Dyma ymhelaethiad ar fy mhost ddoe ar raglen Terry Pratchett am farw â chymorth, a hefyd ymateb i sylw Alwyn ar ei ddiwedd.
Fel mae'n digwydd, hoffwn ddiolch i grwpiau fel Care Not Killing am dynnu fy sylw at y rhaglen yn y lle cyntaf. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r rhaglen tan iddyn nhw gondemnio'r BBC am feiddio dangos y fath beth. Fel sy'n digwydd efo'r Streisand Effect, eu prif lwyddiant oedd denu llawer iawn mwy o sylw at y darllediad.
Yn ei ymateb yntau, fe hoeliodd Alwyn ei sylw ar un darn o'm post blaenorol, sef "mai crefydd sydd wrth wraidd y gwrthwynebiad [i'r hawl i ddewis marw] fel arfer". Fel y dywdodd, mae llawer o bobl grefyddol yn gefnogol i'r hawl hwnnw ac mae rhai anffyddwyr yn anghytuno. Ond dw i'n credu bod yr hyn a ddywedais yn parhau'n wir. Dw i ddim yn amau o gwbl bod llawer iawn o bobl grefyddol yn cytuno y dylai pobl gael yr hawl i reoli'u marwolaethau eu hunain, ac ni honnais yn wahanol. Dw i'n falch bod Alwyn yn cytuno â mi a'n cefnogi'r hawl i ddewis.
Mae'n wir bod yna anffyddwyr (cymharol brin) sy'n bryderus am yr hawl hwnnw. Ond fel mae'n digwydd dw i'n tybio mai nid anghytuno o ran egwyddor y mae'r rhain, ond yn hytrach maent yn petruso gan eu bod angen eu darbwyllo na fyddai modd i ddihirod gamfanteisio ar bobl bregus. Wrth bob rheswm, mae hwnnw'n bryder pwysig sydd angen datrysiad call a chynhwysfawr. Afraid dweud na ddylid caniatáu marw â chymorth heb reoliadau llym eithriadol er mwyn sicrhau mai penderfyniad un person, ac un person yn unig, sy'n dyngedfennol. Hyd y gwelaf i, mater o ymarferoldeb ydi hyn, a dw i'n credu bod modd, gyda digon o ofal a goruchwyliaeth, i sicrhau tegwch ac urddas.
Dw i'n hyderu bod anffyddwyr sy'n anghytuno ar lefel egwyddorol gyda'r cysyniad sylfaenol, sef yr hawl i farw, yn brinach byth. Dw i wedi bod yn Gwglo i chwilio am greaduriaid o'r fath ond yn aflwyddiannus. Os ydi rhywun yn anghytuno â'r egwyddor y dylai fod gan bobl hawl i farw, yna mae'n synhwyrol darogan bod eu barn wedi'i seilio ar eu crêd mewn rhyw fath o dduw, sy'n credu bod pob bywyd yn "sanctaidd" (darllener: duw sy'n berchen ar eich bywyd, nid chi).
