14/04/2015

Yn erbyn goddefgarwch

Mae tybiaeth gyffredinol bod goddefgarwch yn beth da. Os mai'r hyn a olygir yw 'cyd-fyw yn ddedwydd', mewn ffordd arwynebol, pwy all anghytuno? Ond wrth feddwl am y peth am funud, fe sylwch nad yw'r cysyniad yn gwneud rhyw lawer o synnwyr.

Er enghraifft, beth yn union mae 'goddefgarwch' yn ei feddwl wrth ystyried agweddau tuag at bobl cyfunrywiol neu o leiafrifoedd ethnig? Mae'r gair yn awgrymu dygymod â rhywbeth annymunol. Os ydych yn 'goddef' grwpiau fel hynny, mae'n dilyn bod gennych broblem â hwy ond eich bod yn cadw'n dawel am y peth, oherwydd bod cyfaddef hynny bellach yn dabŵ. Mewn gwirionedd, mae'n rhaid i chi fod yn ragfarnllyd i orfod goddef o gwbl yn y cyd-destun hwn. Os nad ydych yn meddu ar y rhagfarnau hynny, a'n deall nad oes unrhyw beth yn bod ar gyfunrywioldeb neu liw croen gwahanol, nid oes unrhyw beth i'w oddef yn y lle cyntaf. Camargraff cyffredin yw mai 'goddefgarwch' yw gwrthwyneb 'rhagfarn', ond rhagfarn gyfrinachol ydyw mewn gwirionedd.

Ar y llaw arall, os ydych yn credu bod rhywbeth yn annerbyniol, pam ei oddef? Rwy'n ffieiddio at homoffobia, hiliaeth a rhywiaeth, ac rwy'n gwrthod eu 'goddef'. Yn wir, mae 'goddef' y fath anoddefgarwch yn anfoesol. Wrth gwrs, rwy'n ffieiddio hefyd at y syniad o wahardd mynegi'r safbwyntiau hynny mewn unrhyw ffordd. Ond nid 'goddefgarwch' mo 'caniatáu' i bobl rhagfarnllyd ddweud eu dweud; nid yw, ac ni ddylai fod, o fewn fy ngallu i'w rhwystro hyd yn oed petai hynny'n ddymuniad gennyf.

Mae 'goddefgarwch crefyddol' yn gysyniad llithrig arall. Beth mae'n ei olygu i ddweud eich bod yn goddef crefydd benodol? Na ddylai'r sawl sy'n credu ynddi (gan gymryd nad ydynt yn niweidio eraill) gael eu herlyn neu eu herlid? Dylai hynny fod yn sylfaenol ac amlwg. Yn aml, defnyddir y syniad o oddefgarwch crefyddol er mwyn ceisio gorfodi pobl eraill i 'barchu' rheolau crefydd nad ydynt yn credu ynddi. Un o ganlyniadau chwerthinllyd hyn yw cyhuddo pobl o 'anoddefgarwch' am iddynt lunio cartwnau di-niwed o ddyn Arabaidd barfog, er enghraifft. Nid wyf yn parchu rheolau nac athrawiaethau crefyddol o gwbl, ond rwy'n chwyrn o blaid hawl pobl i'w harddel. Unwaith eto, nid yw 'goddefgarwch' nac yma nac acw. Da fyddai claddu'r gair.

No comments:

Post a Comment