21/08/2012

Erthyliad a 'threisio dilys'

Cafodd y Blaid Weriniaethol etholiad digon llwyddiannus yn America yn 2010, gan gipio Tŷ'r Cynrychiolwyr, llywodraeth sawl talaith, a dod yn agos at gipio'r Senedd hefyd. Yn ystod yr ymgyrch, eu neges oedd mai gwella'r economi a lleihau'r ddyled fyddai'r flaenoriaeth. Dyma, i fod, oedd yn bwysig i'r Tea Party yn anad unrhyw beth arall. Byddai rhywun wedi disgwyl i'r 'gwrthdaro diwylliannol' dawelu am ychydig wrth iddynt ganolbwyntio ar faterion ariannol dyrys.

Nid dyna ddigwyddodd, fodd bynnag. Ers yr etholiad, yr hyn sydd wedi cadw'r Gweriniaethwyr yn brysurach na dim yw ymosod yn ddi-baid a didrugaredd ar hawliau menywod. Yn hytrach na thrwsio'r economi, sydd mor druenus yn eu tyb hwy, maent wedi gwario'r rhan fwyaf o''u hegni a'u hamser yn meddwl am ffyrdd newydd a chyffrous o wneud erthyliad yn anodd (eu campwaith yw'r prawf wltra-sain mewnol gorfodol). Mae IVF ac ymchwil bôn-gelloedd wedi'i chael hi hefyd, a hyd yn oed dulliau atgenhedlu. Eithriadau yw'r dyddiau pan na fydd gwleidydd Gweriniaethol yn dweud rhywbeth twp am y mater.

Efallai bod dyn o'r enw Todd Akin wedi plymio dyfnderoedd newydd yr wythnos hon, fodd bynnag. Mae'n aelod eithafol o Dŷ'r Cynrychiolwyr a oedd yn gobeithio ennill etholiad i'r Senedd ym mis Tachwedd, ond mae'n ddigon posibl y bydd wedi tynnu allan o'r ras erbyn i chi ddarllen hyn. Gallwch wylio'r rheswm yn y fideo isod, wrth iddo geisio egluro pam ei fod yn gwrthwynebu erthyliad hyd yn oed yn achos trais rhywiol:



Dyfynnaf y darn allweddol: "It seems to me, first of all, from what I understand from doctors, that's really rare. If it's a legitimate rape, the female body has ways to try to shut that whole thing down."

Mae'n anodd gwybod ble i ddechrau. Byddai 'legitimate rape' yn ymadrodd doniol iawn petai'n ddarn o gomedi tywyll sy'n dychanu gwleidyddiaeth America. Ond roedd y dyn o ddifrif. Mae rhoi'r ddau air yna ar ôl ei gilydd yn ddigon drwg, ond mae hefyd yn credu o ddifrif bod treisio'n annhebygol o arwain at feichiogi (ac wrth gwrs, yr awgrym ynghlwm â hynny yw bod unrhyw ddioddefwraig sy'n disgwyl epil ei threisiwr wedi mwynhau'r profiad yn ddistaw bach). Nid yn unig hynny, roedd yn credu bod lleisio'r fath farn yn beth call i'w wneud yn fyw ar y teledu, ac yntau yng nghanol ymgyrch ar gyfer etholiad bwysig. Mae'n union fel yr hen fythau hynny sy'n dweud bod beichiogi'n amhosibl wrth gael rhyw am y tro cyntaf neu wrth sefyll i fyny. Yn sicr, nid oes unrhyw ddoctor go iawn wedi dweud y fath beth iddo; yn hytrach, ymddengys ei fod yn derbyn ei wybodaeth gan blant 12 oed.

Mae Todd Akin yn 65.

Dylai hyn roi blas o wallgofrwydd y 'gwrthdaro diwylliannol' yn America ar hyn o bryd. Nid ffigwr ymylol mo hwn, eithr gwleidydd cenedlaethol a oedd, yn ôl y polau, ar y blaen yn yr ymgyrch ar gyfer sedd yn y Senedd.

