26/07/2017

Trump a Putin

Yn fuan iawn wedi buddugoliaeth Donald Trump ym mis Tachwedd, cyhoeddwyd erthygl wych yn y New York Review Of Books â'r teitl 'Autocracy: Rules for Survival'. Rwyf wedi dychwelyd at yr ysgrif sawl tro dros y misoedd diwethaf. Roedd yr awdur, Masha Gessen, yn berffaith iawn i ddweud mai ffolineb llwyr oedd y gobaith y byddai Trump yn callio ar ôl ymgartrefu yn y Tŷ Gwyn.

Yn fy marn i, hi yw'r sylwebydd gorau un ar bwnc Trump a Vladimir Putin. Mae'n besimistig ynghylch y niwed mae Trump yn ei achosi, a'n un o feirniaid pennaf Putin, ond mae'n ein cymell ar yr un pryd i wrthsefyll y demtasiwn i ddyfeisio neu gofleidio theorïau cynllwyn di-sail i gysylltu'r ddau ddyn.

Mae'n enedigol o Rwsia, ac roedd yn newyddiadura yn y wlad honno wrth i'w system ddemocrataidd ifanc gael ei datgymalu. Mae bellach wedi ffoi i America, felly mae ei phrofiad yn ei rhoi mewn safle delfrydol i roi'r hyn sy'n digwydd yno (a'r gorllewin) yn ei gyd-destun.

Fe gyhoeddodd fywgraffiad o Putin yn 2012. Fe ddarllenais y gyfrol yn ddiweddar, a'r peth trawiadol yw bod Putin wedi cyrraedd y brig bron trwy ddamwain. Ystyr teitl y llyfr yw nad yw Putin, mewn gwirionedd, yn ddyn hynod o gwbl. Mae'n demtasiwn i ystyried ein gelynion (ac mae Putin yn sicr yn elyn) yn fwy galluog nag ydynt mewn gwirionedd, ond mynna Gessen (sydd wedi'i gyfarfod) ei fod yn ddyn diflas, syml, ac ychydig yn dwp. Os yw'n feistr ar grefft, yna canfod ffyrdd o bocedu symiau anferth o arian trwy ddulliau llwgr yw honno. Mae'n bosibl iawn mai Vladimir Putin yw'r person cyfoethocaf yn y byd ar hyn o bryd.

Nid yw Gessen yn gwadu am eiliad bod Rwsia wedi ymyrryd yn yr etholiad (ac etholiadau eraill ledled y gorllewin). Gwyddom i sicrwydd eu bod wedi dwyn a rhyddhau e-byst mewnol y DNC ac ymgyrch Clinton, a chydlynu ymgyrchoedd propaganda a newyddion ffug arlein. Nod y Kremlin yn hyn i gyd, fwy na thebyg, yw creu helynt a drwgdybiaeth, a thanseilio hygrededd systemau gwleidyddol y gorllewin rhyddfrydol. Dadl Gessen yw bod twf theorïau cynllwyn sy'n mynd ymhellach na hynny heb dystiolaeth yn symptom ynddo'i hun o'r union niwed mae Putin yn ceisio'i wneud i'n cyfundrefnau sifig. Mae awtocratiaeth yn ffynnu pan mae'r gwirionedd ei hun fel cysyniad yn cael ei danseilio. Mae Trump eisoes wedi meddianu'r cyhuddiad 'fake news'; y peth olaf y dylai'i wrthwynebwyr ei wneud yw rhoi sail i'w gwynion.

Rheswm arall i osgoi obsesiynu'n ormodol ynghylch y cysylltiadau honedig â Rwsia, yn ôl Gessen, yw bod hynny'n cuddio'r ffaith mai ffenomen Americanaidd yw Trump. Symptom yw'r dyn, wedi'r cyfan; nid ymddangos o nunlle (neu o'r tu allan) a wnaeth ei fath ef o ymgyrch. Mae miliynau o'i gefnogwyr yn teimlo'n chwerw a drwgdybus, a hynny am resymau perffaith Americanaidd (sef hiliaeth, i raddau helaeth). Hyd yn oed petai modd dangos bod ymgyrch Trump wedi llwyddo i ddwyn yr etholiad diolch yn benodol i gynllwyn pwrpasol gan y Kremlin, beth wedyn? Wedi'r cyfan, fe ofynnodd Trump yn gyhoeddus i Rwsia hacio e-byst Clinton dros flwyddyn yn ôl. Nid yw'n eglur beth fyddai canfod cyd-weithio mwy cyfrinachol yn ei ychwanegu i'r stori, sydd eisoes yn ddigon brawychus.

Ar ben hyn oll, mae Putin yn hapus iawn i gael ei bortreadu fel mastermind holl-ddylanwadol, gan fod hynny'n ei droi'n ffigwr pwysicach (a llawer galluocach) nag ydyw mewn gwirionedd. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, mae ceisio esbonio'r byd trwy greu theorïau cynllwyn cywrain sy'n plethu popeth yn reddf grefyddol. Am wn i, mae llawer yn teimlo cysur o deimlo bod rhywun, yn rhywle, yn rheoli pob dim, hyd yn oed os yw'r person hwnnw'n ddihiryn. Efallai bod Putin fel y Diafol yn syniad mwy apelgar na'r gwir, sef bod popeth yn llanast. A dyna, rwy'n amau, fydd casgliad yr holl ymchwiliadau sydd ar y gweill i'r cysylltiadau rhwng Trump a Rwsia: cyfleyddiaeth, blerwch a thwpdra.

No comments:

Post a Comment