Cynhaliwyd dadl gyhoeddus yn ddiweddar rhwng y ffisegydd Sean Carroll a'r diwinyddwr Cristnogol William Lane Craig. Rhybudd: mae'r fideo dros ddwy awr o hyd, ac mae'n cynnwys llawer iawn o funudau o William Lane Craig yn siarad:
Rwyf wedi trafod WLC o'r blaen. Mae wedi gwneud enw iddo'i hun dros y blynyddoedd diwethaf yn cymryd rhan mewn dadleuon fel hyn, ac mae rhai anffyddwyr yn ei ystyried yn wrthwynebydd cymharol anodd. Mae'n siaradwr digon dawnus a gwybodus, ac mae ambell un sydd wedi derbyn yr her o fynd benben ag ef wedi bod yn euog o ddiffyg paratoi'n ddigonol ar ei gyfer. Eto i gyd, mae ei ddadleuon yn gyfarwydd a blinedig. Gwnaeth Carroll yn eithaf da.
Un o hoff arfau Craig yw dadl gosmolegol Kalām. Gellir ei fynegi ar ffurf cyfresymiad, fel hyn:
1) Mae popeth sydd, ar un adeg, wedi dechrau bodoli, wedi'i achosi gan rywbeth arall.
2) Mae gan fodolaeth y bydysawd ddechreuad.
felly: 3) Mae'n rhaid bod y bydysawd wedi cael ei achosi gan rywbeth arall.
Mae'r broblem yn amlwg. Hyd yn oed petai un o'r rhagosodiadau yn wallus, byddai'r holl ddadl yn chwalu. Ond yn yr achos yma mae'r ddau ohonynt yn amheus. Yn y fideo, mae Craig yn dweud yn blaen nad oes angen cyfiawnhau'r rhagosodiad cyntaf gan ei fod yn hunan-amlwg. Fel y dywed Carroll wrth ymateb, mae hynny'n hollol anghywir. Mae gan Craig gryn waith i'w wneud er mwyn cyfiawnhau'r rhagosodiad yn y lle cyntaf. Pam oes raid i bopeth sydd â dechreuad fod wedi cael ei achosi gan ryw fath o endid allanol? Mae angen gwneud mwy na haeru'r peth. Ar ben hynny, nid yw cyflwyno'r cysyniad o dduw yn ein helpu o gwbl, oherwydd y cwestiwn naturiol sy'n dilyn yw: beth achosodd y duw? Ateb cyfleus y diwinydd i hynny yw nad oes angen i'r duw gael ei achosi, gan ei fod yn "transcendent" (sydd wrth gwrs yn air gwag ffug-ddwys nas defnyddir o gwbl ym maes cosmoleg). Ond os nad oedd raid i'r duw gael ei achosi, pam na all y bydysawd fod yr un peth? Nid yw'r syniad o dduw wedi taro unrhyw oleuni ar y mater; yn wir, mae wedi gwneud pethau'n gymlethach a llai eglur, heb fod angen. Rasal Occam amdani.
Ac yn y blaen. Mae Craig yn feistr ar fabwysiadu terminoleg y ffisegwyr, ac mae'n lled-gyfarwydd â'r gwaith sy'n cael ei wneud yn y maes. Ond er yr ieithwedd fodern, dim ond yr un hen ddadleuon gwael sydd ganddo i'w cynnig.
No comments:
Post a Comment