Showing posts with label anffyddiaeth. Show all posts
Showing posts with label anffyddiaeth. Show all posts

05/07/2021

Marchogion cibddall: tranc yr Anffyddiaeth Newydd

 Dyma fersiwn hirach o'r ysgrif gennyf a gyhoeddwyd yn rhifyn haf 2020 o O'r Pedwar Gwynt

------

Ym mis Medi 2007, tros goctêls, cafodd Richard Dawkins, Sam Harris, Daniel Dennett a’r diweddar Christopher Hitchens sgwrs am ddiffygion crefydd. Rhoddwyd fideo o’r drafodaeth, sy’n ddwy awr o hyd, ar YouTube, gyda’r teitl The Four Horsemen, cyfeiriad at y cymeriadau enwog o Lyfr y Datguddiad. Roedd y pedwar eisoes wedi cyhoeddi llyfrau polemig gwrth-grefyddol erbyn hynny (The God Delusion gan Dawkins, The End Of Faith gan Harris, Breaking The Spell gan Dennett, a God Is Not Great gan Hitchens), a roedd y syniad bod rhywbeth o’r enw’r ‘New Atheism’ ar droed eisoes wedi cael ei awgrymu mewn erthygl yn y cylchgrawn Wired y flwyddyn gynt. Dehonglwyd cyhoeddi’r fideo fel rhyw fath o gadarnhad o hynny; yn wir, The Discussion That Sparked An Atheist Revolution yw is-deitl trawsgrifiad o sgwrs The Four Horsemen sydd bellach, ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, wedi’i chyhoeddi ar ffurf cyfrol fer.

Wrth gwrs, fel roedd llawer o’r Anffyddwyr Newydd eu hunain yn prysuro i’w nodi, nid oedd rhyw lawer yn wreiddiol am ddadleuon y mudiad mewn gwirionedd. Y sylw a’r diddordeb yn y cyfryngau ac ymysg pobl gyffredin oedd yn newydd. Mae’n wir nad yw’r achos yn erbyn crefydd wedi newid rhyw lawer dros y ganrif ddiwethaf, ac o’r herwydd fe gyhuddir anffyddwyr o swnio’n ddiflas ac ail-adroddus. Er bod elfen o wirionedd yn y cyhuddiad, nid yw’n un teg, oherwydd nid bai anffyddwyr yw’r ffaith bod crefyddwyr yn parhau i fethu ateb y dadleuon a chynnig rhesymau synhwyrol i gredu ym modolaeth eu duwiau.

Mae’r rhan fwyaf o’r hyn a ddywed y pedwar yn ystod eu sgwrs yn berffaith gywir. I anffyddiwr rhonc fel fi , mae’r fideo a’r llyfr yn cynnwys digon o gig coch boddhaol. Oes, mae angen rhoi’r gorau i osod crefydd ar bedestal annhaeddiannol, a dylid, yn hytrach, ei gwerthuso ar yr un lefel a chyda’r un rhyddid ag yr ydym yn trafod pob ideoleg arall. Ydi, mae safbwynt y crefyddwyr yn drahaus yn ei hanfod, gan mai nhw sy’n honni, heb ronyn o dystiolaeth, bod y bydysawd wedi’i greu yn unswydd ar eu cyfer a bod ganddynt berthynas bersonol â’r creawdwr hollalluog. Ydyn, mae diwinyddwyr yn euog o bedlera fflwff gor-eiriog ffug-ddwys sydd, yn amlach na pheidio, yn gwrth-ddweud yr hyn a bregethir i bobl gyffredin mewn addoldai ar lawr gwlad.

Wrth gwrs, mae ail-adrodd yr hen ddadleuon hyn yn annhebygol o newid meddwl unrhyw berson crefyddol o argyhoeddiad. Eto i gyd, mae’n bwysig parhau i roi’r achos ger bron, er budd yr holl bobl hynny yn y canol sydd heb eto ffurfio barn gref y naill ffordd na’r llall. Celwydd yw pob crefydd, a doeth, fel rheol, yw osgoi credu celwyddau. Dw i ddim yn obeithiol y daw dydd pan fydd crefydd wedi diflannu, ond mae’n uchelgais i anelu ato, a mae angen mudiad sy’n fodlon dweud hyn i gyd yn blaen.

Wedi dweud hyn i gyd, roedd darllen y trawsgrifiad ac ail-wylio’r fideo, wedi’r holl flynyddoedd, yn deimlad chwithig. Yn un peth, mae rhannau o’r sgwrs yn swnio’n boenus o hunan-fodlon hyd yn oed i mi, a mae rhagair Stephen Fry, gyda’i gyfeiriadau at y ‘Four Musketeers of the Mind’, yn mynd dros ben llestri a dweud y lleiaf. Ond yn fwy na hynny, mae ergyd y geiriau wedi pylu yng ngoleuni’r hyn sydd wedi digwydd ers y sgwrs, oherwydd mae’n anodd peidio teimlo bod yr Anffyddiaeth Newydd, erbyn hyn, wedi chwythu’i phlwc. Yn wir, efallai bod y penderfyniad i gyhoeddi’r llyfr yn gydnabyddiaeth anfwriadol o hynny. Ai chwyldro parhaus a gyfeirir ato yn is-deitl y gyfrol, ynteu cyfnod penodol a byr yn ein hanes diweddar yr ydym bellach yn gallu syllu’n ôl arno, post-mortem?

Os darfod a wnaeth, beth aeth o’i le? Wel, efallai mai un o’r pethau cyntaf i’ch taro am y sgwrs yw’r ffaith bod y Pedwar Marchog yn ddynion gwyn i gyd. Dylid cofio, am wn i, mai’r bwriad gwreiddiol oedd cynnwys Ayaan Hirsi Ali, awdures o dras Somalaidd, ond gorfu iddi ganslo ar y funud olaf (roedd hynny’n anffodus, ond o leiaf cawsom osgoi gwireddu’r cynllun i ddefnyddio’r teitl Five Pillars Of Wisdom, a fyddai wedi bod hyd yn waeth na’r un ar gyfer y pedwar). Ond fe gariodd y dynion ymlaen hebddi, a roedd y canlyniad yn syrffedus o anghynrychiadol.

O edrych ar y sawl sy’n cael trafod anffyddiaeth yn y cyfryngau neu ar banelau mewn cynadleddau, gellir maddau rhywun am dybio nad oes rhyw lawer o fenywod nac aelodau o leiafrifoedd ethnig o fewn y mudiad. Mae’n ddadlennol bod llyfr gan ddynes a gyhoeddwyd yn 2003 – cyn rhai’r Pedwar Marchog – yn cael ei adael allan o bob trafodaeth am yr Anffyddiaeth Newydd. Dymuniad Jennifer Michael Hecht, mae’n debyg, oedd galw’r gyfrol yn A History Of Atheism, ond mynnodd y cyhoeddwyr ar Doubt: A History. Mae’n lyfr ysgolheigaidd, trwyadl, a rhyfeddol ei rychwant, gan olrhain anffyddiaeth ac anuniongrededd crefyddol o 800CC hyd at y presennol. Ysywaeth, mae’n anodd peidio tybio y byddai Hecht wedi ennill llawer mwy o sylw dyledus a chael ei chydnabod fel un o arloeswyr mudiad newydd petai wedi cael ei ffordd gyda’r teitl. Rhaid oedd aros am y dynion cyn derbyn bod marchnad ar gyfer y math yna o beth, fe ymddengys.

Bu’r duedd i ddyrchafu dynion gwyn, yn hytrach nag adlewyrchu’r gymdeithas amrywiol fodern, yn drychinebus i’r Anffyddiaeth Newydd. Yn waeth na hynny, digalondid mawr oedd gweld anffyddwyr enwog yn cwyno am social justice warriors a ‘chywirdeb gwleidyddol’. Dyma, yn wir, achosodd yr hollt fwyaf (ac, yn fy marn i, andwyol) yn y mudiad. Ar y naill ochr, ceir y garfan sy’n mynnu mai ystyr anffyddiaeth yw diffyg ffydd mewn duw, a dim byd arall. Dyma anffyddiaeth fel canfas wag, heb iddi unrhyw oblygiadau gwleidyddol penodol tu hwnt i’w diffiniad geiriadurol. Ar yr ochr arall mae’r sawl sy’n dadlau bod angen i anffyddiaeth roi lle blaenllaw i gyfiawnder cymdeithasol; yn wir, na ellir cael y gyntaf heb yr ail. Dw i’n cyfrif fy hun ymysg yr ail garfan: wedi’r cyfan, nid yw'n gwneud synnwyr i wrthwynebu crefyddau heb hefyd herio a chywiro'r anghyfiawnderau a rhagfarnau misogynistaidd, hiliol a gwrth-gyfunrywiol a fu’n elfennau mor annatod ohonynt ar hyd y blynyddoedd. Nid yw’r rhwyg yma’n unigryw i’r mudiad anffyddiaeth, wrth gwrs. Mae paralel clir yn rhygnu ar hyn o bryd yn y mudiad cenedlaethol yng Nghymru, gydag un ochr yn mynnu mai ystyr annibyniaeth yw ymwahanu oddi wrth Loegr a dim byd arall, gan ddilorni niche issues yr ochr arall sy’n ceisio mynd i’r afael, o flaen llaw, â sut fath o Gymru rydd y maent yn dymuno’i hennill.

Mae’r ‘sgandal’ penodol (os dyna’r gair) a ddaeth â’r hollt yma i wyneb yr Anffyddiaeth Newydd bron yn rhy wirion i’w ddisgrifio, ond dw i am fentro gwneud gan mai natur chwerthinllyd y saga yw’r union bwynt. Yn gryno iawn: yn 2011, am 4 y bore yn ystod y Global Atheist Convention yn Nulyn, roedd y blogwraig Rebecca Watson ar ei ffordd i’w hystafell westy i glwydo ar ôl diwrnod prysur o gynadledda ac ymddiddan yn y bar. Fe’i dilynwyd gan ddyn, un o’r mynychwyr eraill nad oedd yn gyfarwydd iddi, a’i gwahoddodd i’w ystafell yntau am goffi. Drannoeth, cyhoeddodd Watson fideo am ei diwrnod, gan gynnwys sylwadau byr a phwyllog, wrth fynd heibio, am y digwyddiad lled anghyfforddus yn y lifft. ‘Just a word to the wise here, guys: don't do that’, meddai. Buasech wedi disgwyl mai dyna fyddai diwedd y mater, ond yn anffodus cafwyd ymateb blin i’w chyngor ysgafn. Yn fuan wedyn, mewn sylw arlein drwg-enwog, tywalltodd Richard Dawkins ei hun betrol ar y fflamau trwy wawdio Watson a gwrthgyferbynu ei chŵyn gyda’r gorthrwm sy’n wynebu menywod Mwslemaidd mewn gwladwriaethau ffwndamentalaidd. Trodd hynny’r ffrae yn ‘Elevatorgate’, ac mae’r cecru’n parhau hyd heddiw. Efallai mai naïf oedd disgwyl i griw o bobl sy’n ymhyfrydu yn eu gallu rhesymegu fod yn well na’r math yma o nonsens, ond roedd nodyn Dawkins yn enwedig yn destun siom anferthol i lawer. Fe ymddiheurodd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ond roedd y drwg wedi’i wneud. Mae’r ffaith bod nifer o anffyddwyr blaenllaw wedi’u cyhuddo o gamymddwyn yn rhywiol tuag at fenywod yn y blynyddoedd ers hynny’n dangos peryglon anwybyddu’r fath rybuddion.

Aeth Dawkins yn ei flaen i ddifetha’i enw da ymhellach trwy gyhoeddi cyfres o sylwadau dwl, am Islam yn bennaf, ar Twitter. Efallai mai’r enghraifft enwocaf oedd ei drydariad yn nodi’r ffaith bod Coleg y Drindod, Caergrawnt, wedi ennill mwy o Wobrau Nobel na’r holl fyd Mwslemaidd. Does dim byd am y sylw’n ffeithiol anghywir, ond mae mor gamarweiniol ac arwynebol mae gystal â rhaffu celwydd noeth.

