23/02/2012

Camddeall seciwlariaeth

Efallai bod rhywbeth ar droed. Tros yr wythnosau diwethaf mae'n ymddangos bod pobl o bob ffydd grefyddol yn cynghreirio er mwyn brwydro mewn undod yn erbyn "seciwlariaeth". Mae'r atgasedd tuag at yr anffyddiwr amlwg Richard Dawkins wedi bod hyd yn oed yn ffyrnicach na'r arfer, ac mae llawer o bobl wedi dweud pethau dwl iawn am seciwlariaeth gan ddangos nad ydynt yn deall y cysyniad o gwbl.

Mae'n siwr mai'r enghraifft amlycaf oedd erthygl cyd-gadeirydd y Blaid Geidwadol, y Farwnes Sayeeda Warsi, yn honni bod ffydd grefyddol o dan warchae ym Mhrydain oherwydd "militant secularisation". Dylai ei defnydd o ymadrodd o'r fath ddangos yn syth nad oes ganddi unrhyw ddealltwriaeth o gwbl o'r hyn y mae seciwlariaeth yn ei olygu, ac mae hynny'n ofidus o feddwl ei bod yn aelod amlwg o gabinet llywodraeth y Deyrnas Gyfunol (er heb bortffolio). Er hynny, rwyf am ddyfynnu paragraff neu ddau er mwyn esbonio'n union pam mae'r hyn y mae'n ei ddweud mor dwp.
My fear today is that a militant secularisation is taking hold of our societies. We see it in any number of things: when signs of religion cannot be displayed or worn in government buildings; when states won’t fund faith schools; and where religion is sidelined, marginalised and downgraded in the public sphere.
Rwy'n credu mai at Ewrop yn gyffredinol y mae'n cyfeirio; byddai'n argyfyngus pe na bai Warsi'n sylweddoli bod cyllido ysgolion ffydd o'r pwrs cyhoeddus yn arferiad cyffredin iawn (ac anffodus ac anfoesol) ym Mhrydain. Ond mae yna resymau da iawn pam na ddylai adeiladau'r llywodraeth arddangos symbolau crefyddol ac ati. Mae seciwlariaeth yn egwyddor syml iawn: ni ddylai'r wladwriaeth hyrwyddo unrhyw safbwynt diwinyddol penodol. Fel rwyf wedi'i ddweud, mae hynny'n sicrhau rhyddid crefyddol yn ogystal â rhyddid rhag crefydd. Mae arddangos symbolau crefyddol penodol ar adeiladau o eiddo'r wladwriaeth, a gwneud gweddi'n ran swyddogol o agenda cyfarfodydd cynghorau, yn fodd o orfodi crefydd benodol ar eraill. Mae mynnu gwneud hynny'n arwydd o ddyheadau theocrataidd, ac fe ddaw hynny'n amlwg gyda'r holl ffwdan a chwyno blin a geir os digwydd i rywun gwestiynu'r peth.

Mae yma enghraifft hefyd o rywbeth sy'n gyffredin mewn datganiadau sy'n lladd ar seciwlariaeth, sef defnydd o'r ymadrodd amwys "public sphere". Os mai at sefydliadau ffurfiol y wladwriaeth a gyfeirir, yna oes, mae angen gwthio crefydd o'r neilltu. Ond mae Warsi'n manteisio ar amwysedd y term er mwyn creu'r argraff mai amcan seciwlariaeth yw dileu crefydd yn gyfan gwbl a rhwystro unigolion preifat rhag arddel a mynegi eu ffydd yn gyhoeddus. Mae unrhyw un sy'n awgrymu hynny'n cambortreadu'r holl bwynt y mae pobl seciwlar yn ceisio'i wneud, unai oherwydd anwybodaeth neu oblegid malais bwriadol. Mae seciwlariaeth yn gwarchod hawl pob unigolyn i arddel a mynegi eu crefydd.
For me, one of the most worrying aspects about this militant secularisation is that at its core and in its instincts it is deeply intolerant. It demonstrates similar traits to totalitarian regimes – denying people the right to a religious identity because they were frightened of the concept of multiple identities.
Ym myd gwyrdoëdig Warsi, pobl seciwlar yw'r rhai anoddefgar. Sylwch iddi wneud y cyhuddiad hwnnw gyda gwyneb syth, ychydig ddyddiau cyn iddi arwain dirprwyaeth ar daith neis i'r Fatican. Rwy'n siwr i'w sgwrs gydag esgob Rhufain, pennaeth eglwys o mor oleuedig a goddefgar a hyfryd, fod yn ddedwydd a chwrtais iawn, wrth iddynt drafod y bastards seciwlar anoddefgar hynny sy'n dweud na ddylid defnyddio sefydliadau llywodraethol er mwyn gorfodi ffydd grefyddol ar eraill. Rhyfeddol.

