19/09/2012

Mwslemiaid blin, eto fyth

Mae'r rhagflas o'r ffilm Innocence Of Muslims yn amlwg yn uffernol. Safonau cynhyrchu, actio, sgript, cywirdeb: mae'r cyfan yn chwerthinllyd. Yn ôl y sôn, fe gostiodd y ffilm gyfan tua $5,000,000 (£3,100,000) i'w chynhyrchu. Nid yw'n hawdd credu hynny wrth wylio; mae'n rhaid bod rhywun yn rhywle'n cerdded o gwmpas gyda $4,999,990 yn ei boced a gwên fawr ar ei wyneb.

O'r herwydd, mae'n bwysig beirniadu'r ffilm yn hallt am resymau esthetig ac oherwydd y gwallau ffeithiol di-rif a geir o'r dechrau i'r diwedd. Yn anffodus, fodd bynnag, ymddengys bod yna lawer iawn yn y byd islamaidd sydd heb sylwi bod gan YouTube le i adael sylwadau. Yn hyrach, eu dull traddodiadol o fynegi anfodlonrwydd â safbwyntiau pobl eraill yw llosgi pethau a bod yn dreisgar, gan fynnu cael dïenyddio pwy bynnag sydd wedi'u pechu. Fel mae'r ddolen yna'n dangos, mae hanes hir iawn o hyn (rwy'n edrych ymlaen i gael darllen llyfr newydd Salman Rushdie am ei brofiad yn ystod y fatwā enwog a beryglodd ei fywyd am iddo feiddio ysgrifennu nofel).

Mae yna ffactorau gwleidyddol cymhleth eraill yn gyfrifol am y terfysg (cyhoeddwyd y darn o ffilm yma'n wreiddiol dros bedwar mis yn ôl, ac mae yna resymau arbennig pam mai dim ond nawr y mae'r dyfroedd yn corddi). Beth bynnag, byddaf yn craffu ymhellach ar ymddygiad y mwslemiaid gwallgof hynny mewn cofnod arall yn fuan. Am y tro, rwyf am ategu'r un hen rwystredigaeth rwyf wedi'i fynegi mor fynych eisoes, sef parodrwydd cymaint o bobl, gan gynnwys rhyddfrydwyr honedig, i ymosod ar ryddid mynegiant. Mae'r erthygl yna o eiddo Glenn Greenwald yn hanfodol, ac rwy'n ei hargymell yn fawr.

Fel y dywedais, condemniwch y ffilm ar bob cyfrif. Ond mae'n warthus gweld pobl yn awgrymu y dylid cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Nakoula Basseley Nakoula, y cristion coptig Eifftaidd-Americanaidd sy'n gyfrifol (defnyddiodd yr enw Iddewig Sam Bacile wrth hyrwyddo'r ffilm). Nid wyf yn awgrymu am eiliad nad yw'r dyn yn fochyn afiach, ond mae'r syniad o ddefnyddio'r gyfraith i erlyn rhywun am gynhyrchu ffilm yn un dychrynllyd. Mae'n anfaddeuol bod yr heddlu wedi'i gwestiynu. Mae'n waeth byth bod gweinyddiaeth Barack Obama wedi 'gofyn' i YouTube ystyried tynnu'r fideo i lawr. Ni ddylai unrhyw beth fel hyn fod yn fater i'r wladwriaeth, a dyna'i diwedd hi.

Mae pobl yn dweud pethau cas am safbwyntiau pobl eraill drwy'r amser. Yr unig beth sy'n gwneud islam yn wahanol yw bod cymaint o'i harddelwyr mor barod i ymateb trwy ddefnyddio trais. Mae'n naturiol bod hynny'n destun dychryn, ond mae unrhyw un sy'n awgrymu y dylid tawelu pobl fel Nakoula yn euog o annog feto'r heclwr. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, mae gwirfoddoli i fod yn wystlon i sensitifrwydd ffyliaid treisgar canol-oesol yn syniad uffernol.

2 comments:

  1. Dwi'n cymryd bod ti wedi gweld hwn...
    http://www.theonion.com/articles/no-one-murdered-because-of-this-image,29553/
    Da de!

    ReplyDelete
  2. Gwych ynte. Diolch byth am yr hen Nionyn!

    ReplyDelete