Yn anffodus, daeth agweddau trafferthus tuag at Islam i nodweddu’r Anffyddiaeth Newydd yn ei chyfanrwydd yn y blynyddoedd diwethaf. Gwir y gellir dehongli dyfodiad y mudiad, i raddau o leiaf, fel ymateb i ymosodiadau terfysgol Medi 11, 2001,  a rhwystredigaeth bod rhyddfrydwyr a’r chwith yn amharod i feirniadu Islam. Dw i dal i gredu bod sail i’r rhwystredigaeth honno, ond fe garlamodd gormod o anffyddwyr yn rhy bell i’r cyfeiriad arall, gan dargedu Mwslemiaid fel pobl yn hytrach nag Islam fel cagliad o syniadau. Mae’n siwr mai’r sylw gwaethaf un yn The Four Horsemen yw’r canlynol gan Christopher Hitchens: ‘I think it’s us, plus the 82nd Airborne and the 101st, who are the real fighters for secularism at the moment’. Anodd yw credu bod datganiad mor dwp wedi dod o enau dyn a oedd mor enwog am ei ddeallusrwydd. Mae’r syniad mai hyrwyddo seciwlariaeth oedd bwriad George W Bush yn ddigon dwl, ond mae’r sylw’n anfaddeuol o gofio bod y dinistr a achoswyd gan y rhyfeloedd yn Affganistan ac Irác eisoes yn hysbys ac amlwg erbyn Medi 2007.

Sgwn i pa drywydd deallusol byddai Hitchens wedi’i ddilyn pe na bai wedi marw yn 2011? Byddai wedi mwynhau dweud pethau cas am ynfytyn fel Donald Trump, yn sicr, ond dw i’n ofni byddai’i gasineb tuag at Fwslemiaid wedi’i arwain i glosio tuag at yr alt-right. Dyna, yn anffodus, ble mae Sam Harris heddiw. Mae Harris wedi dweud yn blaen y dylai system fewnfudo America ffafrio Cristnogion ar draul Mwslemiaid, wedi dadlau o blaid ‘proffeilio’ pobl sy’n ‘edrych yn Fwslemaidd’ mewn meysydd awyr (hynny yw, eu targedu ar gyfer chwiliadau diogelwch pellach), wedi cyfiawnhau artaith, a hefyd (ar ffurf ‘arbrawf feddyliol’) wedi cefnogi’r syniad o daro’n gyntaf yn erbyn jihadwyr gyda bom niwclear. Ar ben hyn, mae ganddo obsesiwn sinistr gyda’r syniad bod gwahaniaethau IQ i’w gweld rhwng grwpiau ethnig (oes angen dyfalu pwy sydd ar y brig?). Er nad oes tystiolaeth o fath yn byd bod hynny’n wir (nac ychwaith bod ‘hil’ yn gysyniad gwyddonol ystyrlon yn y lle cyntaf), mynna Harris bod y gwrthwynebiad i’r syniad hwn wedi’i seilio ar ‘politically-correct moral panic’.

Ystyrir Daniel Dennett y mwyaf cymhedrol o’r Marchogion. Efallai bod hynny, yn fwy na dim, oherwydd ei fod yn gymharol dawel ar y cyfryngau cymdeithasol, ac felly heb eto roi ei droed ynddi. Beth bynnag, mae gan o leiaf dri o’r Pedwar Marchog hanes o ddweud pethau afresymol a rhagfarnllyd. Mae gwybod hynny’n bownd o bylu ergyd eu geiriau wrth i ni’u darllen yn cytuno’n hunangyfiawn am bwysigrwydd seilio safbwyntiau ar dystiolaeth a rhesymeg. Mae pawb yn ystyried Rhesymeg yn beth da, ond canlyniad hynny yw ei fod yn colli pob ystyr, gan fod pawb, gan gynnwys llawer iawn o bobl heb yr un asgwrn rhesymegol yn eu corff, yn ei hawlio. Yn anffodus, nid yw’r Marchogion eu hunain wedi dangos eu bod fawr mwy tebygol o ymddwyn yn rhesymegol yn hytrach na bodloni ar ei ddatgan fel rhyw fath o air hud.

Gyda thwf y dde eithafol, mae’r byd wedi newid cryn dipyn ers 2007. Er bod fy naliadau gwrth-grefyddol mor gryf ag erioed, maent wedi syrthio yn fy rhestr flaenoriaethau. Y dde senoffobaidd, adweithiol ac awdurdodaidd yw’r gelyn pennaf erbyn hyn, ac yn hynny o beth mae’n amhosibl ystyried pobl fel Sam Harris ar yr un ochr â mi. Bu llawer gormod o or-gyffwrdd rhwng yr alt-right ac elfennau o’r Anffyddiaeth Newydd, er mai Donald Trump, y godinebwr celwyddog di-foes, yw’r arlywydd mwyaf poblogaidd erioed ymysg efengylwyr America.

A yw tranc yr Anffyddiaeth Newydd yn barhaol, felly? Ni fuaswn i’n dweud hynny. Gan nad yw crefydd am ddiflannu, bydd galw o hyd am fudiad sy’n fodlon herio’i nonsens. Mae’n holl-bwysig, fodd bynnag, bod unrhyw Anffyddiaeth Newydd Newydd yn cofleidio amrywiaeth y byd modern, yn rhoi llwyfan i leisiau gwahanol, a chroesawu pawb. Methiant mawr chwyldro The Four Horsemen oedd peidio dangos sut y byddai byd heb grefydd yn rhagori ar yr un presennol. Os na fydd y chwyldro nesaf, os cawn un, yn cyflawni hynny, byr-hoedlog fydd hwnnw hefyd.

29/08/2020

Ysgrif gen i yn O'r Pedwar Gwynt

Braint fawr oedd cael cyfrannu ysgrif i rifyn diweddaraf fy hoff gylchgrawn, O'r Pedwar Gwynt. Adolygiad yw'r erthygl o'r llyfr The Four Horsemen, sef trawgrifiad o sgwrs Richard Dawkins, Sam Harris, Daniel Dennett a'r diweddar Christopher Hitchens yn 2007 ynghylch crefydd a'i diffygion. Roedd adolygu'r gyfrol yn gyfle i ofyn beth aeth o'i le gyda'r Anffyddiaeth Newydd fel mudiad.

Mae'r ysgrif ar gael i danysgrifwyr O'r Pedwar Gwynt, ar eu gwefan.



22/07/2018

Pwysigrwydd cyfiawnder cymdeithasol

Un o'r cwynion pennaf am Leanne Wood, sy'n wynebu her ffurfiol i'w harweinyddiaeth ar hyn o bryd, yw ei bod yn treulio gormod o amser yn hyrwyddo 'niche issues'. Hynny yw, materion cymdeithasol megis hawliau menywod a lleiafrifoedd ethnig a rhywiol. Efallai bod modd dadlau, ar sail pragmatiaeth, bod y diffyg sylw a roddir i Blaid Cymru ar lefel Brydeinig yn golygu bod angen dewis un neges graidd a hyrwyddo honno, ar draul popeth arall, bob cyfle. Ond yr awgrym yn y geiriau anffodus uchod yw nad yw cyfiawnder cymdeithasol yn bwysig mewn gwirionedd.

Y pwynt amlwg cyntaf i'w nodi yw bod llawer o elynion Plaid Cymru'n teimlo'n gryf bod yr iaith Gymraeg ymysg y pethau hynny nad ydynt yn bwysig. Ond beth yw hawliau ieithyddol y Cymry os nad mater o gyfiawnder cymdeithasol? Go brin bod yna lawer o aelodau Plaid Cymru sy'n teimlo mai 'niche issue' yw'r iaith Gymraeg, ond dyna ni. Mae hynny'n wahanol, am resymau dirgel.

Oes angen ennill annibyniaeth cyn gallu canolbwyntio ar sut le fydd y Gymru annibynnol honno?  Rwy'n gallu deall dyhead pobl i geisio apelio i bawb. Mae pob mudiad gwleidyddol yn awyddus i ddenu cymaint o bobl ag sy'n bosibl, wedi'r cyfan, a'r ddadl bragmataidd, fe honnir, yw bod angen i union wleidyddiaeth y Gymru rydd aros yn amwys nes iddi gael ei gwireddu. Ond pa mor ymarferol yw hynny mewn gwirionedd? Er mwyn i ddigon o bobl ddeisyfu Cymru annibynnol, mae angen cydio yn eu dychymyg, ac er mwyn gwneud hynny mae angen dangos, cyn dechrau, sut yn union fyddai pethau'n newid yn eu bwydau pob dydd. Mantais arall yw ei fod yn fodd o wrth-ddweud yr ystrydeb diog a syrffedus am genedlaetholwyr fel pobl gul ac adweithiol.

Mae'r ddadl ynghylch blaenoriaethu cyfiawnder cymdeithasol yn gyffredin iawn mewn amryw o fudiadau. Rwyf wedi trafod, hyd syrffed bron, sut y mae'r un ffrae yn union wedi hollti'r mudiad anffyddiaeth. Siom oedd gweld cynifer o anffyddwyr amlwg yn mynegi dirmyg tuag at y 'social justice warriors', gan fynnu mai'r cyfan yw anffyddiaeth yw 'diffyg ffydd mewn duw' a dim byd mwy. Ond os mai dyna'n unig yw anffyddiaeth, faint o bwynt sydd iddi? Nid yw'n gwneud synnwyr i wrthwynebu crefydd heb hefyd gywiro'r anghyfiawnderau a gafodd gymaint o gefnogaeth ganddi ar hyd y blynyddoedd.

Felly hefyd am Gymru annibynnol. Rhaid egluro'n union sut y bydd yn rhagori ar y Deyrnas Unedig a'i holl anghyfiawnderau hithau. Yn union fel nad oes modd gwahanu cyfiawnder cymdeithasol oddi wrth anffyddiaeth, rhaid iddo ddod law yn llaw â Chymru rydd yn ogystal.

01/02/2017

Blogio am anffyddiaeth tra mae'r byd yn mynd i'r gwellt

Blog am anffyddiaeth yw hwn. Gan fod y pwnc hwnnw'n eang iawn, mae'n caniatáu i mi drafod gwleidyddiaeth yn fynych. Yn wir, rwyf wedi dweud droeon nad yw gwrthwynebu crefydd heb drafod gwleidyddiaeth yn gwneud synnwyr. Mae hyrwyddo hawliau sifil, cydraddoldeb, democratiaeth a rhyddid yn ran annatod o anffyddiaeth; yn hanesyddol, crefydd sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am amharu ar y pethau da hynny.

Yn anffodus, mae fy mlogiadau wedi mynd ychydig yn llai rheolaidd yn ddiweddar, ac er bod hynny i raddau helaeth oherwydd y ffaith bod gennyf fabi, rwy'n rhoi llawer o'r bai ar Donald Trump. Pan rwyf wedi blogio tros y flwyddyn ddiwethaf, y ffasgydd twp oren oedd y pwnc yn amlach na pheidio. Ers iddo gyhoeddi'i fwriad i sefyll, mae twf Trumpaeth wedi datblygu'n dipyn o obsesiwn i mi. Rwy'n treulio llawer mwy o amser nag sy'n iach yn darllen am yr hyn sy'n digwydd yn America, a'n colli gobaith yn gyffredinol am gyfeiriad y byd yn ehangach. Ni fynnaf ddiflasu'r ychydig ddarllenwyr sydd gennyf, fodd bynnag, a chan fod Trump ymhob man yn barod, rwy'n ceisio osgoi swnio fel tôn gron am y peth fan hyn (mae fy ffrwd Twitter yn fater arall).

