07/03/2012

Pwysigrwydd rhoi'r pigiad MMR i'ch plant

Mae'n debyg bod 33 o blant o ardal Porthmadog wedi dioddef oherwydd y frech goch yn ddiweddar. Mae'n debygol iawn bod gan hyn rhywbeth i'w wneud â'r ffaith nad yw'r rhan fwyaf o'r plant yma wedi derbyn y pigiadau MMR (measles, mumps & rubella).

Heb wybod i sicrwydd, mae'n deg gofyn a yw'r rhieni yn yr achos yma wedi bod yn ddi-hid am y mater gan dybio bod digon o blant pobl eraill yn cael y pigiadau perthnasol ac felly'n gwarchod pawb arall. Wrth gwrs, er mwyn i hynny weithio rhaid i ganran arbennig dderbyn y pigiad ei hun, ac os oes gormod yn disgwyl i blant pobl eraill gymryd y baich gall hynny olygu bod yr holl system yn chwalu.

Fy mhryder pennaf yw'r tebygolrwydd bod rhieni wedi talu gormod o sylw i bobl fel Andrew Wakefield. Ef a gyhoeddodd ysgrif yn y Lancet ym 1998 yn honni bod pigiad yr MMR yn achosi awtistiaeth. Yn dilyn yr holl sylw a gafodd hynny gan y Daily Mail ac eraill, nid oes syndod bod llawer o rieni wedi dychryn, er bod honiadau Wakefield yn gwbl ddi-sail: deuddeg plentyn yn unig a gynhwyswyd yn yr astudiaeth, ac roedd nifer o broblemau dybryd eraill yn perthyn i'r gwaith. Yn ogystal, roedd Wakefield wedi derbyn taliad sylweddol er mwyn cyhoeddi'r ymchwil ffug yma. Cydnabyddir bellach bod "ymchwil" Wakefield yn anghywir a chamarweiniol, ac mae'r Lancet wedi diddymu'r papur erbyn hyn. Yn anffodus, mae llawer wedi llyncu'r celwydd ac wedi penderfynu gwrthod rhoi triniaeth syml ond holl-bwysig i'w plant.

Hyd yn oed os nad sgil effaith o'r difrod a achoswyd gan Wakefield yw'r newyddion diweddar yma, mae'n rybudd bod angen osgoi esgeulustod ynghylch yr afiechyd. Mae llawer yn ddi-hid am yr haint gan nad ydyw bellach yn cael ei hystyried yn beryglus. Wrth gwrs, y rheswm nad ydyw'n beryglus bellach yw oherwydd ein bod yn gwarchod plant rhagddi trwy roi pigiad iddynt. Mae'r afiechyd ei hun, os yw plentyn yn digwydd cael ei heintio, yr un mor ddifrifol ag erioed. Dyma felly fersiwn o fath o'r tragedy of the commons. Yn anffodus, nid oes ffordd garedig o ddweud bod rhieni sy'n gwrthod caniatáu'r pigiad nid yn unig yn rhoi eu plant eu hunain mewn perygl, ond plant pawb arall hefyd.

Y neges yn syml yw bod angen rhoi'r pigiad MMR i bob plentyn. Mae peidio gwneud yn anghyfrifol, a'n achosi perygl di-angen i'r gymdeithas gyfan. Mae modd deall pam mae rhai rhieni'n anhapus gyda'r syniad o drywanu'u plantos dagreuol â nodwyddau, ond mae'r rhesymau meddygol dros wneud hynny'n gwbl glir. Mae gwrthod yn beryglus, yn anffodus.

No comments:

Post a Comment