Ar un olwg, mae'r bobl yn y fideo yn cadw pellter oddi wrth deuluoedd eraill, felly mae'n hynod annhebygol bod eu gweithredoedd wedi lledaenu'r coronafeirws. Yn hynny o beth, maent yn 'mynd am dro' mewn modd sy'n cydfynd â'r rheolau. Y broblem, wrth gwrs, yw eu bod wedi teithio yn eu ceir i gyrraedd y lle, a bod eu gallu i gadw pellter yn ddibynnol ar y ffaith bod bron pawb arall yn aros gartref. Petai pawb arall yn cael yr un syniad, byddai golygfeydd gwallgof y penwythnos diwethaf yn cael eu hail-adrodd, gyda thorfeydd anferthol yn heidio i beauty spots poblogaidd ledled y wlad fel petai'n ganol haf (yn wir, y penwythnos diwethaf oedd un prysuraf Eryri erioed). Mae'n esiampl glasurol o'r tragedy of the commons. Mae'r ffaith bod pobl i fod i aros yn eu tai yn golygu bod ein bryniau gwledig yn wag, ac mae'r union ffaith honno'n eu gwneud yn fwy deniadol.Despite posts yesterday highlighting issues of people still visiting the #PeakDistrict despite government guidance, the message is still not getting through. @DerPolDroneUnit have been out at beauty spots across the county, and this footage was captured at #CurbarEdge last night. pic.twitter.com/soxWvMl0ls— Derbyshire Police (@DerbysPolice) March 26, 2020
I fod yn saff, mae'n deg dweud na ddylai pobl fod yn mynd allan yn eu ceir er mwyn hamddena: os mynd am dro, gadewch y tŷ ar droed ac ewch lawr y lôn neu rownd y bloc. Eto i gyd, ac er nad wyf yn anghytuno â sentiment y fideo, mae rhywbeth petty ac annifyr iawn am y syniad o'r heddlu'n defnyddio dronau i ysbïo ar bobl yn mynd â'u cŵn am dro yng nghanol nunlle er mwyn codi cywilydd arnynt ar y we. Gadewch i ni fod yn hollol 2glir am un peth: nid yw'r bobl yn y fideo'n torri unrhyw gyfreithiau.
Mae'r pandemig yn berygl bywyd, ac mae angen mesurau llym er mwyn osgoi'r gwaethaf. Ond rwy'n gobeithio'n wir na fydd yr heddlu wedi cael gormod o flas ar y grym newydd yma (a dylid cofio bod grymoedd fel hyn, fel pob grym arall, yn tueddu i gael eu gor-ddefnyddio yn erbyn lleiafrifoedd ethnig). Mae yna elfen o power trip yn yr uchod, a dylem fod yn wyliadwrus.
Cytuno.
ReplyDelete