29/09/2014

Ynghylch yr honiad bod IS yn 'anislamaidd'

Mae unrhyw berson call yn ffieiddio at y mudiad terfysgol o'r enw'r Wladwriaeth Islamaidd (IS), barbariaid sydd bron fel petaent wedi cerdded yn syth oddi ar set ffilm wael ac unllygeidiog am yr Oesoedd Canol. Mae rhywbeth bron yn gartwnaidd amdanynt. Yn amlwg, felly, mae'n dda o beth bod dros 120 o ysgolheigion ac imamau mwslemaidd wedi arwyddo llythyr yn beirniadu Abu Bakr Al-Baghdadi, yr arweinydd, a'i gyhuddo o gamddehongli islam.

Wrth reswm, nid yw pobl fel IS yn cynrychioli islam yn gyffredinol. Mae hynny'n berffaith amlwg. Rwy'n cydymdeimlo â llofnodwyr y llythyr, a'n deall eu rhwystredigaeth bod grwpiau terfysgol yn torri pennau i ffwrdd yn enw'u crefydd. Fel mae'n digwydd, ategodd Barack Obama yr un ddadl. Yn yr achos hwnnw, ymgais ydyw i ddangos nad rhyfel yn erbyn islam yw'r cyrchoedd awyr diweddaraf (fe ddywedodd George W Bush bethau tebyg yn dilyn cyflafan 11 Medi 2001). Eto i gyd, nid wyf yn hoffi'r honiad bod IS yn 'anislamaidd'. Y gri yw nad dyma'r 'gwir islam'. Ond fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, nid oes y fath beth â 'gwir islam'. Iawn, nid islam IS yw'r fersiwn 'go iawn', ond nid islam y llofnodwyr ydyw chwaith.

Gall y terfysgwyr eithafol gyfeirio at adnodau yn y Corán sy'n cefnogi a chyfiawnhau lladd anghredinwyr. Yn yr un modd yn union, mae gan y mwslemiaid mwy heddychlon a chymhedrol ddyfyniadau addfwynach i ategu'u safbwyntiau hwythau. Am y rheswm hwn, mae dadleuon ynghylch pa fersiynau o wahanol grefyddau sydd 'gywirach' yn syrffedus. Bydd un ochr yn pwyntio at un adnod, bydd yr ochr arall yn troi tudalennau er mwyn canfod un gwahanol, a bydd yr ochr arall yn dewis un arall eto drachefn. Bydd unrhyw un niwtral sy'n ceisio dilyn yn syrthio i gysgu o fewn dim. Yr unig beth call i'w wneud yw cydnabod bod pob fersiwn yr un mor ddi-sail yn union â'i gilydd. Ceir yr un broblem yn union yn achos y Beibl, wrth gwrs, neu wrth gymharu'r Beibl a'r Corán. Nid yw'n hawdd penderfynu pa lyfr sydd fwyaf brawychus, ac nid oes llawer o ddiben trio.

Bydd amddiffynwyr crefydd yn dadlau mai ffactorau diwylliannol, hanesyddol a gwleidyddol sydd i gyfrif am sefyllfaoedd fel yr hyn a welir heddiw yn Syria ac Irác. Wel ie, mae hynny'n amlwg yn wir. Ond ni ellir gwahanu'r ffactorau hynny oddi wrth grefydd. Mae islam yn ran annatod o ddiwylliant, hanes a gwleidyddiaeth y rhan honno o'r byd, a'n lliwio'r cyfan. Go brin y byddai'r lle'n troi'n baradwys heddychlon petai islam (a chrefydd yn gyffredinol) yn diflannu yfory; byddai tensiynau ar sail hil, cenedl, iaith a dosbarth yn parhau. Ond mewn achosion lle nad yw crefydd o reidrwydd yn sail i'r tensiynau, yr hyn a wna yw eu miniogi a'u gwaethygu. Byddai cael gwared ar grefydd (fel delfryd hypothetig) yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond na, nid yr ateb i gyd.

Mae'n ddiddorol (ac ychydig yn ddoniol) bod rhai o'r jihadis Prydeinig wedi prynu llyfr Islam For Dummies cyn teithio i Syria, sy'n awgrymu nad oeddent yn arbennig o hyddysg yn athrawiaethau'r grefydd honno cyn cael eu radicaleiddio. Efallai mai antur fawr a chyfle i roi cic i'r 'sefydliad' yw'r apêl. Heb grefydd, hwyrach y byddent wedi bodloni ag ymuno â gang yn ardal Birmingham. Yn anffodus, gan eu bod yn hytrach wedi troi at islam eithafol fel 'allfa' i'w dyheadau chwyldroadol, maent wedi penderfynu symud i'r Dwyrain Canol er mwyn torri pennau gorllewinwyr i ffwrdd. Er bod y dyheadau chwyldroadol, fwy na thebyg, yn bodoli am resymau sosio-economaidd, ychwanegu crefydd ar ben hynny wedyn sy'n rhoi bodolaeth i'r gwenwyn gwirioneddol.

2 comments:

  1. Mae ambell i gyn-foslem ac anffyddiwr yn barod i ddadlau bod yr eithafwyr yn nes at y gwir ffydd na'r cymedrol http://freethoughtblogs.com/marginoferr/2014/04/02/fundamentalist-islam-is-more-rational-than-moderate-islam/

    ReplyDelete
  2. Ie, mae modd dadlau hynny. Cofio darllen yr erthygl yna. Wrth gwrs, mae crefydd yn fwy na dim ond yr ysgrythurau. Fel roeddwn yn ei ddweud, mae'n anodd penderfynu ai'r Beibl ynteu'r Corán sydd waethaf; mae'r ddau'n lyfrau brawychus mewn sawl ffordd. Eto i gyd, am resymau diwylliannol, hanesyddol a gwleidyddol, mae ffwndamentaliaeth islamaidd bron bob tro'n waeth anghenfil na ffwndamentaliaeth Gristnogol (gyda pheth hollti blew ynghylch y Lord's Resistance Army yn Uganda a'r cyflafanau diweddar yng Nghweriniaeth Canolbarth Affrica).

    Ac mae'n rhaid dweud, mae crefydd 'soffistigedig', os rywbeth, yn fy syrffedu'n waeth na fersiynau ffwndamentalaidd. Mae rhywbeth digon gonest (yn ei ffordd) am y modd y mae'r eithafwyr yn glynu at eiriau llythrennol y llyfyr, o'i gymharu âr fflwff annelwig ffug-ddwys a geir gan ddiwinyddion cyfoes.


    ReplyDelete