Beth yn union yw "crefydd"? Nid yw'r diffiniad mor syml ag y mae'n edrych ar yr olwg gyntaf, sydd efallai'n beth od i awdur blog o'r enw Anffyddiaeth ei ddweud. Nid yw "ffydd mewn rhyw fath o dduw" yn gwneud y tro o gwbl, er enghraifft, gan fod yna rai crefyddau (fel Bwdhaeth neu seientoleg) nad ydynt yn cynnwys duwiau.
Mae angen osgoi seilio'r diffiniad ar strwythur swyddogol hefyd, gan fod modd bod yn grefyddol heb addoli mewn sefydliad ffurfiol fel eglwys. Mae rhai Cristnogion yn mynnu nad ydynt yn grefyddol. Eu hesboniad fel arfer yw mai mwynhau perthynas bersonol â Iesu Grist a wnânt, nid "dilyn crefydd". Rwy'n tybio mai'r rhesymeg yw eu bod yn canolbwyntio ar ddehongli personol yn hytrach na derbyn gair offeiriaid neu weinidogion fel dogma. Ond er ei bod yn ddadlennol eu bod am ymbellhau oddi wrth y label "crefydd", nid yw'r ymgais yn dal dŵr. Os na ellir defnyddio'r gair "crefyddol" i ddisgrifio rhywun un sy'n credu eu bod wedi cael eu creu gan Dduw, bod Iesu Grist wedi marw dros eu pechodau cyn atgyfodi drachefn, ac sy'n meddwl bod creawdwr y bydysawd yn siarad â hwy, yna nid oes y fath beth â chrefydd.
Gan gadw'r uchod mewn cof, dyma fy niffiniad i: "casgliad o gredoau neu athrawiaethau sy'n dweud ein bod wedi cael ein creu gan ryw fath o endid neu rym goruwchnaturiol, bod pwrpas ein bywydau'n deillio o hynny, a bod hynny'n golygu bod angen i ni fyw mewn ffordd arbennig".
Rwy'n credu bod y diffiniad yma'n cynnwys Bwdhaeth a seientoleg yn gyfforddus. Nid oes gan Fwdhaeth "stori creu" fel y cyfryw, ac yn ôl y sôn roedd y Bwdha'n gwrthod trafod pethau fel natur y bydysawd. Ond er hynny, ac er nad yw bwdhyddion yn addoli duw fel a wneir yn y rhan fwyaf o grefyddau, mae mytholeg eu crefydd yn sicr yn gyforiog o elfennau goruwchnaturiol. Dywedir bod y Bwdha ei hun wedi'i eni, er enghraifft, wedi i eliffant gwyn ddod lawr o'r nefoedd, cerdded o gwmpas ei fam, Maya, dair gwaith, cyn dringo i mewn i'w chroth ar yr ochr dde (byddai'r ochr chwith wedi bod yn hurt). Mae'r nefoedd ac ail-ymgnawdoliad yn gysyniadau hollol grefyddol hefyd, wrth gwrs. Nid oes unrhyw beth arbennig o unigryw am Fwdhaeth wedi'r cyfan. Crefydd ydyw fel pob un arall, gyda llawer o fotiffau ac ymarferion cyfarwydd.
Mae achos seientoleg fymryn yn fwy dyrys, yn rhannol gan mai dim ond ym 1952 y'i sefydlwyd. Nid oes duw yma chwaith, ond mae ganddynt eu "stori creu" goruwchnaturiol serch hynny. Mae'n rhy faith (a doniol) i'w hadrodd yma: os am wybod mwy, chwiliwch am Xenu ar Wikipedia. Yn aml, bydd aelodau o'r crefyddau mawrion yn dilorni seientoleg fel cwlt, yn hytrach na derbyn ei bod yn haeddu label crefydd go iawn. Y gwir, wrth gwrs, yw bod modd bod y ddau beth ar yr un pryd. Maent yn galw'u hunain yn "Eglwys Seientoleg" erbyn heddiw (am resymau i'w gwneud â threthiant yn bennaf, mae'n siwr), ac er nad ydynt yn "addoli", mae'r selogion yn treulio llawer o'u hamser yn ceisio gwaredu'u hunain o'r "thetans" rhyfedd yma sy'n bla yn ein cyrff. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, nid yw thetans yn bodoli, ac mae modd cyffelybu'r defodau hyn â'r arferiad Cristnogol o geisio puro ein heneidiau. Dyma elfennau crefyddol cyfarwydd unwaith eto.
