20/12/2021

Llai na hanner poblogaeth Cymru'n ystyried eu hunain yn Gristnogion

Mae'n debyg bod y ganran o boblogaeth Cymru sy'n galw'u hunain yn Gristnogion wedi syrthio o dan yr hanner, yn ôl yr ONS. Dim ond 48.18% yw'r ffigwr yng Nghymru erbyn hyn, o'i gymharu â 51% yng Nghymru a Lloegr gyda'i gilydd. Dengys y canlyniadau hyn bod Cymru'n llai crefyddol nag unrhyw rhanbarth o Loegr. Da iawn ni.

A bod yn onest, mae'n bur debygol bod y gwir ffigwr yn llawer iawn is eto. Nid oes modd cael rhifau hollol wrthrychol ynghylch y mater yma, yn amlwg, gan nad oes diffiniad sicr o 'Gristion' yn y lle cyntaf. Ond gan fod ffigwr yr ONS wedi'i seilio ar hunan-ddisgrifiad, mae'n rhaid ei fod yn cynnwys nifer fawr o bobl sy'n galw'u hunain yn Gristnogion am resymau diwylliannol a thraddodiadol, ond nad ydynt yn mynychu unrhyw gapel nac eglwys na'n meddwl am faterion diwinyddol rhyw lawer oni bai bod rhywun yn gofyn. Buaswn i'n synnu'n fawr petai'r ganran o bobl â Christnogaeth yn elfen wirioneddol bwysig o'u bywydau yn cyrraedd ffigurau dwbl.

Rhaid nodi bod ochr arall i'r geiniog yma. Rwy'n amau'n fawr bod 47.28% o boblogaeth Cymru yn wirioneddol anghrefyddol, er cymaint mae'r syniad yn apelio. Buaswn i'n tybio bod y ffigwr hwn yn cynnwys nifer fawr o bobl sy'n ymwrthod â chrefydd sefydliadol, a hyd yn oed y label 'crefydd' yn gyffredinol, ond sydd eto'n credu mewn rhywbeth lled ysbrydol. Dylid galw cred mewn unrhyw fath o rym trosgynnol yn grefydd yn fy marn i, dim ots pa mor annelwig ac idiosyncrataidd, ond rwy'n gwybod nad fel yna mae rhai pobl yn gweld pethau. Buaswn i'n awgrymu mai'r grefydd genedlaethol erbyn hyn yw 'mae'n rhaid bod 'na rywbeth, am wn i, ond nid wyf yn siwr beth'. 

Er bod anffyddiaeth go iawn - diffyg ffydd mewn unrhyw beth o gwbl tu hwnt i'r materyddol - yn cynyddu'n araf, mae'n aneglur o hyd bod dirywiad crefydd yn golygu ein bod yn mynd yn bobl mwy rhesymegol. Mae'r genhedlaeth ifanc heddiw (nad yw, ysywaeth, yn fy nghynnwys i ragor) yn rhyfedd o hoff o astroleg, wedi'r cyfan, ac mae TikTok yn orlawn o bobl 19 oed yn mwydro am ddewiniaeth. Eto i gyd, mae dirywiad parhaus crefydd sefydliadol i'w groesawu, gan ei fod yn golygu'n anorfod y bydd dylanwad y rhagfarnau adweithiol sydd (ar y cyfan) ynghlwm â hwy yn edwino ymhellach hefyd.

12/12/2021

Apostol

Mae Iddew gan Dyfed Edwards yn gorffen gydag epilog byr, chwe blynedd ar ôl croeshoelio Yeshua (sef Iesu Grist), lle mae rhai o ddilynwyr y meseia honedig yn gwrando ar yr hyn sydd gan ddyn diarth o'r enw Shau'l, nad oedd wedi ymddangos yn y stori cyn hyn, i'w ddweud am y ffydd newydd. Bu'r dyn hwn yn erlid Mudiad Yeshua nes yn ddiweddar, ond cafodd droedigaeth ac mae bellach yn ferw gwyllt o syniadau am sut i ledaenu'r efengyl newydd. Mae dilynwyr Yeshua'n gwrando arno'n ansicr. A dyna ragflas o'r nofel ddilynol, sef Apostol.

Shau'l, wrth gwrs, yw Paulos Saoul Tarsos (yr Apostol Paul), a'i stori ef a gawn yn Apostol. Mae'n erlid a'n tystio'n erbyn dilynwyr Yeshua ar ddechrau'r nofel, cyn cael y droedigaeth enwog ar y ffordd i Ddamasq (Damascws) sy'n ei ysgogi i frysio'n ôl ac ymlaen yn gynhyrfus ar hyd arfordir dwyreiniol Môr y Canoldir i bregethu, i ddenu Cristnogion newydd a sefydlu eglwysi di-rif. 

Mae'r stori o'r pwynt hwn yn canolbwyntio ar yr elyniaeth rhwng dilynwyr Yeshua (Kepha a Yakov yn enwedig, sef Pedr a Iago, brawd Iesu) a Paulos, sy'n parhau hyd yn oed ar ôl i hwnnw weld y goleuni. Hawdd yw dychmygu y byddai cyfeillion agos Iesu Grist wedi bod yn bur brin eu hamynedd gyda'r dieithryn rhyfedd yma a oedd mor elyniaethus tuag at y grefydd newydd ond a aeth ati nid yn unig i'w chofleidio ond i herio dehongliad cyfeillion Iesu eu hunain o'r ffydd, gan fynnu'n syth ei fod wedi cael ei ddewis gan eu duw i hyrwyddo dehongliad newydd. O gofio bod aelodau'r Mudiad wedi adnabod Yeshua a'i ystyried yn ffrind (ac yn achos Yakov, wedi tyfu fyny gydag ef), tra nad oedd Paulos wedi cwrdd ag ef erioed, nid oes ryfedd eu bod wedi'i ystyried yn ddyn haerllug ar y naw.

Dangosodd Iddew sut y gall crefydd newydd fel Cristnogaeth fod wedi deillio o ddigwyddiadau perffaith naturiol a di-nod. Yn Apostol, cawn boetread realistig dros ben o'r ffraeo a'r cecru wrth i athrawiaethau crefydd newydd gael eu pennu (a'u dyfeisio ar fympwy) yn y dyddiau cynnar. Neges Apostol, rwy'n creduyw mai Paul, nid Iesu Grist, yw'r person pwysicaf yn hanes Cristnogaeth. A dweud y gwir, bron y gallwn awgrymu bod Iesu Grist y person ei hun yn amherthasol. Canfas gwag oedd Iesu i Paul, i bob pwrpas; byddai unrhyw berson arall wedi gwneud y tro llawn cystal. 

Obsesiwn mawr Paul oedd y syniad o berthynas uniongyrchol gyda'r meseia. O'r herwydd, roedd yn eithriadol o awyddus i gyflwyno'r ffydd newydd i holl genhedloedd y byd, nid dim ond yr Iddewon. Yn groes i Kepha/Pedr a Yakov/Iago, mynnodd nad oedd rhaid i ddynion gael eu henwaedu, na dilyn rhai o gyfreithiau mawr eraill yr Iddewon, er mwyn cael eu derbyn. 

Teg iawn dweud felly mai creadigaeth Paul yw Cristnogaeth. I Paul mae'r diolch (neu, efallai, y diawlio) bod Cristnogaeth wedi lledaenu i bob cornel o'r byd. Gwnaeth Gristnogaeth yn bopeth i bawb, gan ganiatáu'r hyblygrwydd hwnnw a alluogodd y grefydd i addasu i wahanol gymunedau ac amgylchiadau.

Mae arddull Apostol yn debyg iawn i Iddew, gyda'r un ail-adrodd rhythmig lled Feiblaidd, a defnydd helaeth o enwau Hebraeg a ieithoedd Beiblaidd eraill. Unwaith eto, mae'r stori yn eithriadol o afaelgar. Dyma ddwy o'r nofelau gorau yn ein hiaith, yn fy marn i. Mae'n ddiddorol, serch hynny, nad yw'r un o'r cymeriadau yn arbennig o hoffus (yn rhyfedd ddigon, rwy'n credu mai'r cymeriad y cydymdeimlais fwyaf ag ef dros y ddwy nofel oedd Yeshua ei hun). Mae Paulos yn ddyn carismataidd dros ben, wrth reswm, ond hefyd yn rhyfedd, blin ac ystyfnig fel mul. Hawdd iawn yw dychmygu bod portread y nofel o'r dyn go iawn yn agos iawn ati.

