Beth bynnag, mae Rowan Williams wedi datgan ei fod am ymddiswyddo o'i swydd fel pennaeth yr eglwys Anglicanaidd ar ddiwedd y flwyddyn. Nid yw hynny'n newyddion annisgwyl, gan fod y swydd honno wedi bod yn un eithriadol o anodd yn ddiweddar. Er bod diwinyddiaeth Dr Williams yn gymharol ryddfrydol, mae tensiynau mawr wedi bod yn amlwg yn ei eglwys ers blynyddoedd wrth i garfannau ceidwadol wneud sioe enfawr o wrthwynebu ordeinio esgobion benywaidd, ac maent wedi arddangos rhagfarnau pathetig eraill yn gyffredinol. Yr unig syndod yw nad oedd Williams wedi cael llond bol lawer ynghynt.
Bydd yn ddifyr gweld pwy fydd yn ei olynu. Mae'n bosibl y bydd hwnnw'n fwy ceidwadol na Williams. Efallai bod tuedd ddiweddar yr eglwys Anglicanaidd i lithro i'r dde yn symptom o dranc cristnogaeth yn gyffredinol. Wrth i fwy a mwy o gristnogion meddal droi cefn ar yr eglwys yn gyfan gwbl, erys yr hardcore mwy eithafol ar ôl.
Mae diwinyddiaeth ryddfrydol neis-neis yr un mor anghywir â'r fersiynau mwy amrwd geidwadol, wrth gwrs. Ond o leiaf mae casineb a rhagfarn yn llai amlwg ynddi. Gwneud i mi rowlio fy llygaid a wna pobl fel Williams. Ond gwneud i mi boeri gwaed a wna'r hen ffyliaid hynny sy'n methu dioddef y syniad o fenyw mewn swydd uchel.
Hwyl fawr i'r mwydryn hoffus barfog. Mae'n werth gwylio'r drafodaeth ddiweddar isod rhyngddo a Richard Dawkins: dau ddyn addfwyn yn anghytuno'n gwrtais.
Sylwadau piwis, dan din a diangen gan un sydd yn honni mewn pyst eraill ei fod yn "oddefgar".
ReplyDeleteAlwyn, efallai fy mod i'n drysu, neu fethu deall yn iawn be' wnaeth Dylan sgwennu gan mod i'n ddysgwr o hyd, ond wela I ddim sut mae'r hyn a ddywedodd o yn "anoddefgar". Tasai fo'n mynnu y dylai'r archesgob gael ei atal rhag siarad, neu yn ymosod arno am fod â nodwedd gynhedig na all Williams newid (e.e. cenedl, lliw ei groen), faswn i'n cytuno efo chi. Ond dim anoddefgarwch ydy anghytuno efo barnau a chredau pobl arall, na mynegi'r farn eu bod ganddyn nhw'n syniadau twp chwaith, os oes gynnoch chi sail ar gyfer eich dadleuon. Cyn belled ag y wela i, mae gan Dylan sail da am ei rai fo. Ddylai fo beidio â dweud beth mae o'n meddwl?
ReplyDeleteDiolch RedGreenInBlue! Nid wyf yn credu dy fod yn drysu; mae sylw Alwyn yn ddirgelwch mawr i minnau hefyd. Er, mae'n anodd peidio edmygu cheek a haerllugrwydd awdur y lol afiach yma'n meiddio pregethu am "oddefgarwch"!
ReplyDeleteEfallai mai ystyr "goddefgarwch" i Alwyn yw peidio anghytuno ag unrhyw un. Ond nid yw hwnna'n ddiffiniad defnyddiol iawn.
ReplyDeleteBeth bynnag, nid yw goddef safbwyntiau rhagfarnllyd (megis yr hyn a arddelir gan adain geidwadol yr eglwys) yn rhinwedd. Mae'n anfoesol peidio bod yn anoddefgar o bobl felly.
Dylan, nid ydwyf i wedi honni erioed fy mod yn "oddefgar", ond yr wyt ti wedi honni dy fod yn oddefgar.
