10/03/2019

Tynged Trump

Mae yna gryn ddyfalu, eto, bod ymchwiliad y Special Counsel Robert Mueller i ymgyrch arlywyddol Donald Trump yn dirwyn i ben. Dylid cymryd adroddiadau fel hyn â dogn helaeth o halen, gan fod pobl wedi bod yn dweud pethau tebyg ers blwyddyn a mwy. Ar ben hynny, nid yw'n glir sut, yn union, y bydd yr ymchwiliad yn gorffen.

Beth bynnag fydd yn 'yr adroddiad terfynol', os yn wir y cawn un, mae'n amlwg erbyn hyn bod ymgyrch Trump wir wedi rhannu gwybodaeth â chyd-lynu â Rwsia mewn quid pro quo. Gan mai am Donald Trump yr ydym yn sôn, nid yw'n syndod mai arian oedd y sail: roedd yn gobeithio cael caniatâd i adeiladu gwesty ym Mosgo, gan gytuno, petai'n ennill, i ddiddymu sancsiynau yn erbyn Rwsia petai'n ennill (sy'n obsesiwn i Putin). Rydym yn gwybod bod Trump wedi bod yn ddibynnol ar arian Rwsiaidd, o ffynonellau amheus dros ben, ers blynyddoedd maith. I bob pwrpas, mae wedi bod yn fodlon gadael i Rwsiaid llwgr ei ddefnyddio fel modd o wyngalchu arian.

Trwy ddogfennau llys, mae Mueller eisoes wedi rhoi darlun eithaf clir i ni o'r hyn a ddigwyddodd. Os bydd casgliadau terfynol yn cael eu rhyddhau, rwy'n eithaf hyderus y byddent yn cynnwys llawer iawn mwy, a bydd y cyfan yn hynod ddamniol. Ysywaeth, mae bron yn sicr na fydd yn erlyn Trump ei hun. Wedi dweud hynny, rwy'n credu bod lle i obeithio y bydd Mueller yn mynd ar ôl rhai o'i blant, a'i fab-yng-nghyfraith Jared Kushner, gan ddisgrifio holl droseddau Trump yn uniongyrchol ond heb ei arestio. Ond y gwir yw nad oes unrhyw un ond Mueller ei hun yn gwybod sut mae hyn am orffen.

Wrth gwrs, mae yna fwy na digon yn hysbys yn barod i gyfiawnhau uchelgyhuddo'r arlywydd. Ond plaid Trump yw'r GOP bellach, ac mae'n annhebygol y bydd modd darblwyllo digon o Weriniaethwyr i gael gwared arno doed a ddelo. Mewn geiriau eraill, er fy mod yn tueddu i feddwl y bydd casgliadau Mueller yn ddifrifol, nid yw hynny'n golygu o reidrwydd y bydd ei blaid yn troi arno. Mae'n anodd dweud gyda phethau fel hyn; roedd y GOP yn cefnogi Nixon yn daer nes y funud y penderfynasant newid eu meddyliau. Ond rwy'n credu bydd Trump yn goroesi nes etholiad 2020.

Rwy'n credu bod Trump mewn dyfroedd dyfnion serch hynny. Nid oherwydd Mueller, ond oherwydd yr holl ymchwiliadau eraill sydd ar y gweill, gan gynnwys rhai Rhanbarth Deheuol Efrog Newydd (SDNY). Nhw sydd wedi bod yn erlyn Michael Cohen, ac sydd bellach yn craffu ar y Trump Organisation. Yn wahanol i Mueller, mae rhyddid ganddynt i fynd ar ôl pob math o dor-cyfraith, ac maent yn sicr wedi canfod tystiolaeth bod cwmni Trump yn euog o hynny, yn mynd yn ôl degawdau. Nid gormodiaith yw dweud mai sefydliad troseddol yw'r Trump Organisation o'r top i'r gwaelod. Rhed Trump y cwmni fel teulu maffia i bob pwrpas, ac mae'n hen bryd i'r awdurdodau graffu arno'n iawn. Mae'r ffaith bod cymaint o'r llygredd yma wedi bod yn gyfrinach agored ers cyhyd yn adrodd cyfrolau damniol am yr union system economaidd a gwleidyddol sydd wedi caniatáu i Trump (a phobl fel Paul Manafort) ffynnu yn y lle cyntaf.

A dweud y gwir, rwy'n credu yn y diwedd y daw'n amlwg mai ennill yr arlywyddiaeth oedd y camgymeriad gwirionaf a wnaeth Trump erioed. Mae'n debygol iddo ymuno â'r ras yn y lle cyntaf am resymau ariannol a llwgr, heb gredu y byddai'n ennill. Fel mae pethau, mae wedi sicrhau bod dulliau amheus ei fusnes o dan chwyddwydr y gyfraith o ddifrif o'r diwedd, fel y dylent fod wedi bod mor bell yn ôl â'r 1980au.

Yn ôl confensiwn, nid yw arlywyddion yn cael eu herlyn yn gyfreithiol tra maent yn y swydd. Hyd yn oed wedyn, pan mae arlywyddion a swyddogion wedi torri'r gyfraith, mae yna duedd warthus i 'faddau' iddynt ar ôl iddynt adael y swydd. Efallai, felly, na ddylwn fod yn rhy obeithiol, ond mae wir yn bosibl y bydd rhaid i Trump ennill etholiad 2020 er mwyn aros allan o'r carchar.  Ond gan dybio bod Trump am golli etholiad 2020, gallwn ddychmygu senario lle bydd yn cael ei arestio'n fuan ar ôl gadael y swydd, a'r Trump Organisation yn cael ei gau i lawr yn gyfan gwbl. Dyna ddylai ddigwydd, o leiaf, am resymau strategol yn ogystal ag egwyddorol. Petai'n osgoi cyfiawnder, byddai'n gadarnhad bod system ddemocrataidd America wir wedi dadfeilio'n barhaol.

No comments:

Post a Comment