17/06/2011

Sectyddiaeth

Dw i'n edmygu Alex Salmond yn fawr iawn ond dw i ddim yn siwr am y mesur seneddol mae ei lywodraeth newydd ei chyhoeddi: Offensive Behaviour at Football and Threatening Communications (Scotland) Bill. Mae sectyddiaeth yn broblem gymdeithasol sy'n codi'i phen o bryd i'w gilydd yng Nglasgow, ac mae digwyddiadau diweddar, megis ymosodiad ar Neil Lennon (rheolwr tîm pêl droed Celtic) wedi sbarduno cryn drafod a phwysau ar yr SNP i "wneud rhywbeth".

Y broblem gyda mesurau fel hyn - gwaharddiadau ar "gasineb crefyddol" a.y.y.b. - yw eu bod yn ddi-ffael yn amhosibl o amwys. Dw i wedi mynegi fy ngwrthwynebiad i ddeddfau tebyg o'r blaen. Dw i'n cael y syniad o garchar am ganu cân, neu ddweud pethau gwirion y we, yn rhyfedd iawn (ac eithrio bygythiadau uniongyrchol, wrth gwrs). Does dim amheuaeth bod clywed miloedd o iobs mewn stadiwm pêl droed yn morio canu eu cymeradwyaeth i'r syniad o lofruddio Protestaniaid neu Babyddion yn ddigon brawychus i'r rhai y mae wedi'i anelu atynt, ond gan ei fod yn amhosibl plismona'r fath beth yn synhwyrol, nid yw'r mesur yn ymarferol na'n rhinweddol.

Mae angen egluro fy marn yn llawn. Ni ddylid creu troseddau newydd i ddelio'n benodol â sectyddiaeth. Mae ymosod ar rhywun, neu eu bygwth yn uniongyrchol, yn anghyfreithlon yn barod. Ond mae dadleuon digon synhwyrol tros wneud y gosb am ymosod neu fygwth yn llymach os oes cymhelliad sectyddol iddo. Mae hyn yn debyg i'r hyn sy'n digwydd yn barod gyda "throseddau casineb" (dylid nodi bod y ddeddf honno yn eithrio troseddau sectyddol yn benodol).

Mae rhai pobl yn hoffi bod yn llwythol. Mae pêl droed yn gyfrwng perffaith i'r dyhead hwnnw, yn enwedig pan mae gennych ddinas o faint Glasgow gyda dwy dîm mawr, un sydd â thraddodiad Pabyddol a'r llall yn hanesyddol Brotestannaidd. Go brin bod y rhan fwyaf o'r bobl sy'n mwynhau gweiddi pethau sectyddol mewn gemau pêl droed wir mor chwyrn â hynny am eu fersiwn benodol hwy o'r ffydd Gristnogol. Y cwbl ydyw yw ffordd hawdd o gorddi'r "gelyn". Noder felly fy mod yn gwrthod rhoi'r bai ar grefydd ei hun; mae llawer o gefnogwyr pêl droed jyst yn ddwl ac eisiau ypsétio'u "gelynion", a dyfais gyfleus yw crefydd yn yr achos yma. Ond nes eu bod yn ymosod ar rhywun, neu'n bygwth gwneud hynny, ni ddylai hyn fod yn fater i'r heddlu. Mae angen "gwneud rhywbeth" yn wir, ond er bod y syniad yn ddeniadol weithiau, ni ddylai bod yn thick fod yn anghyfreithlon.

Er mwyn dangos nad ydw i'n credu bod Cristnogion byth yn gallu bod yn iawn, dw i'n cymeradwyo'r geiriau yma:
And the moderator of the General Assembly of the Church of Scotland, The Right Rev David Arnott, said he was "nervous" about the plan to see the bill approved by 30 June.

"Whilst we are not against the ideas in this bill, we remain unconvinced of the wisdom of this approach," he said.

"The speed at which it is being rushed through means it appears to lack scrutiny and clarity.

"The government is rightly asking for support from across civic Scotland, but is not giving civic Scotland much time to make sure they are happy with the content."
Mae'r dyn yn y coler gwyn yn llygad ei le!

No comments:

Post a Comment