn poen a/neu anghysur annioddefol. Afraid dweud, wrth gwrs, mai crefydd sydd wrth wraidd y gwrthwynebiad fel arfer (o feddwl bod Cristnogion yn haeru mai eu duw yw craidd ein moesoldeb, mae'n drawiadol bod Cristnogaeth ar ochr anghywir dadleuon moesol mor fynych). Mae'n debyg bod eu duw mor greulon, nid yn unig y mae'n creu pobl er mwyn rhoi afiechydon erchyll iddyn nhw, ond mae hefyd yn mynnu eu caethiwo yn eu cyrff gan wrthod ffordd allan iddyn nhw o'u trallod. Yn ôl dadl y gwrthwynebwyr crefyddol, dylai'r trueuniaid yma barhau'n wystlon a dioddef yn eu poen hyd y diwedd un, yn druenus a'n ddiymadferth.

Efallai i chi sylwi bod dolen i'r blog ardderchog Choice In Dying ar dde'r dudalen hon. Mae'r awdur, Eric MacDonald, o Ganada ac yn ysgrifennu er teyrnged i'w ddiweddar wraig hoff. Bu hi farw yn ei freichiau yng nghlinig Dignitas yn 2007. Dw i'n ei chael yn amhosibl dychmygu darllen y blog yna a pheidio gwerthfawrogi pa mor sylfaenol a hanfodol ydi'r hawl i beidio gorfod dioddef.

Dw i'n bwriadu trafod hyn ymhellach yfory. Ond am y tro, gwyliwch y rhaglen (mae ar-lein tan 20 Mehefin) a darllenwch flog Mr MacDonald.

1 comment:

  1. wrth gwrs, mai crefydd sydd wrth wraidd y gwrthwynebiad fel arfer

    Ydy'r gosodiad yma yn hollol gywir?

    Rwy'n fodlon derbyn bod yna rhai crefyddwyr yn wrthwynebus i fudiadau megis Dignitas, a bod hunanladdiad yn cael ei gyfrif gan rhai crefyddwyr o dan ambell i amgylchiad yn bechod.

    Dydy'r gwrthwynebiad i hunanladdiad ddim yn holl fydol nac yn berthnasol i bob crefydd, wrth gwrs.

    Mae'r grefydd Shinto yn mawrygu'r un sy'n syrthio ar ei gleddyf trwy harakiri, yn hytrach na dderbyn y siom o barhau i fyw dan ormes cywilydd ac mae hunan fomwyr Mwslimaidd yn credu bod eu hunanladdiad am gael ei wobrwyo yn y nefoedd. Hyd yn oed yn y ffydd Gristionogol, mae'r ffin rhwng hunanladdiad a derbyn merthyrdod yn ddiwrthwynebiad yn un denau ar y diawl weithiau.

    A'i chrefydd neu gyfalafiaeth sydd yn arwain y frwydr i barhau bywyd i'r eithaf ar bob cost?

    Pe bai'r meddyg yn dweud wrthyf yfory bod gennyf salwch bydd yn arwain at fy marwolaeth ym mhen tri mis, ond os derbyniaf driniaeth ddrudfawr mae modd fy nghadw yn fyw am 12 mis, pechod hunanoldeb byddai wrth wraidd derbyn y driniaeth, nid ffydd Gristionogol. Pwysau gwbl anghrefyddol sydd yn gwneud i bobl dewis ddiwrnod neu ddau o fywyd ychwanegol yn hytrach na derbyn bod eu bywydau daearol ar fin dod i ben!

    Fel nifer o bobl o dan 60 oed yr wyf yn fyw heddiw oherwydd technoleg feddygol a'r Gwasanaeth Iechyd, heb y fath dechnoleg a'r fath wasanaeth byddwn wedi marw yn fy ieuenctid o'r clefydau a'r anableddau yr wyf yn byw efo nhw bellach! Pan fo'r dechnoleg yna'n mynd yn orthrwm rwy'n gweld dim sy'n anghristionogol o ddefnyddio'r un dechnoleg i esmwytho fy nghyflwyno i dragwyddoldeb.

    Rwy'n Gristion sy'n cefnogi'r hawl i farw gyda pharch, mae yna Gristionogion eraill sydd yn anghytuno a fi. Yr wyt ti'n anffyddiwr sy'n cefnogi'r hawl i farw efo parch, mae yna anffyddwyr eraill sydd yn anghytuno a thi ac yn gwneud eu miliynau allan o'u hanghytundeb.

    Chware teg iti am drio, ond hwyrach dy fod wedi codi'r ysgyfarnog anghywir ar yr helfa hon!

    ReplyDelete