Mae'n wir hefyd bod rôl crefydd yn yr hyn sy'n digwydd yn gymhleth. Petai rhywun wedi dweud wrthyf ddegawd yn ôl y byddai'r dde eithafol yn cipio grym yn America, buasai wedi bod yn rhesymol i mi dybio mai ffwndamentaliaid Cristnogol fyddai wrthi. Ond fel y digwyddodd pethau, nid yw Trumpaeth mor syml â hynny. Mae llawer iawn o bleidleisiwyr Trump yn ffitio'r disgrifiad hwnnw, wrth reswm, ond go brin bod y ffasgydd twp oren ei hun yn gwneud. Nid yw Trump yn ddigon deallus i ffurfio safbwyntiau diwinyddol y naill ffordd na'r llall, ond nid oes cysur yn hynny, gan y bydd yn berffaith hapus i daflu cig coch at y ffwndamentaliaid er mwyn cadw'u cefnogaeth. Hiliaeth a misogynistiaeth - panig ynghylch tranc arfaethedig statws goruchafol y dyn gwyn - yw craidd Trumpaeth mewn gwirionedd, ac er bod crefydd yn chwarae rhan fawr yn hynny, rwy'n gorfod derbyn nad dyna lle mae'r bai i gyd. Ysywaeth, mae llawer o'r 'alt-right', yn enwedig y rhai ifainc, yn ddigon seciwlar.

Efallai bod fy mlaenoriaethau yn newid, felly. Nid yw fy safbwyntiau yngylch crefydd wedi newid o gwbl: lol yw'r cwbl o hyd. Ond yr hyn sy'n fy mhryderu fwy na dim yn y byd erbyn hyn yw dirywiad democratiaeth a thwf y dde adweithiol. Awtocrat yw Trump, ac mae'r difrod a gyflawnodd yn ei wythnos gyntaf, heb sôn am beth sy'n mynd i ddigwydd dros bedair blynedd, yn frawychus. Nid dim ond America sy'n wynebu'r broblem hon, wrth gwrs. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae democratiaeth wedi cilio yn Rwsia, Twrci, Gwlad Thai, a'r Ffilipinau. Mae hyd yn oed gwledydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd, fel Hwngari, Gwlad Pwyl, Slofacia a'r Weriniaeth Siec wedi dechrau dilyn trywydd awtocrataidd, ac mae'r dde senoffobig ar gynnydd mewn sawl gwlad orllewinol arall, gan gynnwys Prydain. Ar ben hynny, mae gwledydd nad oedd hyd yn oed yn ddemocrataidd o gwbl yn y lle cyntaf, fel China, wedi dechrau canoli a thynhau grym drachefn yn hytrach na chymryd camau i'r cyfeiriad arall. Mae pethau'n edrych yn dduach o lawer nag yr oeddent ddegawd yn ôl.

Rwyf o hyd wedi gwrthod y syniad bod democratiaeth a rhyddid yn anochel o gynyddu gydag amser, ac rwy'n gofidio bod y degawd presennol yn fy mhrofi'n gywir. Mae gobaith mai blip dros dro - ochenaid olaf yr hen ddyn gwyn blin cyn i rymoedd demograffig ei drechu - yw hyn. Gallaf ddeall y demtasiwn i obeithio y bydd popeth yn gwella ar ôl i'r baby boomers hunanol farw allan ymhen degawd neu ddau. Ond gochelwn rhag disgwyl yn ddiog i'r gwellhad hwnnw ddigwydd yn awtomatig. Mae am fod yn frwydr, ac yn hynny o beth, mae llawer o grefyddwyr rhyddfrydol am fod ar yr un ochr â mi.

04/12/2016

Dyneiddiaeth

Lansiwyd Dyneiddwyr Cymru, cangen o'r Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain, wythnos diwethaf, ac i gyd-fynd cafwyd arolwg barn newydd sy'n dangos bod 51% o Gymry bellach yn ystyried eu hunain yn anghrefyddol. Bûm yn trafod y canlyniadau hynny, a dyneiddiaeth yn gyffredinol, ar Taro'r Post (dechrau ar ôl 25:45).

Mae'n bwysig cofio'r caveats arferol wrth ystyried arolygon barn am bwnc mor bersonol a goddrychol. Mae diffiniad pobl o grefydd yn amrywio, ac mae'n debygol bod llawer o'r bobl hynny sy'n ystyried eu hunain yn 'anghrefyddol' yn parhau i gredu mewn rhyw fath o dduw. Vice versa, fe ddichon bod llawer hefyd yn galw'u hunain yn Gristnogion am resymau diwylliannol, er mai'r unig adegau maent yn meddwl am y pwnc yw pan mae rhywun o YouGov yn gofyn y cwestiwn. Eto i gyd, rwy'n credu bod y patrwm dros amser yn amlwg: mae crefydd, ar y cyfan, yn dirywio. Parhau i ddirywio fydd ei thynged, hefyd, gan fod yr 'anghrefyddol' yn llawer iawn mwy niferus ymysg y to ifanc. Mae hyn i gyd yn newyddion da iawn, wrth gwrs.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng anffyddiaeth a dyneiddiaeth, felly? Yn bersonol, rwy'n cofleidio'r ddwy label, a buaswn yn hapus i wneud y ddwy gyfystyr â'i gilydd yn llwyr. Gwn fod ambell un yn gwrthwynebu hynny: mae rhai anffyddwyr yn mynnu mai'r cyfan yw anffyddiaeth yw 'diffyg cred mewn duw', ac nad oes ganddi unrhyw beth i'w ddweud am y byd y tu hwnt i hynny. Fel rwyf wedi'i grybwyll sawl tro ar y blog, rwy'n credu bod hynny'n hurt.

Mae elfen o wirionedd i'r caricature o anffyddwyr fel pobl hunan-fodlon sy'n mwynhau galw pobl grefyddol yn dwp ar y we. Rwyf wedi gwneud hynny fy hun, ac mae'n gallu bod yn llawer o hwyl. Ond rwy'n gyndyn bod angen i anffyddiaeth olygu mwy na hynny. Mae goblygiadau anferthol i absenoldeb duw, a dylem eu hwynebu. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl i wrthwynebu crefydd heb wrthwynebu'r rhagfarnau hynny mae crefydd wedi gwneud cymaint i'w hyrwyddo. O'r herwydd, nid wyf yn gallu gwahanu gwerthoedd positif fel cydraddoldeb a hawliau sifil oddi wrth anffyddiaeth ei hun. Dyneiddiaeth yw'r label traddodiadol ar gyfer y casgliad hwnnw o werthoedd positif, ond dylai anffyddiaeth olygu'r un peth yn union yn fy marn i. Ysywaeth, mae'r ffaith i'r ymadrodd 'atheism plus' gael ei fathu rai blynyddoedd yn ôl i ddisgrifio'r fersiwn o anffyddiaeth rwy'n ei disgrifio fan hyn yn awgrymu ein bod wedi colli'r ddadl.

Mae'r anghrefyddol yn cofleidio nifer o labelau gwahanol: anffyddwyr, dyneiddwyr, freethinkers neu rationalists. I mi, maent i gyd yn gyfystyr, a llai dryslyd fyddai i ni gyd ddewis un. Fel yr awgrymais, buaswn i'n ffafrio 'anffyddiaeth' i gwmpasu'r cyfan. Eto i gyd, ac er nad yw anffyddiaeth geidwadol yn gwneud synnwyr fel cysyniad, rwy'n cydnabod bod pobl yn bodoli sy'n gwrthod bodolaeth duw ond sydd, am ba bynnag reswm, yn parhau i wrthwynebu syniadau fel ffeminyddiaeth. Petai rhaid i mi ddewis, byddai'n well gennyf Gristion blaengar ei gwleidyddiaeth nag 'anffyddiwr' fel yna sy'n gwadu bodolaeth duw heb wrthod y rhagfarn (er bod rhesymeg y ddau yr un mor od i mi). Mae cydraddoldeb a hawliau sifil yn bwysicach na labelau, ac, yn wir, yn bwysicach na materion diwinyddol.

25/09/2016

Wedi'r Chwyldro

Os oes un thema gyson i wleidyddiaeth y blynyddoedd diweddar, yna dyhead cynifer i gicio'r 'sefydliad' yw hwnnw. Eu cwyn, mae'n debyg, yw bod y bobl sydd â grym wedi colli cysylltiad â'r werin gyffredin, felly mae rhaid troi at bobl 'o'r tu allan' er mwyn ysgwyd pethau.

Mae hyn yn deg i raddau. Mae cyflwyno gwaed newydd a phersbectifau gwahanol i'r  dosbarth llywodraethol yn amlwg yn gallu bod yn fuddiol, ac mae cadw ein harweinwyr ar flaenau'u traed yn hanfodol. Ond yn anffodus, ymddengys bod llawer o bobl bellach yn ystyried bod yn 'wrth-sefydliadol' yn rhinwedd ynddo'i hun. Eu hunig ystyriaeth yw sicrhau bod y 'sefydliad' presennol yn cael cweir.

Mae cael gwared ar 'y sefydliad' yn amhosibl, wrth gwrs, felly mae'n ddwl bod cynifer yn ei drin fel cysyniad haniaethol. Mae cicio'r sawl sydd mewn grym allan yn golygu gosod pobl eraill yn eu lle, ac hyd yn oed os yw'r bobl hynny wedi dod o'r 'tu allan', trwy gipio'r awennau mae'r rheiny wedyn yn dod yn aelodau o'r 'sefydliad'. Os cael rhyw fath o lywodraeth (ac oni bai eich bod yn anarchydd, mae rhaid), rhaid cael sefydliad. Nid yw hyn yn gymhleth.

Am ryw reswm, mae llawer yn dymuno i'w harweinwyr fod yn debyg iawn iddynt hwy'u hunain. Rwy'n casáu, â chas perffaith, y syniad mai'r ystyriaeth bwysicaf wrth ddewis eich hoff ymgeisydd yw 'pa un fyddai'n cynnig y gwmnïaeth orau dros beint?' Dylai'r bobl sy'n rhedeg y wlad fod yn llawer iawn iawn galluocach na fi. Mae rhedeg llywodraeth yn gamp rhyfeddol o anodd; ni ddylai fod yn swydd y gall unrhyw un ei chyflawni. Mae rhaid iddi fod yn swyddogaeth elitaidd yn ei hanfod.

Nid oes gan y 'sefydliad' ddiffiniad clir. Mae Nigel Farage yn ffigwr gwrth-sefydliadol poblogaidd, er ei fod yn filiwnydd a wnaeth ei ffortiwn yn y Ddinas ac sydd bellach yn wleidydd proffesiynol. Yn y cyfamser, mae Donald Trump wedi seilio'i holl ymgyrch arlywyddol ar y syniad ei fod yn eithriadol o wrth-sefydliadol, ond os nad yw biliwnydd sydd wedi bod yn ffigwr amlwg ers degawdau yn aelod o'r 'sefydliad', pwy ddiawl sydd? Dyna ddau ddyn sydd wedi llwyddo i feithrin y myth eu bod yn un o'r bobl gyffredin, er bod y syniad yn chwerthinllyd mewn gwirionedd. Dyma sut sut y darbwyllwyd cynifer o Lafurwyr traddodiadol, sy'n casáu'r Ceidwadwyr, i droi at UKIP, a hynny'n groes i'w buddiannau'u hunain gan fod y blaid honno'n fwy Thatcheraidd na Thatcher ei hun.

