08/06/2011

Gweriniaetholdeb, anffyddiaeth ac egwyddorion

Dw i wastad wedi bod yn weriniaethwr. Ond nid o reidrwydd yn un eithriadol o danbaid. Hynny yw, pe baech wedi gofyn y cwestiwn i mi a ydw i o blaid y frenhiniaeth, ni fyddwn wedi oedi erioed cyn ateb "na, ddim o gwbl", ond ni fyddwn wedi gwneud llawer mwy o'r peth. Pe byddech wedi gofyn i mi ymhelaethu, byddwn wedi codi f'ysgwyddau a dweud fy mod yn weriniaethwr o ran egwyddor ond bod pethau pwysicach i boeni amdanynt.

Dw i wedi newid fy meddwl.

Mae fy marn wedi caledu a miniogi'n sylweddol dros y misoedd diwethaf. Mae'n siwr gen i bod sbloets y briodas fawr wedi chwarae rhan yn fy ymstyfnigo. Ond mae'r malu cachu ddoe am y frenhines yn agor ein Senedd, neu'r ymateb i absenoldeb rhai aelodau yn enwedig, wedi'm corddi. Mae 2011 hyd yma wedi creu bastard lot mwy chwyrn ohonof lle mae'r frenhiniaeth o dan sylw.

Wrth ystyried y sylweddoliad yma, cefais fy nharo gan elfennau o debygrwydd rhwng y sefyllfa y mae gwrthfreniaethwyr ac anffyddwyr yn eu cael eu hunain ynddi. Fel y gwyddoch, dw i'n anffyddiwr eithaf penderfynol a thanbaid. Rwan, mae yna gryn anghytuno wedi bod dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf rhwng dwy garfan (os gellir cyfeirio atynt fel hynny) o anffyddwyr. Mae rhai yn ceisio bod yn neis-neis a'n gwneud sioe fawr o geisio darbwyllo pobl grefyddol bod modd credu mewn bodau goruwchnaturiol a gwyrthiau rhyfedd ar un llaw, a derbyn esboniadau gwyddonol a naturiolaidd o'r byd o'n cwmpas ar y llaw arall. Mae'r math hwn o anffyddiwr, megis Michael Ruse a Chris Mooney, yn canolbwyntio'u dadleuon mwyaf ffyrnig nid ar grefydd ond yn hytrach ar y garfan arall o anffyddwyr, sef y rhai swnllyd fel fi. Ein barn ni yw bod credoau crefyddol yn mynd yn groes i wirioneddau natur ym mhob un ffordd, nad oes felly modd (heb sôn am ddiben) cyfaddawdu, a bod hynny'n golygu mai'r unig strategaeth ystyrlon ydi gwneud y dadleuon yn erbyn crefydd mor fynych a swnllyd â phosibl. Fel mae erthygl Ruse yn y ddolen yna'n honni, dadl yr accomodationists (gwobr i bwy bynnag all fathu cyfieithiad Cymraeg call!) yw ein bod ni'r anffyddwyr swnllyd yn gwneud mwy o ddrwg nag o dda i'r achos. Mae nhw'n gwbl anghywir, yn amlwg, ond dim ond braslunio ychydig o'r hanes ydw i fan hyn. Mae esboniad llawnach o pam mai fi sy'n iawn a nhw sy'n rong yn fater ar gyfer blogiad arall.

Gyda llaw, cyn i rhywun gellwair ac awgrymu bod y drafodaeth yma (pur angerddol ar brydiau) yn dystiolaeth o rhyw fath o schism o fewn anffyddiaeth, sylwer mai anghytundeb ynglyn â mater o strategaeth wleidyddol yn unig ydyw.

Ta waeth. Fy mhwynt, fel y soniais ar y dechrau, yw bod lle i gymharu'r ddadl yma a'r drafodaeth gyhoeddus ynglyn â'r frenhiniaeth. Dw i'n tybio bod unrhyw ddarllenwyr yn gyfarwydd â'r dadleuon yn erbyn cael aelod o deulu brenhinol fel pennaeth y wladwriaeth yn barod - maent yn amlwg a hysbys - felly ni wastraffaf amser yn eu hadrodd. Ond mae safiad egwyddorol Leanne Wood, Llyr Huws Gruffydd, Bethan Jenkins a Lindsay Whittle o wrthod cymryd rhan yn seremoni agoriadol y Cynulliad efo brenhines Prydain wedi'i ddilorni fel ymgais "blentynnaidd" i ddenu sylw (gan Chris Bryant. Chris Bryant!) ond y gwrthwyneb sy'n wir. Mae'r Hen Rech Flin wedi gwneud y pwynt, a hynny'n ardderchog, mai'r aelodau amharchus mewn gwirionedd yw'r rheiny sy'n ddigon parod i alw'u hunain yn sosialwyr, yn genedlaetholwyr neu'n ddemocratiaid rhyddfrydol, ond sy'n fodlon cefnu â'r "egwyddorion" hynny er mwyn mwynhau ychydig o amser yng nghwmni Elizabeth the Second, by the Grace of God, of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, and of her other Realms and Territories Queen, Head of the Commonwealth, Defender of the Faith (a sylwer ar y rhan olaf o'r teitl mawreddog yna!).

