Yr hyn sy'n taro'r darllenydd yn syth yw'r ffaith bod y gyfrol wedi'i hysgrifennu yn y trydydd person. Mae perygl o swnio'n aruchel braidd wrth wneud hynny, a chan bod llawer yn ystyried Rushdie braidd yn ffroenuchel yn barod (yn haeddiannol neu beidio), mae wedi derbyn beirniadaeth am ei benderfyniad. Y cyfiawnhad, am wn i, yw ei fod yn fodd o bwysleisio'r ffaith iddo orfod rhoi'r gorau i fod yn ef ei hun i bob pwrpas. Mae hefyd yn ei alluogi i ysgrifennu'n fwy blodeuog na phetai'n defnyddio'r person cyntaf. O ganlyniad, mae llawer o'r llyfr yn darllen fel ei nofelau.
Adolygiadau cymysg a gafodd y gyfrol, mae'n debyg. Mae hwn gan Zoë Heller yn y New York Review Of Books bron yn chwedlonol erbyn hyn; campwaith o hatchet job llenyddol. Mae'n hwyl i'w ddarllen, ac mae gwirioneddau ynddo (yn enwedig ynghylch ei bortreadau o'i bedair cyn-wraig) ond mae'n annheg ar y cyfan. Yn fy marn i mae'r llyfr yn afaelgar ac mae'n trafod mater eithriadol o bwysig. Rwy'n fodlon maddau ambell ddarn sy'n gwneud fawr ddim mwy na rhestru'r holl enwogion y mae Rushdie wedi swpera â hwy. Mae'r dyn yn luvvie eithaf digywilydd, ac ar ôl yr hyn y bu raid iddo'i ddioddef, os rywbeth rwy'n eithaf hapus drosto.
A dweud y gwir, os rywbeth nid yw arwyddocâd y fatwā wedi cael ei werthfawrogi'n llawn hyd heddiw. Rwy'n teimlo ambell waith bod angen atgoffa pobl o'r hyn a ddigwyddodd: fe "ddedfrydwyd" dyn o un wlad i farwolaeth gan bennaeth gwladwriaeth arall, am ysgfrifennu darn o ffuglen, ac fe neilltuwyd arian mawr i wobrywo'r sawl aiff ati i gyflawni'r llofruddiad. Mae hynny'n wirioneddol wallgof, ac mae rhoi'r mymryn lleiaf o fai ar Rushdie ei hun am yr hyn a ddigwyddodd (ac am gost ei ddiogelu ac ati) yn gwbl anfaddeuol ac anfoesol. Mae llawer o "ryddfrydwyr" honedig yn euog o hynny; rhag eu cywilydd. Ond rwy'n credu bod rhai pobl mwy cefnogol hefyd yn anghofio pa mor ddifrifol yn union oedd y fath ymosodiad uniongyrchol ar ryddid syml, hanfodol a chreiddiol.
Mwy nag unwaith, mae'r awdur yn galaru'r ffaith iddo gael ei amddifadu o'r cyfle i dderbyn beirniadaeth lenyddol deg ac aeddfed i The Satanic Verses. Yn ogystal â difetha ei fywyd yn ymarferol am ddegawd - roedd mynd am dro yn gofyn am oriau o baratoi gan ei warchodwyr - roedd y fatwā'n amlwg yn gysgod anferth dros yr ymateb i'r llyfr. Yn hytrach na thrafod hynt a helynt y cymeriadau, daeth y nofel yn fawr mwy na phêl mewn gêm geoboliticaidd. Er ei fod bellach, o'r diwedd, yn gallu byw ei fywyd yn agored a diogel, erys y cysgod hwnnw. Y gwir amdani yw bod trafod y gyfrol hyd heddiw yn amhosibl heb grybwyll y fatwā. Waeth i mi fod yn onest: mae'n siwr bod y fatwā'n reswm i mi fy hun fynd ati i ddarllen The Satanic Verses (fe'i hoffais, gyda llaw). Fersiwn eithafol o effaith Streisand ar waith, am wn i. Mae ymdrechion i sensro darnau o gelfyddyd yn sbarduno mwy o chwilfrydedd a diddordeb, bron yn ddieithriad. Am y rheswm hwnnw, mae sawl twpsyn wedi cyhuddo Rushdie o chwenych ffrae'n fwriadol er mwyn gwneud ei ffortiwn. Mae'r sarhad yn warthus, gan fod yr awdur wedi bod yn garcharor, i bob pwrpas, am ddegawd; hyd yn oed petai'n wir ei fod wedi troi'n ddyn cyfoethog, pa bris rhyddid? Beth bynnag, am flynyddoedd lawer roedd yn edrych yn annhebygol y byddai cyhoeddiad clawr meddal o'r nofel yn gweld golau dydd o gwbl.
Y pwynt trist yw bod safon a chynnwys y nofel ei hun bron yn amherthnasol erbyn hyn. Byddai Rushdie'n ddigalon iawn i ddarllen hynny. A dweud y gwir, yn yr hunangofiant mae'r awdur yn awgrymu bod llenyddiaeth "safonol" (fel ei gynnyrch ef, mae'n debyg) yn haeddu amddiffyniad cadarnach. Rhaid anghytuno'n chwyrn â hynny: mae rhyddid mynegiant creadigol yn berthnasol i bawb neu nid yw'n bodoli o gwbl; byddai blaenoriaethu ar sail safon goddrychol yn gofyn am drafferth. Nid oes dwywaith bod Innocence Of Muslims yn hollol ofnadwy, er enghraifft, ond mae'r ffilm a'i chynhyrchydd yn haeddu cael eu hamddiffyn llawn cymaint â The Satanic Verses a Rushdie.
Dywed Rushdie mai un o'i amcanion wrth ysgrifennu Joseph Anton oedd rhoi cysgod y fatwā y tu cefn iddo unwaith ac am byth. Mae'r sefyllfa bresennol yn annheg, a dywed ei fod yn blino weithiau ar ateb cwestiynau am hynny'n hytrach na thrafod cynnwys ei ffuglen. Ei obaith yn y dyfodol pan fydd pobl yn ei holi am hynny yw gallu pwyntio at y gyfrol swmpus yma fel ateb, a cheisio newid trywydd y sgwrs tuag at faterion llenyddol. Bydd hynny'n anodd, ond rwy'n dymuno pob lwc iddo.
No comments:
Post a Comment