20/02/2013

Hitchens eto

Dim ond gair bach brysiog i ganmol Arguably, detholiad o ysgrifau o amryw gyhoeddiadau gan y diweddar Christopher Hitchens o 1999 hyd at 2011 a ddarllenais yn ddiweddar. Gallaf weld pam mae cymaint yn dweud ei fod yn gyfrol dda i'w bigo i fyny er mwyn darllen erthygl neu ddwy bob hyn a hyn, am wn i, ond yn bersonol cefais drafferth ei rhoi i lawr o gwbl. Darllenais y cyfan yn awchus fel cyfanwaith.

Fel y byddech yn ei ddisgwyl, trafodir llenyddiaeth (mae yma lawer iawn o adolygiadau), hanes, gwleidyddiaeth, crefydd a darnau ysgafnach. Ni raid cytuno ag ef am bopeth (ac nid wyf yn gwneud hynny), neu hyd yn oed am y mwyafrif o bethau, i werthfawrogi'i ddawn gyda geiriau. Ym marn Hitchens, bod yn ddiflas oedd y drosedd waethaf. Rwy'n credu ei fod yn deg iawn dweud nad oedd yn euog o ragrith yn hynny o beth. Mae straeon di-rif amdano'n swpera ac ymddiddan gyda chyfeillion tra'n llowcio digon o alcohol i lorio ceffyl, cyn simsanu tuag adref er mwyn cynhyrchu mil o eiriau huawdl am Orwell, dyweder.

Mae rhychwant eang y pynciau a drafodir yn syfrdanol. Ymddengys bod Hitchens wedi adolygu mwy o lyfrau nag y gall y rhan fwyaf o bobl obeithio eu darllen mewn bywyd. Rwy'n genfigennus iawn o allu'r awdur i ddwyn i gof cymaint o'r hyn y mae wedi'i ddarllen (fel unrhyw raconteur llengar gwerth ei halen, roedd Hitchens yn gallu dyfynnu rhywbeth perthnasol ar gyfer pob achlysur). Er cymaint rwy'n mwynhau darllen, nid wyf y gorau am serio cynnwys llyfrau yn fy nghof. Mae hynny'n destun rhwystredigaeth weithiau, a bod yn onest.

Os oes modd crynhoi ideoleg Hitchens, awgrymaf mai gwrth-dotalitariaeth fyddai'r gair gorau. Roedd yn gyson iawn yn hyn o beth. Roedd yn ddi-wyro yn ei gefnogaeth i ryddid mynegiant, er enghraifft, ac roedd yr agwedd hwnnw hefyd yn lliwio'i atgasedd tuag at grefydd (galwodd y syniad o nefoedd yn rhyw fath o divine North Korea arswydus, sy'n berffaith gywir). Rwy'n argyhoeddedig ei fod wedi bod yn gwbl ddidwyll yn ei gefnogaeth i'r rhyfel yn erbyn yr unben erchyll Saddam Hussein. Er fy mod yn credu o hyd bod y rhyfel honno wedi bod yn gamgymeriad dwl (nid yw ymosod ar wlad yn ddull ymarferol na chynhyrchiol o'i darbwyllo i fabwysiadu democratiaeth, hyd y gwelaf i) mae'n werth darllen yr hyn a oedd gan Hitchens i'w ddweud ar y pwnc, oherwydd ef oedd y lladmerydd huotlaf o blaid y weithred o bell ffordd. Rwy'n argymell y gyfrol yn fawr iawn.

5 comments:

  1. Diolch am awgrymu darllen Hitchens, a mwy o ddiolch am dy gefnogaeth i anffyddiaeth - safbwynt peryglus yn y Gymru Gymraeg, wedwn i ....

    ReplyDelete
  2. Diolch.

    Hwyrach bod "peryglus" yn ei gor-ddweud hi fymryn! Ond byddai'n ddifyr gweld a oes unrhyw berthynas rhwng siarad Cymraeg a safbwyntiau crefyddol. Un rheswm (o blith nifer) am ddechrau'r blog yma oedd chwilfrydedd ynghylch y math o ymateb y byddai'n ei ennyn. Mae'n anodd iawn dweud o hyd, a bod yn onest.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Dai Evans - Mae cyfrifiad 2011 yn awgrymu bod anffyddiaeth ychydig yn uwch yng Nghymru na pharthau eraill y DU, ond does dim modd (eto, o leiaf) canfod os oes berthynas ieithyddol rhwng arddeliad ffydd a defnydd iaith ac ati. A'i mewnfudwyr sydd wedi mewnfudo eu hanffyddiaeth i Gymru Crist? A ydy'r Cymry Cymraeg yn aros yn driw i'r Capel a'r Seiat dra fo'r di Gymraeg wedi troi cefn a'r iaith wrth droi cefn ar grefydd? Mae'n annhebygol!