Yn achos Bernie Sanders, mae'r ffigwr gwrth-sefydliadol hwnnw wedi bod yn aelod o Gyngres UDA ers 1991. Rwy'n edmygu Bernie, a'n gresynu na chafodd enwebiad arlywyddol y Democratiaid, ond mae rhai o'i gefnogwyr yn dangos yn gliriach na dim bod y dicter gwrth-sefydliadol presennol yn gallu mynd yn hurt. Rwyf wedi sôn hyd syrffed am bobl sydd wedi pwdu wedi i Clinton ennill enwebiad y blaid, ac sydd o'r herwydd am gefnogi Trump neu Gary Johnson, ymgeisydd y Libertarians. Ymhob achos, mae Trump (sy'n ffasgydd) a Johnson (sydd am weld y wladwriaeth yn crebachu'n ddim ac sy'n credu mai'r farchnad yw'r ateb i bob un o broblemau bywyd) yn benderfynol o chwalu a datgymalu pob un dim sy'n annwyl i Sanders. Gallwn felly ddiystyru'r posibilrwydd bod y bobl hyn wedi cefnogi Sanders am resymau egwyddorol. Chwyldro er mwyn chwyldro yw eu nod. Chwalu'r consensws presennol heb boeni dim am yr hyn a fyddai'n cymryd ei le, hyd yn oed os yw'n arwain at ffasgaeth. Rwy'n ystyried yr agwedd yna'n bathetig o blentynnaidd.  Rwy'n berwi â dirmyg at bobl fel hyn ar y funud.

Nid yw dymchwel y system bresennol yn ddigon felly. Mae'n hanfodol sicrhau bod rhywbeth gwell ar gael i'w osod yn ei le. Mae torri pethau'n hawdd. Gall unrhyw dwpsyn wneud hynny. Adeiladu yw'r gamp.

Fel mae'n digwydd, mae hyn yn berthnasol i ddadl fawr sydd wedi hollti'r 'mudiad anffyddiaeth' (os gellir ei alw'n hynny) ers ychydig o flynyddoedd bellach. Mae yna garfan sy'n mynnu mai'r cyfan yw anffyddiaeth yw'r diffiniad geiriadurol 'diffyg ffydd mew duw', a dyna ni. Yn ôl yr anffyddwyr hyn, nid oes gan anffyddiaeth unrhyw beth pellach i'w ddweud am yr hyn a ddylai gymryd lle crefydd. Rwy'n anghytuno'n chwyrn â'r safbwynt hwnnw. Mae goblygiadau anferthol i'r ffaith bod duw'n absennol, ac rwy'n mynnu bod cyfrifoldeb ar anffyddwyr sy'n dadlau'n erbyn crefydd i egluro sut fyd yr hoffem ei weld. Mae hyn yn anorfod yn golygu pwysleisio cyfiawnder cymdeithasol. Wedi'r cyfan, crefydd sy'n gyfrifol am lawer o'r gormes a ddioddefir gan fenywod, pobl gyfunrywiol a lleiafrifoedd ethnig (ac, yn wir, lleiafrifoedd crefyddol), ac fe ddylai cefnogi'r frwydr i sicrhau cydraddoldeb yn y meysydd hyn fod yn rhan annatod o anffyddiaeth ei hun. Nid yw'n gwneud synnwyr i gael gwared ar grefydd heb geisio cael gwared ar y rhagfarnau hynny sydd wedi bod mor ddibynnol arni ar hyd y blynyddoedd.  Hawdd yw dangos pam mae crefydd yn anghywir. Mae'r gwaith caled yn dod wedyn.

31/03/2016

Duw Yw'r Broblem

Nid fy ngeiriau i, ond teitl llyfr newydd gan Aled Jones Williams a Chynog Dafis. Rwyf wedi prynu'r gyfrol (mae'r teitl yn apelio, wedi'r cyfan), ac wedi darllen tua'i chwarter hyd yn hyn.

Mae'r awduron, er yn galw'u hunain yn Gristnogion, yn gwadu bodolaeth y duw personol, Cristnogol, traddodiadol. Cyn i mi ddechrau darllen, fy nhybiaeth oedd eu bod am arddel rhyw fath o ddeistiaeth, ond maent yn mynd ymhellach na hynny, gan wrthod y syniad o fod goruwchnaturiol yn gyfan gwbl. Er eu bod yn gwrthod pob athrawiaeth a gysylltir â'r grefydd honno, maent yn mynnu mai Cristnogion ydynt o hyd, a'n ymwrthod yn gyndyn â'r label 'anffyddiaeth'. Dyma un o'r pynciau a gafodd sylw gan Taro'r Post heddiw, ac roeddwn i'n un o'r cyfranwyr (mae cyfweliad gyda Chynog Dafis yn dechrau ar ôl 37:50, a'm hymateb i a chyfranwyr eraill ar ôl 48 munud).

I bob pwrpas, maent eisoes wedi gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith o ddiosg eu crefydd, ac un cam bach pellach yn unig sydd ei angen arnynt er mwyn cyrraedd anffyddiaeth. Er eu bod yn diffinio'r fersiwn gyfarwydd o dduw allan o fodolaeth, maent yn dal eu gafael ar ryw gysyniad annelwig, cymylog, llithrig, trosiadol, a galw hwnnw'n dduw yn ei le. Afraid dweud nad yw hyn yn dal dŵr yn fy marn i. Nid yw'r 'ysbrydol', beth bynnag yw ystyr hynny, yn gysyniad defnyddiol mewn gwirionedd, ac mae'r dystiolaeth o'i blaid yr un mor absennol ag ydyw yn achos y syniadau crefyddol mwy traddodiadol.

Yn ei gyfweliad yntau, un o ddiffiniadau Cynog Dafis ar gyfer 'ffydd' yw 'cydymdeimlad at gyd-ddyn'. Diau bod y diffiniad yna'n un diarth i 99% o Gristnogion, ond dyna'r rheswm am y llyfr, am wn i. Rwy'n credu ei fod yn ddiffiniad digon anghynnes, a bod yn onest. Go brin mai ei fwriad yw awgrymu bod gan grefydd fonopoli dros y syniad o 'fod yn berson dymunol', ond felly mae'n swnio i mi. Rwy'n gwneud fy ngorau i drin fy nghyd-ddyn â pharch ac i fod yn berson da, ond nid yw hynny'n fy ngwneud yn Gristion o fath yn y byd. Nid oes angen ffydd i fod yn dda, ac nid oes gennyf syniad yn y byd sut y byddai derbyn syniadau 'crefyddol' neu 'ysbrydol' yn fy ngwneud yn berson gwell.

Chwarae gemau di-angen yw diffinio 'ffydd' neu 'dduw' fel hyn. Rwy'n hapus i dystio bod y teimlad o ryfeddod wrth syllu ar y sêr ar noson glir, neu'r teimlad o gariad wrth edrych ar wynebau hapus ein plant, yn hynod ddwfn. Gallant deimlo'n anesboniadwy o gryf. Ond nid yw eu mynegi mewn termau 'crefyddol' neu 'ysbrydol' yn ychwanegu unrhyw beth o gwbl. Fflwff ffug-ddwys yw hyn mewn gwirionedd.

Fel y soniais, nid wyf wedi gorffen y llyfr eto. Mae'n bosibl iawn y bydd mwy i'w ddweud amdano'n fuan, felly. Yn benodol, rwy'n edrych ymlaen i gyrraedd y darn eithaf helaeth am yr 'Anffyddiaeth Newydd'. Cawn weld faint o dir cyffredin fydd rhyngom.

12/11/2015

Yr astudiaeth yna ynghylch anffyddiaeth ac allgaredd

Bu tipyn o drafod dros y dyddiau diwethaf ynghylch astudiaeth sy'n awgrymu bod plant i rieni di-grefydd yn arddangos mwy o allgaredd na phlant o deuluoedd crefyddol. Gan fod gan gymaint o bobl grefyddol yr argraff mai ganddynt hwy y mae'r monopoli tros foesoldeb ac allgaredd, mae'n debyg bod y newyddion wedi taro nerf.

Awgrymwyd rhai rhesymau posibl am y canlyniadau. Er enghraifft, oherwydd y gred gyffredinol (a di-sail) bod galw'ch hun yn Gristion gyfystyr, yn awtomatig, â bod yn berson moesol a chydwybodol, efallai, yn baradocsaidd, bod hynny'n gallu arwain rhai Cristnogion i anghofio rhoi llawer o bwys ar ymddygiad. Wedi'r cyfan, os ydych eisoes yn 'berson da' yn eich hanfod, nid oes angen ymdrechu i ddangos hynny. Ar y llaw arall, yn achos anffyddwyr, eu hymddygiad yn unig sy'n penderfynu ai person da ydynt ai peidio.

Nid wyf yn siwr a yw hynny'n dal dŵr. Yn wir, dylai anffyddwyr wrthod y demtasiwn i glochdar am yr astudiaeth, sydd, hyd y gwelaf i, yn ddiffygiol. Yn un peth, nid wyf wedi f'argyhoeddi bod 'gêm yr unben' yn ffordd arbennig o effeithiol o fesur allgaredd (yn enwedig mewn plant). A dweud y gwir, rwy'n ansicr ei bod yn bosibl 'mesur' allgaredd mewn modd ystyrlon o gwbl (heb sôn am y ffaith bod modd cwestiynu bodolaeth allgaredd yn y lle cyntaf). Mae gormod o ffactorau amrywiol eraill i'w hystyried, ac mae'n anodd, onid amhosibl, eu rheoli i gyd. Gydag astudiaethau cymdeithasegol, yr her yw sicrhau bod pob ffactor wedi'i reoli heblaw am yr un sy'n cael ei fesur; nid yw'n glir bod hynny wedi digwydd, fan hyn. Yn ogystal, tybwyd ym mhob achos bod safbwynt diwinyddol y plant (os oes modd i blant bach feddu ar y fath beth) yr un fath â rhai eu rheini. Ar ben hyn i gyd, gweddol fach oedd y gwahaniaeth beth bynnag.

Pwyll piau hi, felly. Mae llawer o anffyddwyr wedi bod yn brysur yn rhannu'r newyddion, ond rwy'n ofni eu bod efallai'n euog o rywbeth tebyg i'r Cristnogion hypothetig a ddisgrifiais uchod. Gan fod anffyddwyr i fod yn bobl mwy sgeptigol a rhesymegol, dylem fod yn wyliadwrus nad ydym yn cymryd hynny'n ganiataol. Os ydym yn hawlio rhyw allu arbennig i osgoi llyncu pethau'n ddi-gwestiwn, gall y dybiaeth hunanfodlon honno ein harwain i esgeuluso ein hymddygiad ac i wneud yr union beth hwnnw.

Cyn i unrhyw Gristnogion gynhyrfu gormod o weld anffyddiwr rhonc yn beirniadu'r astudiaeth yma, dyma gloi trwy'u hatgoffa bod hyn i gyd yn amherthnasol yng nghyd-destun yr hen ddadl rhwng crefydd ac anffyddiaeth. Hyd yn oed petai'r gwrthwyneb i ganlyniadau'r astudiaeth yn wir, sef bod ffydd mewn duw yn peri i bobl ymddwyn yn well, ni fyddai hynny'n ddadl o fath yn y byd o blaid crefydd. Y rheswm syml am hynny yw'r ffaith nad oes tystiolaeth o gwbl bod duw yn bod yn y lle cyntaf. Heb y dystiolaeth honno, nid oes pwynt ceisio mynnu bod crefydd a moesoldeb yn mynd law yn llaw. Dadlau o blaid celwydd defnyddiol fyddai hynny.

29/10/2015

Cynnydd anferth yn nifer y di-grefydd yng Nghymru

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi dadansoddiad o sefyllfa crefydd yng Nghymru yn ôl y cyfrifiad diwethaf, ac maent yn ddiddorol tu hwnt (yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd, yn anffodus).

Rwy'n hapus iawn i weld bod y nifer sy'n dweud nad ydynt yn grefyddol wedi dyblu, bron, o 500,000 (18.5% o'r boblogaeth) yn 2001 i 980,000 (32.1%). Yn y cyfamser, mae'r nifer o Gristnogion wedi gostwng o 2.1m (71.9%) i 1.8m (57.6%), a hynny er bod poblogaeth Cymru 160,000 yn fwy yn 2011 nag yn 2001. Mae hyn, wrth reswm, yn codi calon anffyddiwr rhonc fel fi.

