15/05/2019

Diffinio islamoffobia

Er bod y gair yn drwsgl, rwy'n anghytuno'n gryf â phobl sy'n dadlau mai label ffug yw 'islamoffobia', dyfais er mwyn tawelu beirniaid yn unig. Yn anffodus, mae rhagfarn ac anffafriaeth yn erbyn mwslemiaid yn bodoli, dyma'r gair sydd wedi cydio fel ffordd gyfleus o gyfeirio at y ffenomen honno, a dyna ni.

Mae'n eithriadol o anodd gwahanu'r rhagfarn honno oddi wrth y ffaith bod mywafrif anferth o fwslemiaid yn aelodau o grwpiau ethnig lleiafrifol. Y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o achosion o islamoffobia hefyd yn achosion o hiliaeth. 'Crefydd yw islam, nid hil' yw'r ymateb fel arfer pan gyhuddir rhywun gwrth-islam o hiliaeth. Nid yw'r ymadrodd hwnnw'n anghywir, ond mae'n anghyflawn. Mae ymosod ar islam yn aml yn proxy cyfleus ar gyfer agweddau hiliol.

Wedi dweud hyn oll, rwy'n canfod fy hun yn y sefyllfa anghyfforddus o gytuno â phenderfyniad llywodraeth Theresa May i wrthod y diffiniad yma o islamoffobia: “Islamophobia is rooted in racism and is a type of racism that targets expressions of Muslimness or perceived Muslimness". Am y rhesymau uchod, rwy'n cydymdeimlo'n fawr â sentiment y frawddeg. Ond mae gan y diffiniad broblem sylfaenol dros ben, sef nad ydyw, mewn gwirionedd, yn ddiffiniad o fath yn y byd. Pa fath o sylwadau sydd yn enghreifftiau o islamoffobia, yn benodol, a pha rai sydd ddim? Dyna'r cwestiwn dylai diffiniad ei ateb, ond nid yw'r frawddeg yna'n gymorth o gwbl.

Oherwydd hyn, er mor real ac erchyll yw'r rhagfarn yn erbyn islam yn ein hinsawdd wleidyddol sydd ohoni, mae perygl y byddai'r diffiniad hwn yn cael ei gamddefnyddio i bardduo rheiny sy'n beirniadu islam am resymau call a dilys (ac mae digon o feirniadaethau felly i'w gwneud). Mae'r gair yn cael ei ddefnyddio i'r perwyl yna'n barod, felly na, ni fyddai rhoi grym cyfreithiol i ddiffiniad fyddai'n fodd o dawelu beirniadaeth deg yn ddoeth na chyfiawn.

No comments:

Post a Comment