Rhywbeth arall sy'n amlygu'i hun pan mae'r mater yma'n codi'i ben yw anallu cymaint o bobl i wahaniaethu rhwng seciwlariaeth ac anffyddiaeth. Mae'r ddau air yn cyfeirio at syniadau cwbl wahanol. Fel y dywedais, seciwlariaeth yw'r safbwynt bod angen i'r wladwriaeth beidio ffafrio unrhyw safbwynt diwinyddol penodol. Mae'n wir bod bron pob anffyddiwr yn arddel seciwlariaeth, ond nid os angen bod yn anffyddiwr er mwyn gwneud hynny o gwbl. Yn wir, mae llawer o hyrwyddwyr seciwlariaeth pwysicaf ein hanes wedi bod yn Gristnogion. Mae'n egwyddor sydd o fudd i bawb; cymdeithas seciwlar yw'r gymdeithas decaf.

Trwy ladd ar seciwlariaeth fel hyn, mae Warsi'n gwneud cam anferth â'r bobl hynny sydd wedi brwydro mor galed i waredu Ewrop o'r hen gyfundrefnau theocrataidd a arferai lofruddio hereticiaid. Mewn difrif calon, heb seciwlariaeth a yw Warsi wir yn meddwl y byddai wedi gallu cael ei phenodi'n aelod o Dy'r Arglwyddi o bob man, a hithau'n fenyw o fwslem?

Mae hyn i gyd wedi troi'n dipyn o bwnc llosg yn ddiweddar. O safbwynt deunydd ar gyfer blog sy'n trafod anffyddiaeth, mae manteision i hynny am wn i. Ond mae sylwadau Warsi, a rhai tebyg gan ei chyd-aelod o'r cabinet, Eric Pickles, yn awgrymu efallai bod y Ceidwadwyr yn arbrofi gyda chyflwyno mymryn o elfennau'r "culture wars" Americanaidd i wleidyddiaeth Prydain fel ffordd gyfleus o gynhyrfu eu pleidleiswyr craidd. Efallai fy mod yn darllen gormod i'r peth. Beth bynnag, bydd yn ddifyr os yw pynciau fel hyn am chwarae rhan fwy blaenllaw yng ngwleidyddiaeth Phrydain o hyn ymlaen.

10 comments:

  1. Ceisio apelio at ddarllenwyr y Daily Fail y maent.

    ReplyDelete
  2. RedGreenInBlue23/2/12 5:36 pm

    Y broblem yw bod y pobl sy'n mynnu diffinio "seciwlariaeth" fel hyn yr un pobl â'r rhai bydd yn gwrthod darllen esboniadau ystyr go-iawn y gair. Ond os mae rhywun wedi llwyddo credu mewn bodolaeth duw sydd heb unrhyw dystiolaeth drosto (a sydd â phentwr tystiolaeth yn ei erbyn), yn wir mae ganddi hi'r gallu i anwybyddu diffiniad safonol y gair bach truenus hwn os mae hi eisiau!

    ReplyDelete
  3. Mae gwirionedd yn hynny. Mae'n werth ceisio cywiro'r camargraff er budd y sawl sydd ar y ffens, fodd bynnag.

    ReplyDelete
  4. Gwendid dy ddadl , Dylan , yw dy ymgais i siarad ar ran pawb o'r ffydd seciwlar , peth byddai mor hurt â myfi yn ceisio lleisio barn "cred" fel Wesla. Mae gymaint o wahanol "sectau" o anffyddiaeth ac sydd o sectau ffydd.

    Mae honnid RedGreenBlue bod yna ddiffiniad "geiriadurol" o Seciwlariaeth y mae pawb o ddiffyg ffydd yn glynu ato mor wirion a honni nad oes ond dim ond un agwedd at ffydd.

