02/07/2014

Cymhlethdod erledigaeth rhai Cristnogion

Rwyf wedi ysgrifennu droeon am ddymuniad cymaint o Gristnogion i bortreadu eu hunain fel merthyrod dewr sy'n wynebu erledigaeth ofnadwy. Dyma adroddiad defnyddiol, o gyd-destun Americanaidd, yn digrifio sut maent yn mynd ati i geisio troi'r gwirionedd ar ei ben. Yn y byd go iawn, wrth gwrs, erys Cristnogaeth mewn safle tra breintiedig.

Gan nad yw Cristnogion yn y gorllewin yn dioddef unrhyw fath o anffafriaeth na rhagfarn, rhaid felly iddynt ddyfeisio straeon a rhaffu celwyddau mewn ymdrech i ddangos bod eu crefydd rywsut o dan warchae. Mae'r dacteg ddigalon yma'n gyfarwydd iawn iawn erbyn hyn.

No comments:

Post a Comment