Dylid cofio'r cafeatau arferol, serch hynny, gan fod diffiniadau pobl o grefydd yn amrywio. Nid yw'n dilyn, o reidrwydd, bod person 'di-grefydd' yn anffyddiwr. Mae llawer yn ymwrthod â'r label crefydd ond yn galw'u hunain yn 'ysbrydol' (safbwynt sy'n mynd ar fy nerfau, ond mater arall yw hynny). Mae sawl ffordd amgen o fod yn ddi-grefydd hefyd. Fel mae'r adroddiad yn ei ddweud, mae'r 32.1% yma'n cynnwys 'No religion, Jedi Knight, Agnostic, Atheist, Humanist, Heavy Metal, Free Thinker, Realist'.

Ar yr un pryd, fe ddichon bod llawer o bobl sy'n ticio'r blwch 'Cristnogaeth' (neu un o'r crefyddau eraill) yn gwneud hynny am resymau diwylliannol a thraddodiadol; nid ydynt yn arfer y ffydd yn eu bywydau pob dydd, ac nid ydynt yn meddwl rhyw lawer am y mater, ond maent yn parhau i dderbyn y label os yw rhywun yn gofyn.

Nid gwyddoniaeth bur yw holiaduron, felly. Ond dyma'r wybodaeth orau sydd gennym, ac maent yn galonogol. Er bod arolygon gwahanol ynghylch crefydd yn rhoi canlyniadau amrywiol, yn ddibynnol ar eiriad y cwestiynau, mae'r duedd gyffredinol yn amlwg. Edwino y mae crefydd, ac mae 'dim crefydd' - ac anffyddiaeth, fel is-set o'r categori hwnnw - yn mynd o nerth i nerth. Gan fod Cristnogion, y garfan grefyddol fwyaf, yn hŷn, a'r di-grefydd yn ifanc, mae'n anochel y bydd y patrwm yma'n parhau am flynyddoedd i ddod (mae'n wir bod Mwslemiaid yn iau eto, ond mae llawer llai ohonynt). Rwy'n disgwyl y bydd mwyafrif o bobl Cymru'n ddi-grefydd o fewn cenhedlaeth, ac rwy'n falch dros ben am hynny.

06/07/2015

Cymru: Dal I Gredu?

Roedd cyfres o dair rhaglen, Cymru: Dal I Gredu, yn gorffen ar S4C heno. Roeddwn i'n ymddangos yn y rhaglen olaf (28 munud i mewn, ond wrth gwrs dylech wylio'r rhaglen gyfan, a'r ddwy flaenorol hefyd).

Cyn-efengylwr yw Gwion Hallam, y cyflwynydd, sydd bellach wedi colli'i ffydd ond sy'n petruso o hyd ynghylch galw'i hun yn 'anffyddiwr'. Mae'r gyfres yn ei ddilyn wrth iddo deithio'r wlad yn cwrdd â phobl o bob ffydd, a heb ffydd, er mwyn gweld beth yw cyflwr crefydd yng Nghymru heddiw. Mae'n werth ei gwylio.

Nid wyf yn siwr pa mor llwyddiannus oeddwn i wrth geisio'i ddarbwyllo i gofleidio'r label. Yn ôl pob tebyg, mae ein safbwyntiau diwinyddol (neu, yn hytrach, eu habsenoldeb) yn bur debyg, felly mater semantig yw hyn mewn ffordd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig bod anffyddwyr yn defnyddio'r gair hwnnw er mwyn disgrifio'u hunain, hyd yn oed os nad yw o reidrwydd yn ddyletswydd ar bob un ohonom i ddadlau'n gyhoeddus am y pwnc. Anffyddiwr fel fi yw Gwion yn barod i bob pwrpas; waeth iddo ymfalchïo yn hynny, ddim!

19/02/2015

Pan mae anffyddwyr yn lladd

Gan fy mod wedi bod yn trafod llofruddiaethau gan derfysgwyr islamaidd yn ddiweddar, gwell fyddai peidio anwybyddu'r newyddion ofnadwy bod anffyddiwr wedi saethu tri mwslem yn farw yng Ngogledd Carolina yr wythnos ddiwethaf.

Mae gwahaniaethau amlwg a sylfaenol, wrth gwrs. Nid yw'n sicr pa mor berthnasol oedd anffyddiaeth Craig Hicks  wrth iddo wneud yr hyn a wnaeth; mae'n debyg mai ffrae ynghylch llefydd parcio oedd asgwrn y gynnen. Yn achos yr ymosodiadau ym Mharis a Chopenhagen, ar y llaw arall, roedd cymhellion crefyddol ac ideolegol y llofruddwyr yn hollol ddi-amwys. Eto i gyd, mae marwolaethau torcalonnus Deah Shaddy Barakat, Yusor Mohammad Abu-Salha a Razan Mohammad Abu-Salha yn codi cwestiynau am natur anffyddiaeth, troseddau casineb, a'r disgwyliad bod aelodau o leiafrifoedd yn condemnio popeth drwg a gyflawnir gan unrhyw aelodau eraill o'r lleiafrifoedd hynny.

Rhoddodd y cyfryngau Americanaidd gryn sylw i'r ffaith bod cyfrif Facebook Hicks yn llawn deunydd gwrth-grefyddol, gan ofyn a ydynt wedi'i ddylanwadu i gyflawni'r fath drosedd. Mae hynny'n destun ychydig o ofid ar un olwg, oherwydd, wel, mae f'un innau hefyd. Ond dylid pwysleisio nad oedd unrhyw awgrym yn y stwff yma ei fod yn arddel trais. Yn wir, dywed yn blaen, ar fwy nag un achlysur, ei fod yn cefnogi hawl pob person i arddel a mynegi ffydd grefyddol, ac mae ei safbwyntiau yn gyffredinol yn ddigon blaengar. Buaswn yn cyd-fynd yn llon â llawer. Hyd y gwelaf i, y gwahaniaeth mwyaf rhyngddo a mi yw ei hoffter o ddrylliau a'r hawl i'w cadw (gyda chanlyniadau trychinebus yn yr achos hwn).

Efallai wir mai ffrae wirion am le i barcio car oedd wrth wraidd y digwyddiad. Mae rhai anffyddwyr wedi defnyddio hyn er mwyn osgoi'r cwestiynau uchod ac i wadu'r posibilrwydd bod ei anffyddiaeth wedi chwarae rhan. Yn bersonol, nid wyf yn credu bod hynny'n dal dŵr. Os mai dyna'r rheswm y lladdwyd y tri pherson yma, faint o ryddhad yw hynny mewn gwirionedd o'n safbwynt ni? Mae lladd pobl oherwydd llefydd parcio yn boncyrs. Red herring yw'r ffrae am barcio, mewn gwirionedd. A fyddai Hicks wedi saethu tri pherson yn farw, mewn amgylchiadau cyffelyb, pe na baent yn fwslemiaid? Mae'n gwestiwn teg, heb fodd o ganfod yr ateb. Rwy'n ei chael yn anodd anwybyddu'r posibilrwydd y byddai wedi bod yn llai tebygol o wneud hyn petaent yn wyn.

Mae rhai wedi galw'r llofruddiaethau'n weithred derfysgol, a pham lai? Beth bynnag oedd cymhelliad Hicks (ac mae'n bosibl iawn na chawn fyth ateb clir), mae'r sgil-effeithiau yr un fath â gweithred derfysgol glasurol. Arbrawf meddwl defnyddiol ar adegau fel hyn yw dychmygu'r gwrthwyneb: petai mwslem wedi saethu tri Christion neu anffyddiwr gwyn yn farw, ffrae am barcio neu beidio, gallwch fod yn sicr mai terfysgaeth fuasai'r gair. Er gwell neu er gwaeth, mae pwy laddodd pwy yn ffactor lawn mor arwyddocaol â'r weithred ei hun. Nid oes modd dadansoddi troseddau fel hyn mewn modd haniaethol. Oherwydd hyn, rwy'n teimlo'r angen i wneud pwynt o gondemnio'r lladd.

Rwyf wedi bod yn dweud ers peth amser bod angen i anffyddiaeth fod yn fwy na 'diffyg cred mewn duw' yn unig, dim ots beth a ddywed yr anffyddwyr hynny sy'n hoff o chwifio geiriaduron. Cyhuddiad crefyddol cyffredin iawn yn erbyn anffyddiaeth yw ei bod yn arwain at wacter moesol. Nid yw achosion fel hyn yn help o gwbl. Dyma'n union pam nad yw 'dim duw' yn ddigon. Mae gan anffyddiaeth oblygiadau, ac mae'n amhosibl gwahanu'r ddau beth. Rhywsut neu ei gilydd, cafodd yr anffyddiwr penodol hwn yr argraff bod lladd tri mwslem yn syniad gwerth chweil. Dylem gondemnio hynny'n chwyrn, ac egluro bod anffyddiaeth yn golygu ein bod i gyd yn rhannu planed heb oruchwyliaeth ddwyfol. Ein hunig ddewis yw canfod ein moesoldeb yn ein perthynas â'n gilydd, a thrin eraill fel y dymunem iddynt ein trin ninnau.

15/02/2015

Bwrw Golwg

Roeddwn ar Bwrw Golwg y bore 'ma (10:20 i mewn), yn trafod anffyddiaeth a'r blog. Y rheswm oedd canlyniadau arolwg a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnos: mae'n debyg bod 42% o bobl y Deyrnas Gyfunol bellach yn dweud nad ydynt yn grefyddol, a bod 19% hyd yn oed yn cofleidio'r label 'anffyddiwr'. Mae'r ffigurau hyd yn oed yn uwch ar gyfer y genhedlaeth iau. Calonogol iawn, wrth gwrs.

Roeddwn yn hapus â'r sgwrs ar y cyfan, er fy mod yn gwybod yn iawn sut y gallaswn fod wedi gwella rhai o'r atebion. Yn arbennig, rwyf wedi bod yn gwingo, bron yn barhaus, ers i'r gair 'gwrywgydiaeth' lithro allan o'm ceg wrth recordio'r eitem. Mae'n air gwirion, ac nid oes gennyf syniad pam y'i dywedais. Fel un sydd wedi dweud droeon bod angen i bawb roi'r gorau i'w ddefnyddio, mae'n destun embaras. Buaswn yn pledio nerfusrwydd, ond mae'n esgus dila braidd. Ymddiheuriadau i bawb arall sy'n casáu'r gair.

Gwn mai'r ateb gwanaf oedd i'r cwestiwn ynghylch Cristnogion sy'n cael eu hysbrydoli gan eu ffydd i arddel safbwyntiau digon blaengar. Mae'n amlwg bod hynny'n wir am lawer iawn o Gristnogion, fel y cydnabyddais. Ond byddai ymateb gwell wedi mynd ati i egluro mai problem crefydd fan hyn yw ei bod fel canfas gwag i raddau helaeth. F'argraff i yw y byddai Cristnogion blaengar yn arddel y safbwyntiau rhyddfrydol hynny beth bynnag, ffydd neu beidio. Cyfiawnhad post hoc yw'r ddiwinyddiaeth. Rwyf wedi cyffwrdd ar y pwnc hwn mewn cofnod blaenorol hefyd.

Dywedodd y Parchedig Pryderi Llwyd Jones rai pethau digon clên am y blog yn ei sgwrs ddilynol yntau, chwarae teg. Wrth gwrs, nid yw mor hoff o'm defnydd o ymadroddion fel 'ofergoeliaeth afresymegol' a 'fflwff diwinyddol ffug-ddwys'. F'amddiffyniad i yw fy mod yn ceisio egluro'n gymharol drylwyr pam fy mod yn credu bod y rhain yn ddisgrifiadau teg. Nid cyhuddiadau ffwrdd-a-hi mohonynt. Gwn nad yw eu defnyddio'n debygol iawn o arwain at berswadio Cristnogion bod eu fydd yn seiliedig ar gelwydd, ond, wel, mae hynny'n annhebygol iawn o ddigwydd doed a ddelo. Os oes gennyf obaith o ddenu unrhyw un i'r gorlan hon, yna pobl sydd ar hyn o bryd ar y ffens yw'r rheiny. Ond yn anad dim, mae'r disgrifiadau'n adlewyrchu fy marn, felly byddai'n anonest i mi'u hosgoi.

