20/12/2021

Llai na hanner poblogaeth Cymru'n ystyried eu hunain yn Gristnogion

Mae'n debyg bod y ganran o boblogaeth Cymru sy'n galw'u hunain yn Gristnogion wedi syrthio o dan yr hanner, yn ôl yr ONS. Dim ond 48.18% yw'r ffigwr yng Nghymru erbyn hyn, o'i gymharu â 51% yng Nghymru a Lloegr gyda'i gilydd. Dengys y canlyniadau hyn bod Cymru'n llai crefyddol nag unrhyw rhanbarth o Loegr. Da iawn ni.

A bod yn onest, mae'n bur debygol bod y gwir ffigwr yn llawer iawn is eto. Nid oes modd cael rhifau hollol wrthrychol ynghylch y mater yma, yn amlwg, gan nad oes diffiniad sicr o 'Gristion' yn y lle cyntaf. Ond gan fod ffigwr yr ONS wedi'i seilio ar hunan-ddisgrifiad, mae'n rhaid ei fod yn cynnwys nifer fawr o bobl sy'n galw'u hunain yn Gristnogion am resymau diwylliannol a thraddodiadol, ond nad ydynt yn mynychu unrhyw gapel nac eglwys na'n meddwl am faterion diwinyddol rhyw lawer oni bai bod rhywun yn gofyn. Buaswn i'n synnu'n fawr petai'r ganran o bobl â Christnogaeth yn elfen wirioneddol bwysig o'u bywydau yn cyrraedd ffigurau dwbl.

Rhaid nodi bod ochr arall i'r geiniog yma. Rwy'n amau'n fawr bod 47.28% o boblogaeth Cymru yn wirioneddol anghrefyddol, er cymaint mae'r syniad yn apelio. Buaswn i'n tybio bod y ffigwr hwn yn cynnwys nifer fawr o bobl sy'n ymwrthod â chrefydd sefydliadol, a hyd yn oed y label 'crefydd' yn gyffredinol, ond sydd eto'n credu mewn rhywbeth lled ysbrydol. Dylid galw cred mewn unrhyw fath o rym trosgynnol yn grefydd yn fy marn i, dim ots pa mor annelwig ac idiosyncrataidd, ond rwy'n gwybod nad fel yna mae rhai pobl yn gweld pethau. Buaswn i'n awgrymu mai'r grefydd genedlaethol erbyn hyn yw 'mae'n rhaid bod 'na rywbeth, am wn i, ond nid wyf yn siwr beth'. 

Er bod anffyddiaeth go iawn - diffyg ffydd mewn unrhyw beth o gwbl tu hwnt i'r materyddol - yn cynyddu'n araf, mae'n aneglur o hyd bod dirywiad crefydd yn golygu ein bod yn mynd yn bobl mwy rhesymegol. Mae'r genhedlaeth ifanc heddiw (nad yw, ysywaeth, yn fy nghynnwys i ragor) yn rhyfedd o hoff o astroleg, wedi'r cyfan, ac mae TikTok yn orlawn o bobl 19 oed yn mwydro am ddewiniaeth. Eto i gyd, mae dirywiad parhaus crefydd sefydliadol i'w groesawu, gan ei fod yn golygu'n anorfod y bydd dylanwad y rhagfarnau adweithiol sydd (ar y cyfan) ynghlwm â hwy yn edwino ymhellach hefyd.

1 comment:

  1. A siarad yn bersonol,rydw i,yn gam neu gymwys,yn cysidro fy hun yn fwy meddylgar na llawer o fy ngyd Gymry,eto prin iawn ydi yr amseroedd yn byddai yn meddwl o gwbl am y pynciau hyn.Gellir deud mai hobiau lleiafrifol iawn,yng Nghymru,ydi crefydd ac anffyddiaeth fel ei gilydd.Ac yn fwy fyth'ymchwilio'am y gwirionedd.

    ReplyDelete