06/03/2014

Ynghylch y cyhuddiad bod anffyddwyr yn negyddol

O bryd i'w gilydd, fe glywch y cyhuddiad bod anffyddwyr yn treulio gormod o amser yn dadlau yn erbyn yr hyn y maent yn anghytuno ag ef, yn hytrach nag o blaid yr hyn y maent yn dymuno'i weld. Mewn geiriau eraill, rydym yn tueddu i fod yn negyddol a beirniadol, yn hytrach na chynnig syniadau amgen adeiladol.

Mae'n wir ac amlwg ein bod yn feirniadol iawn o grefydd. Mae i anffyddiaeth ei hun ddiffiniad negyddol: nid ffydd. Heb bobl crefyddol yn y lle cyntaf, ni fyddai angen y gair. Byddai'n braf byw mewn byd o'r fath, er efallai byddai'r blog hwn braidd yn hesb. Ond oherwydd nad dyna'r sefyllfa sydd ohoni, dyma ni.

Y broblem gyda'r cyhuddiad yw bod y gwahaniaeth rhwng bod yn 'bositif' neu'n 'negyddol' yn un ffug. Yn aml iawn, er mwyn dadlau'n gadarnhaol o blaid un safbwynt, mae'n anorfod bod angen beirniadu safbwyntiau gwrthwynebus. Yn f'achos i, rwyf wedi cyhoeddi maniffesto'r blog hwn yn blaen ar ymyl y dudalen: "O blaid anffyddiaeth, seciwlariaeth, sceptigiaeth, rhyddid mynegiant a hawliau sifil. Yn erbyn crefydd ac ofergoeliaeth, afresymeg, siwdo-wyddoniaeth a rhagfarn." Er mwyn hyrwyddo'r elfennau cyntaf, mae'n anorfod bod angen beirniadu'r rhai yn yr ail ran.

Er enghraifft, rwy'n dadlau'n gyson o blaid hawliau cyfartal i bobl hoyw. Mae'n ffaith bod mwyafrif mawr o'r gwrthwynebiad i hyn yn dod o du carfannau crefyddol. Er mwyn hyrwyddo achos positif o blaid cydraddoldeb, mae'n amhosibl peidio gwynebu a herio'r rhai sy'n anghytuno. Yn yr un modd, rwy'n danbaid o blaid hawl pob plentyn i dderbyn addysg gall. Ni ellir gwneud hynny heb wrthwynebu, yn chwyrn, yr eithafwyr crefyddol hynny sy'n gwneud eu gorau glas i raffu celwyddau am esblygiad yn yr ystafell ddosbarth. Byddai modd rhestru nifer o enghreifftiau eraill tebyg. Am ba bynnag reswm, crefydd yn aml iawn yw'r gelyn pennaf sy'n sefyll yn erbyn yr hyn rwy'n dadlau o'i blaid.

Mae'r un peth yn wir mewn meysydd eraill. Mae'n amhosibl hyrwyddo achos cenedlaetholdeb Cymreig heb gondemnio cenedlaetholdeb Prydeinig (ond nid Seisnig). Er mwyn dadlau o blaid gwarchod yr amgylchedd, mae'n anorfod bod angen herio'r sawl sy'n gwrthwynebu unrhyw ymdrechion i reoleiddio neu gosbi cwmnïau sy'n llygru. Ym mhob achos fel hyn, nid oes modd gwneud rhan 1 heb ran 2.

I mi, mae anffyddiaeth yn rywbeth cadarnhaol. Mae'n fwy na 'diffyg ffydd mewn duw': mae'n mynd law yn llaw â'r gwerthoedd positif hynny a welwch yn y datganiad uchod. Ni ellir gwahanu hynny oddi wrth y ffaith bod angen beirniadu syniadau crefyddol, yn union fel yr ydym yn collfarnu pob syniad cyfeiliornus arall.

2 comments:

  1. Mae rhai anffyddwyr yn gallu bod yn syrffedus o gadarnhaol ar adegau. Llawer o sôn am ba mor wych mae'r bydysawd a'r gwahaniaeth mae "byw am heddiw" yn gwneud. Chwa o awyr iach oedd darllen y lith yma ( http://freethoughtblogs.com/marginoferr/2014/03/05/how-as-an-atheist-i-deal-with-death-to-be-honest-i-dont/ ) yn ddiweddar.

    ReplyDelete
  2. Diolch. Mae hynny'n bwynt teg a bod yn onest. Adwaith, efallai, i'r cyhuddiad gan gymaint o bobl crefyddol bod anffyddiaeth yn fydolwg llwm ac anobeithiol. Yn fy marn i, mae ymdrechion crefyddol i esbonio'r bydysawd yn ddi-liw a marwaidd o'u cymharu â'r hyn sydd gan wyddoniaeth i'w chynnig (heb sôn, wrth gwrs, am y ffaith eu bod yn anghywir a da i ddim). Felly mae'n wir bod bydysawd yr anffyddiwr yn fwy diddorol nag un y Cristion, ond rwy'n derbyn na ddylid mynd dros ben llestri.

    Mae'r blogiad yna'n ardderchog dydi. Rwyf wedi ysgrifennu o'r blaen ynghylch y problemau a geir gyda'r hyn sydd gan Gristnogaeth i'w ddweud am farwolaeth. Mae'r darnau yma gan Greta Christina yn disgrifio rhai ffyrdd o leddfu poen anffyddwyr sydd mewn galar. Wrth gwrs, nid oes rhaid derbyn ei bod hyd yn oed yn bosibl cysuro person yn y sefyllfa hwnnw; mae pawb yn wahanol. Mae marwolaeth yn greulon a digalon ac annifyr, ac ambell waith, wel, does dim ateb boddhaol.

    ReplyDelete