16/01/2015

A'r ymatebion eraill i'r gyflafan

Rwyf eisoes wedi trafod fy rhwystredigaeth ag ymateb rhai rhyddfrydwyr i'r llofruddiaethau ofnadwy yn swyddfeydd Charlie Hebdo. Y flaenoriaeth i lawer oedd condemnio'r cartwnau yn hytrach na'r lladd, a hynny, ar y cyfan o leiaf, yn annheg. Nid dyna'r unig ymateb gwallus i'r hyn a ddigwyddodd, fodd bynnag. A bod yn onest, mae'r rhan fwyaf o'r ymatebion wedi bod yn wirion a rhagrithiol, a hynny ar sawl ochr o'r ddadl.

Fel un sy'n cefnogi'r cartwnau a'n condemnio'r trais - yn ddi-amwys, heb 'ond' - rwyf wedi canfod fy hun ar yr un ochr i'r ddadl ag islamoffobiaid rhagfarnllyd. Nid wyf yn arbennig o hapus am hynny, ond dyna ni (nid yw'r gair 'islamoffôb' yn ddelfrydol o bell ffordd; fe'i camddefnyddir yn aml, ond mae rhagfarn paranoid yn erbyn mwslemiaid yn ffenomen sy'n bodoli, felly rhaid i ni ei dderbyn).

Gallaf yn hawdd ddychmygu bod bywyd mwslem normal yn gallu bod yn syrffedus ar adegau (dyma erthygl dda iawn yn lladd ar yr ymadrodd 'mwslem cymhedrol', gyda llaw). Pryd bynnag mae rhai o'u cyd-mwslemiaid yn cyflawni gweithred dreisgar, mae gofyn bron yn syth i bob un aelod o'r grefydd gyfan wneud pwynt mawr o leisio condemniad cadarn. Y dyb, am wn i, yw bod eu 'teyrngarwch' yn amheus oni chlywn fel arall. Y broblem yw bod y conedmniadau gan amryw gyrff mwslemaidd yn cael llawer iawn llai o sylw yn y cyfryngau na'r bobl sy'n mynnu bod rhaid iddynt wneud y condemniadau hynny. Wrth gwrs, nid yw'n gwneud llawer o synnwyr i ddweud bod pob mwslem yn gyfrifol am yr hyn a gyflawnir yn enw'r grefydd honno, fwy nag ydyw i awgrymu bod pob siaradwr Cymraeg unigol yn siarad ar ran y grŵp ieithyddol cyfan. Ond mae hilgwn twp, serch popeth, wedi bod yn brysur yn ymosod ar fosgiau ledled Ffrainc. Mae hyn yn ddigalon.

Rydym hefyd wedi clywed cyhuddiadau o ragrith yn erbyn rhai o'r gwleidyddion a'r sylwebwyr a ddaeth allan o'r pren i gefnogi Charlie Hebdo yn enw rhyddid mynegiant. Mae'r cyhuddiad hwnnw'n hollol deg. Roedd bron yn ddoniol, mewn ffordd hynod dywyll, gweld llysgennad Sawdi Arabia allan ar strydoedd Paris yn cefnogi'r cylchgrawn, o gofio'r hyn sy'n digwydd yn y wlad honno i'r blogiwr rhyddfrydol Raif Badawi ar hyn o bryd. Dyma restr dda o ragrithwyr eraill tebyg, gan gynnwys y brenin Abdullah o Jordan, prif weinidog Twrci Ahmet Davutoğlu, Benjamin Netanyahu, Sergei Lavrov o Rwsia, taoiseach yr Iwerddon Enda Kenny (gwlad lle mae cabledd yn drosedd hyd heddiw), Khalid bin Ahmed Al Khalifa (gweinidog tramor Bahrain), a llawer iawn mwy. Yr hyn sy'n hyfryd, ac sydd heb gael llawer o sylw, yw bod Charlie Hebdo eu hunain, yn eu rhifyn newydd, yn tynnu sylw at yr union safonau dwbl digywilydd hyn, a'n gwawdio'r rhagrithwyr hyn sy'n gwneud defnydd o'u trasiedi er mwyn gwneud ychydig o grandstanding gwleidyddol ffug a thwyllodrus.

Mae llywodraeth Ffrainc ei hun yn euog o'r un rhagrith. Arestiwyd y digrifwr Dieudonné M’Bala M’bala wedi iddo gyhoeddi neges ar Facebook yn cydymdeimlo â'r terfysgwyr. Nid oes ots pa mor wrthun yw'r neges: rwy'n cefnogi, yn hollol ddi-amwys, ei hawl i fynegi'i farn. Rwy'n ffieiddio at y ffaith iddo gael ei arestio. A dweud y gwir, mae agwedd Ffrainc at ryddid mynegiant wedi bod yn od erioed: mae'r achos yma o 2006, er enghraifft, yn syfrdanol.

Mae'r cyhuddiad o ragrith yn gywir, felly, ond beth yn union yw datrysiad sylwebwyr fel Mehdi Hasan ar gyfer cysoni'r safonau dwbl yma? Hyd y gwelaf i, ei awgrym yw bod angen cyfyngu ar ryddid mynegiant ymhellach er mwyn sensro unrhyw beth sy'n gwawdio islam hefyd. Yr ateb cywir, wrth reswm, yw'r gwrthwyneb: dylid ehangu ar ryddid mynegiant a rhoi'r gorau i sensro yn yr holl achosion eraill yma. Mwy o ryddid mynegiant sydd ei angen, nid llai.

No comments:

Post a Comment