Cafwyd dadl banel Newsnight (ar gael tan 20 Mehefin) yn syth wedi'r rhaglen neithiwr, ac fel mae'n digwydd doedd safon y trafod ddim cynddrwg ag yr oeddwn wedi'i hanner-ddisgwyl. Roedd un coler gwyn ar y panel - Michael Langrish, esgob Caerwsg - ond tra roeddwn yn anghytuno ag o, fe lwyddodd i beidio dweud unrhyw beth arbennig o wrthun. Ond dw i am ei feirniadu am un peth a ddywedodd yn benodol, sef nad oedd Pratchett wedi rhoi digon o sylw i un dyn a ymddangosodd yn y rhaglen. Roedd y dyn yma wedi dwys ystyried teithio i'r Swistir ond wedi penderfynu yn y diwedd ei fod am fyw mewn cartref gofal tan ei farwolaeth naturiol. Wrth gwrs bod hynny'n eithriadol o bwysig, ond y pwynt yw bod pawb yn gwybod bod gofal gwych ar gael i bobl sy'n dioddef yn y modd hwnnw. Dydi hynny ddim yn fater dadleuol. Rhaglen am ddewis marw ydoedd. Dadlau dros ganiatáu'r hawl i ddewis marw y gwneir, nid dadlau y dylid gwneud hynny ar draul y dewis arall amlwg hwnnw. Mae'n bwysig bod modd dewis. Dydi caniatáu'r hawl i farw ddim yn di-raddio'r gofal sydd ar gael i bobl sy'n dymuno byw tan y diwedd naturiol; os rhywbeth mae'n ei wneud gymaint â hynny'n fwy gwerthfawr. Yn wir, fel y crybwyllwyd yn y rhaglen, byddai gwybod bod y dewis o farw ar gael yn gysur i bobl sy'n dioddef, gan hyd yn oed roi nerth iddyn nhw i fyw'n hirach! Gan ail-adrodd fy hun (ond dim ots, oherwydd mae'n amhosibl pwysleisio'r peth ormod), y dewis sy'n hanfodol.
Efallai mai'r peth mwyaf trawiadol yn y rhaglen (neu o leiaf, dyma â'm trawodd i) oedd cystal roedd y ddau a ddewisodd farw'n edrych a'n swnio, o ystyried. Ond yn hytrach na dychryn gwylwyr rhag casglu eu bod wedi marw'n ddi-angen, dylai hyn ategu dau bwynt. Y cyntaf yw nad yw dioddefaint person bob amser yn amlwg i eraill. Mae hyn yn ei dro'n amlinellu pa mor bwysig yw'r egwyddor mai eu dymuniad nhw'u hunain sy'n bwysig ac na ddylai fod gan eraill hawl i fynd yn groes i'r dymuniad hwnnw. Yr ail yw mai'r ffaith bod eu dymuniad yn anghyfreithlon ym Mhrydain yw'r rheswm eu bod wedi gorfod teithio i'r Swistir yn y lle cyntaf er mwyn cyflawni'r weithred. Trwy aros yn hirach, byddai perygl iddynt basio'r tipping point hwnnw pan fyddent yn rhy sâl neu wan i deithio. Byddai cyfreithloni marw â chymorth ym Mhrydain yn sicrhau misoedd gwerthfawr ychwanegol.
Yn anffodus, dyhead Care Not Killing ac ymgyrchwyr gwrth-ddewis eraill yw gwrthod y mymryn hwn o hunan-barch iddynt. Dadleuon digon annifyr yn erbyn yr hawl i ddewis yw bod cefnogwyr yn credu bod pobl ag anableddau neu afiechydon difrifol rhywsut yn is-raddol neu'n faich ar y gweddill ohonom, neu bod rhoi'r dewis o farw iddynt yn awgrymu bod eu bywydau'n llai gwerthfawr. Gobeithio fy mod wedi gallu dangos pam bod hynny'n gelwydd ofnadwy. Ac os nad ydw i'n darbwyllo'n ddigonol, yna unwaith eto dw i'n argymell Choice In Dying, a'r dudalen hon yn benodol, lle mae Eric MacDonald yn esbonio raison d'être y blog.
Fel mae'n digwydd, does gen i ddim syniad beth fyddai fy newis i petawn yn cael fy hun mewn sefyllfa lle byddai'r angen i wneud un yn codi. Dw i'n rhyw amau efallai mai ceisio gohirio marwolaeth cyn hired â phosibl y byddwn. Ond wedi dweud hynny, mae Alzheimer's wirioneddol yn hunllef sy'n fy nychryn yn lân. Y pwynt yw ei bod yn amhosibl dweud o flaen llaw. Nid oes modd i unrhyw un ddweud o sicrwydd heb fod yn y sefyllfa hwnnw. A dyna pam (am y tro olaf rwan) does gan neb yr hawl foesol i atal rhywun arall rhag cael y dewis.
