31/01/2013

Mae'r diwydiant fferyllol wedi torri

Gorffenais ddarllen Bad Pharma gan Ben Goldacre ychydig yn ôl, ac rwy'n flin o hyd. Mae'r llyfr yn ardderchog a phwysig, ond mae'r problemau a ddisgrifir ynddo ynghylch y system fferyllol sy'n darparu ein cyffuriau yn sicr o'ch gwylltio chithau hefyd.

Yn ôl Goldacre, sy'n feddyg, mae bai ar bawb o fewn y system: y cwmnïau fferyllol, y rheoleiddwyr sydd i fod i'w goruchwylio, cyfnodolion academaidd, academyddion, a llawer o'i gyd-ddoctoriaid.

Mae ymchwilio a chynhyrchu cyffur newydd yn waith drud, a gall gymryd degawd a mwy. Mae'r awdur yn cydnabod bod yr orchwyl yn un anodd, a dylem werthfawrogi bod llawer iawn o gyffuriau gwerthfawr iawn wedi cael eu cynhyrchu gan y cwmnïau yma. Yn anffodus, mae yna nifer o broblemau brawychus yn y system.

Yr un mwyaf difrifol, o bell ffordd, yw'r ffaith bod cwmnïau fferyllol yn dueddol o beidio cyhoeddi canlyniadau negyddol. Dyweder, er enghraifft, bod cwmni wrthi'n cynhyrchu cyffur newydd. Yn y broses o'i brofi, cynhelir naw treial, a dyweder bod canlyniadau tri ohonynt yn awgrymu bod y cyffur yn cyflawni'r hyn a obeithir amdano. Cyhoeddir y canlyniadau yma'n llawen, mewn cyfnodolion academaidd parchus, ond beth am y chwe threial arall? Yn rhyfeddol, y tebygolrwydd yw na chaiff y rheiny eu cyhoeddi; neu, efallai, un neu ddau, sydd wrth gwrs dal i fod yn ddigon i lurgunio'r argraff a gynhyrchir o'r gwir sefyllfa. Er enghraifft, cyfeiria'r awdur at astudiaeth o'r ymchwil gyhoeddedig ynghylch statinau (cyffuriau sy'n lleihau lefelau colesterol), sy'n dangos bod papur academaidd sydd wedi'i ariannu gan y diwydiant ugain gwaith mwy tebygol o gynhyrchu canlyniadau sy'n ffafrio'r cyffur o dan sylw. Mae hyn i gyd, wrth reswm, yn eithriadol o gamarweiniol; nid yn unig i gleifion, ond hefyd i ddoctoriaid ac academyddion eu hunain sydd angen gwybod beth yw'r opsiynau gorau. Un o'r arfau mwyaf defnyddiol sydd gan ymchwilwyr meddygol yw adolygiadau systematig, sef y dull o gasglu pob treial sydd erioed wedi'i wneud ar gyfer cyffur arbennig a dadansoddi'r cyfan (gan fod cywirdeb y canlyniadau'n cynyddu wrth i'r nifer o gleifion sy'n cymryd rhan gynyddu hefyd). O'r herwydd, mae canlyniadau negyddol yr un mor bwysig yn union â rhai cadarnhaol. Yn anffodus, mae'n amlwg mai blaenoriaeth y diwydiant yw canfod ffyrdd o gael y cynnyrch i'r farchnad, hyd yn oed os oes rhaid twyllo (a thwyll yw'r union air cywir).

Ateb syml Goldacre i'r broblem yma yw gorfodi pawb sy'n cynnal treial i'w gofrestru o flaen llaw, ac i gyhoeddi'r canlyniadau doed a ddelo. Mae ymdrech i weithredu rhywbeth tebyg i hyn wedi bod o'r blaen; cytunodd y cyfnodolion academaidd, o ran egwyddor, i beidio cyhoeddi treialon na gofrestrwyd o flaen llaw. Er y geiriau mawrion, fodd bynnag, gwag fu'r addewid (cyhoeddiadau masnachol ydynt, wedi'r cyfan, felly mae gwerthiant yn bwysig). Fel y dywed yr awdur, mae angen gwneud hyn o ddifrif, ac ar unwaith. Nid yn unig hynny: dylai fod yn ôl-weithredol hefyd. Dylid gorfodi pawb sydd wedi cynnal treial yn y gorffennol i gyhoeddi'r canlyniadau, negyddol neu bositif. Mae'n sgandal anferthol bod y gwaith pwysig yma'n hel llwch mewn cypyrddau tywyll yn un o swyddfeydd GlaxoSmithKline, Pfizer neu Merck. 