05/07/2021

Marchogion cibddall: tranc yr Anffyddiaeth Newydd

 Dyma fersiwn hirach o'r ysgrif gennyf a gyhoeddwyd yn rhifyn haf 2020 o O'r Pedwar Gwynt

------

Ym mis Medi 2007, tros goctêls, cafodd Richard Dawkins, Sam Harris, Daniel Dennett a’r diweddar Christopher Hitchens sgwrs am ddiffygion crefydd. Rhoddwyd fideo o’r drafodaeth, sy’n ddwy awr o hyd, ar YouTube, gyda’r teitl The Four Horsemen, cyfeiriad at y cymeriadau enwog o Lyfr y Datguddiad. Roedd y pedwar eisoes wedi cyhoeddi llyfrau polemig gwrth-grefyddol erbyn hynny (The God Delusion gan Dawkins, The End Of Faith gan Harris, Breaking The Spell gan Dennett, a God Is Not Great gan Hitchens), a roedd y syniad bod rhywbeth o’r enw’r ‘New Atheism’ ar droed eisoes wedi cael ei awgrymu mewn erthygl yn y cylchgrawn Wired y flwyddyn gynt. Dehonglwyd cyhoeddi’r fideo fel rhyw fath o gadarnhad o hynny; yn wir, The Discussion That Sparked An Atheist Revolution yw is-deitl trawsgrifiad o sgwrs The Four Horsemen sydd bellach, ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, wedi’i chyhoeddi ar ffurf cyfrol fer.

Wrth gwrs, fel roedd llawer o’r Anffyddwyr Newydd eu hunain yn prysuro i’w nodi, nid oedd rhyw lawer yn wreiddiol am ddadleuon y mudiad mewn gwirionedd. Y sylw a’r diddordeb yn y cyfryngau ac ymysg pobl gyffredin oedd yn newydd. Mae’n wir nad yw’r achos yn erbyn crefydd wedi newid rhyw lawer dros y ganrif ddiwethaf, ac o’r herwydd fe gyhuddir anffyddwyr o swnio’n ddiflas ac ail-adroddus. Er bod elfen o wirionedd yn y cyhuddiad, nid yw’n un teg, oherwydd nid bai anffyddwyr yw’r ffaith bod crefyddwyr yn parhau i fethu ateb y dadleuon a chynnig rhesymau synhwyrol i gredu ym modolaeth eu duwiau.

Mae’r rhan fwyaf o’r hyn a ddywed y pedwar yn ystod eu sgwrs yn berffaith gywir. I anffyddiwr rhonc fel fi , mae’r fideo a’r llyfr yn cynnwys digon o gig coch boddhaol. Oes, mae angen rhoi’r gorau i osod crefydd ar bedestal annhaeddiannol, a dylid, yn hytrach, ei gwerthuso ar yr un lefel a chyda’r un rhyddid ag yr ydym yn trafod pob ideoleg arall. Ydi, mae safbwynt y crefyddwyr yn drahaus yn ei hanfod, gan mai nhw sy’n honni, heb ronyn o dystiolaeth, bod y bydysawd wedi’i greu yn unswydd ar eu cyfer a bod ganddynt berthynas bersonol â’r creawdwr hollalluog. Ydyn, mae diwinyddwyr yn euog o bedlera fflwff gor-eiriog ffug-ddwys sydd, yn amlach na pheidio, yn gwrth-ddweud yr hyn a bregethir i bobl gyffredin mewn addoldai ar lawr gwlad.

Wrth gwrs, mae ail-adrodd yr hen ddadleuon hyn yn annhebygol o newid meddwl unrhyw berson crefyddol o argyhoeddiad. Eto i gyd, mae’n bwysig parhau i roi’r achos ger bron, er budd yr holl bobl hynny yn y canol sydd heb eto ffurfio barn gref y naill ffordd na’r llall. Celwydd yw pob crefydd, a doeth, fel rheol, yw osgoi credu celwyddau. Dw i ddim yn obeithiol y daw dydd pan fydd crefydd wedi diflannu, ond mae’n uchelgais i anelu ato, a mae angen mudiad sy’n fodlon dweud hyn i gyd yn blaen.

Wedi dweud hyn i gyd, roedd darllen y trawsgrifiad ac ail-wylio’r fideo, wedi’r holl flynyddoedd, yn deimlad chwithig. Yn un peth, mae rhannau o’r sgwrs yn swnio’n boenus o hunan-fodlon hyd yn oed i mi, a mae rhagair Stephen Fry, gyda’i gyfeiriadau at y ‘Four Musketeers of the Mind’, yn mynd dros ben llestri a dweud y lleiaf. Ond yn fwy na hynny, mae ergyd y geiriau wedi pylu yng ngoleuni’r hyn sydd wedi digwydd ers y sgwrs, oherwydd mae’n anodd peidio teimlo bod yr Anffyddiaeth Newydd, erbyn hyn, wedi chwythu’i phlwc. Yn wir, efallai bod y penderfyniad i gyhoeddi’r llyfr yn gydnabyddiaeth anfwriadol o hynny. Ai chwyldro parhaus a gyfeirir ato yn is-deitl y gyfrol, ynteu cyfnod penodol a byr yn ein hanes diweddar yr ydym bellach yn gallu syllu’n ôl arno, post-mortem?

Os darfod a wnaeth, beth aeth o’i le? Wel, efallai mai un o’r pethau cyntaf i’ch taro am y sgwrs yw’r ffaith bod y Pedwar Marchog yn ddynion gwyn i gyd. Dylid cofio, am wn i, mai’r bwriad gwreiddiol oedd cynnwys Ayaan Hirsi Ali, awdures o dras Somalaidd, ond gorfu iddi ganslo ar y funud olaf (roedd hynny’n anffodus, ond o leiaf cawsom osgoi gwireddu’r cynllun i ddefnyddio’r teitl Five Pillars Of Wisdom, a fyddai wedi bod hyd yn waeth na’r un ar gyfer y pedwar). Ond fe gariodd y dynion ymlaen hebddi, a roedd y canlyniad yn syrffedus o anghynrychiadol.

O edrych ar y sawl sy’n cael trafod anffyddiaeth yn y cyfryngau neu ar banelau mewn cynadleddau, gellir maddau rhywun am dybio nad oes rhyw lawer o fenywod nac aelodau o leiafrifoedd ethnig o fewn y mudiad. Mae’n ddadlennol bod llyfr gan ddynes a gyhoeddwyd yn 2003 – cyn rhai’r Pedwar Marchog – yn cael ei adael allan o bob trafodaeth am yr Anffyddiaeth Newydd. Dymuniad Jennifer Michael Hecht, mae’n debyg, oedd galw’r gyfrol yn A History Of Atheism, ond mynnodd y cyhoeddwyr ar Doubt: A History. Mae’n lyfr ysgolheigaidd, trwyadl, a rhyfeddol ei rychwant, gan olrhain anffyddiaeth ac anuniongrededd crefyddol o 800CC hyd at y presennol. Ysywaeth, mae’n anodd peidio tybio y byddai Hecht wedi ennill llawer mwy o sylw dyledus a chael ei chydnabod fel un o arloeswyr mudiad newydd petai wedi cael ei ffordd gyda’r teitl. Rhaid oedd aros am y dynion cyn derbyn bod marchnad ar gyfer y math yna o beth, fe ymddengys.