    Mae yna bobl o gred sydd yn mynd dros ben llestri yn eu twpdra a'u heithafiaeth, ond annhegwch yw ceisio fy mhaentio fi a'r un brwsh a nhw! Nid ydwyf o blaid llofruddio meddygon sy'n erthylu, nid ydwyf am annog fy mhlant i fod yn hunain fomwyr, nid ydwyf yn credu dylid arteithio na bygwth pobl i ddyfod yn Wesleaid!

    Pe caniateir, gallaswn wisgo bathodyn sy'n ddweud "byddid goddefgar!" yn agos at bin y groes ar fy llabed, pe na bai'r ddau yn cael eu gwahardd yn y gweithle!

    A byddid yn onest, mae eithafiaeth hurt yr Athro Dawkins yn gallu gwneud mwy o ddrwg nag o les i dy achos di ar brydiau!

    ReplyDelete
  5. Alwyn, rwy'n gofyn i'm hun yn aml blog pwy'n union rwyt yn ymateb iddo. Rwyt yn gwadu cyhuddiadau nad ydwyf wedi'u gwneud yn unman.

    Wrth ysgrifennu'r blog yma rwy'n ofalus iawn iawn i beidio cyffredinoli. Dylet sylwi nad wyf byth yn cyfeirio at "Gristnogion" fel un bloc unffurf. Wrth gwrs mae Cristnogion yn wahanol, ond rwy'n dy herio i ganfod un enghraifft ohonof yn paentio Cristnogion fel ti gyda'r un brwsh â'r rhai sy'n lladd doctoriaid neu beth bynnag. Pob lwc i ti.

    Malu cachu di-glem yw galw seciwlariaeth yn "ffydd". Fel y dywedais, os yw person yn arddel seciwlariaeth nid yw hynny'n dweud unrhyw beth o gwbl am eu safbwyntiau diwinyddol personol. Mae modd bod yn Gristion efengylol a chytuno bod angen i'r wladwriaeth fod yn niwtral.

    Rwyt wedi cytuno dy hun na ddylid cynnal gweddi swyddogol fel rhan o agenda swyddogol cyfarfod cyngor, felly rwyt yn cytuno gyda mi i bob pwrpas. Rwy'n ansicr felly ynghylch beth yr wyt yn cwyno.

    ReplyDelete
  6. Hwyrach nad wyt yn cyfeirio at Gristionogion fel un bloc ond yr wyt yn awgrymu y gellir cyfeirio at secwlarwyr fel un bloc. Y gwir yw bod secwlarwyr, fel pob grŵp arall o bobl yn cynnwys y gwych a'r gwachul; mae yna secwlarwyr anoddefgar, milwriaethus, eithafol sydd yn dangos tueddiadau unbenaethol ac mae Farwnes Warsi yn gywir i ddweud dylid gochel rhagddynt gymaint a dylid gochel rhag pobl crefyddol sy'n dangos y fath dueddiadau.

    ReplyDelete
  7. Alwyn, sut all seciwlarwyr fod yn filwriaethus? A oes modd i rywun sy'n credu y dylai pawb fod yn gyfartal o dan y gyfraith fod yn eithafol? Nid anffyddiaeth yw seciwlariaeth; yn hanesyddol, mae'r rhan fwyaf o seciwlarwyr wedi bod yn Gristnogion!

    ReplyDelete
  8. Yn syml iawn, Barry, gan taw pobl yw secwlarwyr, ac ym mhob grŵp mawr o bobl bydd yna rai sydd yn dueddu at eithafiaeth, trais, ffolineb a phob nodwedd negyddol arall mae modd i bobl eu harddel.

    ReplyDelete
  9. Mae hynny fel dweud ei bod yn bosibl bod yn filwriaethus ac eithafol o blaid heddwch neu ddemocratiaeth. Neu o blaid cacennau blasus rhad ac am ddim i bawb.

    Rwy'n credu dy fod o hyd yn cael trafferth gwahaniaethu rhwng anffyddiaeth a seciwlariaeth. Mae seciwlariaeth yn gysyniad digon syml ac rwy'n eithaf sicr bod consensws ynghylch ei ystyr.

    ReplyDelete
  10. Wrth gwrs bod modd bod yn filwriaethus dros heddychiaeth, yn sicr bu rhai agweddau o waith CND yn filwriaethus; onid mudiadau milwriaethus o blaid democratiaeth oedd y siartwyr ar Suffragettes? Ac os rhoddaf i swaden i ti er mwyn dwyn y gacen flasus oddi ar y plât mi fyddai hynny yn ymddygiad eithaf milwriaethus hefyd.

    ReplyDelete