01/09/2014

Dawkins, erthylu ar sail anabledd, ac oferedd pendroni ynghylch yr hyn a allasai fod wedi bod

Mae record Richard Dawkins o ddweud pethau ymfflamychol ar Twitter yn hysbys ers peth amser. Fel yr ydych yn debygol o wybod, bu wrthi eto'n ddiweddar:
Nodwedd gyffredin o gyfraniadau Dawkins ar Twitter yw bod pwynt teg yn cuddio ynddynt yn rhywle, ond bod yr haenau anghynnes ychwanegol yn hawlio'r holl sylw. Mae hynny'n iawn. Bai Dawkins a neb arall yw ei fynegiant trwsgl, a'i gyfrifoldeb ef yw bod yn fwy gofalus wrth egluro'r hyn sydd ar ei feddwl.

Yn achos y trydariad penodol uchod, rwy'n lled-gydweld â'r cyngor y mae'n ei gynnig. Mae'n anodd dweud i sicrwydd mewn senario hypothetig, wrth gwrs, ond rwy'n credu y buaswn i, petawn yn fenyw feichiog sy'n gwybod bod gan y ffetws syndrom Down, yn cael fy nhemtio i erthylu. Dyna, yn wir, sy'n digwydd yn oddeutu 92% o achosion o'r fath yn Ewrop. Yn hynny o beth, o leiaf, nid oes llawer yn bod ar y frawddeg gyntaf. Yr unig broblem yw bod y geiriau ffwrdd-a-hi 'a thria eto' yn gallu bod yn ansensitif mewn rhai achosion arbennig lle mae'r fenyw wedi cael anhawsterau beichiogi neu os yw hi'n heneiddio (mae'r tebygolrwydd o esgor ar fabi syndrom Down yn cynyddu gydag oed, wrth gwrs). Ond fel darn o gyngor i rywun sydd wedi gofyn amdano, mae'n ateb digon call.

Y broblem enfawr yw'r defnydd o'r gair 'immoral' yn yr ail frawddeg. Un peth yw awgrymu beth y buasai ef ei hun yn ei wneud yn y sefyllfa, ond mae honni bod menywod sy'n dewis peidio erthylu yn ymddwyn mewn modd anfoesol yn beth annifyr a hyll iawn i'w wneud. Dewis y fenyw ydyw a neb arall (ac nid y tad chwaith); os ydynt yn dewis erthylu, hei lwc iddynt. Yn yr un modd yn union, hei lwc os ydynt yn penderfynu cario ymlaen a chael y babi.

Rwy'n credu bod ceisio mynd ati i bwyso a mesur positifrwydd neu negatifrwydd moesol penderfyniadau fel hyn yn gêm ofer a pheryglus. Aeth Dawkins yn ei flaen i ddweud y canlynol:
Rwy'n anghyfforddus â hynny hefyd. Mae llawer o bobl â syndrom Down yn byw bywyd cynhyrchiol a dedwydd. Ar yr un pryd, mae llawer o fabanod heb anableddau o fath yn y byd yn mynd ymlaen i ddioddef bywydau segur, poenus a digalon. Nid oes modd dweud o flaen llaw, ac felly nid wyf yn teimlo bod y mater nac yma nac acw ar lefel foesol. A dweud y gwir, mae pwyslais Dawkins ar gymharu cyfraniadau hypothetig dau fywyd hypothetig i'n cymdeithas yn drewi braidd o ewgeneg. Yn y pen draw, mae 100% o bob genedigaeth yn arwain at farwolaeth. (Wedi dweud hynny, mae rhai achosion lle mae gennym syniad da iawn sut fywyd fyddai'n disgwyl y darpar-fabi: os oes gan ffetws afiechyd eithriadol o ddifrifol nad oes modd ei wella, mae modd dadlau yn yr achosion hynny bod peidio erthylu yn anfoesol, gan mai marwolaeth buan ar ôl ychydig oriau o ddioddefaint echrydus di-angen yw'r unig bosibilrwydd amgen).

Dyna fy nghwyn i, felly. Fodd bynnag, mae rhai fel petaent wedi dychryn â'r syniad o erthylu ar sail anabledd fel syndrom Down. Ond fel y dywedais, mae canran anferth o bobl eisoes yn dewis gwneud hynny. I fod yn hollol glir, dylai erthyliad fod ar gael am unrhyw reswm, gan mai'r peth pwysicaf yw rheolaeth y fenyw dros ei chyfarpar atgenhedlu ei hun. Heb sôn am fod yn anfoesol, byddai'n anymarferol gwrthod yr hawl i erthylu ffetws oherwydd bod ganddi anabledd; byddai pobl yn dyfeisio rhesymau eraill yn lle. Nid wyf yn arbennig o gyfforddus â'r syniad o erthylu ar sail lliw llygad, neu wallt, neu ryw, ond nid fy lle i na neb arall yw penderfynu ar yr hyn y caiff menyw ei wneud â'i chroth ei hun. (Mae'n werth nodi wrth fynd heibio bod sgrînio fel hyn am ddod yn fwy a fwy trylwyr yn y blynyddoedd i ddod, wrth i'r dechnoleg barhau i wella, felly bydd moesoldeb cwestiwn y designer baby'n dod yn bwnc llosg poethach byth yn y dyfodol agos. Ond mater arall yw hynny).

Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, mae'n amlwg bod pobl â syndrom Down yn gallu byw bywydau hapus. Rwyf hefyd wedi dweud mai erthylu fuasai fy ngreddf bersonol petawn i'n y sefyllfa hwnnw. Eto i gyd, petaem yn cael babi SD (fy ngwraig fyddai biau'r penderfyniad, wedi'r cyfan, nid fi), mae hefyd yn amlwg y buaswn yn caru'r babi hwnnw yn yr un fath yn union ag unrhyw epil arall. Un broblem gyda'r ddadl ynghylch erthylu yw'r tueddiad i edrych yn ôl wedi'r ffaith. Hynny yw, pan mae gan rywun blant yn barod, mae dychmygu eu herthylu pan oeddent yn y groth yn boenus a dychrynllyd. Hyd yn oed os nad rhiant sy'n dadlau, mae'n debygol mai darlun babi go iawn sydd ganddynt yn eu pennau wrth iddynt bledio'u hachos. O'r herwydd, wrth drafod y syniad o erthylu oherwydd bod y babi am fod yn anabl, mae llawer yn pwyntio at rhywun sydd â SD ac awgrymu bod difa'r ffetws gyfystyr â dweud nad oes gwerth i fywyd y person hwnnw.

Mae'n dueddiad naturiol mewn ffordd, ond mae hefyd yn hollol anghywir, ofer ac amherthnasol. Nid ffetws mo babi sydd eisoes wedi'i eni, ond person. Pan oedd yn y groth, nid person ydoedd. Nid oes pwrpas cymharu'r tyfiant yn y groth â'r plentyn sy'n chwerthin yn hapus o'ch blaen. Y gymhariaeth gywir yw ag ŵy na ffrwythlonwyd o gwbl ac a ddiflannodd gyda'r ysbwriel neu lawr y toiled. Yr un yw'r canlyniad ymarferol, sef dim babi. Wrth gwrs buaswn yn caru fy mabi SD hypothetig. Ond buaswn hefyd wedi caru pob un o'r babanod y buaswn wedi gallu'u cael ond na ddaeth erioed i fodolaeth. Byddai'n hurt awgrymu ei bod yn anfoesol peidio creu pob bywyd posibl, oherwydd mae posibilrwydd hypothetig i bob un ohonom greu biliynau o fywydau gwahanol (a phob un ohonynt yn gannwyll ein llygaid).

Mae ymgyrchwyr gwrth-ddewis yn hoff o bwyntio at fenywod a oedd ar un adeg wedi ystyried cael erthyliad ond a aeth yn eu blaen, am ba bynnag reswm, i gael y babi. Y ddadl yw bod cariad amlwg y rhiant tuag at y plentyn yn reswm cryf i wrthwynebu erthlyliad yn gyffredinol. Mae'n caru'r plentyn, ac felly mae'n naturiol iddi fod yn falch, wrth edrych yn ôl, na benderfynodd gael yr erthyliad. Ond mae hynny'n methu'r pwynt yn llwyr. Buasai hi hefyd wedi caru'r holl 'fabanod' posibl eraill na roddodd enedigaeth iddynt, boed yn wyau na ffrwythlonwyd, yn sberm na gyrhaeddodd ei hwyau hi (biliynau - na, triliynau - ohonynt), neu hyd yn oed y sygotiaid hynny a ffrwythlonwyd ond a erthylwyd yn naturiol heb iddi ddod yn ymwybodol o'r peth (wedi'r cyfan, natur, neu 'Dduw' os mynnwch chi, yw'r erthylwr mwyaf o bell ffordd; lleiafrif o feichiogiadau sy'n arwain at fabi). Petai un o'r cyfuniadau hynny o ŵy a sberm wedi troi'n fabi yn lle'r un sydd ganddi, buasai'n caru hwnnw lawn cymaint. Pe na bai wedi cael babi o gwbl, byddai wedi gallu dewis unai parhau'n ddi-blentyn neu gael un yn ddiweddarach. Ond nid felly y bu, ac felly, wel, nid felly y mae. Nid oes modd dyfalu pa senario fyddai wedi bod hapusaf iddi, felly nid oes pwynt trio.