ReplyDeleteParthed y post yr wyt yn defnyddio fel "prawf" o fy niffyg goddefgarwch, o'i ddarllen eto fe weli ei fod yn mynegi fy "niffyg deall" o bwnc; wrth gwrs yn hytrach na chynnig eglurhad cefais lond trol o faw a bygythiadau cyfreithiol am feiddio mynegi anwybodaeth, gennyt ti ac eraill - rwyt braidd yn hy gan hynny i ddefnyddio'r post fel enghraifft o anoddefgarwch - mae'r ymateb yn dangos mwy o dy anoddefgarwch di a dy fath!
O ran bod yn biwis, pe bawn yn clywed am ymddeoliad yr Athro Dawkins o ba bynnag uchel arswydus swydd y mae’n cyflawni bellach byddwn yn diolch iddo am ei gyfraniad a dymuno'n dda iddo yn ei ddyfodol yn hytrach na dymuno gwynt teg ar ei ôl , mae'n mater o barch. Ond hwyrach bod parch yn rhywbeth arall na ddylid credu ynddo bellach!
Unwaith eto rhaid gofyn geiriau pwy rwyt yn ymateb iddynt. Nid fy rhai i, mae hynny'n sicr.
ReplyDeleteDymunais hwyl fawr i ddyn rwy'n ei alw'n hoffus. Ble ar wyneb y ddaear wyt ti'n fy ngweld yn dweud gwynt teg? Rwy'n credu ei fod yn anghywir am lawer iawn o bethau, ond wyt ti wir yn synnu gweld awdur blog o'r enw Anffyddiaeth yn dweud mymryn bach o eiriau am hynny?
Nid wyf yn siwr pa mor ddefnyddiol yw'r gair "goddefgarwch" felly rwy'n ansicr a wyf wedi dweud erioed ei fod yn air sy'n fy nisgrifio. Nid wyf yn oddefgar parthed lleiafrifon ethnig na phobl gyfunrywiol, er enghraifft, oherwydd nid oes unrhyw beth i'w oddef yn y lle cyntaf. Mae bod yn anoddefgar ohonynt, ar y llaw arall, yn warthus. Mae'n gymhleth.
"wrth gwrs yn hytrach na chynnig eglurhad cefais lond trol o faw a bygythiadau cyfreithiol am feiddio mynegi anwybodaeth, gennyt ti ac eraill"
Rwyf newydd sgrechian. Wedi'r cyfan rwyf wedi'i ddweud, yr unig gasgliad y mae modd ei chyrraedd bellach yw dy fod yn wallgof a'n gwrthod talu sylw.
Er mwyn i mi beidio dy anwybyddu'n barhaol o hyn ymlaen, dyma sydd angen i ti'i wneud: unai a) canfod un enghraifft ohonof yn dy fygwth â'r gyfraith oherwydd dy sylwadau (er i mi amddiffyn dy ryddid barn hyd syrffed a melltithio unrhyw un a grybwyllodd dy achwyn i'r heddlu) neu b) cyfaddef dy gamgymeriad ac ildio bod yr uchod fwy neu lai'n enllibus, ac addo peidio dweud y celwydd yna eto.
Gwna un o'r ddau yna ar unwaith. Rwyf wedi hen gael llond bol ar y lol yma. Tan hynny, nid oes gennyf unrhyw fath o ddiddordeb yn dy sylwadau.
Na? Ok.
ReplyDeleteNa? Ok.
ReplyDeleteOs yna reol bellach ar ba mor aml y mae'n rhaid imi ymweld â dy flog ac ymateb i dy sylwadau hurt; cyn iti ddod i'r casgliad nad oes ymateb?
Pan rwyt yn rhaffu celwydd noeth, yn enwedig un amdanaf sy'n mynd yn groes i un o brif safbwyntiau cyson y blog yma, mater o gwrteisi yw unai tynnu'r honiad yn ôl neu geisio cyfiawnhau dy hun.
ReplyDelete