Dydi safiad Leanne Wood na Bethan Jenkins ddim yn newydd. Fe wnaeth Wood union yr un peth yn 2003 a 2007, a Jenkins yn 2007. Dw i'n amau bod dau reswm pam bod y boicot wedi denu cymaint mwy o sylw y tro hwn. Y cyntaf yn amlwg ydi absenoldeb rhyfedd Ieuan Wyn Jones. Mae cyfiawnhad hwnnw am fethu'r agoriad yn niwlog; nid gwneud safiad ydoedd (o leiaf nid yw wedi dweud hynny'n gyhoeddus, ac roedd wedi ymddiheuro o flaen llaw), ond yn hytrach mae ar wyliau. Ei gyfiawnhad oedd bod y gwyliau wedi'i gynllunio ymhell o flaen llaw ac nad oedd yn hysbys ar y pryd beth fyddai dyddiad yr agoriad. Dydi hynny ddim yn dal dŵr o gwbl ac mae'n gwneud i arweinydd un o bleidiau'r Cynulliad edrych yn rhyfeddol o analluog a thrwsgl. Mae'r ail reswm posibl, ar y llaw arall, yn ddifyr. Mewn ffordd od, gall y ffws fod yn arwydd bod y Cynulliad fel sefydliad, sydd bellach yn ddeddfwriaeth gall ac aeddfed yn dilyn y refferendwm, o'r diwedd yn dechrau ennill ei blwyf. Mae'n bosibl bod llawer o bobl sy'n gefnogol i'r sefydliad yn gweld sêl bendith y frenhines fel rhywbeth sy'n dod â bri, urddas a hygrededd iddo, ac felly bod y boicotwyr wedi difetha hynny. Os ydi hynny'n wir, dw i ddim yn siwr iawn beth i'w wneud am y peth. Ond dyna ni. Beth sydd yn sicr, fodd bynnag, yw ei bod yn anfaddeuol bod rhaid i aelodau Cynulliad dyngu llw i Mrs Windsor. Mae hyd yn oed Dafydd Êl yn cytuno â mi ar y mater yma. Mae'n gwbl wallgof bod hynny'n parhau.

Dw i'n fodlon mentro bod mwyafrif o aelodau'r Cynulliad yn anghytuno â'r frenhiniaeth fel y system wleidyddol gallaf a thecaf. Petawn yn berchen tŷ byddwn yn barod i fetio'r morgais bod mwyafrif o'r aelodau, yn eu calonau, yn cytuno efo'r boicotwyr. Mae'r gweriniaethwyr swnllyd yma yn debyg i anffyddwyr swnllyd am eu bod yn fodlon dweud beth mae llawer iawn iawn o bobl yn ei feddwl ond sy'n gyndyn o'i fynegi oherwydd ofn pechu. Ond fel yn achos crefydd ac fel mae cipolwg ar hanes yn dangos yn glir, ni cheir gwell heb i unrhyw un fod yn fodlon gwneud safiad. Roedd y suffragetes yn cael eu hwfftio a'u galw'n blentynnaidd am flynyddoedd maith, wedi'r cyfan. Mae cyfaddawdu'n anorfod mewn gwleidyddiaeth ac mae gwneud hynny'n anochel a phwysig mewn sawl maes. Ond mae'n anodd gweld sut mae cyfaddawdu ar fater mor sylfaenol, amlwg-anghywir â chael brenhines yn eich teyrnasu a'n mynnu llw o ffyddlondeb.

Dyma gyfaddef felly fy mod hwyrach wedi bod yn euog o ragrith i raddau. Dw i'n anffyddiwr brwd ers blynyddoedd, ond hyd yn ddiweddar digon tila oedd fy ymroddiad i weriniaetholdeb a'm cefnogaeth i safiadau tebyg i'r hyn a gafwyd gan Y Pedwar. Yn y gorffennol, rhyw agwedd fel hyn byddwn wedi'i fynegi: "ah ia wel, mae nhw'n iawn am wn i, ond beth ydi'r pwynt gwneud ffws?" Hyd yn oed pan rydych yn anghytuno o ran egwyddor â rhywbeth fel brenhiniaeth, gan ei fod yn cael ei gymryd yn ganiataol gan bawb o'ch cwmpas mae'n anodd camu'n ôl a gwerthfawrogi'n llawn pa mor wallgof ydyw. Roeddwn i'n gwybod bod hynny'n wir am grefydd yn barod, ond dw i'n gwerthfawrogi pa mor wir ydyw am y frenhiniaeth hefyd bellach.

Mae God Save The Queen yn anthem ryfeddol ar sawl cyfri. Dyna anthem waetha'r byd o gryn dipyn, yn un peth. Ond yn fwy na hynny, mae'n llwyddo i gynnwys, yn y llinell gynta'n unig, nid un ond dau gysyniad cwbl farwaidd. Mae angen gweiddi: twll tin i'r ddau.

No comments:

Post a Comment