Gwendid dy ddadl yma ac yn dy bost blaenorol, yw y ddadl bod yr hawl i farw gydag urddas yn un o Grefydd v Anffyddiaeth! Nid ydyw!
ReplyDeleteRwy'n Gristion hyd at fer fy esgyrn ac yr wyf yn cytuno 1000% a thi ar y pwnc dan sylw, ond mae dy ragfarn yn erbyn Cristionogaeth yn dy rwystro rhag dderbyn cefnogaeth gan Gristion!
Dw i ddim yn deall sut rwyt ti wedi cael yr argraff yna. Dw i wedi dweud yn blaen bod rhai Cristnogion yn gefnogol ac wedi dy gymeradwyo di'n benodol.
ReplyDeleteFel mae'r dudalen yma'n dweud, "It is a mistake to polarise the debate as religious vs. secular. Whilst, the most vocal opponents of change tend to be religious (Care not Killing/Christian Medical Fellowship, SPUC and the Christian Institute for example) they do not speak for a majority of people with faith as evidenced by the 2010 British Social Attitudes Survey, which found that 71% of religious people supported a change in the law." Dw i'n croesawu a'n gwerthfawrogi hyn yn fawr iawn.
Mae'n wir, fodd bynnag, bod y sawl sy'n gwrthwynebu ar sail egwyddorol - sy'n credu bod yr hawl i farw yn syniad gwael yn ei hanfod - yn gwneud hynny fel arfer oherwydd daliadau crefyddol.
Mae'n amhosibl felly trafod y ddadl heb sôn am ddylanwad crefydd. Yn enwedig ar flog o'r enw Anffyddiaeth!
Y broblem sydd gennyf i efo'r ddadl "gwrth grefyddol" yn y cyd-destun yma yw mai gwir goleddwyr y ddadl dros wasgu pob eiliad o fywyd parhaus yw'r cwmnïau Pharma mawr sydd yn pwyso ar i Lywodraethau megis Llywodraeth y Cynulliad i dalu am gyffuriau sy'n costio cannoedd o filoedd o bunnoedd i barhau bywyd am 3,4,5,6 mis, ond sy'n caniatáu i ambell i grefyddwr i ymladd eu brwydrau trostynt. Y peth gwaethaf mae'r cwmnïau yma'n eu gwneud yw cyhoeddi datganiadau i'r wasg, sy'n rhoi ffug obaith i gleifion a'u car . "Bydd iachâd rhag cancr ar gael cyn bo hir", sy'n rhoi pwysau ar y Llywodraethau i dalu am ehangu bywyd am ddiwrnod neu ddau "rhag ofn"!
ReplyDeleteTra fo crefyddwyr sy'n coleddu sancteiddrwydd bywyd yn cael eu defnyddio fel cocynau hitio yn y ddadl, mae pharma yn chwerthin yr holl ffordd i'r banc.
Os ydwyf, fel un a safbwynt crefyddol ,yn dweud bod marwolaeth yn rhan o fywyd a bod rhaid i ddyn cyfarfod a'i wneuthurwr ym mhen y rhawg ac mae gwastraff o adnoddau prin yw cadw rhywun yn fyw am fis arall, rwyf yn "Hen Gristion Cas" sydd amddifadu plentyn rhag cwmnïaeth ei Nain am fis ychwanegol Clywch Pharma yn chwerthin eto.
Mae yna ddadl grefyddol yma, ond ddadl fewnol ydyw, drysu'r dyfroedd yn bwrpasol yw ymyrraeth anghredinwyr i'r ddadl honno er mwyn osgoi’r ddadl ehangach. Ac mae'r ddadl ehangach, sy'n osgoi crefydd fel cocyn hitio, yn un hyll iawn sef dal eugenics!
http://en.wikipedia.org/wiki/Eugenics