18/04/2020

Clap clap clap

Mae'n gyfnod eithriadol o anodd, ac mae'n naturiol i deimlo'n ddiymadferth. Yr unig beth mae'r rhan fwyaf ohonom yn gallu ei wneud i helpu yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws yw aros adref, gan ddymuno'r gorau i staff y Gwasanaeth Iechyd sydd yn ei chanol hi. Mae'r dyhead i arddangos y gwerthfawrogiad hwnnw'n gyhoeddus yn ddiffuant, felly, a dyna mae llawer yn ei wneud bob nos Iau am 8 o'r gloch, trwy glapio dwylo tu allan i ddrysau'u tai.

Rwy'n tueddu i deimlo'n lletchwith am y math yma o ddefod dorfol (ac efallai mai dyma reswm nad apeliodd grefydd ataf erioed). Er cystal y bwriad gwreiddiol y tu ôl iddi, mae'n anochel bod elfen o orfodaeth yn datblygu: os nad ydych yn cymryd rhan, mae'n rhaid eich bod yn casau nyrsys. Mae elfen o berfformiad yn cymryd drosodd yn fuan iawn hefyd, wrth i'r clapio dwylo droi'n guro sosbenni, ac wedyn tân gwyllt, a hyd yn oed llusernau awyr (pethau ofnadwy y dylid eu gwahardd yn llwyr), gan droi'r holl beth yn gystadleuaeth pwy sy'n hoffi gofalwyr iechyd orau.

Nid dweud na ddylid clapio mo hyn, rhag i unrhyw un feddwl fy mod yn angharedig. Dylid pwysleisio bod llawer o ofalwyr iechyd wir yn gwerthfawrogi'r gwerthfawrogiad, ac mae unrhyw beth sy'n codi'u calonnau hwythau ar adeg fel hyn yn beth da. Gwir hefyd yw bod y cyfle i'r cyhoedd ddod at ei gilydd i gyfleu neges bositif yn llesol, a'n cynnig dihangfa oddi wrth ddiflastod unig hunan-ynysu. Mae pobl yn dyheu am rywbeth i'w ddathlu, am wn i. Ond mae'n swreal gweld pobl yn torri'r rheolau ynghylch cadw pellter cymdeithasol er mwyn cymryd rhan.

Roedd yr olygfa o Bont San Steffan yng nghanol Llundain nos Iau yn anhygoel, gan mai'r heddlu eu hunain ysgogodd y sioe. Mae rhai plismyn wedi cael gormod o flas ar eu grymoedd newydd, ac mae sawl enghraifft wedi bod ohonynt yn mynd dros ben llestri wrth geryddu pobl am fynd am dro, ond dyma'r eithaf arall. Yn enw cymeradwyo staff y GIC sy'n peryglu'u bywydau wrth geisio gwella cleifion y pandemig, mae'r heddlu'n creu golygfa sy'n denu torf, sy'n arwain at ledaenu'r union feirws sy'n gyfrifol am y sefyllfa hunllefus yn y lle cyntaf. Neges gymysg, a syfrdanol o eironig, a dweud y lleiaf. Er y bwriad da, mae'n amlwg bod angen i hyn stopio ar unwaith.

Y broblem yw bod "cefnogi gofalwyr iechyd" yn neges rhy gyffredinol, amhosibl anghytuno â hi. Oes unrhyw un sy'n fodlon cyfaddef nad ydyn nhw'n gwerthfawrogi staff y GIC? Mae hyd yn oed y gwleidyddion hynny sy'n ysu i breifateiddio'r gwasanaeth yn llwyr yn honni eu bod yn meddwl y byd ohoni, er mai mai holl hanfod a phwrpas 'Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol' yw mai'r wladwriaeth ddylai ei chynnal. Mae yna un peth amlwg y mae modd i bawb ei wneud er mwyn cefnogi'r GIC mewn ffordd ystyrlon, sef peidio pleidleisio dros bleidiau gwleidyddol sy'n gwrthod ei chyllido'n ddigonol ac sy'n dymuno i'r farchnad chwarae mwy a mwy o ran ynddi. Am y rheswm hwn,  rwy'n credu bod y stori am y dyn 99 oed sydd wedi codi miliynau o bunnoedd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd trwy gerdded yn ei ardd yn dorcalonnus. Mae camp y dyn yn amlwg yn rhyfeddol, felly nid beirniadaeth ohono ef ei hun, na phawb a roddodd arian, yw nodi na ddylid dathlu bod Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol angen haelioni elusennol.

Yn anffodus, mae llawer (mwyafrif, hyd yn oed, yn ôl ambell arolwg barn diweddar) yn methu â chyflawni'r un peth ymarferol y gallent ei wneud i gefnogi'r GIC. O'r herwydd, rwy'n ofni bod y clapio'n symbol sy'n golygu popeth i bawb, sef ffordd arall o ddweud nad yw'n golygu fawr ddim mewn gwirionedd. Mae'n dwyn i gof y geiriau gwag am "thoughts and prayers" a yngenir gan lawer o wleidyddion Americanaidd ar ôl achosion o saethu torfol, heb iddynt wneud unrhyw beth o werth am y peth.

Mae symbolau gor-gyffredinol yn gallu bod yn bethau peryglus, oherwydd, er gwaethaf y diffuantrwydd cychwynnol, maent yn tueddu i droi'n bethau digon jingoistaidd yn gyflym iawn, fel ddigwyddodd gyda'r pabi. Yn wir, ni fyddai'n syndod gweld yr arfer o gyd-glapio ar stepen y drws yn dod yn rhan o ddefodau Sul y Cofio. Hawdd yw dychmygu ymdrechion i gynnwys yr heddlu a'r teulu brenhinol hefyd. Rydym eisoes wedi cael ein hannog i glapio'r Prif Weinidog pan roedd yn wael yn yr ysbyty gyda'r feirws, wedi'r cyfan.

Mae yna rywbeth lled grefyddol am symbolau a defodau torfol fel hyn.  Yn achos y bobl ar y bont, mae bron fel petaent yn credu bod yr hyn mae'r weithred yn ei gynrychioli yn rhoi imiwnedd dros dro rhag y coronafeirws ynddo'i hun. Ceisio dangos i'r coronafeirws nad ydynt am adael iddo'u trechu, efallai. Wrth gwrs, nid yw tactegau seicolegol yn effeithiol yn erbyn feirysau (dyma pam mai aflwyddiannus fu datganiadau hyderus Donald Trump nad oedd y feirws yn broblem wirioneddol; mae PR a rhethreg wleidyddol yn dda i ddim yn erbyn ffenomenau naturiol).

Fel un a dreuliodd bythefnos yn yr ysbyty rai fisoedd yn ôl, gallaf dystio bod staff y GIC yn gwneud gwaith anhygoel a'n haeddu pob clod. Ond mae angen cofio beth mae cefnogi staff y GIC yn ei olygu'n ymarferol, a pheidio gadael i wleidyddion fanteisio ar y traddodiad newydd yma er mwyn ymddangos yn fwy cefnogol nag ydynt mewn gwirionedd.

1 comment:

  1. Dallt y pwyntiau ydach chi yn ei gneud ond nid arnyn nhw mae y bai bod nhw methu cael digon o bethau profi a gwisg diogelwch Mae nhw yn haeddu clap

    ReplyDelete