16/04/2015

Dirywiad parhaol y system ddwy blaid

Mae datgan bod newid parhaol ar droed mewn gwleidyddiaeth yn gêm beryglus. Pan mae plaid a fu'n boblogaidd yn dechrau llithro, ceir milltiroedd o golofnau yn ein papurau newydd yn darogan nad oes ffordd yn ôl iddynt. Ond bron bob tro, yn hwyr neu'n hwyrach, yn ôl y dônt. Rwyf am fentro dweud, serch hynny, bod y gwleidyddiaeth aml-bleidiol newydd sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod yr ymgyrch bresennol yn barhaol.

Y peth pwysig i'w gofio yw nad yw dirywiad y system ddwy blaid - Llafur a'r Ceidwadwyr - yn ffenomen newydd o gwbl. Yn etholiad cyffredinol 1951, cafodd y ddwy blaid honno bron 97% o'r bleidlais rhyngddynt, sy'n ffigwr syfrdanol. Syrthio'n raddol a chyson a wnaeth y cyfanswm hwnnw'n ystod y degawdau canlynol, gan gyrraedd tua dwy draean ar gyfer yr etholiad hwn. Nid oes rheswm i ddisgwyl i'r broses yma newid cyfeiriad.

Llwyddiant yr SNP fydd y stori fawr ar Fai yr 8fed, wrth gwrs. Disgwylir iddynt ennill mwyafrif swmpus o 59 sedd seneddol yr Alban, o'i gymharu â'u chwech presennol. Yn hanesyddol, mae'r system cyntaf i'r felin wedi gweithio'n erbyn y pleidiau llai, gyda'r SNP a Phlaid Cymru yn eu plith. Erbyn hyn, fodd bynnag, gyda thwf rhyfeddol yr SNP, mae'r system, yn sydyn ddigon, yn fanteisiol i'r blaid honno. Mae'n bosibl y bydd tua hanner pleidlais boblogaidd yr Alban yn ddigon iddynt ennill tua 80% o holl seddau'r wlad (cymharer hyn gyda UKIP, sy'n debygol o ennill tua 13% o'r bleidlais ym Mhrydain gyfan ond dim ond rhyw ddwy sedd). Canlyniad anochel hyn yw bod y ddwy blaid fawr, sydd cyn hyn wedi bod yn ddirmygus o'r syniad o gynrychiolaeth gyfrannol, bellach wedi sylweddoli bod y system cyntaf i'r felin yn annheg. Maent yn gywir, wrth gwrs; mae'n annheg dros ben.

Yn dilyn yr etholiad, rwy'n darogan y bydd trafodaeth ddifrifol, o'r diwedd, am ddiwygio'r system etholiadol (mwy felly na'r hyn a gafwyd yn ystod ymgyrch y refferendwm ar y bleidlais amgen). Pwdu'r ddwy blaid fawr oherwydd llwyddiant yr SNP fydd y sbardun, ond er y rhagrith digywilydd, bydd hynny i'w groesawu. Y gwir yw nad oes modd cyfiawnhau cyntaf i'r felin mewn system lle nad oes unrhyw blaid unigol yn ennill mwy na thua traean o'r bleidlais.

Bydd unrhyw elfen o gyfraniaeth wedyn yn golygu mwy o lais, ar y cyfan, i bleidiau amgen, a bydd hynny yn ei dro yn ei gwneud yn anos i'r system ddwy blaid ddychwelyd i'w hanterth. Mantais arall i hyn i gyd yw y bydd pawb yn cael eu gorfodi i ymddwyn yn llawer aeddfetach ynghylch clymbleidio. Os yw llwyddiant cynyddol yr SNP am olygu ail refferendwm, a honno'n llwyddiannus, efallai mai anrheg gadael yr Alban i weddill Prydain fydd system etholiadol mwy synhwyrol.

2 comments:

  1. ond efallai bydd gogwydd munud olaf i'r Toriaid a fydd ddim llawer o newid gyda chlymblaid Tori/Rhyddfrydwyr eto

    ReplyDelete
  2. Efallai, ond does dim arwydd o hynny'n digwydd. Yn enwedig gan fod yr arolygon yn awgrymu bod y DRh am golli deg sedd i'r SNP.

    ReplyDelete