Bu’r duedd i ddyrchafu dynion gwyn, yn hytrach nag adlewyrchu’r gymdeithas amrywiol fodern, yn drychinebus i’r Anffyddiaeth Newydd. Yn waeth na hynny, digalondid mawr oedd gweld anffyddwyr enwog yn cwyno am social justice warriors a ‘chywirdeb gwleidyddol’. Dyma, yn wir, achosodd yr hollt fwyaf (ac, yn fy marn i, andwyol) yn y mudiad. Ar y naill ochr, ceir y garfan sy’n mynnu mai ystyr anffyddiaeth yw diffyg ffydd mewn duw, a dim byd arall. Dyma anffyddiaeth fel canfas wag, heb iddi unrhyw oblygiadau gwleidyddol penodol tu hwnt i’w diffiniad geiriadurol. Ar yr ochr arall mae’r sawl sy’n dadlau bod angen i anffyddiaeth roi lle blaenllaw i gyfiawnder cymdeithasol; yn wir, na ellir cael y gyntaf heb yr ail. Dw i’n cyfrif fy hun ymysg yr ail garfan: wedi’r cyfan, nid yw'n gwneud synnwyr i wrthwynebu crefyddau heb hefyd herio a chywiro'r anghyfiawnderau a rhagfarnau misogynistaidd, hiliol a gwrth-gyfunrywiol a fu’n elfennau mor annatod ohonynt ar hyd y blynyddoedd. Nid yw’r rhwyg yma’n unigryw i’r mudiad anffyddiaeth, wrth gwrs. Mae paralel clir yn rhygnu ar hyn o bryd yn y mudiad cenedlaethol yng Nghymru, gydag un ochr yn mynnu mai ystyr annibyniaeth yw ymwahanu oddi wrth Loegr a dim byd arall, gan ddilorni niche issues yr ochr arall sy’n ceisio mynd i’r afael, o flaen llaw, â sut fath o Gymru rydd y maent yn dymuno’i hennill.

Mae’r ‘sgandal’ penodol (os dyna’r gair) a ddaeth â’r hollt yma i wyneb yr Anffyddiaeth Newydd bron yn rhy wirion i’w ddisgrifio, ond dw i am fentro gwneud gan mai natur chwerthinllyd y saga yw’r union bwynt. Yn gryno iawn: yn 2011, am 4 y bore yn ystod y Global Atheist Convention yn Nulyn, roedd y blogwraig Rebecca Watson ar ei ffordd i’w hystafell westy i glwydo ar ôl diwrnod prysur o gynadledda ac ymddiddan yn y bar. Fe’i dilynwyd gan ddyn, un o’r mynychwyr eraill nad oedd yn gyfarwydd iddi, a’i gwahoddodd i’w ystafell yntau am goffi. Drannoeth, cyhoeddodd Watson fideo am ei diwrnod, gan gynnwys sylwadau byr a phwyllog, wrth fynd heibio, am y digwyddiad lled anghyfforddus yn y lifft. ‘Just a word to the wise here, guys: don't do that’, meddai. Buasech wedi disgwyl mai dyna fyddai diwedd y mater, ond yn anffodus cafwyd ymateb blin i’w chyngor ysgafn. Yn fuan wedyn, mewn sylw arlein drwg-enwog, tywalltodd Richard Dawkins ei hun betrol ar y fflamau trwy wawdio Watson a gwrthgyferbynu ei chŵyn gyda’r gorthrwm sy’n wynebu menywod Mwslemaidd mewn gwladwriaethau ffwndamentalaidd. Trodd hynny’r ffrae yn ‘Elevatorgate’, ac mae’r cecru’n parhau hyd heddiw. Efallai mai naïf oedd disgwyl i griw o bobl sy’n ymhyfrydu yn eu gallu rhesymegu fod yn well na’r math yma o nonsens, ond roedd nodyn Dawkins yn enwedig yn destun siom anferthol i lawer. Fe ymddiheurodd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ond roedd y drwg wedi’i wneud. Mae’r ffaith bod nifer o anffyddwyr blaenllaw wedi’u cyhuddo o gamymddwyn yn rhywiol tuag at fenywod yn y blynyddoedd ers hynny’n dangos peryglon anwybyddu’r fath rybuddion.

Aeth Dawkins yn ei flaen i ddifetha’i enw da ymhellach trwy gyhoeddi cyfres o sylwadau dwl, am Islam yn bennaf, ar Twitter. Efallai mai’r enghraifft enwocaf oedd ei drydariad yn nodi’r ffaith bod Coleg y Drindod, Caergrawnt, wedi ennill mwy o Wobrau Nobel na’r holl fyd Mwslemaidd. Does dim byd am y sylw’n ffeithiol anghywir, ond mae mor gamarweiniol ac arwynebol mae gystal â rhaffu celwydd noeth.

Yn anffodus, daeth agweddau trafferthus tuag at Islam i nodweddu’r Anffyddiaeth Newydd yn ei chyfanrwydd yn y blynyddoedd diwethaf. Gwir y gellir dehongli dyfodiad y mudiad, i raddau o leiaf, fel ymateb i ymosodiadau terfysgol Medi 11, 2001,  a rhwystredigaeth bod rhyddfrydwyr a’r chwith yn amharod i feirniadu Islam. Dw i dal i gredu bod sail i’r rhwystredigaeth honno, ond fe garlamodd gormod o anffyddwyr yn rhy bell i’r cyfeiriad arall, gan dargedu Mwslemiaid fel pobl yn hytrach nag Islam fel cagliad o syniadau. Mae’n siwr mai’r sylw gwaethaf un yn The Four Horsemen yw’r canlynol gan Christopher Hitchens: ‘I think it’s us, plus the 82nd Airborne and the 101st, who are the real fighters for secularism at the moment’. Anodd yw credu bod datganiad mor dwp wedi dod o enau dyn a oedd mor enwog am ei ddeallusrwydd. Mae’r syniad mai hyrwyddo seciwlariaeth oedd bwriad George W Bush yn ddigon dwl, ond mae’r sylw’n anfaddeuol o gofio bod y dinistr a achoswyd gan y rhyfeloedd yn Affganistan ac Irác eisoes yn hysbys ac amlwg erbyn Medi 2007.

Sgwn i pa drywydd deallusol byddai Hitchens wedi’i ddilyn pe na bai wedi marw yn 2011? Byddai wedi mwynhau dweud pethau cas am ynfytyn fel Donald Trump, yn sicr, ond dw i’n ofni byddai’i gasineb tuag at Fwslemiaid wedi’i arwain i glosio tuag at yr alt-right. Dyna, yn anffodus, ble mae Sam Harris heddiw. Mae Harris wedi dweud yn blaen y dylai system fewnfudo America ffafrio Cristnogion ar draul Mwslemiaid, wedi dadlau o blaid ‘proffeilio’ pobl sy’n ‘edrych yn Fwslemaidd’ mewn meysydd awyr (hynny yw, eu targedu ar gyfer chwiliadau diogelwch pellach), wedi cyfiawnhau artaith, a hefyd (ar ffurf ‘arbrawf feddyliol’) wedi cefnogi’r syniad o daro’n gyntaf yn erbyn jihadwyr gyda bom niwclear. Ar ben hyn, mae ganddo obsesiwn sinistr gyda’r syniad bod gwahaniaethau IQ i’w gweld rhwng grwpiau ethnig (oes angen dyfalu pwy sydd ar y brig?). Er nad oes tystiolaeth o fath yn byd bod hynny’n wir (nac ychwaith bod ‘hil’ yn gysyniad gwyddonol ystyrlon yn y lle cyntaf), mynna Harris bod y gwrthwynebiad i’r syniad hwn wedi’i seilio ar ‘politically-correct moral panic’.

Ystyrir Daniel Dennett y mwyaf cymhedrol o’r Marchogion. Efallai bod hynny, yn fwy na dim, oherwydd ei fod yn gymharol dawel ar y cyfryngau cymdeithasol, ac felly heb eto roi ei droed ynddi. Beth bynnag, mae gan o leiaf dri o’r Pedwar Marchog hanes o ddweud pethau afresymol a rhagfarnllyd. Mae gwybod hynny’n bownd o bylu ergyd eu geiriau wrth i ni’u darllen yn cytuno’n hunangyfiawn am bwysigrwydd seilio safbwyntiau ar dystiolaeth a rhesymeg. Mae pawb yn ystyried Rhesymeg yn beth da, ond canlyniad hynny yw ei fod yn colli pob ystyr, gan fod pawb, gan gynnwys llawer iawn o bobl heb yr un asgwrn rhesymegol yn eu corff, yn ei hawlio. Yn anffodus, nid yw’r Marchogion eu hunain wedi dangos eu bod fawr mwy tebygol o ymddwyn yn rhesymegol yn hytrach na bodloni ar ei ddatgan fel rhyw fath o air hud.