Er mai dyna'r ffactor bennaf oll, roeddwn yn rhyw amau bod hynny'n digwydd eisoes (er nid i'r fath raddau). O'r herwydd, fe'm synnwyd yn fwy gan y ffaith, yn ôl Goldacre, bod cymaint o'r treialon eu hunain mor wallus. Mae'n syfrdanol, er enghraifft, bod cymaint o'r treialon sy'n cefnogi cyffuriau "newydd" yn eu cymharu gyda phlasebo, yn hytrach na chyda'r cyffur gorau sydd eisoes ar y farchnad. Dylid cofio fan hyn bod pob cyffur o dan batent am y deunaw mis cyntaf, a dyma pryd mae'r cwmni â'i gynhyrchodd yn gwneud eu harian (wedi'r deunaw mis, darfu'r patent a daw rhwydd hynt i bawb gynhyrchu'r cyffur, sydd bellach yn un generig, fel yn achos aspirin). O'r herwydd, os yw cwmni arall wedi mwynhau llwyddiant gydag un cyffur, beth fydd y gweddill yn aml yn ei wneud yw cynhyrchu rhai tebyg iawn, heb wahaniaethau sylweddol ond sydd fymryn bychan iawn yn wahanol ar lefel foleciwlar. Mae'r cyffuriau yma'n mwynhau patent yn yr un modd, ond mae synnwyr yn dweud bod angen eu cymharu â'r cyffur llwyddiannus arall er mwyn penderfynu a yw'n werth chweil. Y broblem yw bod y cwmnïau yma'n farchnatwyr heb eu hail, ac maent yn aml yn llwyddo i ddarbwyllo doctoriaid bod eu cyffur yn un newydd sbon ac arloesol, er mai'r cyfan ydyw yw fersiwn llawer iawn drutach o gyffur arall llawn cystal a llawer rhatach (gan fod patent hwnnw wedi darfod). Mae'r system yn tueddu i annog y math yma o gopïo diog, y anffodus, gan fod cynhyrchu cyffuriau gwirioneddol newydd yn amlwg yn waith llawer drutach (a pheryclach, mae'n wir, gan nad oes modd rhagweld unrhyw sgil-effeithiau cas nes i ni eu profi mewn pobl). Mae'n debyg bod y Gwasanaeth Iechyd yn gwastraffu cannoedd ar gannoedd o filiynau o bunnoedd ar y cyffuriau ffug-newydd yma. Fel y gwelwch, mae'r system bresennol yn cynhyrchu aneffeithlonrwydd enbyd yn ogystal â pheryglu bywydau cleifion.

Nid yw'n help chwaith bod y berthynas rhwng y diwydiant fferyllol a'r rheoleiddwyr yn rhy agos o lawer. Mae'n ddamniol bod cymaint o benaethiaid y rheoleiddwyr yn aml yn gadael ar gyfer swyddi breision gyda'r union gwmnïau yr arferasent eu goruchwylio.

Dim ond crafu'r wyneb rwyf wedi'i wneud yma: wrth ddarllen y llyfr, fe welwch bod dwsinau o broblemau pellach (i roi un enghraifft arall - a gall hyn fod yn anodd ei gredu - mae nifer fawr o academyddion parchus yn hapus i dderbyn arian er mwyn rhoi eu henwau ar bapurau ymchwil sydd wedi'u hysgrifennu gan y diwydiant). Gall deimlo'n ddi-ddiwedd ar adegau, ac mae'n rhaid dweud bod y darllen yn gallu bod yn ddigalon. Ni ddylid anobeithio, serch hynny: mae Goldacre yn gorffen pob pennod gyda rhestr o ffyrdd o ddatrys yr amryw broblemau. Nid yw'r syniadau yma'n rai cymhleth o gwbl. Inertia yw'r prif rwystr: mae gormod o bobl o fewn y system yn elwa'n sylweddol o'r system bresennol. Yr orchwyl, felly, yw magu'r ewyllys wleidyddol er mwyn mynd ati i orchfygu'r buddianau breintiedig hynny o ddifrif.

Mae'r llyfr yn un trylwyr tu hwnt mewn rhai ffyrdd, er enghraifft wrth egluro methodoleg cynnal treial teg. Serch hynny, nid yw'n mynd i fanylder technegol o gwbl ynghylch mecanweithiau'r amryw gyffuriau. Nid oes angen gwneud hynny mewn gwirionedd (ond mae'r llyfryddiaeth ar y diwedd yn anferth, felly mae modd gwirio'r ffynonellau a darllen ymhellach pe dymunech). Mae Goldacre yn amlwg yn dyheu i'r llyfr fod yn ddylanwadol, felly mae wedi cymryd gofal i beidio dychryn pobl gyda fformwlâu cemegol ac ati. Rwy'n hoff iawn o arddull sgwrsiol Goldacre a dweud y gwir. Mae'n ail-adroddus ar brydiau, ond ymgais fwriadol i bwysleisio pwyntiau holl-bwysig yw hynny.

Gyda llaw, mae'n ddiddorol cymharu Bad Pharma (sef ail gyfrol yr awdur) gyda'i gyntaf, Bad Science. Mae'r llyfr hwnnw'n mynd i'r afael â siwdo-wyddoniaeth fel homeopathi, ffug-faethegwyr hanner-pan fel "Dr" Gillian McKeith, ac Andrew Wakefield (a fu'n gyfrifol am greu'r panig di-sail ynghylch brechiad yr MMR). Ymateb llawer o'r targedau yma oedd honni bod Goldacre ym mhoced y diwydiant meddygol prif-lif. Mae'n wir mai amddiffyn y broses wyddonol sefydliadol i raddau helaeth a wna'r llyfr hwnnw, ac mae'n aml yn bwysig gwneud hynny gan fod y bobl sy'n pedlera'r ffug-"driniaethau" yma'n beryglus tu hwnt. Mae gwyddoniaeth prif-lif yn amlwg yn well na lol di-sail McKeith a'i thebyg. Yn Bad Pharma, fodd bynnag, daw'n amlwg mai delfryd yn unig yw gwyddoniaeth berffaith. Nid oes gwrthddweud yma o fath yn y byd: nid yw'r problemau hyn yn y diwydiant fferyllol yn rhoi unrhyw fath o hygrededd i syniadau twp "amgen" fel homeopathi. Y pwynt yw mai bodau dynol fel pawb arall yw gwyddonwyr. Fel ym mhob maes mae modd i'r ddelfryd gael ei pheryglu gan gwmnïau a sefydliadau sydd am ddyrchafu elw uwch law popeth arall. Ym maes fferyllaeth, o leiaf, mae Goldacre wedi esbonio'n glir beth sydd angen ei wneud, a chydag ewyllys wleidyddol ddigonol dylid bod modd gwella'r sefyllfa'n sylweddol.

No comments:

Post a Comment