09/03/2012

Dylid gwahardd llusernau awyr

Nid oes gan y cofnod yma unrhyw beth i'w wneud â chrefydd, na siwdo-wyddoniaeth o ran hynny, ond mae'n ymwneud ag arferiad dwl ac anghyfrifol sy'n cynyddu mewn poblogrwydd ac yn fy ngwneud yn flin.

Yr hyn sydd gennyf mewn golwg yw'r busnes yma o ryddhau cannoedd o ganhwyllau mewn bagiau papur i hedfan i ffwrdd gyda'r gwynt. Mae'n debyg bod pobl yn ei ystyried fel ffordd dda o ddathlu pethau.

Mae'n anodd deall y peth. A yw pobl yn credu bod y pethau yma'n diflannu unwaith y maent allan o'r golwg? Petai rhywun yn gadael llond lle o bapur, gwifrau metel a chanhwyllau ar ochr y ffordd byddai disgwyl iddynt gael eu harestio oherwydd byddai'n achos ddifrifol o daflu sbwriel. Am rhyw reswm, fodd bynnag, mae gadael iddynt hedfan am filltiroedd i bob cyfeiriad - gyda fflamau noeth, mewn difrif - yn dderbyniol.

Mae synnwyr yn dweud bod popeth sy'n codi'n gorfod syrthio. Mae'r sbwriel yma'n achosi pob math o drafferth, mewn sawl fordd. Mae ffermwyr yn enwedig yn eu hystyried yn bla llwyr. Mae'r erthygl yna'n trafod un ffermwr sydd wedi gweld wyth o'i wartheg yn marw'n boenus ar ôl llyncu'r gwifrau metel sy'n dal y llusernau yma at ei gilydd. Yn ogystal, maent yn creu niwed difrifol i beiriannau amaethyddol.

Mae'n wir bod llawer o'r fersiynau mwy diweddar yn tueddu i ddefnyddio bambŵ neu wlân yn lle metel, ond wrth reswm nid yw hynny'n newid dim ar y perygl anferth bod y pethau yma'n gallu cynnau tân. Nid da byw yn unig sydd o dan fygythiad: mae'n hysbys bod llusernau awyr wedi achos nifer o dannau mawr gan roi bywydau pobl mewn perygl. Mae'n bosibl hefyd eich bod yn cofio'r stori yma.

Maent hyd yn oed yn creu helynt a dryswch mawr i beilotiaid awyrennau.

Mae'r holl beth yn gwbl wallgof, ac mae'n sicr yn enghraifft o lol afresymegol sydd angen ei waredu. Mae rhai gwledydd wedi'u gwahardd yn llwyr, a dylid gwneud yr un peth fan hyn hefyd.

Llith drosodd.

1 comment:

  1. Yr haf dwytha mi ddaru na griw ohono ni drio tanio dwy lusern awyr. Mi aeth y gyntaf ar dân yn fy nwylo, mi gododd yr ail gryn bedair medr, cyn mynd ar dân a syrthio i'r ardd drws nesa (a diffodd, diolch byth).

    Mi darodd fi'n syth wedyn pa mor hurt oeddan ni yn trio gyrru bag papur ar dân i'r awyr (yn Ne Ddwyrain Lloegr sych!) - ma'n fy synnu bod nhw dal yn gyfreithlon.

    ReplyDelete