Rwyf wedi pwysleisio droeon ar y blog yma bod f'agwedd tuag at ryddid barn, a rhyddid mynegiant y farn honno, yn nesaf peth at fod yn absoliwt. Mae deddfau sy'n gwahardd pethau annelwig fel "casineb" yn wrthun i mi. Hyd yn oed yn achos Liam Stacey, er cymaint o fochyn hiliol ydyw, roeddwn yn anghytuno gyda'i garcharu.
Fodd bynnag, dyma un achos penodol lle mae'n bwysig cosbi pobl am bethau y maent wedi'u dweud. Mae'r pêl-droediwr o Gymru, Ched Evans, wedi'i garcharu am bum mlynedd ar ôl treisio merch a oedd yn rhy feddw i gydsynio. Ymateb naturiol rhai ffyliaid mochynaidd oedd mynnu ei fod wedi cael cam ("#justiceforched" yn wir) a beio'r ferch am feiddio cael ei threisio. Mae rhesymau da iawn pam mae pobl sydd wedi cael eu treisio'n cael aros yn ddi-enw, ond penderfynodd ambell dwpsyn ei henwi'n gyhoeddus ar Twitter. Mae'n gyfiawn bod hynny'n erbyn y gyfraith, ac oherwydd hynny byddwn yn ddigon bodlon gweld yr euog yn treulio cyfnod o dan glo.
Wrth gwrs, mae dyfodiad y we a gwefannau cymdeithasol yn golygu bod pethau fel hyn yn mynd i fod yn fwy cyffredin. Mae'n bosibl eich bod hefyd yn cofio'r achos yma y llynedd pan gafodd aelod o reithgor ei charcharu am gysylltu gydag amddiffynnydd trwy gyfrwng Facebook cyn i'r achos orffen (gan beri i'r holl beth syrthio a gwastraffu miliynau o bunnoedd). Nid yw dirmyg llys erioed wedi bod mor hawdd; dim ond clicio ambell fotwm sydd ei angen bellach. Nid wyf yn siwr iawn sut y dylid delio â'r broblem yma.
Ar bwnc yr ymateb i ddedfryd Evans, rwy'n argymell yr erthygl yma'n fawr iawn. Mae llawer iawn o'r hyn sydd wedi'i ddweud yn afiach. Nid yw pobl sy'n dioddef troseddau eraill yn cael eu hamau a chael eu drwgdybio a'u dilorni fel ag y mae merched sydd wedi'u treisio. Mae hynny'n drewi, ac mae'n dweud cryn dipyn am agwedd cymaint o ddynion tuag at ferched o hyd.
Rhaid dweud fy mod yn teimlo yn anghynnes parthed y dyfarniad yn erbyn Ched Evans, mae yna rywbeth od yn y ffaith bod yr achwynydd wedi cyhuddo dau o'i threisio ond dim ond un cafwyd yn euog; rwyf hefyd yn teimlo yn anghysurus efo'r syniad bod menyw sydd yn ymddangos ei bod hi'n cydsynio i ryw yn ei photiau yn gallu cyhuddo dyn o drais wedi iddi sobri. Nid ydwyf yn credu bod mynegi'r fath bryderon yn fochynnaidd yn ffôl nac yn gam ar ferched a gan hynny rwy'n credu bod yna achos o rydd i bob un ei farn cyffredinol parthed #justiceforched.
ReplyDeleteBeth bynnag fy marn, neu farn eraill, am achos Mr Evans mae enwi'r achwynydd yn gwbl annerbyniol ac yn amlwg yn groes i'r gyfraith. Does dim cyfiawnhad moesol na chyfreithiol o blaid ei henwi. Mae'r sawl sydd wedi ei henwi yn haeddu wynebu holl rym y gyfraith.
O ran rhyddid barn mae'n bwysig bod y sawl sydd wedi enwi'r achwynydd yn cael eu herlyn o dan y gyfraith fel mae'n sefyll ar hyn o bryd. Y perygl mwyaf i ryddid barn ar y cyfryngau newydd yw deddfau newydd i reoli'r we, mae'n bwysig bod yr hen ddeddfau yn cael eu gweld fel rhai sydd yn gweithio yn nydd Twitter a Facebook ac ati. Y gwir berygl i ryddid barn bydd deddfau newydd sydd wedi eu hanelu yn benodol tuag at y sawl sydd yn gwneud sylwadau ar lein.
Rhaid cofio bod y rheithgor wrth reswm wedi clywed llawer mwy na ni ac felly wedi seilio'u penderfyniad ar lawer iawn mwy o wybodaeth. Heb wybod mwy o fanylion yr achos, mae'n amhosibl i'r gweddill ohonom farnu, heb sôn am gwyno bod rhyw gamwedd anferth wedi digwydd.
ReplyDeleteNid wyf yn unman wedi dweud nad oes gan y rhai a ddechreuodd y rwdlan #justiceforched hawl i'w barn. Wrth gwrs bod ganddynt. Fel rwyt ti'n dweud, fodd bynnag, mae enwi'r ferch yn warthus a dylid eu herlyn.
Rwyt ti'n llygad dy le am ymdrechion llywodraeth Prydain i reoli'r we, i glustfeinio arnom ac i lesteirio ein hawliau mynegiant. Mae angen eu gwrthwynebu'n ffyrnig, a thrwy gyfrwng anufudd-dod sifil os oes rhaid. Mae'r peth yn frawychus.