Mae gwrthwynebwyr erthyliad hefyd yn hoff iawn o'r Great Beethoven Fallacy. Mae'n enghraifft o'r un math o gamresymu. Dyma hi:
Doctor 1: "I want your opinion about terminating a pregnancy. The father was syphilitic, the mother had tuberculosis. Of the four children born, the first was blind, the second died, the third was deaf and dumb, the fourth also had tuberculosis. What would you have done?"
Doctor 2: "I would have terminated the pregnancy."
Doctor 1: "Then you would have murdered Beethoven."
Hyd yn oed o anghofio'r camgymeriadau ffeithiol (gweler y ddolen), nid yw hon yn ddadl ystyrlon o fath yn y byd. Gallasai'r babi dyfu fyny i fod yn lofrudd ofnadwy yr un mor hawdd. Gan mai dim ond wrth edrych yn ôl y daw pethau felly i'r amlwg, nid oes defnydd o gwbl i ddadleuon fel hyn wrth i ni wynebu cwestiynau sydd angen atebion yn y presennol. Os defnyddio'r rhesymeg hwn yng nghyd-destun erthyliad, rhaid i ni hefyd dderbyn bod miloedd ar filoedd o ddarpar-Beethoveniaid (a -Hitleriaid o ran hynny) yn gorffen eu hoes fel crwst drewllyd ar sannau sbarion bechgyn yn eu harddegau ledled y byd.

Nid oes pwrpas chwarae'r gêm yma. Mae fel dychmygu sut fyddai pethau pe na bawn wedi cwrdd â'm gwraig a syrthio mewn cariad â hi pan y gwnaethais. Efallai'n wir y buaswn wedi canfod fy hun mewn perthynas â rhywun arall, ac y buaswn heddiw mewn priodas ddedwydd â'r person yna, yr un mor hapus fy myd. Ond nid dyna ddigwyddodd; rwyf mewn priodas hyfryd a llawen â'm gwraig, mae bellach yn amhosibl dychmygu bywyd fel arall, a dyna ni.

Yn yr un modd, pe na bai'n rhieni wedi cwrdd, a gwneud yr angenrheidiol ar yr union foment y gwnaethasant, ni fuasem ninnau chwaith yn bod. Neu petaem wedi cael ein geni'n blant i rieni eraill (mae hyn yn amhosibl, ond gan mai fy mwriad yw egluro nad oes diben meddwl fel hyn yn y lle cyntaf, waeth i ni gario ymlaen), mae'n debygol y buasem yn caru'r rheiny lawn cymaint ag yr ydym yn caru'n rhieni go iawn. Ond eto, nid dyna ddigwyddodd. 'If my auntie had balls, she'd be my uncle', fel maent yn dweud. Y realiti sydd ohoni yw'r unig un sy'n gwneud synnwyr i ni, ac mae hynny'n ok oherwydd dyna'r unig un sy'n cyfrif.

Cafwyd erthygl ardderchog a dirdynnol yn y Guardian ddwy flynedd yn ôl lle mae'r awdur yn dweud y dylai ei mam fod wedi'i herthylu. Nid dweud hynny oherwydd rhyw ing dirfodol y mae, eithr gwneud y pwynt y buasai bywyd ei mam wedi bod yn haws pe na bai wedi gorfod cael babi (mae'n debyg y byddai wedi cael erthyliad petai hynny wedi bod yn gyfreithiol ym Michigan ar y pryd). Fel mae hi'n dweud, pe na bai hi wedi cael ei geni, ni fuasai wedi colli unrhyw beth oherwydd nid oedd ganddi unrhyw beth i'w golli ar y pryd.

Wedi dweud hyn i gyd, mae'n werth cloi trwy ddyfynnu Dawkins ei hun, hyd yn oed os dim ond er mwyn atgoffa'n hunain ei fod yn gallu bod yn ddyn craff iawn hefyd (neu o leiaf roedd yn arfer bod). Daw'r canlynol o'm hoff lyfr ganddo (ar y cyd, efallai, â The Ancestor's Tale), Unweaving The Rainbow:
We are going to die, and that makes us the lucky ones. Most people are never going to die because they are never going to be born. The potential people who could have been here in my place but who will in fact never see the light of day outnumber the sand grains of Arabia. Certainly those unborn ghosts include greater poets than Keats, scientists greater than Newton. We know this because the set of possible people allowed by our DNA so massively exceeds the set of actual people. In the teeth of these stupefying odds it is you and I, in our ordinariness, that are here. We privileged few, who won the lottery of birth against all odds, how dare we whine at our inevitable return to that prior state from which the vast majority have never stirred?
Rydym yn ffodus i fod yn fyw, ac mae'r dyfyniad uchod yn enghraifft hardd iawn o wyleidd-dra dyneiddiol go iawn a diffuant, yn wahanol iawn i'r rhagrith anghydlyn a ysbrydolir gan grefydd. Y gwir amlwg yw ei bod yn hollol amhosibl i bob darpar-fywyd posibl gael ei wireddu. Yn y cyfamser, rydym wedi cael dod i fodolaeth, ac mae'r rhan fwyaf ohonom yn ddiolchgar am y fraint. Ond rydym yma ar draul 'ysbrydion ananedig' a allasai lawn mor rhwydd fod wedi cael eu geni yn ein lle. Er bod y ffaith yma'n ddiddorol, a'n ysgogi ein greddf naturiol i feddwl yn segur am bethau dwys y bydysawd, nid oes iddi unrhyw arwyddocâd o gwbl pan ddaw'n fater o geisio ateb cwestiynau moesol ymarferol.

No comments:

Post a Comment