“At a certain point I’ve just concluded that for me, personally, it is important for me to go ahead and affirm that I think same-sex couples should be able to get married.”
Hen bryd. Wrth gwrs, mae'r newyddion yma'n galonogol, ond rwy'n rhwystredig o hyd o ddarllen y datganiad llipa yna. Dyna'r gorau all y dyn ei ddweud? Mae'r frawddeg mor drwsgl mae'n chwerthinllyd. Mae'r egwyddor mor gyfan gwbl amlwg mae'n drist bod y newyddion yma'n cael ei ystyried fel cam mor fawr ymlaen. Ond felly mae pethau yn yr America sydd ohoni.
Ers ei ethol yn arlywydd Unol Daleithiau America, mae Barack Obama wedi bod yn ceisio'i chael hi'r ddwy ffordd, gan honni bod ei farn ar y pwnc yma'n "esblygu" o hyd a dweud bod y mater yn un "anodd". Ffordd gyfleus o beidio gorfod mynegi safbwynt pendant y naill ffordd na'r llall oedd hynny, wrth gwrs. Mae'n debyg ei fod, yn breifat o leiaf, wedi bod yn gefnogol erioed, ond am resymau gwleidyddol fe wrthododd ddatgan hynny'n gyhoeddus cyn hyn. Yn wir, yr unig reswm iddo fynegi barn gryfach ar y mater ddoe oedd oherwydd bod ei ddirprwy, Joe Biden, wedi datgan cefnogaeth gyhoeddus ychydig ddyddiau ynghynt a bod hynny wedi rhoi pwysau ar Obama ei hun i wneud ei safbwynt yn gliriach. I Biden mae'r diolch yn fwy na neb, felly.
Y disgwyl oedd y byddai Obama'n aros tan ar ôl yr etholiad arlywyddol ar ddiwedd y flwyddyn cyn gwneud hyn. Bydd yn ddifyr gweld pa effaith gaiff ei ddatganiad ar ei bleidlais yng Ngogledd Carolina a Virgania, dwy dalaith a enillodd yn 2008. Os ydyw'n llwyddo i sicrhau ail dymor i'w arlywyddiaeth, ac yntau wedi datgan cefnogaeth gyhoeddus o blaid hawliau cyplau cyfunrywiol i briodi, byddai hynny'n fuddugoliaeth symbolaidd fawr i'r achos. Yn anffodus nid yw o reidrwydd mor arwyddocaol â hynny o ran polisi, gan fod gafael y blaid Weriniaethol ar Dŷ'r Cynrychiolwyr a'r posibilrwydd y byddent yn cipio'r Senedd yn golygu bod yr erthyl hwnnw, y Defense of Marriage Act, yn debygol o aros am y tro.
Mae'n wir bod Obama eisoes wedi cael gwared ar y gwallgofrwydd hwnnw a elwid yn Don't Ask, Don't Tell, ond eto rwy'n credu mai'r ffaith fwyaf syfrdanol am y polisi hwnnw oedd iddo oroesi cyhyd. Mae America'n wlad od, a hynt a helynt ei hadain dde grefyddol wallgof (ond dylanwadol) yw'r prif reswm y mae gennyf gymaint o ddiddordeb yn ei gwleidyddiaeth. Eto i gyd, mae sawl arolwg barn yn dangos bod y gefnogaeth o blaid hawliau hoywon i briodi bellach gymaint, os nad yn fwy, na'r gwrthwynebiad. Mae'r ffaith bod y gefnogaeth yma wedi tyfu mor eithriadol o gyflym (bychan iawn iawn ydoedd hyd yn oed degawd a hanner yn ôl) yn awgrymu mai buan iawn y daw'r gwrthwynebwyr yn leiafrif pitw. Rwy'n credu mai'r rheswm am y twf yw'r ffaith syml bod llawer iawn o Americaniaid ifainc bellach yn adnabod pobl hoyw'n bersonol ac felly'n deall mai pobl gyffredin o gig o waed ydynt ac mai'u hunig ddyhead yw ennill yr un dilysrwydd i'w perthynas â'u cariadon ag y mae pawb arall yn ei fwynhau eisoes. Mae mwy a mwy o Americaniaid yn sylweddoli na fydd priodasau hoyw'n golygu diwedd y byd. Oherwydd hyn, ac er gwaethaf gwleidyddiaeth fewnol ryfeddol y blaid Weriniaethol, mentraf honni y byddai buddugoliaeth i Obama ym mis Tachwedd yn sicrhau mai Mitt Romney fydd yr ymgeisydd arlywyddol diwethaf un o'r ddwy brif blaid i wrthwynebu priodasau cyfunrywiol. Hynny yw, mae gwrthwynebu'r hawl yma ar fin troi'n anfantais etholiadol yn America. Mae hynny'n gyffrous iawn, o leiaf. Er gwaethaf geiriad llugoer a lletchwith datganiad Obama, ac er mai dilyn yn hytrach nag arwain y mae'r arlywydd, mae'n allweddol iawn serch hynny.
No comments:
Post a Comment