      A fu allosod o gyfrifiad 2001 a all taflu oleuni ar y fath gwestiynau?

      O ran profiad personol byddwn yn credu ei fod yn llawer mwy "peryglus" mynegi barn seiliedig ar gred yn y Gymru gyfoes nag ydyw i ddilyn y llif seciwlar.

      Delete
  3. Mae'n debyg bod deg miliwn o bobl wedi ail adrodd y cyhuddiad bod Y Pab Benyd yn bedoffil heb gyhuddiad gan un blentyn yn ei erbyn. Byddai cwyno yn erbyn y cyhuddiad yn creu Strisland effect.

    Peryclach bod yn Bab nac yn anghrydedyn!

    ReplyDelete
  4. Welais i mo'r cyhuddiad yna erioed. Ble?

    Efallai dy fod wedi cymysgu â'r cyhuddiad bod Ratzinger yn euog o warchod pedoffeiliaid o fewn yr eglwys, gan fygwth esgymuno unrhyw un sy'n achwyn wrth yr heddlu am un o'r dihirod duwiol hynny. Ac mae'r cyhuddiad hwnnw'n gwbl wir. Ffaith plaen.

    Gan mai ysgrifennu am Christopher Hitchens oeddwn i, mae'n briodol dyfynnu hwnnw:

    Very much more serious is the role of Joseph Ratzinger, before the church decided to make him supreme leader, in obstructing justice on a global scale. After his promotion to cardinal, he was put in charge of the so-called “Congregation for the Doctrine of the Faith” (formerly known as the Inquisition). In 2001, Pope John Paul II placed this department in charge of the investigation of child rape and torture by Catholic priests. In May of that year, Ratzinger issued a confidential letter to every bishop. In it, he reminded them of the extreme gravity of a certain crime. But that crime was the reporting of the rape and torture. The accusations, intoned Ratzinger, were only treatable within the church’s own exclusive jurisdiction. Any sharing of the evidence with legal authorities or the press was utterly forbidden. Charges were to be investigated “in the most secretive way … restrained by a perpetual silence … and everyone … is to observe the strictest secret which is commonly regarded as a secret of the Holy Office … under the penalty of excommunication.” (My italics.) Nobody has yet been excommunicated for the rape and torture of children, but exposing the offense could get you into serious trouble. And this is the church that warns us against moral relativism! (See, for more on this appalling document, two reports in the London Observer of April 24, 2005, by Jamie Doward.)

    Not content with shielding its own priests from the law, Ratzinger’s office even wrote its own private statute of limitations. The church’s jurisdiction, claimed Ratzinger, “begins to run from the day when the minor has completed the 18th year of age” and then lasts for 10 more years. Daniel Shea, the attorney for two victims who sued Ratzinger and a church in Texas, correctly describes that latter stipulation as an obstruction of justice. “You can’t investigate a case if you never find out about it. If you can manage to keep it secret for 18 years plus 10, the priest will get away with it.”

    The next item on this grisly docket will be the revival of the long-standing allegationsagainst the Rev. Marcial Maciel, founder of the ultra-reactionary Legion of Christ, in which sexual assault seems to have been almost part of the liturgy. Senior ex-members of this secretive order found their complaints ignored and overridden by Ratzinger during the 1990s, if only because Father Maciel had been praised by the then-Pope John Paul II as an “efficacious guide to youth.” And now behold the harvest of this long campaign of obfuscation. The Roman Catholic Church is headed by a mediocre Bavarian bureaucrat once tasked with the concealment of the foulest iniquity, whose ineptitude in that job now shows him to us as a man personally and professionally responsible for enabling a filthy wave of crime. Ratzinger himself may be banal, but his whole career has the stench of evil—a clinging and systematic evil that is beyond the power of exorcism to dispel. What is needed is not medieval incantation but the application of justice—and speedily at that.


    Nid yw gwarchod pedoffeiliaid fawr gwell na threisio plant yn y lle cyntaf, a bod yn onest. Yn anffodus, bwriad y Pab ar ôl ymddiswyddo yw aros yn y Fatican er mwyn osgoi cyfiawnder. O ddifrif, dylai'r bastard bydru mewn carchar gyda'r plant-ffwcwyr.

    ReplyDelete