Y cwestiwn yw: pryd yn union y mae cwlt newydd yn ennill yr hawl i alw'i hun yn "grefydd"? Treigl amser yn unig sydd i gyfrif am y ffaith nad oes unrhyw un yn cwestiynu hynny yn achos Cristnogaeth, islam, iddewiaeth, hindŵaeth, Bwdhaeth ac yn y blaen. Maent wedi ennill eu plwyf dros gyfnod o ganrifoedd lawer. Nid ydym yn gwybod y manylion i gyd am sut yn union y daethant i fodolaeth. Yn achos seientoleg, ar y llaw arall, mae gennym syniad eithaf da sut y bu i Hubbard fynd ati'n fwriadol, 62 yn union o flynyddoedd yn ôl, i ddyfeisio crefydd newydd fel modd o wneud arian. Ond o anghofio hynny am eiliad, mae'n anodd iawn dadlau'n wrthrychol bod seientoleg yn fwy rhyfedd na Christnogaeth, er enghraifft. Yr unig wahaniaeth yw bod Cristnogaeth wedi cael dau fileniwm, trwy gyfrwng rhai biliynau o ymlynwyr, i dreiddio i mewn i'n diwylliant i'r graddau ein bod yn ei ystyried yn "normal". Petai Iesu Grist y Beibl yn fyw heddiw, byddai pawb yn ei ystyried yn od (nid oes prinder ffug-broffwydi yn y byd, wedi'r cyfan). Nid oes rheswm na all rai o gwltiau di-nod a rhyfedd y presennol dyfu, gydag amser, i fod yn grefyddau mawrion parchus yn y dyfodol. Mae mormoniaeth yn enghraifft dda o hynny: fe'i sefydlwyd yn y 1820au gan dwyllwr hollol ddigywilydd, ond mae miliynau lawer yn arddel y ffydd honno erbyn heddiw (mwy am hyn yn fuan). Am y rheswm hwn, mae'r gwahaniaeth rhwng "cwlt" a "chrefydd" yn un ffug a mympwyol. Crefyddau yw'r rhain i gyd, dim ots faint o ddilynwyr maent yn gallu ei hawlio. Boed biliwn a hanner o selogion, neu dri, cynnwys y credoau yn unig sy'n berthnasol.
Ar ben hyn i gyd, mae'n bosibl i ideolegau ymddangosiadol seciwlar (neu hyd yn oed wrth-grefyddol) ymddwyn fel crefydd. Cymerwch Ogledd Corea, er enghraifft. Mae'n wlad gomiwnyddol dotalitaraidd, ac yn swyddogol mae'r wladwriaeth yn arddel anffyddiaeth. Am y rheswm hwnnw, mae rhai'n manteisio ar y cyfle i bardduo anffyddwyr trwy awgrymu mai dyma'r math o system rydym yn deisyfu ei gyflwyno. O graffu ar y lle'n fanylach, fodd bynnag, fe welwch mai'r gwrthwyneb llwyr sy'n wir. Un o hanfodion totalitariaeth yw'r angen i gyfleu'r argraff bod yr arweinwyr yn hollol ddoeth a pherffaith. Fel yr ysgrifenais yn flaenorol, fe welwch bod stori swyddogol Kim Jong Il yn ei bortreadu fel meseia, i bob pwrpas. Am y rheswm hwnnw, mae'n decach dweud bod Gogledd Corea'n wlad theocrataidd. Mae'r elfennau i gyd yno.
Os yw'r uchod i gyd yn enghreifftiau o grefyddau, felly, pryd yn union y mae'r label yn amhriodol? Fe welwch y gair yn cael ei ddefnyddio fel sarhad mewn rhai cyd-destunau. Fe anwybyddwn, am y tro, y cyhuddiad diflas bod anffyddiaeth yn enghraifft o grefydd; nid dyna sydd gennyf mewn golwg yn hyn o beth. Yn hytrach, sôn ydwyf am, er enghraifft, sosialwyr neu gyfalafwyr. Cyhuddir y marcsydd o bryd i'w gilydd o fod â ffydd grefyddol mewn materoliaeth hanesyddol, a thwf anorfod ymwybyddiaeth y dosbarth gweithiol (hynny yw, mae'r chwyldro wastad ar y gorwel, fel ail-ymgnawdoliad y meseia). Yn yr un modd, dywedir bod y cyfalafwr laissez-faire yn "addoli" llaw anweledig y farchnad rydd.
