12/02/2013

Ymddiswyddiad Esgob Rhufain

Mae Joseph Ratzinger wedi gwneud rhywbeth diddorol am unwaith, sef cyhoeddi ei fod am ymddiswyddo. Er ei fod yn 85, ac felly'n teimlo ei fod yn rhy hen (mae'n debyg bod ei iechyd yn dirywio), roedd y newyddion yn destun syndod i bawb; 1415 oedd y tro diwethaf i Bab roi'r gorau iddi fel hyn. Yn arferol, mae'r bobl od yma'n tueddu i farw yn y swydd.

Rwy'n casáu'r dyn â chas perffaith, wrth reswm. A bod yn blaen, rwy'n ei ystyried yn ddihiryn a'n elyn. Mae'n siwr bydd yr un peth yn wir am ei olynydd, sy'n debygol o fod yr un mor geidwadol a chul (mae'n bosibl bod yr amseru'n fwriadol yn hynny o beth; y cardinaliaiad sy'n ethol y Pab, ac mae'r rhai mwyaf adweithiol yn tueddu i fod yn agos at angau. Mae'r cloc yn ticio). Pwy bynnag fydd y nesaf, mae'n sicr o barhau ag ymdrechion Ratzinger i arwain yr eglwys yn ôl i'r oesoedd canol, gyda chyfuniad gwenwynig o homoffobia a misogynistiaeth, gwrthwynebu erthyliad, rhaffu celwyddau am AIDS (gan arwain yn uniongyrchol at filiynau o farwolaethau), a mwydro'n ddi-baid am fygythiad honedig "seciwlariaeth".

Rwyf wedi cael llond bol ar wrando ar hen ddynion mewn hetiau gwirion yn cwyno am "anfoesoldeb" pawb arall. Mewn difrif calon, prif swyddogaeth yr eglwys babyddol yw gwarchod rhai o bedoffiliaid erchyllaf y byd. Mae yna lythyrau gan Ratzinger ei hun (cyn ei ddyrchafiad) yn rhoi'r gorchymyn i gadw'n dawel am y ffaith bod offeiriaid wedi treisio plant, gan argymell eu symud i esgobaeth arall (lle ceir cyflenwad ffresh o blantos, wrth gwrs). Dylai Ratzinger fod mewn carchar gyda phob un o'r pedoffiliaid duwiol yma. Byddai'n anghyfiawn iddo gael y fraint o farw heb orfod cydnabod ei droseddau.

12 comments:

  1. Dyma beth ryfeddol, rhoddais glec ar gyswllt oedd bod i gysylltu â blog Dylan Llŷr a chanfod bod y Parchedig Dr Ian Paisley yn blogio yn y Gymraeg!

    Pam bod fy Nghariad i at Dduw yn llai "rhesymol" na dy Gasineb di?

    Dau emosiwn cytbwys.

    ReplyDelete
  2. Fel yr esbonwyd uchod: "homoffobia a misogynistiaeth, gwrthwynebu erthyliad, rhaffu celwyddau am AIDS (gan arwain yn uniongyrchol at filiynau o farwolaethau), a mwydro'n ddi-baid am fygythiad honedig "seciwlariaeth"." A'r mater bach o gynllwynio i sicrhau bod cannoedd ar gannoedd o bedoffeiliaid erchyll yn cael eu gwarchod rhag cyfiawnder. Mae peidio casáu sefydliad sy'n gyfrifol am yr holl bethau hyn yn gwbl gwbl anfoesol.

    ReplyDelete
  3. Er eglurdeb a phwyslais, trwy estyniad mae hynny wrth gwrs yn golygu bod caru'r fath sefydliad yn anfoesol. Nid rhinwedd mo cariad bob tro, o bell ffordd.

