26/07/2011

Anders Behring Breivik

Ymateb cyntaf pawb, gan gynnwys y cyfryngau, yn fuan wedi'r gyflafan yn Norwy dros y penwythnos oedd tybio mai terfysgw(y)r Islamaidd oedd yn gyfrifol. Hyd y gwelaf i, "terfysgaeth" oedd y gair a ddefnyddwyd i ddisgrfio'r hyn a ddigwyddodd. Hynny yw, nes i ni ganfod mai dyn gwyn, penfelyn, Cristnogol oedd wrthi. Fel hud a lledrith, fe drodd wedyn yn gunman a madman. Does dim llawer o amheuaeth bod y cyfryngau wedi bod yn gyndyn i barhau i alw'r lladdfa yn weithred derfysgol ers i ni ddod i adnbaod Breivik a darllen ei "faniffesto". Gallwch ddarllen hwnnw isod, ond da chi peidiwch â darllen y cyfan: 1,500 tudalen o rwdlan paranoid. Mae blas yn ddigon.



Yr hyn sy'n eich taro yw bod ei lith yn debyg iawn i'r math o falu awyr a geir gan eithafwyr Islamaidd. Y cyfan sydd angen ei wneud yw cyfnewid y geiriau "Cristnogaeth" ac "Islam". Y peth doniol am eithafwyr Cristnogol ac Islamaidd yw eu tebygrwydd ar yr un llaw a'u casineb at ei gilydd ar y llall. Mae'n rhyfedd eu bod yn ystyried ei gilydd yn elynion pennaf; mae eu dyheadau yr un peth yn union.

Ac nid gorddweud yw awgrymu y byddai croeso cynnes iawn i Breivik ymysg y Tea Party yn America. Mae'n anodd dweud y gwahaniaeth rhwng ei ddatganiadau o a'u rhai hwy.

1 comment:

  1. Hen air rhyfedd yw'r "terfysgaeth" yma - synnu o hyd cynlleied mae pobl yn defnyddio'r gair wrth ddisgrifio grwpiau treisgar maen nhw'n eu cefnogi - allwch chi ddychmygu y sawl oedd yn cefnogi rhyfel Afghanistan yn disgrifio Cynghrair y Gogledd fel terfysgwyr? Neu Gymry cenedlaetholgar yn galw Owain Glyndwr yn derfysgwr?

    Ond mae 'na wahaniaethau moesol rhwng y "terfysgwyr" islamaidd, Breivik, a'r Tea Party. Mae'r Tea Party yn fodlon gwneud bygythiadau hiliol a defnyddio delweddau treisgar, mae Breivik yn fodlon lladd eraill (ond nid o reidrwydd yn ddigon "dewr" i ladd ei hun yn y broses), tra bod cannoedd o hunan-fomiwyr yn meddu ar ddigon o hyder yn eu dogmâu i ladd eu hunain a chymaint a fedran o bobl eraill.

    Efallai bod y "terfysgwyr" Cristnogol, gwyn, yn dipyn yn fwy cachgîaidd na'u cefndryd Islamaidd - ac o bosib ychydig yn llai peryglys o'r herwydd? Yr hyn sy'n ddychrynllyd am Brevik yw ei fod yn dod o'r tu fewn i gymdeithas "gyffyrddus", yn hytrach na graddfa'r dinistr roedd o'n gyfrifol amdano.

    ReplyDelete