Gellir chwerthin neu wylltio ar adegau fel hyn, ond mae'n werth trafod yr eithriad a wneir yn aml gan wrthwynebwyr erthyliad os mai trais oedd y rheswm am y beichiogi. Onid yw'n anghyson ac afresymol? Os yw erthyliad gyfystyr â llofruddiaeth, nid yw'r sefyllfa a arweiniodd at gyfarfod y sberm a'r ŵy yn berthnasol. Lladd yw lladd, felly nid yw'n gwneud synnwyr i'w ganiatáu dim ots beth oedd yr amgylchiadau. Mewn ffordd, mae'r eithafwyr sy'n gwrthod unrhyw eithriadau o gwbl yn llawer mwy gonest a chyson na'r rhai sy'n ceisio'i chael hi'r ddwy ffordd.

Holl bwynt erthyliad yw bod angen i fenywod fod â rheolaeth dros eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain. Mae gan grefydd record hir iawn o ddwyn y rheolaeth yna oddi arnynt, a dyna'n union pam y mae'r rhan fwyaf o'r dadleuon yn erbyn erthyliad yn rai crefyddol. Yr hunanreolaeth yma yw'r unig ffactor pwysig yn y ddadl; nid lle'r wladwriaeth (hynny yw, hen ddynion) yw ymyrryd yng nghrothau ei thrigolion.

Wrth gwrs, prif honiad gwrthwynebwyr erthyliad yw bod bywyd yn dechrau'n syth ar ôl i'r ŵy gael ei ffrwythloni. Mae hynny'n fympwyol tu hwnt; clwstwr o gelloedd digon di-nod ydyw o hyd ar yr adeg yma. Beth bynnag, mae tua hanner o'r holl wyau a gaiff eu ffrwythloni'n cael eu gwrthod gan y corff a'n methu mewnblannu yn y groth, heb i'r fenyw sylweddoli ei bod wedi beichiogi o gwbl. Os oes yna dduw, ac os yw'r ŵy'n enghraifft o fywyd gyda'r un hawliau â pherson, rhaid i'r addolwyr dderbyn mai eu harglwydd yw'r erthylwr mwyaf toreithiog erioed (o lawer), ac felly mae'n lofrudd erchyll. Dyma faglu dros anghysondeb sylweddol arall.

Mae'r anwybodaeth llethol yma'n deillio o'r agwedd blentynaidd sydd gan grefydd tuag at ryw ac atgenhedlu. Mae Akin wedi dangos nad oes ganddo'r syniad cyntaf am y pwnc, ond eto mae'n aelod o ddeddfwriaeth sy'n ymosod yn uniongyrchol ar hawliau hanner y boblogaeth. Yn ei 'ymddiheuriad', canolbwyntiodd ar ei eirio trwsgl, heb gydnabod o gwbl bod popeth arall a ddywedodd yn wallgof hefyd. Nid mater o eirio anffodus oedd hyn: mae ei holl agwedd tuag at fenywod yn erchyll. Wrth geisio 'egluro', dywedodd mai ei fwriad oedd gwneud y pwynt bod llawer o fenywod yn dweud celwydd am gael eu treisio er mwyn cael erthyliad. Ond dyna'r union beth gwaethaf yn ei ddatganiad! Mae ei blaid wedi brysio i'w feirniadu am ddefnyddio'r ymadrodd 'anffodus' hwnnw, ond yr hyn a olygodd yw'r drwg, nid ei ddewis o eiriau. Dylid nodi hefyd nad oedd, mewn gwirionedd, yn gwneud unrhyw beth ond lleisio polisi swyddogol y Blaid Weriniaethol. Bydd yn ddifyr gweld beth fydd yr isafbwynt nesaf yn y 'drafodaeth gyhoeddus' chwerthinllyd yma.

No comments:

Post a Comment