19/03/2016

Protestio Trump

Mae'r protestio'n erbyn Donald Trump yn cynyddu eto, gyda lonydd sy'n arwain at ei ralïau'n cael eu blocio. Rydym eisoes wedi gweld protestwyr yn amharu ar ei ddigwyddiadau trwy weiddi (a chael eu taflu allan yn ddisymwth am eu trafferth). Rwy'n cytuno'n frwd â hwy ynghylch yr angen i wrthwynebu'r ffasgydd twp oren, wrth reswm, ond mae gennyf bryderon am eu dulliau.

Fel mater o egwyddor, rwy'n credu bod gan Trump bob hawl i leisio'i farn a bod gan ei gefnogwyr, yn eu tro, bob hawl i fynd i wrando arno. Digwyddiadau wedi'u trefnu gan Trump ei hun yw'r rhain, wedi'r cyfan, ac mae atal pobl sy'n dymuno gwrando arno rhag gwneud hynny, yn fy marn i, yn amharu ar eu hawliau. Mae Trump yn erchyll, a ffyliaid yw ei gefnogwyr, ond holl bwynt rhyddid mynegiant yw gwarchod yr hawl i ddweud pethau gwrthun (ac i wrando arnynt). Nid oes pwrpas gwarchod safbwyntiau mae pawb yn cytuno â hwy.

Er ei bod yn anodd peidio cydymdeimlo rywfaint â'r protestwyr oherwydd natur y gelyn, mae glynu at yr egwyddor hwn yn hawdd gan fy mod yn amau bod eu dulliau hefyd yn wrth-gynhyrchiol ar lefel ymarferol. Fel rwyf wedi'i ddweud, mae taflu protestwyr allan bellach yn ran o'r sioe yn ralïau Trump. Os rywbeth, mae'r protestiadau'n cryfhau ei gefnogaeth (a dyma'n union pam mae Trump bellach yn mynd ati'n fwriadol i annog gwrthdaro yn ei ddigwyddiadau). Creadur y cyfryngau yw Trump, ac mae'n awchu am sylw; mae'r dyn yn ystyried unrhyw beth sy'n ei gadw yn y newyddion yn fuddugoliaeth. Mae'n bur sicr nad yw blocio prif-ffyrdd yn mynd i ennyn llawer o gydymdeimlad tuag at y protestwyr, chwaith.

Mae'n bwysig protestio, ond ni ddylent wneud hynny yn y ralïau eu hunain. Mae protestio tu allan i'r digwyddiadau'n berffaith iawn, ac efallai byddai'n syniad iddynt gynnal eu ralïau eu hunain. Er bod mawr angen gwrthwynebu'r ffasgydd twp oren, mae'n debygol bod y tactegau presennol yn gwneud mwy o ddrwg nag o dda.

No comments:

Post a Comment