Gyda thwf y dde eithafol, mae’r byd wedi newid cryn dipyn ers 2007. Er bod fy naliadau gwrth-grefyddol mor gryf ag erioed, maent wedi syrthio yn fy rhestr flaenoriaethau. Y dde senoffobaidd, adweithiol ac awdurdodaidd yw’r gelyn pennaf erbyn hyn, ac yn hynny o beth mae’n amhosibl ystyried pobl fel Sam Harris ar yr un ochr â mi. Bu llawer gormod o or-gyffwrdd rhwng yr alt-right ac elfennau o’r Anffyddiaeth Newydd, er mai Donald Trump, y godinebwr celwyddog di-foes, yw’r arlywydd mwyaf poblogaidd erioed ymysg efengylwyr America.

A yw tranc yr Anffyddiaeth Newydd yn barhaol, felly? Ni fuaswn i’n dweud hynny. Gan nad yw crefydd am ddiflannu, bydd galw o hyd am fudiad sy’n fodlon herio’i nonsens. Mae’n holl-bwysig, fodd bynnag, bod unrhyw Anffyddiaeth Newydd Newydd yn cofleidio amrywiaeth y byd modern, yn rhoi llwyfan i leisiau gwahanol, a chroesawu pawb. Methiant mawr chwyldro The Four Horsemen oedd peidio dangos sut y byddai byd heb grefydd yn rhagori ar yr un presennol. Os na fydd y chwyldro nesaf, os cawn un, yn cyflawni hynny, byr-hoedlog fydd hwnnw hefyd.

03/11/2020

Beth fydd hanes Trump?

Mae perygl i bopeth yn y blogiad hwn ddyddio'n wael yn fuan iawn, ond mae'n edrych yn debygol iawn y bydd Joe Biden yn ennill yr etholiad arlywyddol yn America. Rwy'n deall bod pobl yn nerfus am y syniad bod yr arolygon barn yn anghywir, ar ôl i Trump wneud yn well na'r disgwyl yn 2016, ond, yn fy marn i, mae o hyd yn rhy hawdd gor-ddysgu gwersi'r etholiad diwethaf. Yn hynny o beth, mae'r un mor debygol mai Biden fydd yn gwneud yn well na'r disgwyl â'r ffordd arall rownd.

Llawn mor bwysig â'r gwahaniaeth rhwng cefnogaeth y ddau ymgeisydd yw bod bron pob arolwg barn yn rhoi mwy na 50% o'r bleidlais i Biden. Hyd yn oed pan oedd Hillary Clinton ar ei hanterth yn y polau yn 2016, ni ddaeth erioed yn agos at hanner y bleidlais. Nid oes llawer o bobl ar ôl sydd heb benderfynu sut i bleidleisio, ac mae hynny'n lleihau'r ansicrwydd yn sylweddol. Mae'r ras wedi bod yn rhyfeddol o sefydlog, mewn gwirionedd, er popeth sydd wedi digwydd yn ystod 2020. Mae pobl yn wirioneddoli hoffi Biden, rhywbeth sy'n sicr bad oedd yn wir am Clinton (ac, ysywaeth, mae'n anodd osgoi'r casgliad amlwg bod misogynistiaeth yn esbonio llawer o'r gwahaniaeth).

Y pryder mwyaf, wrth gwrs, yw bod Trump am geisio dwyn yr etholiad. Yn wir, nid oes amheuaeth o gwbl am hynny: mae wedi datgan ei fwriad yn blaen (dyma reol hawdd ond gwirioneddol ddi-ffael i chi: pan mae Trump yn addo rhywbeth da, mae'n gelwydd; ond pan mae'n cyhoeddi ei fod am wneud rhywbeth sy'n swnio'n ddrwg, dyna'r amser i gredu bob gair (a disgwyliwch gwaeth eto). Nid bod yn smala yw hyn: dyma'n llythrennol yr unig ffordd gywir i ddehongli'r dyn).

Cwestiwn arall yw a fydd yr ymdrech honno'n llwyddiannus. Y gobaith mwyaf yw bod Biden mor bell ar y blaen bod unrhyw ymgais coup yn ofer (mae'n warthus, wrth gwrs, bod angen i'r Democratiaid sicrhau buddugoliaeth swmpus er mwyn gallu ennill o gwbl). Ond hyd yn oed os yw'r coup yn aflwyddiannus, bydd yr ymdrech yn digwydd, a bydd diffyg cywilydd Trump a'i blaid yn gwthio'r system i'r eithaf.  Mae'r dyddiau wedi'r etholiad am fod yn fler a brawychus y naill ffordd neu'r llall. Bydd cyfrifoldeb mawr ar y cyfryngau. Yn anffodus, maent wedi cael trafferth delio â Trump dros y blynyddoedd diwethaf, felly bydd rhaid gobeithio eu bod wedi dysgu gwersi a pharatoi'n well y tro hwn. Er enghraifft amlwg, dylent sylweddoli nad oes rhaid darlledu nac ail-adrodd unrhyw Weriniaethwr sy'n ceisio hawlio buddugoliaeth cyn bod unrhyw ganlyniadau i gyfiawnhau hynny.

Gan gymryd mai Biden fydd yr arlywydd wedi 20 Ionawr (boed angen i lusgo Trump yn gorfforol allan o'r Tŷ Gwyn neu beidio), a bod y Democratiaid yn ail-ennill y Senedd, bydd yn rhaid iddynt flaenoriaethu trwsio democratiaeth y wlad (i'r graddau i'r fath beth fodoli yn America erioed). Er popeth arall fydd ar eu plât, fel y pandemig, chwalfa economaidd, anghydraddoldeb affwysol a system iechyd chwerthinllyd o fethedig, mae'n hollol, hollol, hollol hanfodol eu bod yn cael gwared, yn syth bin, ar bob un rhwystr sy'n ei gwneud yn anodd i bobl bleidleisio. Nid oes unrhyw beth pwysicach na galluogi pob oedolyn yn y wlad i bleidleisio'n rhwydd. a sicrhau nad oes modd i'r Gweriniaethwyr erydu'r hawl sylfaenol honno drachefn yn y dyfodol. Bydd rhaid hefyd gwneud Washington DC yn dalaith, a chynnig refferendwm ar y mater (gydag annibyniaeth neu setliadau eraill fel opsiynau, wrth gwrs) i diriogaethau fel Ynysoedd Americanaidd y Wyryf, Guam ac Ynysoedd Gogledd Mariana, a Samoa Americanaidd. Dyna'r peth moeol i'w wneud beth bynnag, ond byddai hefyd yn cywiro, i raddau o leiaf, allu'r Gweriniaethwyr i reoli'r Senedd gyda chefnogaeth lleiafrif o boblogaeth y wlad. Mae'n adrodd cyfrolau nad oes sicrwydd, hyd yn oed eleni, y bydd y Democratiaid yn cipio'r ddeddfwrfa honno er bod disgwyl iddynt fod ymhell ar y blaen yn y bleidlais boblogaidd.

Bydd angen hefyd cael gwared ar system anacronistig y coleg etholiadol, wrth gwrs, ond bydd hynny bron yn amhosibl oherwydd byddai'n golygu diwygio'r cyfansoddiad. Ond un peth fydd yn dechnegol hawdd fydd cywiro sefyllfa anghylaniadwy'r Goruchaf Lys, lle mae'r Gweriniaethwyr wedi llwyddo, trwy dwyll a rhagrith, i sicrhau mwyafrif eithafol o asgell-dde. Rhaid i Ddemocratiaid dderbyn mai'r unig ffordd o adfer y system ac o warchod normau yw i ychwanegu barnwyr, rhywbeth y mae modd ei wneud gyda mwyafrif syml yn y Senedd. Byddai hynny'n ymfflamychol yn wleiyddiol, ond nid oes dewis. 

Bydd gan y Democratiaid ffenestr o ddwy flynedd ar y mwyaf i gyflawni hyn i gyd. Nid gormodiaith yw dweud bod parhad America fel gwlad ddemocrataidd yn y fantol, ac y byddai gan hynny oblygiadau brawychus i weddill y byd hefyd. Nid yw'r Gweriniaethwyr hyd yn oed yn smalio erbyn hyn bod modd iddynt ddarbwyllo mwyafrif y boblogaeth i'w cefnogi. Plaid ethno-genedlaetholgar gwyn ydyw, a'i hunig bwrpas yw atal cefnogwyr y blaid arall rhag pleidleisio, ac i ddibynnu ar y llysoedd, y maent wedi'u llenwi â hacks ffyddlon, i rwystro a gwahardd popeth ar agenda'r Democratiaid ar yr ychydig achlysuron hynny pan fydd y blaid honno wedi ennill buddugoliaeth digon sylweddol i grafu mwyafrifoedd yn y ddwy ddeddfwrfa. Bydd gan y Democratiaid o fis Ionawr hyd at yr etholiadau canol-tymor nesaf ymhen dwy flynedd i sicrhau mai'r unig ffordd bosibl i'r Gweriniaethwyr ennill grym fydd trwy ddenu cefnogaeth mwyafrif o'r boblogaeth, er mwyn gorfodi'r blaid honno newid. Ar ôl hynny bydd yn rhy hwyr. 

