Un o'r cwynion pennaf am Leanne Wood, sy'n wynebu her ffurfiol i'w harweinyddiaeth ar hyn o bryd, yw ei bod yn treulio gormod o amser yn hyrwyddo 'niche issues'. Hynny yw, materion cymdeithasol megis hawliau menywod a lleiafrifoedd ethnig a rhywiol. Efallai bod modd dadlau, ar sail pragmatiaeth, bod y diffyg sylw a roddir i Blaid Cymru ar lefel Brydeinig yn golygu bod angen dewis un neges graidd a hyrwyddo honno, ar draul popeth arall, bob cyfle. Ond yr awgrym yn y geiriau anffodus uchod yw nad yw cyfiawnder cymdeithasol yn bwysig mewn gwirionedd.
Y pwynt amlwg cyntaf i'w nodi yw bod llawer o elynion Plaid Cymru'n teimlo'n gryf bod yr iaith Gymraeg ymysg y pethau hynny nad ydynt yn bwysig. Ond beth yw hawliau ieithyddol y Cymry os nad mater o gyfiawnder cymdeithasol? Go brin bod yna lawer o aelodau Plaid Cymru sy'n teimlo mai 'niche issue' yw'r iaith Gymraeg, ond dyna ni. Mae hynny'n wahanol, am resymau dirgel.
Oes angen ennill annibyniaeth cyn gallu canolbwyntio ar sut le fydd y Gymru annibynnol honno? Rwy'n gallu deall dyhead pobl i geisio apelio i bawb. Mae pob mudiad gwleidyddol yn awyddus i ddenu cymaint o bobl ag sy'n bosibl, wedi'r cyfan, a'r ddadl bragmataidd, fe honnir, yw bod angen i union wleidyddiaeth y Gymru rydd aros yn amwys nes iddi gael ei gwireddu. Ond pa mor ymarferol yw hynny mewn gwirionedd? Er mwyn i ddigon o bobl ddeisyfu Cymru annibynnol, mae angen cydio yn eu dychymyg, ac er mwyn gwneud hynny mae angen dangos, cyn dechrau, sut yn union fyddai pethau'n newid yn eu bwydau pob dydd. Mantais arall yw ei fod yn fodd o wrth-ddweud yr ystrydeb diog a syrffedus am genedlaetholwyr fel pobl gul ac adweithiol.
Mae'r ddadl ynghylch blaenoriaethu cyfiawnder cymdeithasol yn gyffredin iawn mewn amryw o fudiadau. Rwyf wedi trafod, hyd syrffed bron, sut y mae'r un ffrae yn union wedi hollti'r mudiad anffyddiaeth. Siom oedd gweld cynifer o anffyddwyr amlwg yn mynegi dirmyg tuag at y 'social justice warriors', gan fynnu mai'r cyfan yw anffyddiaeth yw 'diffyg ffydd mewn duw' a dim byd mwy. Ond os mai dyna'n unig yw anffyddiaeth, faint o bwynt sydd iddi? Nid yw'n gwneud synnwyr i wrthwynebu crefydd heb hefyd gywiro'r anghyfiawnderau a gafodd gymaint o gefnogaeth ganddi ar hyd y blynyddoedd.
Felly hefyd am Gymru annibynnol. Rhaid egluro'n union sut y bydd yn rhagori ar y Deyrnas Unedig a'i holl anghyfiawnderau hithau. Yn union fel nad oes modd gwahanu cyfiawnder cymdeithasol oddi wrth anffyddiaeth, rhaid iddo ddod law yn llaw â Chymru rydd yn ogystal.
Does dim rhaid gortos hyd at Gymru rydd am mae rhyw fath o wahaniaeth yn bosib dan y system presennol, os ydy'r Blaid mwy effeithiol yn y Senedd yng Nghaerdydd. Edrychwch be sy'n bod yn yr Alban ar hyn o bryd ...
ReplyDelete