03/11/2012

"Camddefnyddio" cyfreithiau cabledd

Rwy'n tanysgrifio i'r cylchgrawn y New Humanist, ac rwyf newydd ddarllen erthygl ddifyr a brawychus dros ben yn y rhifyn diweddaraf sy'n olrhain hanes cyfreithiau cabledd ym Mhacistan. Gallwch ei darllen ar-lein fan hyn.

Mae'n debyg bod cynnydd anferth wedi bod yn y nifer o bobl a gyhuddwyd o gableddu tros y ddau ddegawd diwethaf, felly mae'r broblem yn gwaethygu'n arw yn hytrach na gwella. Gwna'r awdur y pwynt amlwg ond allweddol mai dyfais gyfleus er mwyn tawelu gelynion yw cyfraith o'r fath.

Un cŵyn sydd gennyf gyda'r ysgrif, ac mae'n un bach ond pwysig. Mae'r erthygl yn sôn droeon am misuse neu abuse o'r cyfreithiau hyn, ond mae hynny'n beryglus gan ei fod yn awgrymu, ac yn ildio, bod y fath beth yn bodoli â defnydd cywir. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol pwysleisio nad camddefnydd yw'r broblem, eithr bodolaeth y fath gyfreithiau gwallgof yn y lle cyntaf.

3 comments:

  1. Mewn gwlad gydag un ffydd swyddogol mae modd diffinio cabledd. Efallai byddai rhai yn anghytuno gyda chreu deddf o'r fath ond mater arall fyddai hynny. Mewn sefyllfa o'r fath mae modd mwynd trwy broses gyfreithiol ddilys o benderfynnu a ydy'r gyfraith wedi ei thorri mewn achos benodol. Defnydd cywir fyddai hynny. Yn Pacistan, gwaetha'r modd, mae cyhuddiadau yn cael eu gwneud oherwydd rhagfarn yn unig a'r rhai sydd wedi eu cyhuddo yn cael eu cosbi, weithiau eu lladd, naill ai heb fynd trwy broses gyfreithiol neu hyd yn oed ar ol ael eu darganfod yn ddieuog. Camddefnydd o'r gyfraith ydy hynny.

    ReplyDelete
  2. Ond dyna'n union yw'r sefyllfa ym Mhacistan: cael eu cyhuddo o gableddu'n erbyn Mohammed ac islam - un ffydd de facto swyddogol - y mae'r bobl yma. Nid oes unrhyw achos wedi'i ddwyn yn erbyn unrhyw un am ddweud rhywbeth angharedig am Vishnu neu Iesu Grist ac ati.

    Mae ganddynt ddiffiniad cyfreithiol o gabledd a "chasineb crefyddol". Mae'n amwys, ond dyna natur atebion i broblemau nad ydynt yn bodoli. Os derbyn gwirionedd islam er dadl, yna mae'r cyhuddiadau ym mhob achos yn bodloni'r diffiniad o gabledd.

    Dyma pam mai'r unig ddatrysiad synhwyrol yw diddymu'r categori yma o drosedd yn llwyr. "Victimless crime", wedi'r cyfan.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Ond roedd y darn gwreiddiol yn dadlau nad modd cael 'defnydd cywir' - ac roeddwn i'n awgrymu bod modd mewn gwlad fel Pacistan gydag un ffydd swyddogol. Fyddwn i ddim yn cytuno gyda gwneud felly ond mae'n bosib.

      Delete