19/11/2014

"Mae yna bobl eraill sy'n dioddef yn waeth, felly cau dy geg"

Mae Richard Dawkins wedi bod yn cyfiawnhau yr hyn y mae wedi bod yn ei ddweud am ffeminyddiaeth dros y misoedd diwethaf. Hyn i ddechrau:
“I don’t take back anything that I’ve said,” Dawkins said from a shady spot in the leafy backyard of one of his Bay Area supporters. “I would not say it again, however, because I am now accustomed to being misunderstood and so I will … ”
He trailed off momentarily, gazing at his hands resting on a patio table.
“I feel muzzled, and a lot of other people do as well,” he continued. “There is a climate of bullying, a climate of intransigent thought police which is highly influential in the sense that it suppresses people like me.”
Beth yw natur y 'gormes' yma, tybed? Ah, cael ei feirniadu! Mae'n ddigalon gweld rhywun fel Dawkins yn syrthio i'r un fagl bathetig â chymaint o'i elynion crefyddol. A yw Dawkins, trwy fynegi ei ddirmyg enwog tuag at grefydd dros y blynyddoedd, wedi bod yn euog o ormesu'r ffyddlon o'r herwydd? Naddo, yn amlwg, ac mae'r un peth yn wir pan mai ef ei hun sy'n derbyn y feirniadaeth. Efallai ei fod o hyd yn cael trafferth ymgynefino â'r profiad o gael ei gondemnio gan ei gyd-anffyddwyr. Mae cwyno bod beirniadaeth gyfystyr â sensoriaeth neu fwlio yn chwerthinllyd pan ddaw o enau Cristion, ond mae'n gwbl anfaddeuol yn achos Dawkins, sydd wedi dod yn ddyn hynod gyfoethog a dylanwadol trwy danseilio daliadau diwinyddol cryfion biliynau o bobl.

Mae gwaeth eto i ddilyn:
Dawkins, however, disagrees. He is, he said, not a misogynist, as some critics have called him, but “a passionate feminist.” The greatest threats to women, in his view, are Islamism and jihadism — and his concern over that sometimes leads him to speak off-the-cuff.
“I concentrate my attention on that menace and I confess I occasionally get a little impatient with American women who complain of being inappropriately touched by the water cooler or invited for coffee or something which I think is, by comparison, relatively trivial,” he said.
Mae'n wir mai islamiaeth yw'r bygythiad mwyaf i fenywod. Nis gwn am unrhyw un a fyddai'n dadlau nad yw bod yn fenyw yn Sawdi Arabia neu Affganistan yn waeth o lawer nag yn America neu Brydain. Dadl Dawkins fan hyn yw bod dioddefaint hunllefus cymaint o fenywod mewn gwledydd islamaidd yn golygu na ddylai ffeminyddion gorllewinol gwyno am eu problemau hwythau o gwbl. Hynny yw, mewn termau cyffredinol: os oes rhywbeth gwaeth yn digwydd yn rhywle arall, caewch eich cegau.

Dylai'r broblem fod yn hollol amlwg. Mae yna bob tro broblem waeth yn rhywle arall, felly oni bai eich achos chi yw'r gwaethaf un o'r holl enghreifftiau o ddioddefaint yn y byd, nid yw Dawkins eisiau clywed. Dyna'r rhesymeg, ac mae'n abswrd hyd yn oed ar ei delerau ei hun. Mae'r dyn yn galw'i hun yn ffeminydd, ond os mai dyma yw ffeminyddiaeth nid oes i'r gair ystyr.

Ar ben hynny, mae'r rhagrith yn rhyfeddol unwaith eto. Pa frwydrau y mae Dawkins wedi bod yn eu hymladd dros y degawdau? Yn erbyn ymdrechion i ddysgu siwdowyddoniaeth mewn ysgolion. Yn erbyn gorfodi plant ysgol i weddïo. Yn erbyn y parch awtomatig ac anhaeddiannol a roddir i grefydd yn ein cymdeithas, ac yn y blaen ac yn y blaen. Herio pethau fel hyn sydd wedi bod yn ganolbwynt i'r rhan fwyaf o egni Dawkins ers blynyddoedd maith, a da iawn hynny. Maent yn frwydrau cyfiawn. Ond pam? Mae pethau gwaeth o lawer yn wynebu pobl yn y Dwyrain Canol. Pa ots am ddiffygion mewn gwersi bioleg yn Lloegr pan nad yw merched mewn rhannau helaeth o Bacistan yn cael mynychu ysgol o gwbl? Mae'r problemau ym Mhrydain yn bitw mewn cymhariaeth, felly dylai Dawkins, er mwyn dilyn ei resymu ei hun, roi'r gorau i gwyno amdanynt.

Hyd yn oed pe derbyniwn, er lles dadl, bod ffeminyddion yn bod yn annheg ag ef, mae ei sefyllfa'n ddi-nod o gymharu â'r hyn sy'n digwydd i anffyddwyr mewn rhannau eraill o'r byd. Petai Dawkins yn frodor o Bacistan, mae'n debygol y byddai wedi cael ei lofruddio ymhell cyn hyn. Yn ôl ei ddadl ei hun, felly, dylai gau ei geg a rhoi'r gorau i bwdu am ffeminyddion yn dweud pethau blin amdano ar Twitter.

Mae'n rhyfeddol pa mor ddi-glem a chibddall yw'r sylwadau gan rywun sy'n clodfori rhesymeg a chwestiynu. Gyda llaw, dylai hyn roi'r farwol i'r syniad mai Twitter fel cyfrwng yw problem Dawkins. Dyma oedd ei gyfle i ymhelaethu yn llawn, heb y perygl o'r 'camddealltwriaeth' honedig sy'n gallu deillio o gyfyngder y trydariad. Dyma a gafwyd. Nid y cyfrwng yw'r broblem, ond y dyn ei hun. Nid ni sy'n ei gamddehongli. Dyma'i safbwyntiau, yn blwmp ac yn blaen, ac mae'r safbwyntiau'n drewi. Dylai anffyddwyr anghofio amdano. Mae llond lle o anffyddwyr ardderchog eraill sy'n haeddu'r platfform. Diolchwn iddo am ei waith yn y gorffennol, ond ni welaf i bod gan Richard Dawkins unrhyw beth mwy o werth i'w gynnig erbyn hyn.

14/11/2014

Crefydd: mwy o ddrwg nag o dda

Hoffwn ymhelaethu ar yr hyn a ddywedais ar y radio yn gynharach yn yr wythnos, wrth ddadlau bod crefydd yn gwneud mwy o ddrwg nag o dda.

Y pwynt pwysicaf yw'r ffaith nad oes tystiolaeth o gwbl bod unrhyw grefydd yn wir. Rwy'n credu bod credu pethau anghywir - neu yn benodol, gwadu realiti - yn niweidiol ynddo'i hun, a'n rhywbeth y dylem ymdrechu i'w osgoi. Enghraifft amlwg yw'r modd y mae crefydd yn ysgogi cynifer o'r ffyddloniaid i wadu ffeithiau syml am y byd, fel esblygiad. Yn fwy na hynny, mae rhai'n benderfynol o wthio'u camargraffiadau ar y genhedlaeth nesaf.

Yn hynny o beth, nid yw'r cwestiwn ynghylch rai o rinweddau honedig crefydd yn arbennig o berthnasol. Hyd yn oed petai'n wir bod crefydd yn cynnig cysur, er enghraifft (a na, ni welaf gysur o fath yn y byd yn y syniad o fywyd tragwyddol), byddai'r ffaith ei bod yn ddi-sail ac anghywir yn parhau i olygu bod angen gwrthod y syniad. I mi, o leiaf, gwirionedd sy'n bwysig. Nid oes cysur mewn celwydd.

Yn ail, mae'n amlwg bod crefydd yn aml yn gyfrifol am lawer o ddrwg. Nid wyf erioed wedi awgrymu mai cref'ydd yw ffynhonnell popeth gwael. Petai crefydd yn diflannu yfory, ni fyddai'r byd o reidrwydd yn troi'n berffaith ar unwaith, a byddai'n wirion disgwyl mai dyna fyddai'r canlyniad. Mae gan ormod o bobl ddawn arbennig i ddod o hyd i bob math o resymau dwl i niweidio'u cymdogion ar ein planed.

Eto i gyd, byddai byd heb ffydd grefyddol yn gam i'r cyfeiriad cywir. Fel person â safbwyntiau rhyddfrydol iawn ar faterion cymdeithasol, crefydd yw'r gelyn ym mron pob dadl, er enghraifft ynghylch erthyliad a hawliau menywod, hawliau pobl hoyw, yr hawl i farw, neu'r hawl i ddychanu daliadau ofergoelus ac ati. Creadigaethau dynol yw'r gorchmynion crefyddol sy'n gwrthwynebu cydraddoldeb a hawliau sifil, wrth gwrs. Fel y crybwyllais ar Taro'r Post, rôl Cristnogaeth yn hynny o beth oedd ffosileiddio rhagfarnau a fodolasai ymhlith trigolion anwybodus y Dwyrain Canol ddwy fileniwm a mwy yn ôl. Mae eu troi'n reolau ysgrythurol wedi'i gwneud yn anos i bobl eu herio a'u hanwybyddu (a dyna wrth gwrs oedd y bwriad; mae priodoli'r pethau yma i ryw fath o dduw hollbresennol yn strategaeth wleidyddol ddefnyddiol er dibenion cadw trefn). Heb yr elfen grefyddol, mae'n anodd dychmygu y byddai'r fath ragfarn yn erbyn pobl hoyw, er enghraifft, wedi goroesi i'r fath raddau. Mae rhai o'r gorchmynion crefyddol mwy eithafol wedi cael eu gwanhau neu eu hanwybyddu erbyn hyn, ond dim ond oherwydd dylanwad ffodus moesoldeb seciwlar.

Yn drydydd, rwy'n cwestiynu'r rhesymeg sy'n greiddiol i'r ddadl bod llawer yn cael eu hysbrydoli gan eu ffydd i wneud pethau da a charedig (fel gwaith elusennol gwirfoddol, neu roddi arian ac ati). Mae'n amlwg yn wir bod rhai Cristnogion yn credu bod pethau felly'n elfen ganolog o'u ffydd, ac mae llawer ohonynt, mae'n wir, yn cyfrannu llawer iawn mwy o amser neu arian at achosion da nag yr wyf i. A dweud y gwir, rwy'n lled-gytuno mai gweithredoedd sy'n bwysig. Os yw pobl yn gwneud pethau da, pa ots beth yw'r cyfiawnhad?

Y broblem yw'r honiad cyffredin bod moesoldeb yn deillio o Dduw, sy'n ddadl a ddefnyddir yn fynych yn erbyn anffyddwyr. Yr awgrym amlwg yw na fuasai'r Cristion felly'n gwneud y pethau da hynny pe na baent yn credu bod duw'n bresennol. Fel rwyf wedi'i ddadlau o'r blaen, rwy'n credu bod Cristnogion sy'n dadlau fel hyn yn gwneud cam mawr â'u hunain. Nid yw 'oherwydd dyna ddyhead Duw' yn safbwynt moesol o gwbl. Nid yw chwaith yn gwneud synnwyr i awgrymu bod mwy o reswm i helpu eraill os mai Duw sydd wedi ein creu. Gan fod modd egluro a chyfiawnhau cymhellion altrwistaidd mewn termau seciwlar, nid oes angen Duw o gwbl er mwyn ein hysgogi i wneud pethau da.

