09/09/2012

Nid yw Rowan Williams yn deall seciwlariaeth

Mae Archesgob Caergaint yn gadael ei swydd cyn hir, ond mae'n debyg nad yw eisiau mynd yn dawel. Cyhoeddir ei gyfrol Faith In The Public Sphere yn fuan, sef casgliad o areithiau ac ysgrifau ganddo yn ystod ei gyfnod fel archesgob. Mae gan y Telegraph erthygl yn trafod yr hyn a ddywed yn ei ragymadrodd, lle mae'n ateb llawer o'i feirniaid. Egyr yr adroddiad fel hyn:
For almost 10 years he has endured a simultaneous barrage of criticism from those who say he should not meddle in politics and those who argue that when he talks about the Bible he becomes “irrelevant”.
Mae hyn yn wir i raddau helaeth. Wrth gwrs nid wyf yn credu y dylid cael eglwys wladol yn y lle cyntaf. O'r herwydd, ni ddylid ystyried barn Williams ar faterion gwleidyddol yn fwy arwyddocaol na phwysig na barn unrhyw un arall. Rwy'n digwydd rhannu llawer o safbwyntiau gwleidyddol Williams, er enghraifft ei farn ar y system addysg uwch. Er hynny, mae'n annheg bod safbwyntiau Williams yn cael eu gosod ar bedestal dim ond oherwydd ei fod yn cynrychioli un ffydd grefyddol.

Bid a fo am hynny, mae'r rwdlyn barfog wedi mwydro unwaith eto, ac mae'r sylwadau'n cael sylw yn y wasg, felly hoffwn ymateb i'r darn yma'n benodol:
Dr Williams argues that secularism comes in two different forms and that a secular state does not necessarily pose a problem for Christians.
“Programmatic” secularism excludes religious practise and symbols from public life in order to emphasise the “unclouded” loyalty of individuals to the state, which Dr Williams describes as problematic.
However, he does not object to “procedural” secularism, under which the state allows people to publicly practise their faith but does not give preferential treatment to any single religious group.
He says the Church can continue to exist in a secular society as long as it is allowed to speak up for its values.
Mae'r gwahaniaeth yma a ddisgrifia Williams yn un ffug. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, chwarae ar amwyster yr ymadrodd public sphere yw hyn. Nid amcan seciwlar yw gorfodi pobl grefyddol i arfer eu crefydd y tu ôl i ddrysau caeëdig yn unig. Yn wir, gwrthwyneb seciwlariaeth - gwrth-seciwlariaeth - fyddai hynny. Yn hytrach, yn y drafodaeth ynghylch seciwlariaeth, yr hyn a olygir gyda'r gair 'cyhoeddus' - y public sphere - yw'r sector gyhoeddus: y wladwriaeth. Y 'Procedural secularism' uchod yw unig wir ystyr seciwlariaeth. Dadl dyn gwellt yn unig yw'r 'programmatic secularism' chwedlonol yma, oherwydd nid yw'r fath beth yn digwydd. Cyn belled nad ydynt yn ymyrryd â hawliau eraill, nid oes unrhyw un sy'n arddel seciwlariaeth yn dymuno rhwystro unrhyw un rhag arfer eu crefydd yn gyhoeddus, yn ystyr gyffredin y gair.

Rwy'n gwrthod credu nad yw Williams yn deall hyn. Er mor ryddfrydol ei ddiwinyddiaeth, felly, ymddengys ei bod mor barod â'i gyfoedion mwy adweithiol i raffu celwydd a chamarwain er mwyn hyrwyddo'i grefydd.

Rwy'n deall fy mod yn bygwth swnio fel tiwn gron parthed y pwnc yma ar brydiau, ond rwy'n amlwg yn credu ei fod yn eithriadol o bwysig. Rwy'n blino ar y ffaith bod cymaint o bethau camarweiniol yn cael eu dweud mor aml yn ei gylch.

No comments:

Post a Comment