Beth am dynged Trump ei hun? Bydd yn gwadu'r canlyniad, yn amlwg, dim ots pa mor agos fydd pethau, oherwydd mae'r dyn yn narsisist pathetig, ond mae'n wirioneddol bosibl bod rhaid iddo ennill yr etholiad yma er mwyn osgoi carchar. Nid oes ryfedd felly ei fod mor despret. Mae'n hollol hanfodol, yn fy marn i, bod Trump, ei blant, a phob person llwgr arall o'u cwmpas, yn cael eu herlyn a'u dedfrydu i garchar. Yn anffodus, ar ôl ennill grym, greddf y Democratiaid fydd 'edrych ymlaen, nid am yn ôl', gan bortreadu hynny fel y peth nobl, llesol, niwtral a phragmataidd i'w wneud. Mae'r reddf honno'n gwbl gyfeiliornus, a'r gwrthwyneb sy'n wir: y llwybr nobl, llesol, niwtral a phragmataidd yw sicrhau bod pobl llwgr yn cael eu cosbi. Os nad oes modd i arlywydd Gweriniaethol gael ei erlyn tra bod y Gweriniaethwyr mewn grym (oherwydd nad oes ganddynt gywilydd o gwbl), na chwaith pan mae'r Democratiaid mewn grym (oherwydd pryder am gael eu cyhuddo o 'fod yn wleidyddol'), byddai'n golygu trwy ddiffiniad nad oes posibl i unrhyw arlywydd Gweriniaethol gael ei erlyn am unrhyw beth, waeth pa mor ddifrifol ei droseddau. Mae'n hollol amlwg nad yw sefyllfa fel hyn yn gynaliadwy. Roedd buddugoliaeth Trump yn 2016 yn symptom o gymdeithas sydd wedi torri, ond mae'r dyn hefyd yn dangos yn glir sut mae'r gymdeithas honno wedi torri, sef bod gan oligarciaid llwgr rwydd hynt i wneud fel y mynnent. Mae hynny, ac anghydraddoldeb yn gyffredinol wrth gwrs, yn broblem arall bydd yn rhaid i Biden a'r Democratiaid ei datrys ar frys. 

Fel mae'n digwydd, ni fuaswn yn synnu gweld Trump yn cyhoeddi dechrau ei ymgyrch ar gyfer 2024 yn fuan iawn (gan gymryd mai colli fydd ei dynged y tro hwn). Nid oherwydd bod ganddo obaith - na hyd yn oed y bwriad - o ennill ymhen pedair blynedd, ond er mwyn ei alluogi i alw unrhyw ymdrechion i'w ddwyn i gyfraith fel hit job gwleidyddol. 

Mae'n glir beth ddylai ddigwydd, felly. Ond ai dyna fydd yn digwydd, mewn gwirionedd? Fel rwyf wedi'i nodi o'r blaen, er fy mhesimistiaeth am gyfeiriad y byd yn gyffredinol, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i osod ein disgwyliadau yn uchel. Mae perygl i dderbyn o flaen llaw ei bod yn annhebygol y bydd Trump yn mynd o flaen ei well fod yn broffwydoliaeth sy'n gwireddu'i hun. Rwy'n credu bod y tebygolrwydd y bydd yn cael ei erlyn yn llai na'r hanner, ond un peth sy'n gwneud i mi feddwl bod mwy o siawns na mae sinigiaid savvy yn ei gydnabod yw'r ffaith bod ymddygiad Trump yn yr wythnosau nesaf yn debygol o blymio i ddyfnderoedd is eto. Mae'n bosibl bydd y cyfuniad o geisio hawlio buddugoliaeth yng ngwyneb pob ffaith i'r gwrthwyneb, a'r difrod bwriadol fydd yn ei achosi i'r hyn sy'n weddill o'r llywodraeth ffederal mewn tantrwm sbeitlyd, ar ben y ffaith bydd llawer o bobl sy'n gwybod gormod yn troi'n ei erbyn oherwydd na fydd rheswm rhagor i fod yn deyrngar iddo, yn ddigon i ddymchwel y mur gwleidyddol sy'n ei amddiffyn. Yn hynny o beth, y peth doethaf i Trump ei wneud, er ei les ei hun, fyddai i ildio'n wylaidd a chadw'i ben lawr. Oherwydd ei dwpdra a'i narsistiaeth, fodd bynnag, dyna'r union beth sy'n hollol sicr na fydd yn gallu ei wneud. Ei dwpdra sydd wedi ei alluogi i godi mor uchel. Byddai'n briodol a hyfryd dros ben petai'r twpdra hwnnw'n peri iddo golli'r cyfan.

29/08/2020

Ysgrif gen i yn O'r Pedwar Gwynt

Braint fawr oedd cael cyfrannu ysgrif i rifyn diweddaraf fy hoff gylchgrawn, O'r Pedwar Gwynt. Adolygiad yw'r erthygl o'r llyfr The Four Horsemen, sef trawgrifiad o sgwrs Richard Dawkins, Sam Harris, Daniel Dennett a'r diweddar Christopher Hitchens yn 2007 ynghylch crefydd a'i diffygion. Roedd adolygu'r gyfrol yn gyfle i ofyn beth aeth o'i le gyda'r Anffyddiaeth Newydd fel mudiad.

Mae'r ysgrif ar gael i danysgrifwyr O'r Pedwar Gwynt, ar eu gwefan.



26/05/2020

Pwysigrwydd disgwyl gwell

Mae'n rhyfeddol gweld Llywodraeth Prydain yn mynd i eithafion er mwyn amddiffyn Dominic Cummings, wedi i hwnnw gael ei ddal yn torri sawl rheol yn ymwneud â'r lockdown presennol. Mewn un penwythnos, maent wedi llwyddo i danseilio'r canllawiau mae pawb wedi bod yn eu dilyn ers dros ddeufis, a hynny yn y modd mwyaf abswrd a pheryglus.

Dylai Cummings ymddiswyddo, yn amlwg, ond nid yw wedi gwneud eto. Er nad oes gennyf syniad a fydd yn mynd ai peidio, rwy'n fwy gobeithiol nag ambell un, gan fod yr arolygon barn yn awgrymu'n gryf bod y cyhoedd, gan gynnwys cefnogwyr y Ceidwadwyr, wedi gwylltio'n arw. Nid sgandal arferol swigen San Steffan am un dyn yn unig mo hwn, ond sarhad personol i bawb sydd wedi dilyn y rheolau'n ufudd, gan gynnwys pobl mewn sefyllfaoedd anos o lawer na'r amgylchiadau a wynebodd Cummings.

Rwy'n greadur digon sinigaidd a phesimistaidd ynghylch gwleidyddiaeth, ar y cyfan, gan osod fy nisgwyliadau yn bur isel. Fel hynny, rwy'n lleihau'r siom, a'n cael mwy o fwynhad pan ddaw datblygiadau cadarnhaol. Eto i gyd, mae'n bwysig peidio gadael i sinigiaeth normaleiddio'r syniad na ddylid disgwyl i ymddygiad pobl fel Cummings fod ag iddynt unrhyw oblygiadau. Mae darogan "daw dim byd o hyn" o flaen llaw yn gallu gwneud i ni deimlo'n fydol-ddoeth a phwyllog, mewn cyferbyniad â'r rhai naïf a gor-optimistaidd hynny sy'n cynhyrfu gormod ar achlysuron fel hyn cyn cael eu siomi, ond mae perygl i'r sinigiaeth honno wireddu'i hun (rwy'n cynnwys fy hun ymysg yr euog fan hyn). Os anogir yr argraff nad yw'r cyhoedd yn disgwyl i ffigurau gwleidyddol orfod ymddiswyddo ar ôl camymddwyn, yna mae'r ffigurau gwleidyddol yn amlwg am sylweddoli hynny ac am ddod yn fwy tebygol o geisio dal eu gafael. Mae hefyd yn agwedd ceidwadol yn ei hanfod, gan ei fod yn dilorni'r syniad bod newid er gwell yn bosibl.