Y peth caredicaf y mae modd ei ddweud am grefydd, felly, yw ei bod weithiau yn niwtral o safbwynt moesol. Mewn achosion eraill (fel yn y ddau bwynt cyntaf uchod), mae'n niweidiol i raddau gwahanol. Mae'n ddrwg yn aml, ond byth yn dda.

04/08/2014

Esblygiad a ffydd

Via Morfa Dulas, gwelais yr erthygl yma gan rywun o'r enw Rodney J Scott o'r sefydliad BioLogos. Byrdwn yr ysgrif yw nad oes angen dewis rhwng arddel ffydd Gristnogol a derbyn y ffaith bod bywyd ar y ddaear wedi esblygu dros gyfnod o sawl biliwn o flynddoedd. Hynny yw, mae modd credu yn y ddau beth ac nid ydynt yn gwrthdaro. Nid yw hynny'n syndod, gan mai hyrwyddo negeseuon fel hyn yw holl amcan BioLogos, a sefydlwyd gan Francis Collins. Mae Collins yn fiolegydd uchel iawn ei barch, a'n haeddiannol felly. Ef oedd cydlynydd Prosiect y Genom Dynol, ac mae wedi gwneud llawer o waith arwyddocaol. Mae hefyd yn Gristion efengylol sy'n credu'n daer bod ei ffydd yn gydnaws â gwyddoniaeth.

Mae BioLogos yn ddidwyll yn hyn o beth, ond mae'r safiad hwnnw'n gam strategol call hefyd. Yn amlwg, byddai gorfodi pobl i ddewis yn golygu y byddai rhai, sy'n derbyn yr hyn sydd gan wyddoniaeth i'w ddweud am bynciau fel amrywiaeth bywyd ar y ddaear, yn rhoi'r gorau i'w ffydd. Gwell yw eu darbwyllo bod modd ei chael hi'r ddwy ffordd. Mae'r un peth yn wir y ffordd arall: mae llawer o fiolegwyr esblygiadol, hyd yn oed os nad ydynt yn grefyddol eu hunain, yn dweud nad oes gwrthdaro rhwng syniadau Darwin a chrefydd. Dyna oedd safbwynt y diweddar Stephen Jay Gould, er enghraifft. Petaem yn edrych ar yr ymdrech i ddarbwyllo mwy o bobl i dderbyn theori esblygiad o bersbectif strategol pur, mae'n amlwg mai dyma fyddai'r ffordd gallaf o fynd o'i chwmpas hi.

Ond nid wyf yn credu bod modd credu mewn duw a derbyn a deall esblygiad ar yr un pryd. Efallai wir bod mynnu hyn yn debygol o wthio pobl i ffwrdd yn hytrach na'u denu, ond mae angen dewis. Wrth gwrs mae llawer o bobl yn derbyn y ddau beth, felly oes mae 'modd' gwneud mewn ffordd ddibwys o amlwg. Ond yn fy marn i, mae credu bod Duw wedi'n creu yn fwriadol trwy gyfrwng esblygiad - hynny yw, ei fod wedi llywio'r broses o'r dechrau'n deg, gan ei harwain yn anochel er mwyn ein cynhyrchu ni yn y pen draw - yn methu'r pwynt yn llwyr. Gwers fawr theori esblygiad yw bod y broses yn ddall, ac nad yw'r canlyniadau'n anochel. Petai modd chwarae'r tâp yn ôl ac ail-adrodd datblygiad bywyd o'r gell gyntaf hyd heddiw, byddai'r hyn a welwn yn hollol hollol wahanol. Yn sicr, nid oes rheswm yn y byd i dybio y byddai unrhyw beth tebyg i ni'n ail-ymddangos.

Nid pwynt distadl mo hyn. Os ydych yn credu bod esblygiad yn fodd o gyrraedd pwynt penodol sydd wedi'i benderfynu'n barod, nid wyf yn derbyn eich bod yn deall y theori wedi'r cyfan. Nid yw esblygiad yn gwneud synnwyr oni bai bod duwiau fel yr un Cristnogol yn absennol.

17/07/2014

Un ateb olaf

Mae'n ofer ceisio dal pen rheswm ag Alwyn, felly rwyf wedi rhoi'r gorau i drafferthu ers talwm. Eto i gyd, rwyf newydd sylwi iddo adael sylw dwl arall ar y blog yn ddiweddar ac rwyf am lyncu'r abwyd un tro bach olaf. Once more unto the breach, dear friends, once more. Gydag ochenaid ddofn, dyma ddyfynnu'r sylw:
Mae 'na gwirionedd yn yr hen ddweud "y rhai sy'n curo sy'n caru". I gasáu rhywbeth mae'n rhaid buddsoddi rhywfaint o emosiwn a theimlad iddi, yn yr un modd a mae'n rhaid buddsoddi mewn cariad.

Tybiwn bod 90% o "anghredinwyr" jyst dim yn credu a dyna fo; nid oes gyda nhw barn am grefydd gan bod crefydd yn dibwys iddynt; dydy o ddim yn effeithio ar eu bywydau, dydy o ddim yn bwysig, prin ei fod yn croesi eu meddyliau. Mae nhw'n mynd i gapel neu eglwys i ddathlu bedydd, priodas neu i goffa er mwyn parch i'r teulu heb malio dim am y geiriau na'r defod.

Yr wyt ti, ar y llaw arall, wedi postio tua 5 post y mis am 4 mlynedd yn gwrthwynebu crefydd, yr wyt ti'n buddsoddi emosiwn i fewn i dy anffyddiaeth, difyr byddid gwybod be sy'n gyfrifol am y fath buddsoddiad!

Rwy'n gwybod bydd y sylw yma'n cael ei ddileu, fel mae sylwadau pawb sy'n anghytuno a thi wedi eu dileu. Peth difyr ynddo'i hyn. Pam dy fod mor ansicr o dy ymrwymiad emosiynol i anffyddiaeth, dy fod yn methu goddef gwrthwynebiad iddi?
Diffyg hunan-ymwybyddiaeth llwyr, siwr o fod, sydd i gyfrif am y modd y mae Alwyn yn cyfystyru fy niffyg amynedd ag o'n benodol gydag "anoddefgarwch" yn erbyn pawb sy'n anghytuno â mi'n gyffredinol. Nid yw Alwyn yn cynrychioli pawb sy'n anghydweld â'r blog hwn, diolch byth. Rwy'n hapus i drafod ac anghytuno ag unrhyw un sy'n meddu ar y gallu i ddarllen a deall, ac rwyf wedi gwneud hynny. Nid yw Alwyn ymhlith y fath bobl, dyna i gyd.

Nid oes angen i mi gyfiawnhau fy mlogio iddo nac i neb arall, ac rwyf wedi amlinellu fy nghymhelliad o'r blaen, ond waeth i mi egluro eto. Yn gyntaf, diddordeb pur. Yn syml iawn, rwy'n ymddiddori yn y dadleuon athronyddol, gwyddonol a hanesyddol ynghylch absenoldeb duw. Ond hobi deallusol pur fyddai hynny pe na bai crefydd yn mynnu sathru ar draed pawb arall. Mae'n bur debyg na fuaswn i'n blogio am y stwff yma oni bai am y ffordd y mae crefydd yn ymyrryd â'n hawliau. Lle mae dadlau ynghylch unrhyw fater cymdeithasol, gallwch fentro bod crefydd yn flaenllaw iawn ar yr ochr anghywir. Mae'r rhestr yn faith: yr hawl i farw, rheolaeth menywod dros eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain, hawliau pobl hoyw, yr hawl i ymarfer rhyddid mynegiant trwy ddychan ac yn y blaen ac yn y blaen hyd syrffed. Nid yw'r rhan fwyaf o'r rhain yn effeithio arnaf yn uniongyrchol; nid wyf yn fenyw na'n hoyw nac, ar hyn o bryd o leiaf, yn dioddef o afiechyd annioddefol. Ond rwy'n dadlau'n chwyrn o'u plaid oherwydd rwy'n gyndyn mai dyna'r peth moesol i'w wneud. Rwy'n arddel safbwyntiau cymdeithasol rhyddfrydol cryfion, ac ym mron pob achos, crefydd yw'r gelyn pennaf. Er mwyn hyrwyddo safbwyntiau cymdeithasol moesol, mae rhaid trechu'r hyn sy'n sefyll yn eu ffordd, a'r ffordd orau o wneud hynny yw trwy herio crefydd yn ei chyfanrwydd.

Nid gwahoddiad i drafod ymhellach mo hyn gyda llaw, Alwyn. Does dim byd mwy i'w ddweud. Hwyl.

29/06/2014

Ynghylch gweld salwch meddwl ym mhobman

Cafwyd stori hyll iawn yn ystod yr wythnos, wrth i anffyddiwr o Nigeria gael ei osod mewn ward seiciatryddol, yn groes i'w ewyllys, gan fod ei deulu a doctor lleol yn teimlo bod peidio credu mewn duw yn arwydd amlwg o salwch meddwl.

Mae hyn yn amlwg yn farbaraidd a gwarthus. Ond dylid cymryd y cyfle i gofio bod honni, neu awgrymu, bod gan ein gelynion ideolegol ryw fath o salwch meddwl yn duedd gyffredin. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn euog ohono ar adegau, gan gynnwys fy hun (mae chwiliad sydyn ar y blog hwn yn dangos ei fod yn gyforiog o eiriau fel "gwallgof", "lloerig" a "nyts" wrth i mi ddisgrifio safbwyntiau gwrthun).

Ceir llawer o hanesion tebyg i'r hyn rydym newydd ei glywed o Nigeria. Mae'n hen dric gan adweithwyr crefyddol. Ond dylem gyfaddef bod anffyddwyr yn gallu bod yn euog o neidio i gasgliadau tebyg (gyda'r gwahaniaeth arwyddocaol nad ydym yn gweithredu ar hynny trwy roi pobl dan glo, wrth gwrs). Wrth ystyried creadyddion, neu derfysgwyr crefyddol, neu bobl sy'n credu bod lladd hoywon gyda cherrig yn syniad call, mae'n demtasiwn i'w pardduo trwy awgrymu bod ganddynt rhyw nam meddyliol.

Camgymeriad yw hyn, am sawl rheswm. Yn un peth, mae'n ddiog. Er mor ddwl yw creadaeth fel syniad, y gwir yw bod llawer o'r bobl sy'n ei arddel, a'n enwedig y sawl sy'n weithgar yn ei hyrwyddo, yn ddigon addysgedig a'n berffaith iach eu meddyliau. Mae eu "cyhuddo" o beidio bod yn eu iawn pwyll yn fodd eithaf cysglyd o'u diystyru heb orfod eu herio'n iawn. Trwy ddilyn camresymeg fel hyn i'r eithaf, byddai angen i ni daflu pawb sy'n anghytuno â ni i'r seilam agosaf ar eu pennau. Ysgrifennodd Michel Foucault lyfr enwog am hynny.

Yn ogystal, mae'n anwybyddu beth sydd yn mynd ymlaen mewn gwirionedd. Cymerer, er enghraifft, hanes ofnadwy Elliot Rodger, y llanc o Galiffornia a lofruddiodd chwech o'i gyd-fyfyrwyr (a chlwyfo 13) yn ddiweddar. Cyn y weithred, roedd wedi cyhoeddi "maniffesto" a sawl fideo'n egluro'i fwriad yn glir. Yn fras, roedd yn chwerw yn sgil ei ddiffyg lwc â merched. Mae'n debyg ei fod yn teimlo bod gan ferched ddyletswydd i fod yn serchus tuag ato, a'u bod yn haeddu cael eu cosbi am fethu â gwneud hynny. Misogynistiaeth, felly, oedd yr ysgogiad. Eto i gyd, greddf llawer iawn o sylwebwyr yn y dyddiau wedi'r gyflafan oedd neidio i'r casgliad bod ganddo salwch meddwl (yn enwedig gan fod sibrydion bod ganddo Asperger's, er na chafodd ddiagnosis ffurfiol erioed). Bu cryn dipyn o drafod o fewn y gymuned o anffyddwyr ar-lein hefyd, gan fod cysylltiad (neu beidio) anffyddiaeth â ffeminyddiaeth yn dipyn o bwnc llosg o fewn y mudiad ar hyn o bryd. Roedd yn syndod gweld cynifer o enghreifftiau o'r ddadl bod unrhyw un sy'n gwneud y fath beth yn sâl yn feddyliol trwy ddiffiniad. Short-cut diog yw hyn hefyd, ac mae'n fodd o osgoi gwynebu'r posibilrwydd bod rhywun fel Rodger wedi'i ddylanwadu gan fisogynistiaeth hyll o fewn ein cymdeithas.

