25/08/2016

Plismyn dillad Ffrainc

Mae'r ideoleg crefyddol sy'n cyfiawnhau'r gorchudd islamaidd yn annifyr dros ben. Ond dylai pawb ddychryn o weld plismyn arfog yn gorchymyn dynes i ddadwisgo ar draeth yn ne Ffrainc. Mae hyn yn dangos yn gliriach na dim arall bod angen dybryd i'r Ffrancwyr ail-ystyried eu diffiniad idiosyncratig o seciwlariaeth, neu laïcité. Rwy'n seciwlarydd rhonc, ond mae'r ddelwedd yna wedi codi braw gwirioneddol arnaf.

Cafodd y ddynes ei dirwyo am beidio dangos digon o gnawd (nid oedd yn gwisgo burkini, er mai dyna prif darged y gwaharddiad). Yr esboniad a gafodd oedd nad oedd ei dewis o ddillad yn 'parchu moesoldeb da'. Mae hynny'n frawychus o amwys a goddrychol, ond yn waeth na hynny mae'n swnio fel y math o gyhuddiad a wneir gan heddlu crefyddol Sawdi Arabia. Sylwch, gyda llaw, bod y plismyn hwythau wedi'u gorchuddio i'r un graddau. Un rheol i'r dynion, ac ati.

Fel mae'n digwydd, mae'r burkini'n cynyddu mewn poblogrwydd, ac nid dim ond gan fwslemiaid y daw'r galw. Am wn i, gall fod yn ffordd ddefnyddiol o fwynhau traethau heb boeni cymaint am effeithiau pelydrau'r haul. Bydd yn ddiddorol gweld a ddaw dydd pan fydd mwyafrif y bobl sy'n ei wisgo'n gwneud hynny am resymau amgenach na chrefydd. Go brin y byddai'r gwaharddiad yn gynaliadwy wedyn. Dengys hyn pa mor fympwyol yw'r cyfan.

Heb sôn am fod yn erchyll, rhaid gofyn sut yn y byd mae'r Ffrancwyr yn dychmygu bydd hyn o fudd. Dyma'r ffordd berffaith o ddangos eu bod yn defnyddio grym y wladwriaeth er mwyn targedu ac erlyn mwslemiaid yn benodol. Beth bynnag eich barn am grefydd sy'n mynnu bod angen i fenywod orchuddio'u cnawd rhag ofn i bob dyn yn y cyffuniau ei threisio yn y fan a'r lle, mae'r gwaharddiad yma'n beryglus o wrth-gynhyrchiol a thwp.

Dyma'r peth gorau rwyf wedi'i ddarllen am y pwnc, gyda llaw.

No comments:

Post a Comment