Dyma pam mae Donald Trump yn llwyddo i wneud dwsin o bethau bob un dydd (yn llythrennol) fyddai wedi bod yn sgandal farwol i unrhyw weinyddiaeth arall. Mae'r syniad wedi cydio nad oes rheswm i ddisgwyl gwell ganddo, felly mae'r cyhoedd bellach yn numb i lawer o'r hyn a wna. Rhaid osgoi syrthio i'r trap yma yn achos Cummings, ac ym mhob achos arall. Mae'n bwysig cynhyrfu am bethau fel hyn, hyd yn oed os ydym yn amau'n dawel bach na fydd yn arwain at unrhyw newid. Mewn geiriau eraill, bydded i ni osod ein disgwyliadau cyhoeddus yn uwch o lawer na'n disgwyliadau mewnol.

18/04/2020

Clap clap clap

Mae'n gyfnod eithriadol o anodd, ac mae'n naturiol i deimlo'n ddiymadferth. Yr unig beth mae'r rhan fwyaf ohonom yn gallu ei wneud i helpu yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws yw aros adref, gan ddymuno'r gorau i staff y Gwasanaeth Iechyd sydd yn ei chanol hi. Mae'r dyhead i arddangos y gwerthfawrogiad hwnnw'n gyhoeddus yn ddiffuant, felly, a dyna mae llawer yn ei wneud bob nos Iau am 8 o'r gloch, trwy glapio dwylo tu allan i ddrysau'u tai.

Rwy'n tueddu i deimlo'n lletchwith am y math yma o ddefod dorfol (ac efallai mai dyma reswm nad apeliodd grefydd ataf erioed). Er cystal y bwriad gwreiddiol y tu ôl iddi, mae'n anochel bod elfen o orfodaeth yn datblygu: os nad ydych yn cymryd rhan, mae'n rhaid eich bod yn casau nyrsys. Mae elfen o berfformiad yn cymryd drosodd yn fuan iawn hefyd, wrth i'r clapio dwylo droi'n guro sosbenni, ac wedyn tân gwyllt, a hyd yn oed llusernau awyr (pethau ofnadwy y dylid eu gwahardd yn llwyr), gan droi'r holl beth yn gystadleuaeth pwy sy'n hoffi gofalwyr iechyd orau.

Nid dweud na ddylid clapio mo hyn, rhag i unrhyw un feddwl fy mod yn angharedig. Dylid pwysleisio bod llawer o ofalwyr iechyd wir yn gwerthfawrogi'r gwerthfawrogiad, ac mae unrhyw beth sy'n codi'u calonnau hwythau ar adeg fel hyn yn beth da. Gwir hefyd yw bod y cyfle i'r cyhoedd ddod at ei gilydd i gyfleu neges bositif yn llesol, a'n cynnig dihangfa oddi wrth ddiflastod unig hunan-ynysu. Mae pobl yn dyheu am rywbeth i'w ddathlu, am wn i. Ond mae'n swreal gweld pobl yn torri'r rheolau ynghylch cadw pellter cymdeithasol er mwyn cymryd rhan.

Roedd yr olygfa o Bont San Steffan yng nghanol Llundain nos Iau yn anhygoel, gan mai'r heddlu eu hunain ysgogodd y sioe. Mae rhai plismyn wedi cael gormod o flas ar eu grymoedd newydd, ac mae sawl enghraifft wedi bod ohonynt yn mynd dros ben llestri wrth geryddu pobl am fynd am dro, ond dyma'r eithaf arall. Yn enw cymeradwyo staff y GIC sy'n peryglu'u bywydau wrth geisio gwella cleifion y pandemig, mae'r heddlu'n creu golygfa sy'n denu torf, sy'n arwain at ledaenu'r union feirws sy'n gyfrifol am y sefyllfa hunllefus yn y lle cyntaf. Neges gymysg, a syfrdanol o eironig, a dweud y lleiaf. Er y bwriad da, mae'n amlwg bod angen i hyn stopio ar unwaith.

Y broblem yw bod "cefnogi gofalwyr iechyd" yn neges rhy gyffredinol, amhosibl anghytuno â hi. Oes unrhyw un sy'n fodlon cyfaddef nad ydyn nhw'n gwerthfawrogi staff y GIC? Mae hyd yn oed y gwleidyddion hynny sy'n ysu i breifateiddio'r gwasanaeth yn llwyr yn honni eu bod yn meddwl y byd ohoni, er mai mai holl hanfod a phwrpas 'Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol' yw mai'r wladwriaeth ddylai ei chynnal. Mae yna un peth amlwg y mae modd i bawb ei wneud er mwyn cefnogi'r GIC mewn ffordd ystyrlon, sef peidio pleidleisio dros bleidiau gwleidyddol sy'n gwrthod ei chyllido'n ddigonol ac sy'n dymuno i'r farchnad chwarae mwy a mwy o ran ynddi. Am y rheswm hwn,  rwy'n credu bod y stori am y dyn 99 oed sydd wedi codi miliynau o bunnoedd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd trwy gerdded yn ei ardd yn dorcalonnus. Mae camp y dyn yn amlwg yn rhyfeddol, felly nid beirniadaeth ohono ef ei hun, na phawb a roddodd arian, yw nodi na ddylid dathlu bod Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol angen haelioni elusennol.

Yn anffodus, mae llawer (mwyafrif, hyd yn oed, yn ôl ambell arolwg barn diweddar) yn methu â chyflawni'r un peth ymarferol y gallent ei wneud i gefnogi'r GIC. O'r herwydd, rwy'n ofni bod y clapio'n symbol sy'n golygu popeth i bawb, sef ffordd arall o ddweud nad yw'n golygu fawr ddim mewn gwirionedd. Mae'n dwyn i gof y geiriau gwag am "thoughts and prayers" a yngenir gan lawer o wleidyddion Americanaidd ar ôl achosion o saethu torfol, heb iddynt wneud unrhyw beth o werth am y peth.

Mae symbolau gor-gyffredinol yn gallu bod yn bethau peryglus, oherwydd, er gwaethaf y diffuantrwydd cychwynnol, maent yn tueddu i droi'n bethau digon jingoistaidd yn gyflym iawn, fel ddigwyddodd gyda'r pabi. Yn wir, ni fyddai'n syndod gweld yr arfer o gyd-glapio ar stepen y drws yn dod yn rhan o ddefodau Sul y Cofio. Hawdd yw dychmygu ymdrechion i gynnwys yr heddlu a'r teulu brenhinol hefyd. Rydym eisoes wedi cael ein hannog i glapio'r Prif Weinidog pan roedd yn wael yn yr ysbyty gyda'r feirws, wedi'r cyfan.

Mae yna rywbeth lled grefyddol am symbolau a defodau torfol fel hyn.  Yn achos y bobl ar y bont, mae bron fel petaent yn credu bod yr hyn mae'r weithred yn ei gynrychioli yn rhoi imiwnedd dros dro rhag y coronafeirws ynddo'i hun. Ceisio dangos i'r coronafeirws nad ydynt am adael iddo'u trechu, efallai. Wrth gwrs, nid yw tactegau seicolegol yn effeithiol yn erbyn feirysau (dyma pam mai aflwyddiannus fu datganiadau hyderus Donald Trump nad oedd y feirws yn broblem wirioneddol; mae PR a rhethreg wleidyddol yn dda i ddim yn erbyn ffenomenau naturiol).

Fel un a dreuliodd bythefnos yn yr ysbyty rai fisoedd yn ôl, gallaf dystio bod staff y GIC yn gwneud gwaith anhygoel a'n haeddu pob clod. Ond mae angen cofio beth mae cefnogi staff y GIC yn ei olygu'n ymarferol, a pheidio gadael i wleidyddion fanteisio ar y traddodiad newydd yma er mwyn ymddangos yn fwy cefnogol nag ydynt mewn gwirionedd.