Yn olaf, a'n bwysicaf oll, dylid osgoi'r duedd yma er mwyn peidio atgyfnerthu'r stigma sydd eisoes, yn anffodus, yn gysylltedig â salwch meddwl. Mae byw gyda phroblemau meddyliol yn ddigon anodd yn barod heb orfod dioddef gweld llond lle o amaturiaid hyderus yn taflu diagnoses tebyg, o'u cadeiriau breichiau, i gyfeiriad pob llofrudd ac eithafwr. Cyflwr meddygol yw salwch meddwl, nid label gyfleus i'w defnyddio fel arf wleidyddol.

24/06/2014

Casáu cymeriadau ffuglennol

Bydd rhai Cristnogion yn dweud pethau dwl iawn am anffyddiaeth o bryd i'w gilydd, ond efallai mai un o'r dadleuon mwyaf syrffedus yw "os nad yw anffyddwyr yn credu mewn duw, pam maent yn ei gasáu cymaint?" Weithiau, fel bonws bach, dilynir hyn gan rywbeth tebyg i'r canlynol: "mae hyn yn dangos eu bod, wedi'r cwbl, yn credu yn eu calonnau, ond yn gwrthod derbyn hynny". Mae'n debyg bod gan ambell Gristion yr argraff bod anghysondeb mawr ar droed.

Mae'r ateb yn syml iawn, wrth gwrs. Mae'n berffaith bosibl casáu cymeriadau ffuglennol, yn union fel y gwnawn mor fynych wrth ddarllen nofelau neu wylio ffilmiau. A Duw'r Beibl yw'r baddie gwaethaf un. Fel y dywedodd Dawkins yn The God Delusion:
The God of the Old Testament is arguably the most unpleasant character in all fiction: jealous and proud of it; a petty, unjust, unforgiving control-freak; a vindictive, bloodthirsty ethnic cleanser; a misogynistic, homophobic, racist, infanticidal, genocidal, filicidal, pestilential, megalomaniacal, sadomasochistic, capriciously malevolent bully.
Rwy'n credu ei bod yn anodd iawn dadlau â'r dyfyniad. Dylai fod yn bwynt amlwg nad oes angen i Dduw fodoli er mwyn gallu barnu bod y disgrifiad o'r cymeriad a geir yn y Beibl yn un brawychus. Ond gan fod llawer o Gristnogion mor daer yn eu ffydd yn ei fodolaeth, a'n credu y dylem i gyd ei addoli, mae'n briodol cyfeirio at y portread ofnadwy ohono a geir yn eu hoff lyfr. Ydw, rwy'n casáu'r gormeswr mytholegol, ac mae'n beth da iawn nad yw'r fath fwystfil yn bod. Buasai byw yn y fath fydysawd yn annioddefol.

12/06/2014

Rhagdybiaetheg

Cyfaddefiad: rwy'n eithaf mwynhau gwrando ar ddadleuon cyhoeddus ar YouTube, yn enwedig rhai ynghylch crefydd. Yr un diweddaraf i mi wrando arno oedd un diweddar rhwng yr anffyddiwr Matt Dillahunty a dyn o'r enw Sye Ten Bruggencate, gyda'r cwestiwn "a yw credu mewn duw yn rhesymol?". Mae Bruggencate yn arddel math arbennig o amrwd ac ystyfnig o apologetics Cristnogol o'r enw rhagdybiaetheg (presuppositionalism).

Dyma hi yn ei chyfanrwydd isod. Dylid rhybuddio yn gyntaf bod yr holl beth bron i ddwy awr o hyd, a bod Bruggencate yn debygol o wneud i chi frysio i daro'ch pen yn erbyn y wal agosaf. Byddai hefyd yn syniad esbonio beth yn union sydd yn ein gwynebu fan hyn. Heb symleiddio na gor-ddweud o gwbl, dyma "ddadl" Bruggencate yn ei chyfanrwydd, ar ffurf cyfresymiad:

Gosodiad 1: Mae'n rhesymol credu pethau sy'n wir.
Gosodiad 2: Mae'n wir bod Duw'n bodoli. [!]
felly [!!]
Casgliad: Mae'n rhesymol credu bod Duw'n bodoli!

Nid cariciature mo hyn. Dyna'n llythrennol yw holl ddadl Bruggencate. Gadawaf i chi, felly, benderfynu ai peth doeth yw clicio "Play":



Teg yw gofyn beth oedd pwynt cynnal y ddadl yn y lle cyntaf, oherwydd mae'n safbwynt sy'n amhosibl - yn llythrennol - cynnal unrhyw fath o sgwrs yn ei gylch. Fersiwn estynedig o sgetsh yr Argument Clinic gan Monty Python sydd yma yn y pen draw. "Fi sy'n iawn oherwydd fy safbwynt i yw'r un cywir". Tric Bruggencate yw mynnu mai "gwirionedd absolwt" yw'r unig math dilys o wirionedd, gan honni wrth gwrs mai ei Dduw ef yw unig ffynhonnell bosibl y gwirionedd hwnnw.  Yn bersonol, rwy'n edmygu amynedd Dillahunty.

Yr hyn sy'n drawiadol am bobl fel Bruggencate yw ei bod yn amlwg nad ydynt yn dwp, er eu bod yn arddel safbwyntiau gwirioneddol lloerig a chyfan gwbl anghynaliadwy. Mae'n ddyn hyderus, huawdl ac ymosodol ei arddull. Camp Dillahunty oedd paratoi'n drylwyr. Roedd yn gyfarwydd iawn â dadleuon Bruggencate yn barod, ac roedd wedi rhagweld yn union yr hyn a fyddai'n ei wynebu (i'r graddau iddo allu cyfansoddi ei ymateb cyntaf o flaen llaw). Y gwir yw y byddai anffyddwyr llai cyfarwydd â rhagdybiaetheg wedi cael trafferth.

Mae'n wir bod llawer o ddiwinyddwyr Cristnogol mwy "soffistigedig" yn feirniadol iawn o Bruggencate a'i debyg gan fod ei ddadleuon yn amlwg yn hurt ac felly'n destun embaras i'r ffydd. Rwy'n hapus i gadarnhau bod eu pryderon yn berffaith wir. Eto i gyd, rwy'n tueddu i feddwl bod gan lawer o Gristnogion fwy yn gyffredin â Bruggencate nag y maent yn ei sylweddoli. Wedi'r cyfan, o'm profiad i mae hyd yn oed y Cristion mwyaf nuanced fel arfer yn defnyddio bodolaeth Duw fel man cychwyn a'n awgrymu mai cyfrifoldeb yr anffyddiwr yw gwrthbrofi hynny. Pan mae unrhyw Cristion yn mynnu bod ganddo berthynas bersonol â Duw, nid oes modd dal pen rheswm â'r safbwynt.

Cymwynas Bruggencate, efallai, yw mynegi'r peth yn hollol gignoeth. Dyma ddinoethi'r safbwynt i lawr at yr asgwrn, gan ddiosg yr holl fflwff ffug-ddwys y mae llawer o'i gyd-Gristnogion yn ei ychwanegu er mwyn cymylu pethau. Yn ei ffordd ryfedd ei hun, mae rhywbeth eithaf gonest am ei ddadl yn hynny o beth (ac yn hynny o beth yn unig!). Ond dyna, o ddigon, yw'r peth caredicaf y gallaf ei ddweud amdano.

06/03/2014

Ynghylch y cyhuddiad bod anffyddwyr yn negyddol

O bryd i'w gilydd, fe glywch y cyhuddiad bod anffyddwyr yn treulio gormod o amser yn dadlau yn erbyn yr hyn y maent yn anghytuno ag ef, yn hytrach nag o blaid yr hyn y maent yn dymuno'i weld. Mewn geiriau eraill, rydym yn tueddu i fod yn negyddol a beirniadol, yn hytrach na chynnig syniadau amgen adeiladol.

Mae'n wir ac amlwg ein bod yn feirniadol iawn o grefydd. Mae i anffyddiaeth ei hun ddiffiniad negyddol: nid ffydd. Heb bobl crefyddol yn y lle cyntaf, ni fyddai angen y gair. Byddai'n braf byw mewn byd o'r fath, er efallai byddai'r blog hwn braidd yn hesb. Ond oherwydd nad dyna'r sefyllfa sydd ohoni, dyma ni.

Y broblem gyda'r cyhuddiad yw bod y gwahaniaeth rhwng bod yn 'bositif' neu'n 'negyddol' yn un ffug. Yn aml iawn, er mwyn dadlau'n gadarnhaol o blaid un safbwynt, mae'n anorfod bod angen beirniadu safbwyntiau gwrthwynebus. Yn f'achos i, rwyf wedi cyhoeddi maniffesto'r blog hwn yn blaen ar ymyl y dudalen: "O blaid anffyddiaeth, seciwlariaeth, sceptigiaeth, rhyddid mynegiant a hawliau sifil. Yn erbyn crefydd ac ofergoeliaeth, afresymeg, siwdo-wyddoniaeth a rhagfarn." Er mwyn hyrwyddo'r elfennau cyntaf, mae'n anorfod bod angen beirniadu'r rhai yn yr ail ran.

Er enghraifft, rwy'n dadlau'n gyson o blaid hawliau cyfartal i bobl hoyw. Mae'n ffaith bod mwyafrif mawr o'r gwrthwynebiad i hyn yn dod o du carfannau crefyddol. Er mwyn hyrwyddo achos positif o blaid cydraddoldeb, mae'n amhosibl peidio gwynebu a herio'r rhai sy'n anghytuno. Yn yr un modd, rwy'n danbaid o blaid hawl pob plentyn i dderbyn addysg gall. Ni ellir gwneud hynny heb wrthwynebu, yn chwyrn, yr eithafwyr crefyddol hynny sy'n gwneud eu gorau glas i raffu celwyddau am esblygiad yn yr ystafell ddosbarth. Byddai modd rhestru nifer o enghreifftiau eraill tebyg. Am ba bynnag reswm, crefydd yn aml iawn yw'r gelyn pennaf sy'n sefyll yn erbyn yr hyn rwy'n dadlau o'i blaid.

Mae'r un peth yn wir mewn meysydd eraill. Mae'n amhosibl hyrwyddo achos cenedlaetholdeb Cymreig heb gondemnio cenedlaetholdeb Prydeinig (ond nid Seisnig). Er mwyn dadlau o blaid gwarchod yr amgylchedd, mae'n anorfod bod angen herio'r sawl sy'n gwrthwynebu unrhyw ymdrechion i reoleiddio neu gosbi cwmnïau sy'n llygru. Ym mhob achos fel hyn, nid oes modd gwneud rhan 1 heb ran 2.

I mi, mae anffyddiaeth yn rywbeth cadarnhaol. Mae'n fwy na 'diffyg ffydd mewn duw': mae'n mynd law yn llaw â'r gwerthoedd positif hynny a welwch yn y datganiad uchod. Ni ellir gwahanu hynny oddi wrth y ffaith bod angen beirniadu syniadau crefyddol, yn union fel yr ydym yn collfarnu pob syniad cyfeiliornus arall.