29/09/2013

Ynghylch Roman Polanski

Pob hyn a hyn, bydd rhyw sylwebydd neu'i gilydd yn dweud rhywbeth od am Roman Polanski, cyfarwyddwr ffilmiau a dreisiodd blentyn 13 oed ym 1977. Victoria Coren Mitchell yw'r diweddaraf.

Er mwyn egluro, rhoddodd Polanski alcohol a thabled cysgu i'r ferch er mwyn ei threisio. Yn ei phen ôl wrth gwrs; byddai creu babi wedi bod yn anghyfleus. Roedd ar fin cael ei ddedfrydu, ond fe ffodd i Ffrainc, lle mae'n parhau i fyw o hyd. Byrdwn yr ysgrif, fodd bynnag, yw bod nuance yn bwysig wrth ystyried y troseddwyr mewn achosion fel hyn.

Rwyf wedi darllen yr ysgrif sawl gwaith erbyn hyn, a dyma'r nuance honedig, hyd y gwelaf i: 1) roedd Polanski a'i deulu wedi dioddef yn ofnadwy o dan ormes y Natsïaid, 2) mae wedi gwneud ffilmiau ardderchog a 3) mae yna awgrym o hanner-maddeuant gan Samantha Geimer, y ferch a dreisiodd.

Mae'r pwyntiau yma i gyd yn gwbl amherthnasol wrth i ni ystyried ei drosedd. Os mai hanfod y ddadl yw bod troseddwyr rhywiol yn gymeriadau o gig a gwaed, sy'n cyflawni pethau da yn ogystal â rhai drwg, yna mae'n bwynt pathetig o amlwg, diflas a phitw. Lleiafrif bychan iawn o dreiswyr rhywiol sy'n ffitio'r cartŵn ystrydebol o fwystfil hyll sy'n gwneud dim ond llechu mewn gwrychoedd. Mae'r mwyafrif anferth yn greaduriaid ymddangosiadol normal, sydd wedi siarad yn ddigon cyfeillgar â'r dioddefwr(aig) cyn yr ymosodiad: maent yn gydwybodol yn eu swyddi, yn garedig tuag at anifeiliaid a'n caru eu mamau. Dyna'r union beth sy'n ei gwneud mor anodd i lawer o ddioddefwyr. Os nad yw'r treisiwr yn ffitio'r darlun ystrydebol, mae cymdeithas yn amau'r dioddefwyr o ddweud celwydd, neu o leiaf yn mynnu rhoi peth o'r cyfrifoldeb ar eu hysgwyddau.

Er nad wyf wedi gwylio'i ffilmiau, rwy'n barod i dderbyn y posibilrwydd bod Polanski'n dda iawn yn ei waith. Ond mae llawer iawn o dresiwyr eraill yn dda yn eu gwaith hefyd, boed yn gosod carpedi neu'n ddoctoriaid neu'n weithwyr siop. Nid yw Polanski'n eithriad arbennig, ac mae'r dyhead yma i'w drin yn wahanol oherwydd ei statws arbennig ym myd ffilmiau'n annifyr a hurt.

Parthed pwynt 3 uchod, erys y ffaith bod y dyn wedi dianc rhag cyfiawnder. Petai wedi derbyn ei ddedfryd, wedi treulio'i amser o dan glo, ac wedi edifarhau, efallai y byddai modd i bawb symud ymlaen. Ond nid yw'r dyn wedi gwneud unrhyw beth o gwbl i haeddu hynny; yn wir, mae wedi mynd i ymdrechion rhyfeddol er mwyn osgoi cyfiawnder. Ar ben hynny, ac a bod yn gwbl blaen, mae Geimer ei hun yn hollol anghywir i geisio ysgwyddo peth o'r bai. Merch 13 oed oedd hi ar y pryd, yn cael ei threisio gan ddyn 43. Ni ddylid caniatáu iddi dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd, hyd yn oed os yw hynny'n ddymuniad ganddi.

Nid yw nuance yn beth da bob tro. Mae ffeithiau'r achos yn hysbys a syml, ac er fy mod yn siwr nad dyna oedd amcan yr awdures, mae ymdrechion fel hyn i greu cymlethdod lle nad oes ei angen yn ymddangos yn beryglus o agos at esgusodi'r hyn a wnaed.

No comments:

Post a Comment