27/03/2020

Plismona'r pandemig

Er fy mod yn ddrwgdbybus o'r syniad o roi gormod o rym i'r heddlu, mae'r pandemig Cofid-19 presennol yn sefyllfa eithriadol iawn. O'r herwydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r angen i orfodi pobl i aros adref oni bai bod rhaid. Yn wir, dylai'r mesurau hyn fod wedi mynd i rym wythnosau'n ôl. Mae'n amser rhyfedd i fod yn rhyddewyllyswr sifil (civil libertarian), rhaid dweud. Teimladau cymysg a gefais, felly, wrth weld hyn gan heddu Swydd Derby:
Ar un olwg, mae'r bobl yn y fideo yn cadw pellter oddi wrth deuluoedd eraill, felly mae'n hynod annhebygol bod eu gweithredoedd wedi lledaenu'r coronafeirws. Yn hynny o beth, maent yn 'mynd am dro' mewn modd sy'n cydfynd â'r rheolau. Y broblem, wrth gwrs, yw eu bod wedi teithio yn eu ceir i gyrraedd y lle, a bod eu gallu i gadw pellter yn ddibynnol ar y ffaith bod bron pawb arall yn aros gartref. Petai pawb arall yn cael yr un syniad, byddai golygfeydd gwallgof y penwythnos diwethaf yn cael eu hail-adrodd, gyda thorfeydd anferthol yn heidio i beauty spots poblogaidd ledled y wlad fel petai'n ganol haf (yn wir, y penwythnos diwethaf oedd un prysuraf Eryri erioed). Mae'n esiampl glasurol o'r tragedy of the commons. Mae'r ffaith bod pobl i fod i aros yn eu tai yn golygu bod ein bryniau gwledig yn wag, ac mae'r union ffaith honno'n eu gwneud yn fwy deniadol.

I fod yn saff, mae'n deg dweud na ddylai pobl fod yn mynd allan yn eu ceir er mwyn hamddena: os mynd am dro, gadewch y tŷ ar droed ac ewch lawr y lôn neu rownd y bloc. Eto i gyd, ac er nad wyf yn anghytuno â sentiment y fideo, mae rhywbeth petty ac annifyr iawn am y syniad o'r heddlu'n defnyddio dronau i ysbïo ar bobl yn mynd â'u cŵn am dro yng nghanol nunlle er mwyn codi cywilydd arnynt ar y we. Gadewch i ni fod yn hollol 2glir am un peth: nid yw'r bobl yn y fideo'n torri unrhyw gyfreithiau.

Mae'r pandemig yn berygl bywyd, ac mae angen mesurau llym er mwyn osgoi'r gwaethaf. Ond rwy'n gobeithio'n wir na fydd yr heddlu wedi cael gormod o flas ar y grym newydd yma (a dylid cofio bod grymoedd fel hyn, fel pob grym arall, yn tueddu i gael eu gor-ddefnyddio yn erbyn lleiafrifoedd ethnig). Mae yna elfen o power trip yn yr uchod, a dylem fod yn wyliadwrus.

14/03/2020

Y coronafirws a'r cyhuddiad o orymateb

Yn y diwedd, gwnaethpwyd y penderfyniad doeth i ohirio'r gêm rygbi rhwng Cymru a'r Alban. Nid epidemolegydd mohonof o fath yn y byd, ond nid oedd cynnull 75,000 o bobl mewn un lle, gyda mwy fyth wedi'u gwasgu yn nhafarnau Caerdydd, yn swnio'n beth call iawn i wneud ar yr amser penodol yma.

Mae'n debygol bod y penderfyniad yn golygu bydd yna lawer o bobl, a fyddai fel arall wedi dal yr haint, yn osgoi gwneud hynny (am y tro, o leiaf). Y broblem yw ei bod yn amhosibl profi hynny. Mae bob tro'n anodd dangos bod penderfyniad wedi achosi i rywbeth beidio digwydd. O'r herwydd, os na fydd cynnydd annisgwyl o ddramatig yn yr achosion yng Nghymru dros yr wythnos nesaf, mae'n anochel y bydd cyhuddiadau mai gorymateb oedd y gohirio.

Dyma broblem gyffredin a rhwystredig. Ers y flwyddyn 2000, er enghraifft, honiad cyffredin yw mai gor-heipio a ffws di-angen oedd y pryder am chwilen y mileniwm. Nid yw hyn yn wir o gwbl: roedd y broblem yn un fawr a difrifol, a dim ond diolch i lawer iawn o waith y llwyddwyd i'w hosgoi. Yn yr un modd, os, trwy wyrth, y llwyddwn i leihau allyriadau carbon yn ddigonol dros y blynyddoedd nesaf i osgoi rhai o senarios gwaethaf newid hinsawdd, bydd llawer iawn o bobl yn dewis dehongli hynny fel arwydd mai celwydd oedd y cyfan yn y lle cyntaf yn hytrach na bod camau anodd a bwriadol wedi datrys problem wirioneddol.

Mae cyfnod anodd eithriadol o'n blaenau, ac er bod pethau wedi difrifoli'n fawr ym Mhrydain dros y 48 awr diwethaf, rwy'n cael yr argraff o hyd nad yw pobl yn gwerthfawrogi'n llawn bod hyn am darfu ar ein bywydau am fisoedd, nid wythnosau. Nid yw tro pedol sydyn y llywodraeth, a fu am wythnosau'n arddel polisi laissez faire idiosyncrataidd tuag at y firws, yn debygol o wneud llawer o les i ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr awdurdodau. Mae popeth yn awgrymu i mi mai atal torfeydd yw'r agwedd gallaf (er ei bod yn berffaith wir bod problemau â hynny hefyd), ond mae'n destun pryder mai dim ond rwan yr ydym yn ymuno â gweddill y byd a chyrraedd y casgliad hwnnw. Teg yw dweud bod gorymateb yn amhosibl pan fo cannoedd o filoedd o fywydau, a miliynau ychwanegol ledled y byd, yn y fantol.

21/01/2020

Syrcas y frenhiniaeth

Un o'r pethau rhwystredig am y cyhoeddiad bod y Tywysog Harri a Meghan Markle yn 'camu'n ôl' o'r rhan fwyaf o'u dyletswyddau brenhinol yw cael fy ngorfodi, fel gweriniaethwr rhonc, i gydymdeimlo ychydig. Mae agwedd y tabloids Llundeinig tuag at Markle yn gwbl hiliol, fel mae cymharu'r penawdau hyn ochr yn ochr â'u hymdriniaeth â Kate Middleton yn ei wneud yn glir. Nid oes ryfedd eu bod, i bob pwrpas, yn codi dau fys ar y wasg. Buaswn i'n dadlau y dylai Harri fod wedi gwneud y cyhoeddiad flynyddoedd yn ôl, ar y sail bod y frenhiniaeth yn gysyniad hollol dwp ac anfoesol, ond gwn fy mod yn gofyn gormod.

Eto i gyd, nid yw'n eglur sut mae modd iddynt ddod yn 'annibynnol' oddi wrth y teulu brenhinol. Nid yw hyd yn oed yn glir iawn beth fyddai hynny'n ei olygu yn ymarferol. Yn ôl eu gwefan newydd, maent am barhau i dderbyn 95% o'u hincwm. Mae cario ymlaen i fwynhau'r holl arian yna tra'n osgoi gwneud y gwaith (os galw beth maent yn ei wneud yn 'waith') yn swnio fel trefniant cyfleus iawn i mi. A beth bynnag, royals swyddogol neu beidio, maent am barhau i elwa ar eu statws fel selebs byd enwog, statws sy'n deillio o ddim mwy na'r ffaith bod Harri wedi digwydd cael ei eni'n fab i'w rieni.

Mae'n adrodd cyfrolau bod hyn i gyd wedi sigo'r frenhiniaeth fel sefydliad lawer iawn mwy na'r posibilrwydd cryf bod ail fab y Frenhines wedi treisio merched ifainc gyda chymorth cyfaill oedd yn bedoffeil enwog. Nid wyf yn arbennig o obeithiol y bydd penderfyniad Harri a'i wraig yn arwain at dranc y frenhiniaeth (rwy'n fwy optimistig am farwolaeth y matriarch, sy'n agosau, ac a fydd yn golygu, gyda lwc, coroni Brenin Siarl III eithriadol o amhoblogaidd), ond byddai hynny'n neis. Mae'r holl gyfundrefn yn hurt ac anystyrlon a llwgr. Gresyn na fyddai gweddill y teulu rhyfedd hefyd yn 'camu'n ôl'.