Er bod modd deall y demtasiwn i bardduo gelynion gwleidyddol fel hyn (mae crefydd yn awgrymu unllygeidiaeth ddeallusol ac yn y blaen), nid wyf yn credu bod y defnydd yn addas yn yr achosion yma. Yn un peth, mae angen tipyn mwy na brwdfrydedd o blaid safbwynt arbennig er mwyn galw'r safbwynt yn grefydd; fel arall, byddai modd galw pob safbwynt o dan haul yn grefydd, a byddai hynny'n anymarferol a dryslyd. Nid yw syniadau gwleidyddol, economaidd neu gymdeithasegol fel hyn yn cynnwys elfennau goruwchnaturiol; mae modd disgrifio mecanwaith damcaniaethol marchnad rydd sydd o fudd i bawb, boed y fath syniad yn wir ai peidio, mewn termau rhesymegol. Yn amlwg, nid yw pob cysyniad haniaethol (ac felly "anweledig") yn enghraifft o grefydd ar waith.
Eto i gyd, ni fyddai'n ormod o syndod petai rhywun yn gallu cynnig enghraifft neu achos sy'n herio neu niwlogi'r diffiniad hwn, a buaswn yn awyddus i'w clywed.
Erthygl ddifyr iawn! Dwi dal ddim yn confinsd efo'r ffin rhwng gwleidyddiaeth a chrefydd. Dwi'n meddwl fod ideoleg a chrefydd yn perthyn yn agosach nag wyt ti'n fodlon derbyn. Mae'r un elfen o 'fyths'' yn perthyn i'r ddau, sef ymgais i egluro'r byd, ac mae'r cynnwys o ran cod o werthoedd; ffigwr meseia; pen y daith (nefoedd/utopia); cod persgriptif o ymddygiad neu ffordd o weithredu, efo cosb/ ganlyniad ac yn y blaen.
ReplyDeleteYn bersonol dwi'n meddwl y dylid tynny'r llinell rhwng cred gymhedrol ac eithafol yn hytrach na rhwng cred grefyddol/wleidyddol. Dwi meddwl fod gan yr hen ddynes sy'n mynd i'r capel am y gwmniaeth a'r canu fwy yn gyffredin efo'r boi sy'n rhoi pleidlais dros lafur bob hyn a hyn nac sydd gan yr un o'r ddau efo'r hilsboro baptists neu Stalin.
Diolch am y sylw! Ein sgwrs ar Twitter y diwrnod o'r blaen a ysgogodd hwn, a dweud y gwir. A bod yn onest, o ddarllen y blogiad eto dw i'n cytuno bod y rhan olaf braidd yn wan.
ReplyDeleteDw i dal am drio mynnu bod angen i grefydd gynnwys elfennau goruwchnaturiol, ac ei bod yn wahanol i ideolegau eraill yn hynny o beth. Math o ideoleg yw crefydd yn sicr, ond mae'n is-gategori ar wahan.
Hapus i gytuno bod ideolegau radical fel comiwnyddiaeth ac ati, yn ymarferol, yn rhannu nifer o nodweddion â chrefyddau, fel rwyt yn ei nodi. Fel dywedodd Bertrand Russell:
Yahweh = Dialectical Materialism
The Messiah = Marx
The Elect = The Proletariat
The Church = The Communist Party
The Second Coming = The Revolution
Hell = Punishment of the Capitalists
The Millennium = The Communist Commonwealth
Ond mae yna rywbeth am grefydd - yr elfen oruwchnaturiol; yr ymgais i esbonio safle ein cymdeithas o fewn y bydysawd cyfan; yr obsesiwn â'r hyn sy'n digwydd i ni "ar ôl" i ni farw; ysgrythurau cwbl ddi-ffael - sy'n unigryw, ac mae'n ddefnyddiol cael gair i drin y rhain yn benodol ac ar wahan.