    ReplyDelete
  4. Yn fy marni i, y gwir reswm pam fod y Pab Benedict XVI wedi gorfod ymddiswyddo yw fod a wnelo ef yn bersonol â llwgrwobrwyaeth yn ogystal â drwg arferion ariannol eraill o fewn Banc y Fatican er lles aelodau o’i deulu a rhai o’i gyfeillion agosaf.

    Ysgrifennydd Gwladol y Fatican yw y Cardinal Tarcisio Bertone a fu’n gyfrifol am ddiswyddo Gotti Tedeschi, Pennaeth Banc y Fatican fis Mai y llynedd.

    Roedd Tedeschi ar fin datgelu i lywodraeth Ewrop fod cyswllt ariannol rhwn Banc y Fatican a’r Maffia.

    Ceisiodd y Pab Ioan Pawl I wneud hynny hefyd ond cafodd ef ei wenwyno i farwolaeth lai na mis wedi iddo gael ei ethol yn Bab yn 1978.

    Credaf y bydd y CardinalBertone yn sicr o elwa ar bwys ymddiswyddiad y Pab Benedit XVI.

    Enw llawn y Cardinal dan sylw yw Tarcisio Pietro Evasio Bertone. Daw ef o Romano.

    Ai ef fydd y Pab nesaf, tybed ?

    Yn ôl hen broffwydoliaeth o eiddo’r Sant Malachi o Iwerddon, y Pab Petrus Romano fydd yr olaf o holl babau Rhufain.

    Efallai mai y Cardinal Tarcisio Pietro Evasio Bertone fydd y Pab Petrus Roman hwnnw ym mhroffwydoliaeth Sant Malachi.

    ReplyDelete
  5. Wyt ti'n siwr nad wyt ti wedi cymysgu â phlot The Godfather III?

    ReplyDelete
  6. Dafydd bach, mae yna gwahniaeth rhwg tynny blewyn o drwyn Dylan a malu cachu wst di?

    Gyda llaw Dylan GTA Llanrwst yw gêm Dafydd nid y Godffaddyr!

    ReplyDelete
    Replies
    1. O ran chwilfrydedd, Alwyn, hoffwn wybod beth yn union yw GTA Llanrwst.

      Delete
    2. Gemau peirannau megis Play Station yw GTA a Godfather - gofynna i'r hogan cw - bydd hi'n gwybod yn well na fi

      Delete
  7. Yn fy sylw blaenorol ar y blogiad uchod ceisiais egluro mai nid o'i wirfodd yn fy marn i yr ymddiswyddodd y Pab Benedict XVI, o bosibl, eithr yn hytrach mai cael ei orfodi i wneud hynny a gafodd.Mae erthygl gweddol gall yn rhifyn cyfredol o'r Daily Mail yn awgrymu hynny hefyd.

    Ymhellach ceisiais egluro y bydd rhywun o blith Cardinaliaid Eglwys Rufain yn sicr o elwa ar bwys ei ymddiswyddiad.

    Wedi hynny, dim ond gofyn ai y Cardinal Tarcisio Pietro Evasio Bertone fydd y Pab nesaf wnes i.

    Os ef fydd hwnnw, yna dim ond dweud wnes i y bydd proffwydoliaeth Sant Malachi o Iwerddonyn ynghylch y Pab Petrus Romanus yn cael ei gwireddu. Beth sydd o'i le gyda dweud hynny ?

    Mae digon o wybodaeth ynghylch proffwydoliaeth Sant Malachi ynghylch y Pabau ar gael ar y we.

    ReplyDelete
  8. Ymddengys dy fod ti, Dylan, a thithau Alwyn yn dioddef o ryw glwyf a'i enw yn fy marn i yw mewnplygrwydd !

    ReplyDelete
    Replies
    1. Mae ATOS wedi gwrthod fy Epilepsi, fy myddardod a fy nghrydcymalau - mi drïaf mewnplygewydd yn fy nghais nesaf!

      Delete
  9. Fy amheuaeth bersonol yw bod gwaeth i ddod parthed sgandal y pedoffeiliaid duwiol.

    ReplyDelete