05/01/2020

Derek Acorah

Mae Derek Acorah, y seicig a gafodd yrfa lewyrchus trwy honni ei fod yn gallu siarad â'r meirw, wedi marw. Dyma gael y jôc hawdd o'r ffordd: pam ddylai rhywbeth bach di-nod fel diwedd ei fodolaeth yn ein byd ni olygu diwedd ar ei yrfa? Oni ddylai hyn wneud ei waith hyd yn oed yn haws?

Gyda'r hinsawdd wleidyddol yn parhau i ddirywio, gall deimlo braidd yn sathredig i wastraffu amser yn beirniadu pobl fel Acorah. Ond mae'n bwysig peidio anghofio pa mor wrthun ydynt. Er y disclaimers yn y print mân mai 'adloniant' yw eu sioeau, maent yn twyllo pobl mewn galar, yn y mod mwyaf uffernol o greulon a digywilydd.

Yr arfer gyda phob math arall o dwyll yw carcharu'r twyllwyr. Nid yw'n eglur i mi pam nad yw hyn yn wir yn achos seicigs cyfoethog (er bod ambell eithriad). Dylai Acorah fod wedi cael ei ddedfrydu flynyddoedd maith yn ôl, ac mae'n anfaddeuol ei fod wedi cael treulio cynifer o amser ar y teledu. Dagrau pethau yw bod y twyll mor rhyfeddol o sâl ac amlwg. Pob lwc iddo ar yr 'ochr arall', am wn i.

24/07/2019

Y broblem gyda dychan ysgafn

Mae'n swyddogol, felly, mai Boris Johnson fydd ein prif weinidog nesaf. Rwy'n siwr bydd cynhyrchwyr Have I Got News For You? yn hapus gyda'r ffaith y bydd digon o ddeunydd dychan ysgafn i'w cadw'n brysur.


A dyna'r broblem: brand HIGNFY o hiwmor saff a twee sydd ar fai, i raddau helaeth, am alluogi Johnson i godi mor bell yn y lle cyntaf, trwy ein gwahodd i biffian chwerthin am flerwch ecsentrig y dyn er bod ei bersona, mewn gwirionedd, wedi'i feithrin yn fwriadol.

Yn yr hinsawdd wleidyddol hyll sydd ohoni, mae fy ngallu i oddef nonsens twee yn gostwng yn gyflym iawn. Keep calm, yr obsesiwn gyda Larry'r gath, y breuddwydio bod y Frenhines am roi Johnson yn ei le yfory a gwrthod ei brif weinidogaeth: bullshit syrffedus i gyd. O'r holl ymatebion posibl i'r ffaith bod Donald Trump a Boris Johnson bellach mewn grym, mae'n anodd dychmygu rhywbeth mwy embarrassing a phathetig na'r balwnau plentynnaidd yna ohonynt.

Mae angen difrifoli a thyfu fyny. Nid yw dychan wedi marw, o reidrwydd, ond mae angen iddo fod yn llawer iawn craffach, miniocach a chasach. Wrth i'r byd go iawn droi'n wirionach bob dydd, mae'n wir bod dychan yn mynd yn anos. Ond os rhoi cynnig arni, herio gwleidyddion a'u dal i gyfrif o ddifrif ddylai fod y nod. Y gwrthwyneb llwyr ddigwyddodd yn achos Johnson, ac rydym i gyd ar fin talu'r pris.

28/06/2019

Malu cachu fel arf wleidyddol

Mae'n werth darllen stori Jeremy Vine am arddull areithio Boris Johnson mewn seremonïau gwobrwyo. Ie, act, i raddau helaeth, yw'r persona shambolaidd a gwallgof. Mae'n portreadu ei hun, yn fwriadol a gofalus, fel person blêr a byrfyfyr (mae'n hysbys ei fod yn gwneud pwynt o rwbio'i wallt cyn ymddangos yn gyhoeddus, er enghraifft). Am ryw reswm, mae llawer iawn o bobl yn mwynhau'r persona.

Mae stori Vine yn fy nghorddi. Mae'n wirion bod y cymeriad 'Boris' mor boblogaidd yn y lle cyntaf, ond fe ddylai fod wedi bod yn amlwg, gan gynnwys i Vine ei hun, ei fod yn greadigaeth bwriadol. Nid yw Vine yn sôn am hyn, ond rwy'n credu'n gryf bod rhaid i raglenni dychan ysgafn fel Have I Got News For You? ysgwyddo llawer iawn o'r bai am y grym gwleidyddol sydd gan Johnson a'i debyg heddiw. Tric Johnson oedd gosod ei hun fel antedôt i sbin slic proffesiynnol Llafur Newydd, er ei fod yntau'n paratoi'r un mor drylwyr yn ei ffordd ei hun.

Yng ngoleuni stori Vine (nad yw'n unigryw), mae'n amhosibl credu'r nonsens a raffodd Johnson wrth ateb cwestiwn am ei amser hamdden. Mae'n berffaith amlwg ei fod yn siarad shit llwyr.

A dyna'r pwynt. Mae bron yn sicr mai dyma ein prif weinidog nesaf. Gall Boris Johnson ddweud beth bynnag ddiawl y myn. Fe ddywedodd Donald Trump y gallai saethu rhywun ar Fifth Avenue heb golli cefnogaeth, ac roedd yn berffaith iawn (yn wir, dyna un o'r ychydig ddatganiadau ffeithiol gywir i ddod o enau Trump erioed), ac mae Boris Johnson yn gwybod yn iawn bod rhywbeth tebyg yn wir amdano yntau hefyd.

Pan mae gwleidydd yn gallu siarad shit, malu cachu, am bethau sy'n amlwg yn ffrwyth ei ddychymyh, heb niweidio'i sefyllfa o gwbl, mae'n arwydd clir bod democratiaeth mewn trafferth a'n dadfeilio. Os rywbeth, cynyddu ei bŵer mae Johnson wrth ddweud y fath bethau. Mynegiant o rym gwleidyddol amrwd yw arddangos eich gallu i raffu rybish llwyr a throlio'n ddi-hid fel hyn. Dyma'r gwahaniaeth rhwng celwydd cyffredin a bwlshit, fel y disgrifiodd Harry Frankfurt yn ei lyfryn enwog. Rwy'n siwr ei fod yn cael cryn fwynhad o weld sylwebyddion parchus yn  ceisio dadansoddi'i stori dwp. Mae ymateb i'r fath rybish o gwbl yn ein is-raddio ni i gyd, er nad yw anwybyddu ein darpar brif weinidog yn opsiwn chwaith. Mae stori Johnson yn nonsens, mae'r newyddiadurwyr yn gwybod bod y stori'n nonsens, ac mae Johnson yn gwybod bod y newyddiadurwyr yn gwybod bod y stori'n nonsens, ond, ysywaeth, nid oes ots. Gêm yw hyn i Johnson.

Mae Vladimir Putin yn gwneud rhywbeth tebyg drwy'r amser, am bynciau mwy difrifol. Po amlycaf a rhyfeddaf y celwydd, y gorau. Mae gorfodi ei gefnogwyr i amddiffyn sylwadau sy'n amlwg yn anghywir yn fodd o arddangos ei bŵer drostynt, a thros y syniad o realiti ei hun. Yr union ddeinameg yma sydd ar waith mewn cwltiau crefyddol, fel mae'n digwydd.

Dylid pwysleisio nad yw hyn yn golygu bod Johnson yn athrylith o fath yn y byd. Nid yw pob un dim a wna wedi'i gynllunio'n ofalus; ystyrier ffars ei ymgais i olynu David Cameron yn 2016. Ond nid oes rhaid iddo fod. Nid yw torri system wleidyddol yn arbennig o anodd, cyn belled nad ydych yn berson sy'n teimlo embaras. Nid yw'n gymeriad hollol ffug chwaith; mae cnewyllyn o wirionedd i'r shambls. Ond mae'n sicr wedi deall sut i fanteisio ar y cnewyllyn hwnnw, a'i or-ddweud i eithafion.

Mae Johnson, Trump a Putin yn bobl wahanol, ond mae ganddynt yn gyffredin y gallu yma i fynd i hwyl tra'n datgymalu'r cysyniad o wirionedd. Nid oes modd gor-bwysleisio pa mor beryglus yw hyn, yn fy marn i. Rydym yn llithro i le tywyll dros ben.