Yn dilyn y ddadl rhwng Bill Nye a Ken Ham, aeth aelod o staff Buzzfeed o gwmpas yn gofyn i greadyddion o'r gynulleidfa ofyn un cwestiwn yr un i herio pobl sy'n derbyn theori esblygiadol. Mae bron y cyfan o'r cwestiynau yn gyfarwydd, ac mae un neu ddau sydd, wel, yn rhyfedd. Mae gan bob un ohonynt rywbeth yn gyffredin: maent yn amlygu'r ffaith bod yr holwyr yn teimlo'n gryf iawn yn erbyn theori wyddonol nad ydynt yn ei deall o gwbl.
Wrth ddarllen, roeddwn yn dechrau synnu nad oedd fy nghas (neu fy ffefryn, yn dibynnu ar sut rwy'n teimlo ar y diwrnod) 'ddadl' wrth-esblygiad wedi ymddangos. Yna, cyrhaeddais yr un olaf un a dyna hi: "os ydym wedi esblygu o fwncïod, pam mae mwncïod dal i fodoli?" 'Aha, gotcha!', medd ei wên. Argh.
Mae'r cwestiwn (sy'n glasur yn ei genre) yn hurt mewn sawl ffordd. Yn gyntaf oll, nid yw'r cymal cyntaf yn wir; nid ydym wedi esblygu o fwncïod. Epaod ydym (fel simpansïod, gorilas ac orangutans); ein cefndryd a'n cyfnethirod pell yw'r mwncïod. Dyma mae'r dyn smýg yn ei ofyn mewn gwirionedd: "os ydym yn ddisgynyddion i'n nain a'n taid, yna pam mae ein cefndryd/cyfnethirod yn bodoli?" Nid yw hynny'n gwneud synnwyr, wrth gwrs. A dyna fy mhwynt.
Mae'r cwestiwn hefyd yn awgrymu bod dealltwriaeth yr holwr o'r ffordd y mae esblygiad yn gweithio yn gartwnaidd a dweud y lleiaf. Pan mae rhywogaeth newydd yn ymddangos, nid yw poblogaeth gyfan o un anifail yn troi mewn i anifail gwahanol mewn un naid. Yn hytrach, mae carfan fach (fel arfer ar ôl cael eu gwahanu'n ddaearyddol) yn dechrau gwahanu'n raddol oddi wrth y lleill. Mewn egwyddor, nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na all is-boblogaeth o fwncïod ddilyn trywydd esblygiadol gwahanol i'r boblogaeth yn gyffredinol, nes eu bod yn cyrraedd pwynt lle maent yn rywogaeth ar wahan. Mae'r mwncïod gwreiddiol yn parhau i bob pwrpas, ond gyda chefndryd a chyfnethirod (pell, erbyn hyn) sy'n wahanol.
Nid wyf am fynd trwy'r 21 cwestiwn arall, gan fod eraill (fel Adam Rutherford a Phil Plait) eisoes wedi gwneud job well nag y gallaf i. Ond mae'r un yma'n fy nghorddi'n arbennig. Mae'n enghraifft o'r anwybodaeth ymosodol rwyf wedi'i drafod o'r blaen. Nid oes unrhyw beth yn bod ar fod yn anwybodus ynddo'i hun; mae pawb yn anwybodus am lawer iawn mwy o bynciau nag y maent yn gyfarwydd â hwy. Y tric yw cydnabod hynny. Efallai bod y dyn yn gofyn cwestiwn hollol ddidwyll, ond mae hynny'n annhebygol. Nid yw'r mwyafrif anferth o greadyddion yn deall y syniad y maent mor chwyrn a thaer yn ei erbyn (a'n treulio cymaint o amser ac adnoddau yn ei wrthwynebu'n gyhoeddus). Ac mae'r rhai prin sydd yn ei ddirnad yn dewis bod yn anonest.
Os ydyn nhw'n gallu cael eu pennau o gwmpas y ffaith bod Iesu yn fab i Dduw ond hefyd yr un person a Duw a'r ysbryd glan ni ddylai esblygiad fod yn ormod o naid.
ReplyDelete